Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Yr Almaen

Oddi ar Wicipedia
Yr Almaen
Bundesrepublik Deutschland
ArwyddairEinigkeit und Recht und Freiheit Edit this on Wikidata
Mathgwladwriaeth sofran,gwlad Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlGermania,Alemanni,Sacsoniaid,Prwsia, theodisk, estron, muteness Edit this on Wikidata
PrifddinasBerlin Edit this on Wikidata
Poblogaeth83,577,140 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
AnthemAnthem Genedlaethol yr Almaen Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethFriedrich Merz Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
NawddsantMihangel Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Almaeneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Arwynebedd357,587.77 km² Edit this on Wikidata
GerllawY Môr Baltig,Môr y Gogledd Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaDenmarc,Gwlad Pwyl,Y Swistir,Ffrainc,Lwcsembwrg,Gwlad Belg,Yr Iseldiroedd,Awstria,Tsiecia Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51°N 10°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolCabinet Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Yr Almaen Ffederal Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholBundesrat, Bundestag yr Almaen Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd yr Almaen Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethFrank-Walter Steinmeier Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Canghellor Ffederal Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethFriedrich Merz Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)4,121,200 million € Edit this on Wikidata
ArianEwro Edit this on Wikidata
Canran y diwaith6.1 canran Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant1.455 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.942 Edit this on Wikidata

Gweriniaeth Ffederal yr Almaen neu'rAlmaen (Almaeneg:Bundesrepublik Deutschland"Cymorth – Sain" ynganiad Almaeneg ). Gweriniaeth ffederal yng nghanolEwrop yw'r Almaen. Mae'n ffinio âMôr y Gogledd,Denmarc, a'rMôr Baltig (Almaeneg:Ostsee, sef Môr y Dwyrain) yn y gogledd,Gweriniaeth Tsiec aGwlad Pwyl yn y dwyrain,y Swistir acAwstria yn y de, aFfrainc,Lwcsembwrg,Gwlad Belg a'rIseldiroedd yn y gorllewin.Berlin yw'rbrifddinas.

Ni chafwyd chwyldro Almaenig ond y mae’r modd yr ymatebodd y tiroedd Almaenig i her chwyldroadoly Chwyldro Ffrengig, gan addasu syniadau 1789, wedi llunio datblygiad gwleidyddol a chymdeithasol yr Almaen hyd at yr 20g.

Hanes

[golygu |golygu cod]
Prif:Hanes yr Almaen

Y cofnod cyntaf a geir o hanes yr Almaen yw am nifer o lwythau Almaenig a oedd yn byw yn y diriogaeth sy'n awr yn wladwriaeth yr Almaen. Gorchfygwyd rhai o'r rhain gan y Rhufeiniaid, a daeth y rhannau i'r gorllewin oAfon Rhein yn rhan o'rYmerodraeth Rufeinig. Bu'r Rhufeiniaid yn ymgyrchu tu hwnt i afon Rhein hefyd, ond ni lwyddasant i'w gwneud yn rhan o'r ymerodraeth. Yn9 OC. gorchfygwyd byddin Rufeinig danPublius Quinctilius Varus gan gynghrair o lwythau Almaenig danArminius ymMrwydr Fforest Teutoburg. Dinistriwyd tairlleng Rufeinig yn llwyr. Dilynwyd y frwydr gan saith mlynedd o ymladd, cyn i'r ffin gael ei sefydlogi ar hyd afon Rhein.

Sefydlwydyr Ymerodraeth Lân Rufeinig yn y9g, a pharhaodd hyd1806. Yr Almaen oedd cnewyllyn yr ymerodraeth, er ei bod ar adegau yn cynnwysAwstria,Slofenia,Gweriniaeth Tsiec, gorllewinGwlad Pwyl,yr Iseldiroedd, dwyrainFfrainc,y Swistir a rhan o ogleddyr Eidal. Collwyd llawer o'r tiriogaethau hyn erbyn canol y16g, a daeth i'w galw yn "Ymerodraeth Lân Rufeinig y Genedl Almaenig".

Rhwng1618 a1648, effeithiwyd yn fawr ar yr Almaen gan frwydrau'rRhyfel Deng Mlynedd ar Hugain. Dechreuodd y rhyfel fel anghydfod crefyddol rhwng yProtestaniaid a'rCatholigion o fewn yrYmerodraeth Lân Rufeinig. Yn raddol, tynnwyd y rhan fwyaf o wledydd Ewrop i mewn i'r ymladd, llawer ohonynt am resymau nad oedd yn gysylltiedig â chrefydd. Ymladdwyd y rhan fwyaf o'r brwydrau yng nghanolbarth Ewrop, yn enwedig yr Almaen. Gwneid llawer o ddefnydd o fyddinoedd ohurfilwyr, ac anrheithiwyd tiriogaethau eang ganddynt. Credir i boblogaeth y gwladwriaethau Almaenig ostwng o tua 30% yn ystod y rhyfel; ynBrandenburg roedd y colledion tua hanner y boblogaeth. Diweddodd y rhyfel gydag arwyddo Cytundeb Münster, rhan oHeddwch Westphalia.

Ffurfiwyd yConffederasiwn Almaenig yn1815, yna ffurfiwydYmerodraeth yr Almaen yn1871, gydagOtto von Bismarck yn ffigwr allweddol. Daeth yr ymerodraeth i ben ar ddiweddy Rhyfel Byd Cyntaf, a ffodd yr ymerawdwrWilhelm II i'r Iseldiroedd.

