Nid oes cytundeb ar union ddyddiad dechrau'r rhyfel. Y dyddiad mwyaf cyffredin a dderbynnir yw1 Medi1939, pan ymosododd yr Almaen ar Wlad Pwyl, gyda Phrydain a Ffrainc yn cyhoeddi rhyfel ar yr Almaen ddau ddiwrnod yn ddiweddarach. Mae eraill yn crybwyll y7 Gorffennaf1937 fel dyddiad dechrau'r rhyfel, pan ymosododdSiapan arTsieina ac eraill wedyn yn nodiMawrth1939 a'r adeg yr aeth byddinoedd Hitler i mewn iPrag,Tsiecoslofacia. Dim ond yn1941 y daeth y rhyfel yn wirioneddol fyd-eang. Ym Mehefin y flwyddyn honno, ymosododd yr Almaen ar yr Undeb Sofietaidd, tra ym mis Rhagfyr ymosododd Japan ar lynges yrUnol Daleithiau ynPearl Harbor. Yn fuan wedyn, cyhoeddodd yr Almaen ryfel ar yr Unol Daleithiau i gefnogi Japan. Ystyrir fel rheol fod y rhyfel wedi dod i ben ar2 Medi1945, pan ildiodd Japan i'r Cyngheiriaid.
Roedd technoleg filwrol wedi datblygu yn sylweddol ersy Rhyfel Byd Cyntaf, ac roeddawyrennau wedi dod yn llawer mwy pwysig. Daeth cyrchoedd awyr ar ddinasoedd y gelyn yn elfen bwysig yn strategaeth y ddwy ochr, ac roedd hyn yn un o'r rhesyymau fod y cyfanswm colledion ymhlith y boblogaeth sifil yn llawer uwch yn y rhyfel yma nag yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Daeth y rhyfel i ben pan ollyngodd America fomiau atomig ar ddinasoeddHiroshima aNagasaki yn Japan.
Yn ystod y rhyfel hwn lladdwyd miliynau o bobl yngngwersylloedd crynhoi agwersylloedd difa yr Almaen. Lladdwyd tua 6 miliwn oIddewon ynyr Holocost, a niferoedd llai ond sylweddol o nifer o grwpiau eraill. Erbyn diwedd y rhyfel, yrUnol Daleithiau a'rUndeb Sofietaidd oedd y ddau bŵer mawr, gan osod patrwm a barhaodd am rai degawdau. Rhannwyd yr Almaen yn ddwy, rhaniad a barhaodd hyd1990. Er i'r hen bwerau ymerodrol fely Deyrnas Unedig aFfrainc fod ar yr ochr fuddugol, cawsant eu gwanhau yn sylweddol gan y rhyfel, ac yn ystod yr ugain mlynedd dilynol dadfeiliodd eu hymerodraethau yn raddol.
Gwelwyd tŵf pleidiau adain dde yn yr Almaen yn y cyfnod yma hefyd. RoeddGweriniaeth Weimar wedi ei ffurfio yn1919, ond ni lwyddodd i ennill cefnogaeth rhan helaeth o boblogaeth yr Almaen. Dan delerauCytundeb Versailles, a arwyddwyd ar ddiwedd yRhyfel Byd Cyntaf, roedd yr Almaen wedi colli tua 13% o'i thiriogaeth a'r cyfan o'ithrefedigaeth. Trosglwyddyd rhan o'i thiriogaeth iFfrainc aGwlad Pwyl, tra cymerodd Prydain nifer o'i threfedigaethau. Roedd llawer o anfodlonrwydd yn yr Almaen ynghylch hyn, yn enwedig ymhilth cyn-filwyr. Tyfodd y syniad nad oedd yr Almaen wedi ei gorchfygu yn filwrol yn y rhyfel, ond yn hytrach wedi ei bradychu gan y gwleidyddion.
Budirwasgiad difrifol yn yr Almaen rhwng y ddwy ryfel byd. Roedd hyn yn waeth yn y1920au nac yng ngweddill Ewrop. Erbyn y1930au fodd bynnag roedd rhan sylweddol o'r byd datblygedig yn dioddef caledi ac anghydfod gwleidyddol a cymdeithasol yDirwasgiad Mawr. Ar y chwith, roedd yComiwnyddion yn ennill tir, tra ar y dde roedd nifer o bleidiau, yn eu plithPlaid y Gweithwyr Sosialaidd Cenedlaethol Almaenig (Almaeneg:Nationalsozialistische Deutsche Arbeiterpartei) dan arweiniadAdolf Hitler. Ar y cyntaf, ni chafodd lawer o lwyddiant etholiadol, ond yn etholiad Gorffennaf1932 enillodd 37.4% o'r bleidlaid a 230 o seddi yn yReichstag. Yn etholiad Tachwedd yr un flwyddyn, gostyngodd ei phleidlais ychydig. Ar30 Ionawr1933, apwyntiodd yr Arlywydd,Paul von Hindenburg, Hitler yn Ganghellor yr Almaen. Credai y pleidiau adainodde mwy cymedrol y gallent reoli Hitler, ond ni allasant wneud hynny. Wedi i Hindenburg farw, cyhoeddodd Hitler ei fod yn gadael y swydd o Arlywydd yn wag, a chyhoeddodd ei hyn yn arweinydd yr Almaen felFührer und Reichskanzler.
