Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Ysgytlaeth

Oddi ar Wicipedia
Strawberry milkshake.jpg
Ysgytlaeth mefus

Diodmelys oer sydd fel arfer wedi'i wneud o laeth neuhufen iâ, a chyflasynnau fel menyn caramel, saws caramel, surop siocled, neu surop ffrwythau, ywysgytlaeth.[1]

Roeddynt yn wreiddiol yn cael eu gwneud â llaw trwy gymysgu hufen ia a llaeth. Mae modd ei wneud erbyn hyn drwy ychwanegu powdr i laeth ffres a'i gymysgu, a daw rhain mewn nifer o flasau, gan gynnwyssiocled,powdr coco,caramel,mefus, abanana. Erbyn hyn, mae nifer o siopau bwyd cyflym yn eu gwneud â pheiriant.

Pan gafodd y term Saesneg "milkshake" ei ddefnyddio gyntaf mewn print yn 1885, diod alcoholig oedd ysgytlaeth.[2] Ond erbyn 1900, roedd y term yn cyfeirio at ddiod oedd yn cael ei ystyried yn 'faethlon', ac erbyn y 1930au, roedd ysgytlaethau wedi troi ddiodydd poblogaidd dros ben. Nid oes cofnod ysgrifenidig, ond tybir i'r gair 'ysgytlaeth' gael ei fathu yn y Gymraeg tua'r 1970au gyda dyfodiad rhagor o ddarlledu Cymraeg ar yteledu aBBC Radio Cymru ac adeg yr angen am arwyddio Cymraeg mewn sefydliadau megis yrEisteddfod Genedlaethol lle gwerthwyd y diod ac roedd rhaid cadw at yRheol Iaith.

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1.  ysgytlaeth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 10 Awst 2022.
  2. Stuart Berg Flexner,Listening to America (Efrog Newydd: Simon & Schuster, 1982), t.178
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Ysgytlaeth&oldid=11100793"
Categorïau:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp