Mae Ynysoedd Ffaro yn dalaith hunanlywodraethol oDdenmarc ers1948 gan gymryd cyfrifoldeb am y rhan fwyaf o'u materion, ac eithrio amddiffyn a materion tramor.
Tórshavn yw'r brifddinas, ac mae ganddi boblogaeth o 19,000; yr ail ddinas yw Klaksvik sydd â phoblogaeth o tua 6,000. Mae trwch gweddill y boblogaeth wedi'i gwasgaru ymysg y pentrefi arfordirol. Mae pobl yn byw ar 17 o'r 22 ynys. Y prif ynysoedd ywStreymoy,Eysturoy, aVágar. Mae'r rhan fwyaf o'r ynysoedd yn fryniog ac mae'r gweithgareddau amaethyddol yn gyfyngedig i fagu defaid a thyfu tatws. Mae pysgota a phrosesu pysgod yn ddiwydiannau o bwys.
Ardal yr ynysoedd yw 1,399 cilomedr sgwâr (540 mi.sg), ac nid oes afonydd na llynnoedd o bwys. Mae 1,117 cilomedr (694 mi) o arfordir, ac nid oes ffin tirol gydag unrhyw wlad arall. Yr unig ynys fawr sydd heb drigolion arni yw Lítla Dímun.
Cyrhaeddodd yr ynys boblogaeth o 50,000 am y tro cyntaf erioed yn ei hanes yng nghanol 2017.[2] Mae'r llywodraeth wedi ceisio delio gydag allfudo, yn enwedig allfudo menywod ifanc, a bydd nifer o ddynion yn canlyn gwragedd o Ynysoedd y Ffilipinau i fod i'w priodi.[3] Mae ymdrechion i geisio gymathu newydd-ddyfodiaid i iaith unigryw a diwylliant yr ynysoedd.[4]
Mae diwylliant yr ynysoedd yn hanu o olion o'r hen ddiwylliant Lychlyn Scandinafia wedi'u cymysgu â diwylliant draddodiadol ffermio a physgota cynhaliol.
Iaith gynhenid, a bellach prif iaith swyddogol yr ynys, ydyw'rFfaröeg, iaith Germanaidd sy'n ymdebygu rhywfaint i'rIslandeg. Dethlir diwrnod nawddsant yr Ynysoedd,Ólavsøka ('Gwylnos Sant Olaff') ar 29 Gorffennaf. Ceir cyfres o ddigwyddiadau yn arwain at y diwrnod. Ar yr 29ain fe agorir Senedd y wlad: y Logting.
Ceir Coleg trydyddol a galwedigaethol,Glasir aPrifysgol Ynysoedd Ffaro ar yr ynysoedd, a Ffaröeg yw iaith gweinyddu ac addysgu'r sefydliadau yma gan fwyaf.
Wedi'rAil Ryfel Byd pan meddiannwyd yr Ynysoedd gan luoedd Prydain, cafodd yr Ynyswyr flas ar fod yn hunanlywodraethol gan i Ddenmarc cael ei meddiannu gan yNatsïaid. Yn sgil hyn cafwydRefferendwm ar Annibyniaeth yn 1948. Er i'r mwyafrif bleidleisio dros annibyniaeth, penderfynodd Denmarc beidio ag ildio'n llawn gan roi elfen gref o hunanlywodraeth yn lle.
Ceir trafodaeth gyson ar ddatganoli a bu bwriad cynnal refferendwm ar annibyniaeth yn 2018[5] ond ni ddaeth hyn i law. Serch hynny mae'r drafodaeth dros ragor o bwerau yn un byw.
Bu'r ynysoedd yn destun chwilfrydedd ac ysbrydoliaeth i genedlaetholwyr Albanaidd sydd eisiau annibyniaeth i'r Alban gan fod yn destun ffilm fer gan y newyddiadurwraig, Lesley Riddoch yn 2018.[6]