Y Ddraig Goch yn llarpio Eryr yr Almaen; cerflun ynRhaeadr i goffau'r meirw.
Bu nifer o ryfeloedd yn ail ran degawd y1930au. Ym mis Hydref1935, ymosododd yr Eidal arEthiopia, gan feddiannu'r wlad erbyn mis Mai1936. Dangosodd y rhyfel yma aneffeithiolrwyddCynghrair y Cenhedloedd; er bod Ethiopia yn aelod, ni allodd y Cynghrair wneud dim effeithiol i'w hamddiffyn rhag yr ymosodiad. Ar17 Gorffennaf1936, dechreuoddRhyfel Cartref Sbaen. Rhoddodd Hitler a Mussolini gefnogaeth filwrol i wrthryfel adain-dde y CadfridogFrancisco Franco, tra rhoddodd yr Undeb Sofietaidd gefnogaeth i'r llywodraeth weriniaethol. Ystyrir y rhyfel yma, a barhaodd hyd1 Ebrill1939, yn fath o ragarweiniad i'r Ail Ryfel Byd, gan iddo roi cyfle i'r Almaen, yr Eidal a'r Undeb Sofietaidd brofi eu harfau.
Yn y dwyrain pell, roedd Japan wedi cipioManshwria oddi ar Tsieina yn1931. Ar7 Gorffennaf1937, ymosododd Japan ar Tsieina, gyda'r bwriad o feddiannu'r holl wlad. Er i'r Siapaneaid ennill llawr o dir, parhaodd y rhyfel yma hyd nes iddo ddod yn rhan o'r Ail Ryfel Byd ei hyn.
O dan arweiniad Adolf Hitler, arweinydd y Blaid Natsiaidd, roedd yr Almaen ers 1933 yn wlad a oedd wedi achosi tensiwn cynyddol yn Ewrop. Roedd Hitler wedi dangos yn glir ers iddo ddod I bwer yn yr Almaen ei fod yn casauCytundeb Versailles oherwydd y ffordd roedd yr Almaen wedi cael ei chywilyddio ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf. Cosbwyd yr Almaen yn llym gan y cytundeb. Collodd llawer o dir a’I lluoedd arfog, bu’n rhaid iddi dalu iawndal, a derbyn y bai am gychwyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Nid oedd ychwaith wedi cael gwahoddiad I fod yn rhan o’r trafodaethau yn Versailles. Roedd Hitler eisiau gwrthdroi Cytundeb Versailles, ailarfogi’r Almaen, ennill y tiroedd yma nol er mwyn creu un Almaen fawr Almaeneg ei hiaith. Roedd eisiau creu ‘Lebensraum’, sef gofod byw I’r Almaenwyr pur fyddai’n byw yn y math yma o'r Almaen. Golygai hynny feddiannu tiroedd ble roedd pobl Almaenig yn byw, er enghraifft, Tir y Swdeten (rhan o Tsiecoslofacia), uno gyda Awstria ac ennill tir ychwanegol I’r dwyrain o’r Almaen. Roedd gwledydd fel Prydain, wedi oedi rhag atal cynlluniau Hitler. Credent y gallai hynny arwain at achosi ryfel byd arall mor fuan ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf.
Wedi i Hitler ddod i rym, torrodd Gytundeb Versailles trwy yrru'r fyddin i'rRheindir, oedd i fod yn ardal anfilwrol, ym mis Mawrth1936. Ychydig fisoedd wedyn, dechreuoddRhyfel Cartref Sbaen, a chefnogodd Hitler aBenito Mussolini, arweinydd yr Eidal, wrthryfelFrancisco Franco.
Yn y blynyddoedd nesaf, dechreuodd Hitler ar ymgyrch i geisio ymestyn tiriogaeth yr Almaen. Un ardal oedd o ddiddordeb arbennig iddo oedd ySudetenland, lle'r oedd mwyafrif y trigolion yn Almaenwyr ethnig. Ar un adeg, roedd y Sudetenland yn perthyn iAwstria-Hwngari. Ar ddiwedd yRhyfel Byd Cyntaf, daeth yr ardaloedd hyn yn eiddoTsiecoslofacia. Pan ddaeth Hitler i rym yn yr Almaen, dechreuodd annog trigolion Almaeneg y Sudetenland i alw am gael dod yn rhan o'r Almaen. Datblygodd plaid Natsïaidd gref yno dan arweiniadKonrad Henlein. Cyfarfu Henlein a Hitler ar28 Mawrth1938, a dywedwyd wrth Henlein am fynnu hunanlywodraeth i'r Sudetenland a'r hawl i ddilyn polisiau Natsïaidd, gan wybod y byddai hyn yn annerbyniol i lywodraethEdvard Beneš yn Tsiecoslofacia. Gwnaeth Henlein hyn ar24 Ebrill. Cyhoeddodd yrUndeb Sofietaidd y byddai'n barod i ymladd i amddiffyn Tsiecoslofacia, ond dim ond os byddai Ffrainc a Phrydain yn ymuno â hi. Ar29 Medi, arwyddwydCytundeb München rhwng Hitler a'i gynghreiriadBenito Mussolini aNeville Chamberlain, prif weinidog y Deyrnas Unedig, aRaymond Daladier, prif weinidog Ffrainc. Daethant i gytundeb y byddai raid i Tsiecoslofacia ildio'r Sudetenland i'r Almaen, gyda'r Almaen i gymyryd meddiant o'r diriogaeth erbyn10 Hydref. Yn fuan wedyn yn1939 meddiannodd Hitler y gweddill o Tsiecoslofacia hefyd.
