Sambia |
Gweriniaeth Sambia Icitungu ca Zambia (Bembaeg) |
 |
| Arwyddair | Un Sambia, Un Genedl  |
|---|
| Math | gwladwriaeth sofran,gweriniaeth,gwlad dirgaeedig,gwlad  |
|---|
| Enwyd ar ôl | Afon Zambezi  |
|---|
|
| Prifddinas | Lusaka  |
|---|
| Poblogaeth | 19,610,769  |
|---|
| Sefydlwyd | 24 Hydref 1964 (Annibyniaeth oddi wrthLloegr (y DU)) |
|---|
| Anthem | Saf a Chana am Sambia, yn Falch ac yn Rhydd  |
|---|
| Pennaeth llywodraeth | Edgar Lungu  |
|---|
| Cylchfa amser | UTC+2, Africa/Lusaka  |
|---|
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg  |
|---|
| Daearyddiaeth |
|---|
| Rhan o'r canlynol | Canolbarth Affrica,De Affrica,Dwyrain Affrica  |
|---|
| Arwynebedd | 752,618 ±1 km²  |
|---|
| Yn ffinio gyda | Simbabwe,Tansanïa,Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo,Malawi,Mosambîc,Namibia,Angola,Botswana  |
|---|
| Cyfesurynnau | 14°S 28°E  |
|---|
| Gwleidyddiaeth |
|---|
| Corff gweithredol | Cabinet Sambia  |
|---|
| Corff deddfwriaethol | Cynulliad Cenedlaethol  |
|---|
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Sambia  |
|---|
| Pennaeth y wladwriaeth | Hakainde Hichilema  |
|---|
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Arlywydd Sambia  |
|---|
| Pennaeth y Llywodraeth | Edgar Lungu  |
|---|
 |
 |
| Ariannol |
|---|
| Cyfanswm CMC (GDP) | $29,784 million  |
|---|
| Arian | Kwacha Sambia  |
|---|
| Canran y diwaith | 13 ±1 canran  |
|---|
| Cyfartaledd plant | 5.353  |
|---|
| Mynegai Datblygiad Dynol | 0.565  |
|---|
|
|
Gwladtirgaeedig ynAffrica ywGweriniaeth Sambia neuSambia. Gwledydd cyfagos ywNamibia i’r gorllewin,Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo aTansanïa i'r gogledd,Malawi aMosambic i'r dwyrain, acAngola aSimbabwe i'r de. Mae hi'n annibynnol ers 1964.
Prifddinas Sambia ywLusaka.
Gwladychwyd y rhanbarth gan Brydeinwyr yn y 19g i ddod yn ddwy brotectoriaeth, sef "Barotziland–North-Western Rhodesia" a "North-Eastern Rhodesia". Unwyd y rhain yn 1911 i ffurfioGogledd Rhodesia. Am y rhan fwyaf o'r cyfnod hwn, roedd y wlad yn cael ei llywodraethu gan weinyddiaeth a benodwyd o Lundain gyda chyngor yBritish South Africa Company.
Daeth Sambia yn annibynnol ary Deyrnas Unedig ar 24 Hydref 1964 , a daeth y prif weinidogKenneth Kaunda ei harlywydd cyntaf. Daliodd plaid sosialaidd Kaunda (United National Independence Party, UNIP) rym o 1964 hyd 1991. O 1972 i 1991 roedd Sambia yn wladwriaeth un-blaid, gydag UNIP fel yr unig blaid wleidyddol gyfreithiol. Yn dilyn etholiad amlbleidiol yn 1991 olynwyd Kaunda ganFrederick Chiluba o’r Movement for Multi-Party Democracy (MMD) , ac ers hynny mae Sambia wedi bod yn wladwriaeth amlbleidiol ac wedi profi sawl trawsnewidiad heddychlon o rym.