| ||||||||||||||||||||
Croeso i'r Wiciadur Cymraeg, prosiect cydweithredol i greu geiriadur amlieithog a'r cynnwys i gyd yn rhad ac am ddim. Yn wreiddiol, nod Wiciadur oedd i fod yngydymaith geiriol iWicipedia, y prosiect gwyddoniadurol, a'n nod yw fod Wiciadur yn tyfu i fod yn llawer mwy na geiriadur cyffredin. Ein gweledigaeth yw fod Wiciadur yn cynnwysthesawrws, odliadur, llyfrau ymadrodd, ystadegau ieithyddol a mynegai cynhwysfawr. Anelwn at gynnwys, nid yn unig diffiniad y gair, ond digon o wybodaeth i chi wir ddeall ystyr y gair. O ganlyniad caiffetymolegau, ynganiadau, dyfyniadau engreifftiol, cyfystyron, gwrthwynebeiriau a chyfeithiadau eu cynnwys. Wici ydy'r Wiciadur, sy'n meddwl y gallwch chi ei olygu, ac amddifynnir yr holl gynnwys gan drwydded-ddeuol yCommons Attribution-ShareAlike 3.0 Unported License yn ogystal a'rDrwydded Dogfennaeth Rhydd GNU. Cyn i chi ddechrau cyfrannu, efallai yr hoffech ddarllen rhai o'n tudalennauCymorth, a chofiwch ein bod yn gwneud pethau ychydig yn wahanol i wicis eraill. Yn benodol, mae gennymgonfensiynnau pendant ynglyn â sut i osod cofnod ar dudalen. Dysgwch sut iddechrau tudalen newydd, sut iolygu cofnodion, arbrofwch yn ypwll tywod ac ymwelwch âPhorth y Gymuned i ddarganfod sut y gallwch chi gyfrannu yn natblygiad y geiriadur hwn. |
| |||||||||||||||||||
![]()
|