Ar1 Medi1939, ymosododd yr Almaen arWlad Pwyl. Ar3 Medi, cyhoeddoddFfrainc a'rDeyrnas Unedig ryfel yn erbyn yr Almaen. Mae lle i gredu nad oedd Hitler wedi rhagweld hyn, gan nad oeddynt wedi ymateb i'w ymosodiad ar Tsiecoslofacia. Parhaodd yr ymladd yn erbyn y Pwyliaid am bedair wythnos. Meddiannodd yr Almaen ran orllewinol y wlad, tra yn unol â'r cytundeb rhwngMolotov aRibbentrop. Meddiannodd yr Undeb Sofietaidd ran ddwyreiniol y wlad ar17 Medi. Ac eithrio un ymosodiad yn ardal y Saar gan Ffrainc ni fu llawer o ymateb gan y cynghreiriad, ac ildiodd y fyddin Bwylaidd ar6 Hydref1939.
Roedd Japan wedi mabwysiadu polisi tramor ymosodol ers cychwyn yr 20g. Gosododd ei rheolaeth drosCorea yn 1905, goresgynodd Manshwria (ardal gogledd-ddwyrainTsieina heddiw) yn 1931 er mwyn darparu haearn a glo ar gyfer ei marchnadoedd. Fel pŵer diwydiannol pwysig yn y rhan yna o’r byd roedd Japan hefyd yn awyddus i ddangos ei hawdurdod.
Achosodd hyn wrthdaro a thensiynau cynyddol gyda gwledydd fel UDA. Rheolwyd Llywodraeth Japan yn y cyfnod yma gan y fyddin a oedd yn awyddus i ymestyn pŵer Japan. Roedd y wlad yn cael ei pharatoi ar gyfer rhyfel ac roedd y Llywodraeth eisiau cael gafael ar fwy o olew, haearn crai, glo a thir ar gyfer ehangu ei dinasoedd a’u phŵer diwydiannol. Siomwyd Japan wediCytundeb Versailles. Roedd wedi gobeithio cael tir fel gwobr am ymladd ar ochr y Cynghreiriaid yn y rhyfel ac wedi’r siom trodd ei safiad a’i hymddygiad yn fwy milwrol.
Gyda goresgyn Manshwria yn 1931 a Tsieina ar7 Gorffennaf1937 roedd arwyddion clir bod ymddygiad Japan yn peri gofid i’r UDA. Llofnododd gytundeb gyda Hitler yn 1936 ac yng Ngorffennaf 1941 ymosododd milwyr Japaneaidd ar Indochina Ffrengig (sefFietnam). Credai UDA fod Japan am feddiannu de-ddwyrain Asia er mwyn cael cyflenwadau o rwber ac olew. Ymatebodd UDA drwy atal cyflenwadau o olew i Japan fel ei bod yn methu masnachu. Ceisiwyd cynnal trafodaethau er mwyn datrys yr argyfwng ond yn y cyfamser roedd Llywodraeth Japan yn trefnu cynlluniau ar gyfer yr ymosodiad arPearl Harbor,Hawäii.
Fel rhan o'r ymgyrch yn erbyn Tsieina, cipiodd Japan ddeIndotsieina yn1940. Gwaethygodd hyn ei pherthynas a'rUnol Daleithiau a'r pwerau gorllewinol eraill, ac yn1941 gwrthodasant gyflenwiolew i Japan. Y bwriad oedd gorfodi Japan i roi'r gorau i'w hymosodiadau yn Tsieina a'r gwledydd cyfagos, ond dewisodd llywodraeth Japan ymosod ar yr Unol Daleithiau a'i chynghreiriad.
Ar10 Mai, ymosododd byddin yr Almaen aryr Iseldiroedd,Gwlad Belg aLwcsembwrg. Ar yr un dyddiad, daethWinston Churchill yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig yn lle Neville Chamberlain. Ar14 Mai, bu cyrch awyr yn erbynRotterdam, a'r diwrnod wedyn ildiodd byddin yr Iseldiroedd. Ar28 Mai, gorfodwyd byddin Gwlad Belg i ildio.
