Roeddyr Hen Aifft yn wareiddiad a ddatblygodd ar hyd canol a rhan isafafon Nîl o tua 3150 CCC. hyd nes iddi ddod yn dalaithRufeinigAegyptus yn 31 CCC. Roedd yn ymestyn tua'r de o aber y Nîl hyd atJebel Barkal ger y pedwerydd cataract. Ar brydiau roedd yr Aifft yn rheoli tiriogaethau ehangach.
Roedd gwareiddiad yr Aifft yn dibynnu ar y Nîl. Pan fyddai'r glawogydd ymhellach i'r de yn peri i'r afon ddod tros ei glannau a gorchuddio llawer o'r tir, byddai'n dyfrhau ac yn ffrwythloni'r tir ar unwaith. Roedd hyn o bwysigrwydd mawr mewn gwlad lle nad oes bron ddim glaw.
Roedd amaethyddiaeth wedi cyrraedd dyffryn y Nîl erbyn tua 6000 CCC. Erbyn 3300 CCC, yr oedd yr Aifft wedi ei rhannu yn ddwy deyrnas, yrAifft Uchaf (Ta Shemau) a'rAifft Isaf (Ta Mehu), gyda'r ffin oddeutu safleCairo heddiw. Unwyd y ddwy deyrnas ganMenes, brenin cyntaf yr Aifft unedig.
Y prif gyfnodau yn hanes yr Aifft yw:
Yr Hen Deyrnas (27ain ganrif CCC hyd yr 22ain ganrif CCC)