Ychydig sy'n hysbys am hanes cynnar y wlad. Gwelwyd tonnau olynol o ymsefydlu yn y wlad, hyd at y19g, gan bobloeddPygmi i ddechrau ac yna ar raddau mwy sylweddol gan yBantu, sy'n ffurfio mwyafrif y boblogaeth erbyn heddiw. Yn ystod y mudo hyn daeth yrEwropeiaid cyntaf, yPortiwgaliaid, i lannau Gabon yn y15g. Daw'r enw 'Gabon' o'r enwPortiwgalegGabão "penrhyn", oherwydd siâp yr aber lle saifLibreville heddiw. CipioddFfrainc y wlad oddi ar Portiwgal yn1855. Cafodd y wlad ei hannibyniaeth17 Awst,1960.
Ffrangeg yw'r brif iaith a'r unig iaith swyddogol ond sieredir sawl iaith brodorol yn ogystal.
Gyda'i chymydog Camerŵn mae Gabon yn gartref i ddiwylliant yFfangiaid,grŵp ethnig sy'n adnabyddus am eidawnsiau a'ichelf dradoddiadol, yn arbennig eimasgiau trawiadol.