Roedd Ffrainc yn dibynnu arLinell Maginot fel amddiffynfa yn erbyn yr Almaen, ond llwyddodd yr Almaenwyr i dorri trwodd gerllawSedan. Gorfodwyd byddinoedd Ffrainc, a byddin Brydeinig oedd wedi cyrraedd Ffrainc i gynorthwyo, i encilio. Ar2 Mehefin, llwyddwyd i achub tua 330,000 o filwyr Prydeinig a Ffrengig mewn cychod oDunkerque. Ar14 Mehefin, cipiwyd dinasParis gan y fyddin yr Almaen, ac ar22 Mehefin ildiodd Ffrainc. Gosodwyd 60% o Ffrainc danlywodraeth filwrol yr Almaen, tra sefydlwyd gwladwriaeth hanner-annibynnol yn y de-ddwyrain danPhilippe Pétain, gydaVichy fel prifddinas.
Dilynwyd hyn gan frwydrau yn yr awyr rhwng lluoedd awyr y Deyrnas Unedig a'r Almaen, yn arbennigBrwydr Prydain yn ystod haf a hydref 1940. Ni lwyddodd yr Almaen i ennill yr oruchafiaeth yn yr awyr a fyddai wedi gwneud glanio milwyr ar dir mawr Prydain yn bosibl. Am gryn gyfnod wedi hyn, dim ond yn yr awyr y bu'r brwydro yng ngorllewin Ewrop, gyda chyrchoedd bomio gan lu awyr ar Almaen ar ddinasoedd ym Mhrydain a chyrchoedd gan y llu awyr Prydeinig, ac yn ddiweddarach llu awyr yr Unol Daleithiau, ar ddinasoedd yr Almaen.
Ystyr rhyfel diarbed yw pan fydd holl adnoddau cymdeithas yn cael eu defnyddio i drechu gwrthwynebydd. O ganlyniad, mae ffatrïoedd, piblinellau,rheilffyrdd, pontydd, dociau ac ardaloedd poblog iawn yn dod yn dargedau. Mae rhyfel diarbed yn cael yr effaith fwyaf ar y bobl sy’n byw nôl ar y Ffrynt Cartref, sef y sifiliaid. Y syniad yw os pobl y wlad yn byw mewn ofn parhaus o farwolaeth annisgwyl a threisgar, bydd hyn yn rhoi pwysau ar ei llywodraeth i ildio. Holl bwynt ymgyrch fomio barhaus oedd dinistrio ysbryd cenedl. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd Llundain – prifddinas Prydain, canolbwynt llywodraeth, diwydiant a masnach a chartref nifer mawr o bobl – yn darged strategol a hawdd. Roedd gan yr Almaen ganolfannau awyrennau bomio wedi eu lleoli yn rhai o’r gwledydd yn Ewrop a feddiannwyd ganddynt. Gallai rhain lansio ymosodiadau ar draws y Sianel gan ddilyn llwybrAfon Tafwys iLundain. Roedd y paratoadau felly ar gyfer y rhyfel yn Llundain wedi cynnwys symud plant a sifiliad a oedd yn agored i niwed i ardaloedd diogel. Digwyddodd hyn yn ysbeidiol yn dilyn cwymp Ffrainc a dechrau’r Blitz yn 1940 ac yn ystod cyfnod y bomiau hedegog yn 1944. Fel rhan o’r paratoadau roedd y Ddeddf Rhagofalon Cyrchoedd Awyr (ARP: Air Raid Precaution) yn rhoi cyfrifoldeb i awdurdodau lleol dros sefydlu systemau Amddiffyn Sifil, dosbarthu mygydau nwy, darparu llochesau cyrchoedd awyr i gartrefi a threfnu gwaith y Wardeiniaid Cyrchoedd Awyr i orfodi rheoliadau’r blacowt yn ystod y Blitz.[1]
Yn ystod Haf 1940 roedd brwydr awyr rhwng yrRAF, sef llu awyr Prydain, a’r Luftwaffe, llu awyr yr Almaen Natsiaidd. Bwriad y Natsiaid oedd lansio ymgyrch awyr drom ar Brydain a fyddai’n ei gorfodi i ildio ac yna derbyn telerau cytundeb heddwch. Roedd y ‘Blitz’ yn rhan o’r frwydr hon. Ar ôl i Ffrainc ildio ym mis Mehefin 1940, rhybuddiodd llywodraeth Prydain ei phobl i ddisgwyl y gwaethaf, sef ymgyrch fomio enfawr yn erbyn yporthladdoedd a’rdinasoedd. I gychwyn, roedd y cyngor yn anghywir. Er bod Hitler wedi gorchymyn ymosodiad cyfun o’r awyr yn erbyn Prydain ar 31 Gorffennaf a goresgyniad ym mis Medi, dau brif darged y Luftwaffe oedd ymeysydd awyr lle’r oedd yr RAF yn rheoli’r awyrennau ymladd a llongau Prydain yn y Sianel. Byddai clirio llongau rhyfel Prydain o’r Sianel, a rheoli’r awyr uwch ei phen ar ôl hynny, yn galluogi llu goresgyn yr Almaen i wneud ei waith heb rwystr. Roedd Brwydr Prydain wedi dechrau. Cafodd Brwydr Prydain ei hymladd uwchben cefn gwlad de Lloegr, a’i gwylio gan y cyhoedd. Roedd llawer llai o awyrennau gan yr RAF na’r Luftwaffe. Dim ond 2,915 o awyrennau oedd gan yr RAF a dim ond ychydig dros 1,200 ohonyn nhw oedd yn awyrennau ymladd. Roedd 4,550 o awyrennau gan y Luftwaffe. Yn ystod pum wythnos gyntaf y frwydr, hyd at 6 Medi, collodd yr RAF bron 20% o’i gryfder. Saethwyd 185 o awyrennau Spitfire a Hurricane i lawr mewn wythnos. Roedd colledion yr Almaen yr un mor drwm, ond roedd yr Almaenwyr yn dal ati gan gredu na fyddai’r RAF yn gallu eu gwrthwynebu’n llawer hirach. Roedden nhw’n iawn, ond nid oedden nhw’n gwybod hynny.
