Rhoddir yr enwmorfilod arfamaliaid yn urdd ymorfiligion, sydd a'u tiriogaeth yn y môr. Ymorfil glas (Balaenoptera musculus) yw'r anifail mwyaf yn y byd. Mae morfilod yn aelodau o urdd y morfiligion sy'n cynnwysdolffiniaid allamidyddion.
Ni fu gan Gymru erioedlynges hela morfilod, er bod rhai morwyr o Gymru wedi bod ar gychod hela Lloegr. CafoddAberdaugleddau ei sefydlu'n wreiddiol ar gyfer llongwyr hela morfilod oNantucket,Massachusetts, a hynny yn y 1790au. Cychwynodd hela morfilod yn yr17g a daeth i ben yn 1986, er bod rhai gwledydd megisJapan yn dal i'w hela.
Mae eu maint yn amrywio rhwng ymorfil glas, sef yr anifail mwyaf erioed ar y blaned[1] sy'n 30 metr (98tr) a'r rhywogaeth pigmi lleiaf a elwir yn ymorfil sberm lleiaf (Saesneg:pygmy sperm whale; Lladin:Kogia breviceps) sy'n 3.5 metr (11 tr). Mae'r morfil yn byw ym mhob un ogefnforoedd y byd ac mae miliynau ohonyn nhw.[2] Mae ganddyn nhw oes hir: gall y morfil cefngrwm er enghraifft fyw i fod yn 77 mlwydd oed a gall y morfil pen-bwa fyw am dros gan mlynedd.
↑"Whale Population Estimates". International Whaling Commission. Mawrth 2010. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 2012-04-21. Cyrchwyd Mawrth 2010.Italic or bold markup not allowed in:|publisher= (help);Check date values in:|accessdate= (help)