
Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol yr Alban yw Gweinyddirrygbi'r undeb yn yr Alban ganUndeb Rygbi'r Alban.
Chwaraewyd y gêm rygbi ryngwladol gyntaf erioed rhwng yr Alban aLloegr yn Raeburn Place,Caeredin ym mis Mawrth1871, gyda'r Alban yn fuddugol.
Enillodd yr Alban yGoron Driphlyg am y tro cyntaf yn 1907, gan gystadlu'n frwd aCymru yn ystod y degawd yma. EnillwydY Gamp Lawn am y tro cyntaf yn1925, y flwyddyn y chwaraewyd gemau ynStadiwm Murrayfield am y tro cyntaf.
Enillodd yr Alban y Gamp Lawn am yr ail dro yn 1984 ac am y trydydd tro yn 1990, pan gurwyd Lloegr, oedd yn mynd am y Gamp Lawn eu hunain, yn y gêm olaf o Bencampwriaeth y Pum Gwlad ynMurrayfield. Yr Alban hefyd a enillodd Bencampwriaeth y Pum Gwlad am y tro olaf yn 1999, cyn i'r Eidal gael ei ychwanegu i greuPencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Yn y blynyddoedd diwethaf nid yw'r Alban wedi bod yn llwyddiannus iawn, a chollodd y rheolwr Matt Williams ei swydd yn 2005. Apwyntiwyd Frank Hadden i gymeryd ei le.
Mae eu canlyniadau yn erbyn timau rhyngwladol eraill fel a ganlyn, yn nhrefn y nifer o gemau (yn gywir hyd at Hydref, 2005):
| Yn erbyn | Gemau | Ennill | Colli | Cyfartal |
|---|---|---|---|---|
| Lloegr | 122 | 40 | 65 | 17 |
| Iwerddon | 118 | 61 | 51 | 5 |
| Cymru | 110 | 47 | 60 | 3 |
| Ffrainc | 78 | 33 | 42 | 3 |
| Seland Newydd | 24 | 0 | 22 | 2 |
| Awstralia | 21 | 6 | 15 | 0 |
| De Affrica | 15 | 4 | 11 | 0 |
| Yr Eidal | 10 | 7 | 3 | 0 |
| Rwmania | 9 | 7 | 2 | 0 |
| Ariannin | 5 | 1 | 4 | 0 |
| Samoa | 4 | 4 | 1 | 0 |
| Ffiji | 4 | 3 | 1 | 0 |
| Tonga | 2 | 2 | 0 | 0 |
| Canada | 2 | 1 | 1 | 0 |