Newid tactegau Achubwyd yr RAF rhag dinistr llwyr pan newidiodd yr Almaenwyr eu tactegau, gan fomio dinasoedd yn lle meysydd awyr. Ar 7 Medi roedd Hitler yn gandryll, a gorchmynnodd i’r Luftwaffe fomio Llundain i ddial ar Brydain ar ôl i’r RAF fomioBerlin. Roedd y Blitz, y gair Almaeneg am ‘fellt’, wedi dechrau. Bathwyd y term ‘Blitz’ gan wasg Prydain, a defnyddiwyd y term i ddisgrifio’r cyrchoedd bomio trwm ac aml ar Brydain yn 1940 ac 1941. Roedd Hitler am ddinistrio diwydiant Prydain a’i threfi a’i dinasoedd gan obeithio gorfodi Llywodraeth Prydain i ildio drwy fomio sifiliaid yn barhaus a thrwy hynny dorri eu hysbryd.[1]
Ar22 Mehefin1941, ymosododd yr Almaen yn ddirybudd ar yrUndeb Sofietaidd mewn ymgyrch a elwid ynGyrch Barbarossa. Nôd Cyrch Barbarossa oedd meddiannu rhan Ewropeaidd yr Undeb Sofietaidd. Roedd yr ymosodiad yn torri cytundeb heddwch rhwngAdolf Hitler aStalin. Ar y cychwyn, enillodd yr Almaenwyr fuddugoliaethau mawr, gan lwyddo i amgylchynu nifer fawr o filwyr Rwsiaidd a'u cymyryd yn garcharorion. Fodd bynnag, erbyn mis Hydref roedd yr ymosodiadau Almaenig yn cael llai o lwyddiant, yn rhannol oherwydd y mwd oedd wedi dilyn glawogydd yr hydref. Cyrhaeddodd yr Almaenwyr hyd gyrionMoscfa, ond ni allasant fynd ymhellach. Gwrthododd Hitler ganiatâd iddynt i encilio i safleoedd mwy pwrpasol ar gyfer y gaeaf.
Dioddefodd y ddwy ochr golledion trwm, a dilynwyd yr ymgyrch yma gan frwydrau ar raddfa enfawr yn ystod1942 a1943. Un o'r brrwydrau tyngedfennol oeddBrwydr Stalingrad. Yn ystod haf1942, ymosododd Chweched Fyddin yr Almaen danFriedrich Paulus yn y de. Dechreuodd yr ymgyrch ar28 Mehefin. Ar19 Awst gorchymynnwyd cipio dinas Stalingrad. Ar12 Medi, penodwydVasily Chukov i arwain yr amddiffynwyr yn y ddinas. Dros y misoedd nesaf bu brwydro caled o gwmpas ac yn adfeilion Stalingrad. Bu colledion trwm ar y ddwy ochr, a lladdwyd tua 40,000 o drigolion y ddinas.
Montreal Daily Star: "Germany Quit", 7 Mai 1945
Tra roedd yr ymladd yn parhau yn y ddinas, cynlluniodd y cadfridogGeorgi Zhukov wrth-ymosodiad i godi'r gwarchae ar Stalingrad ac amgylchynu'r Chweched Fyddin. Dechreuodd yr ymosodiad hwn ar19 Tachwedd. Ar23 Tachwedd, gorchymynnodd Hitler nad oedd y Chweched Fyddin i encilio, ond i amddiffyn eu safleoedd hyd angau. Llwyddodd y Fyddin Goch i amgylchynu'r Almaenwyr. Ym mis Chwefror, ildiodd Paulus a gweddillion ei fyddin i'r Fyddin Goch. Dyma'r tro cyntaf i'r Almaen golli brwydr ar raddfa fawr yn yr Ail Ryfel Byd, a Paulus oedd y cadlywydd Almaenig cyntaf erioed i'w gymyryd yn garcharor.
Yn haf1943, ymosododd yr Almaenwyr eto. Rhwng4 Gorffennaf a22 Gorffennaf, ymladdwydBrwydr Kursk, y frwydr danciau fwyaf erioed. Roedd gan yr Almaenwyr tua 800,000 o droedfilwyr, 3,000 o danciau a 2,000 o awyrennau, tra'r oedd gany Fyddin Goch tua 1,3000,000 o droedfilwyr, 3,6000 o danciau a 2,400 o awyrennau. Er i'r Fyddin Goch ddioddef mwy o golledion na'r Almaenwyr, methodd yr ymosodiad a thorri trwy eu llinellau amddiffynnol. Dyma'r tro olaf i fyddin yr Almaen fedru ymosod yn strategol ar raddfa fawr ar y ffrynt dwyreiniol, ac o hyn ymlaen fe'u gorfodwyd i encilio yn raddol o Rwsia a thrwy ddwyrain Ewrop. Aethy Fyddin Goch ymlaen i feddiannu rhan ddwyreiniol yr Almaen. Lladdodd Hitler ei hun ar30 Ebrill1945 wrth i danciau'r Fyddin Goch nesáu at ganol Berlin.
Milwyr Americanaidd a Sofietaidd yn cyfarfod ger Afon Elbe
Ar6 Mehefin1944, glaniodd milwyr yr Unol Daleithiau, y Deyrnas Unedig a nifer o gynghreiriaid eraill danDwight D. Eisenhower ar draethauNormandi yng ngogledd Ffrainc, gan ddefnyddio 6,000 o longau a chychod. Glaniodd 160,000 o filwyr ar y diwrnod cyntaf, ac erbyn diwedd Awst roedd y nifer wedi cynyddu i 3 miliwn. Er eu bod yn llawer mwy niferus na'r milwyr Almaeneg oedd yn ei gwrthwynebu, bu ymladd caled am y ddau fis nesaf. Tua diwedd Gorffennaf, llwyddodd y Cynghreiriaid i dorri trwy linellau amddiffynnol y fyddin Almaenig, a dechreuasant ennill tir yn gyflymach. Cipiwyd Paris oddi ar yr Almaenwyr ar25 Awst1944. Tua'r adeg yma, ymddangosai fel bod diwedd y rhyfel yn nesáu, ond ym mis Medi methoddCyrch Market Garden, ymosodiad oedd wedi ei fwriadu i groesuAfon Rhein ynArnhem. Gwrth-ymosododd yr Almaenwyr yn yrArdennes ym mis Rhagfyr, ond er iddynt gael cryn lwyddiant yn y dyddiau cyntaf, fe'u gorfodwyd i encilio. Ym mis Mawrth1945, croesodd y Cynghreiriaid afon Rhein gerWesel, ac ar25 Ebrill, cyraeddasantafon Elbe a chyfarfod y Fyddin Goch.
Daeth y rhyfel i ben yn Ewrop ar18 Mai1945 pan ildiodd yr Almaen.
RoeddAlbania eisoes wedi ei meddiannu gan yr Eidal yn Ebrill1939. Roedd Mussolini yn awyddus i efelychu llwyddiannau'r Almaen yn1940, ac ar28 Hydref 1940, ymosododd yr Eidalwyr arWlad Groeg. Cawsant beth llwyddiant ar y cychwyn, ond bu raid iddynt encilio yn wyneb gwrth-ymosodiad y Groegiaid, a ddechreuodd ar14 Tachwedd. YmunoddHwngari,Rwmania aBwlgaria a'r Axis, ac ymosododd yr Almaenwyr ar Wlad Groeg o Bwlgaria. Er gwaethaf cymorth Prydeinig i'r Groegwyr, cipiwydAthen gan yr Almaenwyr ar27 Ebrill1941, ac ym mis Mai cipwyd ynysCreta.
Ar13 Medi1940, ymosododd mwy na 200,000 o filwyryr Eidal aryr Aifft, gyda'r bwriad o gael rheolaeth trosGamlas Suez a meysydd olew'r Dwyrain Canol. Gorchfygwyd hwy mewn nifer o frwydrau gan y fyddin Brydeinig, a bu raid i Mussolini alw ar Hitler am gymorth. Gyrrwyd yrAfrikakorps i Ogledd Affrica, a thanErwin Rommel gyrrodd y Prydeinwyr yn ôl am gyfnod. Ni allai'r Almaen ei atgyfnerthu, fodd bynnag, ac roedd yn brin o olew. Yn1942, gorchfygwyd yr Afrikakorps gan y Prydeinwyr danBernard Montgomery ym mrwydrEl Alamein. Glaniodd yr Americanwyr ynAlgeria aMoroco, ac yn raddol gyrrwyd yr Almaenwyr o Ogledd Affrica. Ym mis Mai 1943, ildiodd yr Almaenwyr ac Eidalwyr olaf ynTiwnisia.
Gwnaeth hyn ymosodiad ar yr Eidal yn bosibl. Ar10 Gorffennaf1943, glaniodd y cynghreiriaid ar ynysSicilia, ac ar3 Medi, gallasant groesiCulfor Messina i'r tir mawr. Wedi naw mis o ymladd, cipiwyd dinasRhufain ar4 Mehefin1944. Ildiodd yr Eidal, ac yna cyhoeddodd ryfel yn erbyn yr Almaen. Diarfogwyd byddin yr Eidal gan yr Almaenwyr, a pharhaodd yr ymladd yng ngogledd yr Eidal. Daeth y ffrynt yma yn llai pwysig wedi i'r Cynghreiriaid lanio yn Normandi, ond parhaodd yr ymladd yma hyd fis Mai, 1945.
Ar7 Rhagfyr1941, ymosododd Japan ar nifer o dargedau, yn eu plith cyrch awyr ar lynges yr Unol Daleithiau ynPearl Harbor. Yr un pryd, glaniwyd milwyr yn Malaya, oedd yn drefedigaeth Brydeinig. Pedwar diwrnod yn ddiweddarach, cyhoeddodd yr Almaen ryfel ar yr Unol Daleithiau, i gefnogi Japan. Ar10 Rhagfyr, suddodd llu awyr Japan y llongau rhyfel PrydeinigPrince of Wales aRepulse, ac yn fuan wedyn syrthioddSingapôr i fyddin Siapan. Ym mis Ionawr1942, ymosododd Japan arBurma,Ynysoedd Solomon acIndia'r Dwyrain Iseldiraidd. Roedd Japan erbyn hynny hefyd yn bygwthIndia acAwstralia a bu rhyfel y Cynghreiriaid yn y Dwyrain Pell yn ddibynnol ar ymdrechion milwyr Awstralia ac America. Roedd Prydain yn brwydro yn Burma er mwyn amddiffyn India.[2]
Dechreuodd y llanw droi gyda buddugoliaeth llynges yr Unol Daleithiau dros lynges Japan ymMrwydr Midway rhwng4 a7 Mehefin1942. Dioddefodd llynges Japan golledion mawr, ac o hyn ymlaen llwyddodd yr Unol Daleithiau i gipio ynysoedd y Cefnfor Tawel oddi arnynt fesul un, yn dilyn brwydro ffyrnig. Yn Awst 1942, dechreuodd ymladd ffyrnig rhwng byddinoedd America a Japan am feddiant o ynys Guadalcanal, un oYnysoedd Solomon. Parhaodd yr ymladd am chwe mis, a lladdwyd dros 40,000; yn y diwedd cafodd yr Americanwyr y fuddugoliaeth.[3]
O hyn ymlaen, gotfodwyd y Siapaneiad i encilio'n raddol. Ar19 Hydref1944, gwnaeth llu awyr Japan yr ymosodiadKamikaze cyntaf ar lynges yr Unol Daleithiau. Yr ymosodiadau hyn, byddai'r awyrennwr, mewn awyren oedd wedi ei llenwi a deunydd ffrwydrol, yn ceisio taro llong â'r awyren, gan ei ladd ei hun er mwyn niwedio'r gelyn. Cafodd y tactegau hyn beth llwyddiant, ond yn Chwwefror - Mawrth1945, cipiodd yr AmericanwyrIwo Jima, yna rhwng Ebrill a Mehefin, cipiasantOkinawa. Roedd y colledion yn yr ymladd yma tua 20,000 o Americanwyr a 130.000 o Siapanea
Lladdodd Adolf Hitler ei hun ar30 Ebrill1945 wrth i danciau'r Fyddin Goch nesáu at ganol Berlin. Olynwyd ef fel Canghellor yr Almaen gan y LlyngesyddDoenitz. Ychydig ddyddiad yn ddiweddarach, ar7 Mai, ildiodd yr Almaen yn ddiamod i'r Cynghreiriad. Rhannwyd yr Almaen yn bedwar rhanbarth dan feddiant milwrol yr Unol Daleithiau, Prydain, Ffrainc a'r Undeb Sofietaidd. Yn1949, unwyd y rhanbarthau oedd dan reolaeth y pwerau gorllewinol felGweriniaeth Ffederal yr Almaen, gydaKonrad Adenauer fel Canghellor. Daeth y rhan oedd ym meddiant yr Undeb Sofietaidd yn wladwriaeth ar wahân,Gweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen. Nid adunwyd y ddwy ran hyd1990. Collodd yr Almaen diriogaethau helaeth yn y dwyrain i Wlad Pwyl, gyda Gwlad Pwyl yn colli rhai o'i thiriogaethau dwyreiniol hithau i'r Undeb Sofietaidd.
Parhaodd y rhyfel yn Asia a'r Cefnfor Tawel am rai misoedd. Gollyngodd yr Unol Daleithiau fom atomig ar ddinasHiroshima ar6 Awst1945, yna un arall ar ddinasNagasaki ar9 Awst. Lladdwyd tua 165,000 o bobl yn yr ymosodiadau, a bu farw tua 145,000 arall yn yr wythnosau dilynol o effeithiau'r bomiau. Hefyd ar9 Awst, ymosododd byddin yr Undeb Sofietaidd arManshwria, oedd ar y pryd ym meddiant Japan. Cyhoeddodd lywodraeth Japan ei bod yn barod i ildio ar15 Awst, ac arwyddwyd y ddogfen ar2 Medi. Meddiannwyd Japan yn filwrol gan yr Unol Daleithiau am gyfnod wedi iddi ildio, a dienyddiwyd rhai o uchel swyddogion y lluoedd arfog wedi eu cael yn euog o droseddau thyfel, ond gadwyd i'r ymerawdwrHirohito barhau fel pennaeth y wladwriaeth.
Amcangyfrifir i tua 60 miliwn o bobl golli eu bywydau o ganlyniad i'r Ail Ryfel Byd, y cyfanswm uchaf o unrhyw ryfel mewn hanes. Yn wahanol i'r Rhyfel Byd Cyntaf, roedd canran uchel o'r colledion hyn ymysg y boblogaeth sifil. Yr Undeb Sofietaidd a ddiddefodd fwyaf o golledion, gyda rhwng 8 a 10 miliwn o golledion milwrol, yn cynnwys nifer fawr o garcharorion rhyfel a fu farw yng ngwersylloedd crynhoi yr Almaen, a 10 - 15 miliwn o golledion sifil. ColloddTsieina yn agos at 20 miliwn o'i phoblogaeth i gyd, y mwyafrif ymhlith y boblogaeth sifil. Roedd colledion milwrol yr Almaen dros 5 miliwn, y mwyafrif o'r rhain ar y ffrynt dwyreiniol., a cholledion milwrol Japan dros 2 filiwn.
Roedd y colledion sifil yn cynnwys pobl a laddwyd mewn cyrchoedd awyr. Ymhlith y cyrchoedd awyr a achosodd fwyaf o golledion, roedd cyrchoedd awyr Prydain ac America ar ddinasoeddHamburg aDresden yn yr Almaen, a'r ymosodiadau atomig ar Hiroshima a Nagasaki. Lladdwyd miliynau yng ngwesylloedd yr Almaen (gweler "Yr Holocost" isod), a bu farw miliymau eraill o newyn o ganlyniad i'r rhyfel mewn gwledydd fel Tsieina ac India.
Yr Holocost yw'r term a ddefnyddir am ladd tua chwe miliwn oIddewon Ewropeaidd yn ystod yr Ail Ryfel Byd, fel rhan o raglen fwriadol ohil-laddiad gan yNatsïaid. Lladdwyd nifer fawr o bobloedd a grwpiau eraill gan y Natsïaid hefyd, yn cynnwys yRoma, carcharorion rhyfel o'rUndeb Sofietaidd, poblhoyw, pobl anabl,Tystion Jehovah ac eraill. Mae rhywfaint o anghytundeb ymysg ysgolheigion a ddylid cynnwys y rhain yn y term "Holocost", neu a ddylid ei ddefnyddio am yr Iddewon yn unig.
Dechreuodd yr erlid ar yr Iddewon a grwpiau eraill yn raddol wedi i'r Natsïaid ddod i rym yn yr Almaen, ond dim ond wedi dechrau'r rhyfel y bu lladd ar raddfa fawr. Erbyn y 1940au roeddgwersylloedd difa megisAuschwitz aTreblinka wedi eu sefydlu, lle lladdwyd miliynau trwy ddefnyddio nwy a dulliau eraill. Credir i 1.4 miliwn o bobl gael eu lladd yn Auschwitz yn unig, a thuag 800,000 yn Treblinka. Cysylltir y rhaglen yma yn arbennig âHeinrich Himmler a'rSS.
Roedd nifer o'r prif arweinwyr megis Hitler ei hun,Heinrich Himmler aJoseph Goebbels wedi ei lladd ei hunain cyn cael eu dal gan y cyngheiriaid neu yn fuan wedyn, ac ni wyddai neb beth oedd hanesMartin Bormann. Cynhaliwyd cyfres o achosion llys gan y Cynghreiriaid, yn enwedigProfion Nuremberg, yn erbyn y gweddill o arweinwyr llywodraeth Natsiaidd yr Almaen. Dedfrydwyd nifer ohonynt i farwolaeth, a charcharwyd eraill am wahanol gyfnodau. Ystyrir y rhain yn ddatblygiad pwysig ym maes cyfraith ryngwladol.
O ganlyniad i'r rhyfel hwn daethynysiaeth yr Unol Daleithiau i ben, ail-adeiladwyd yr Almaen a Siapan fel gwledydd diwydiannol pwysig iawn, daeth yr Unol Daleithiau a'r Undeb Sofietaidd yn ddwyarch bŵer, a sefydlwyd yCenhedloedd Unedig er mwyn ceisio rhwystro rhyfel byd yn y dyfodol. Yn Tsieina, cipiwyd gryn gan yComiwnyddion danMao Zedong, ac yn1949 cyhoeddodd Mao, a oedd erbyn hynny'n Gadeirydd y Blaid Gomiwnyddol,Weriniaeth Pobl Tsieina. Roedd Prydain a Ffrainc wedi eu gwanhau yn fawr o ganlyniaid i'r rhyfel, ac yn y blynyddoedd nesaf dechreuasant golli gafael ar eu hymerodraethau. DaethIndia yn annibynnol yn1947. Un arall o ganlyniadau'r rhyfel oedd ffurfio gwladwriaethIsrael.
Yn fuan datblygodd cystadleuaeth rhwng yr Undeb Sofietaidd a gwledyddCytundeb Warsaw ar y naill ochr a'r Unol Daleithiau a gwledyddNATO ar y llall a elwiry Rhyfel Oer. Parhaodd o tua 1945 hyd i tua 1990.