Ysgol uwchradd ywysgol gyfun, sydd ddim yn dewis eu disgyblion ar sail gallu na champau academaidd. Defnyddir y term yn gyffredin yny Deyrnas Unedig, yn arbennig yngNghymru aLloegr, lle cyflwynwyd ysgolion cyfun tuag at ddiwedd yr1960au a'r1970au cynnar. Addysgir tua 90% o ddisgyblionPrydeinig mewn ysgolion cyfun.
Gan fod ysgol gyfun yn addysgu amrediad eang o bynciau ar draws y sbectrwm academaidd a galwedigaethol, deallir yn gyffredinol y bydd angen i'r ysgol fod o faint go fawr i allu derbyn plant o amryw eang o allu.
Mae ysgolion cyfun fel arfer yn ysgolion cymunedol sy'n cymryd eu disgyblion o ardal leol sydd wedi cael ei diffinio gan yr awdurdod lleol, gelwir hwn yndalgylch. Yng Nghymru a Lloegr mae gan rhieni ddewis i ryw raddau, o ba ysgol i anfon eu plant, nid yw'n anghyffredin i ddisgyblion deithio cryn bellter i'w hysgolion.
Mae'r rhan fwyaf o ysgolion yn defnyddio system lle gosodir y plant mewnset yn ôl gallu, ym mhob pwnc unigol. Mae tueddiad diweddar i ysgolion cyfun arbenigo mewn meysydd megis technoleg.
Mae pob ysgol gyfun yn derbyn plant rhwng 11 ac 16 oed. Mae gan raichweched ddosbarth; mae'r mynediad i'r dosbarth yn agored, ac mae rhai disgyblion yn astudio cymwysterauLefel A, tra bod eraill yn dilyn rhaglenni galwedigaethol.
Cyn yrAil Ryfel Byd, roedd addysg uwchradd yn brin ac yn ddrud. Ar ôl y rhyfel, darparwyd addysg uwchradd am ddim, hyd 14 o leiaf, yn Lloegr, Cymru aGogledd Iwerddon. Rheolwyd hyn o dan ySystem Tridarn a gafodd ei chyflwyno o dan lywydd yBlaid Geidwadol,Rab Butler, yr ysgrifennydd gwladol ar gyfer addysg ar y pryd. Eisteddai plant yr arholiadeleven plus yn eu blwyddyn olaf o addysg gynradd ac anfonwyd hwy iysgol uwchradd modern,ysgol uwchradd technegol neuysgol ramadeg, yn dibynnu ar eu gallu. Ni weithredwyd ysgolion technegol yn eang, ac am 20 mlynedd roedd y system yn ymarferol yn undeurannol, gyda chystadleuaeth ffyrnig am y llefydd a oedd ar gael ar gyfer yr ysgolion gramadeg, a amrywiai rhwng 15% a 25% yn dibynnu ar y lleoliad.
Gallwch helpu Wicipedia drwyychwanegu at yr adran hon.
Gallwch helpu Wicipedia drwyychwanegu at yr adran hon.
Gallwch helpu Wicipedia drwyychwanegu at yr adran hon.
Gallwch helpu Wicipedia drwyychwanegu at yr adran hon.
Gallwch helpu Wicipedia drwyychwanegu at yr adran hon.
Gallwch helpu Wicipedia drwyychwanegu at yr adran hon.
Gallwch helpu Wicipedia drwyychwanegu at yr adran hon.
Gallwch helpu Wicipedia drwyychwanegu at yr adran hon.
Roedd gan Sweden ysgolion gallu cymysg am rhai blynyddoedd cyn iddynt cael eu cyflwyno yng Nghymru a Lloegr, dilynwyd hyn fel un o'r modelau ar gyfer Cymru a Lloegr.
Mae'r Ffindir wedi defnyddio ysgolion cyfun ers yr1970au.
Mae gan yrAlmaen ysgolion cyfun sy'n cael eu adnabod fel Gesamtschule. Gall yr ysgol hwn cael ei fynychu yn lle'r system tair ysgol.