SefydlwydGweriniaeth Weimar yn1919, ond dilynwyd y rhyfel gan gyni mawr, a wnaed yn waeth gan y teimlad gan ran o'r boblogaeth o ddarostyngiad cenedlaethol oherwyddCytundeb Versailles. Yn1933 daethAdolf Hitler yn Ganghellor. Daeth diwedd ar Weriniaeth Weimar a dechreuoddy Drydedd Reich. Arweiniodd hyn atyr Ail Ryfel Byd19391945. Wedi i'r Almaen gael ei gorchfygu, rhannwyd y wlad yn ddwy,Gorllewin yr Almaen aDwyrain yr Almaen. Parhaodd hyn hyd1990, pan adunwyd y wlad.

Daearyddiaeth

[golygu |golygu cod]
Prif:Daearyddiaeth yr Almaen

Gwastadedd yw rhan helaeth o ogledd yr Almaen, rhan oWastadedd Canolbarth Ewrop. Mae'r de yn llawer mwy mynyddig, yn enwedig yn yr Alpau, lle mae'r copa uchaf, yZugspitze, yn cyrraedd 2,962 medr o uchder.

Ac eithrioAfon Donaw yn y de, maeafonydd yr Almaen yn llifo tua'rMôr Tawch a'rMôr Baltig, gan gynnwysAfon Rhein,Afon Elbe,Afon Weser acAfon Ems, sy'n llifo tua'r gogledd. Y llyn mwyaf yw'rBodensee, er nad ydyw yn ei gyfanrwydd yn gyfan gwbl o fewn ffiniau'r Almaen.

Gwleidyddiaeth

[golygu |golygu cod]
Prif:Gwleidyddiaeth yr Almaen aCysylltiadau tramor yr Almaen

Economi

[golygu |golygu cod]
Prif:Economi'r Almaen

Demograffeg

[golygu |golygu cod]
Prif:Demograffeg yr Almaen
Pyramid poblogaeth yr Almaen yng Nghyfrifiad 2000.
Poblogaeth yr Almaen 1961–2003 (Cyn 1990, poblogaeth Gorllewin a Dwyrain yr Almaen wedi eu cyfuno).
Amcangyfrif o nifer y mewnfudwyr i'rAlmaen o wledydd eraill yn 2006. Yr Almaen oedd y 3ydd gwlad a gymerodd y mwyaf o drigolion o'r tu allan, gyda 12% o'r boblogaeth yn dalpasport gwlad arall.[1]

Gyda phoblogaeth o tua 81,198,000 (Rhagfyr 2014), yr Almaen yw'r wlad fwyaf o ran poblogaeth sy'n gyfan gwbl o fewnEwrop, a'r 14eg fwyaf poblog yn y byd. O'r rhain, mae tua 16 miliwn heb fod o dras Almaenig, gyda phobl o dras Dyrcaidd y mwyaf niferus o'r rhain, 1,713,551 yn2007. Nid yw'r boblogaeth yn cynyddu ar hyn o bryd.

Gelwir pedwar grŵp o bobl yn "lleiafrifoedd cenedlaethol", yDaniaid,Frisiaid,Roma aSinti, a'rSorbiaid. Wedi'rAil Ryfel Byd, symudodd tua 14 miliwn o Almaenwyr ethnig i'r Almaen o Ddwyrain Ewrop, ac ers y1960au bu mewnfudo Almaenwyr ethnig oCasachstan,Rwsia a'rWcráin. Er i'r rhan fwyaf oIddewon yr Almaen gael eu llofruddio ynyr Holocost, mae'r niferoedd wedi cynyddu yn ddiweddar, gyda thros 200,000 wedi ymfudo i'r Almaen o Ddwyrain Ewrop ers1991.

Dinasoedd mwyaf yr Almaen, gyda ffigyrau poblogaeth ar gyfer Rhagfyr 2005, yw:

Crefydd

[golygu |golygu cod]

Y prif enwadau a chrefyddau yw:

Ceir y rhan fwyaf o Gatholigion yn y de-ddwyrain, yn neBafaria, ac yn ardalCwlen, tra bo Protestaniaid yn fwyaf niferus yn y gogledd.

Taleithiau

[golygu |golygu cod]

Mae'r Almaen ynweriniaeth ffederal sy'n cynnwys 16 o daleithiau ffederal a elwir ynLänder (unigol:Land):

BanerTalaithPrifddinasArwynebedd
(km²)
PoblogaethDwysder
poblogaeth
(EW/km²)
Baden-WürttembergStuttgart35,75210,736,000300
BafariaMünchen70,55212,469,000177
Berlin8923,395,0003,806
BrandenburgPotsdam29,4792,559,00087
Bremen Bremen404663,0001,641
Hamburg 7551,744,0002.309
HessenWiesbaden21,1156,092,000289
Mecklenburg-VorpommernSchwerin23,1801,707,00074
NiedersachsenHannover47,6247,994,000168
Nordrhein-WestfalenDüsseldorf34,08518,058,000530
Rheinland-PfalzMainz19,8534,059,000204
SaarlandSaarbrücken2,5691,050,000409
SachsenDresden18,4164,274,000232
Sachsen-AnhaltMagdeburg20,4462,470,000121
Schleswig-HolsteinKiel15,7992,833,000179
ThüringenErfurt16.1722,335,000144
Cyfanswm357,11482,438,000231

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. "International Migration 2006"(PDF). UN Department of Economic and Social Affairs. Cyrchwyd18 Mawrth 2011.
gw  sg  go
Aelod-wladwriaethau yr Undeb Ewropeaidd
gw  sg  go
Sefydliad Cytundeb Gogledd yr Iwerydd (NATO)
Aelodau
Ymgeiswyr
gw  sg  go
G8
Aelodau arhosol
Cynrychiolaethau ychwanegol
Wiciadur
Wiciadur
Chwiliwch amYr Almaen
ynWiciadur.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Yr_Almaen&oldid=13445585"
Categorïau:
Categorïau cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp