Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Ymddeoliad

Oddi ar Wicipedia
Y boblogaeth a oedd o leiaf 65 mlwydd oed yn 2005.

Yr amser pan fo person yn dewis stopio gweithio'n llwyr ydyymddeoliad.[1][2] Gall berson gymryd ymddeoliad-rhannol hefyd drwy leihau'r nifer o oriau maent yn gweithio.

Mae nifer o bobl yn dewis ymddeol pan maent yn gymwys ambensiwn preifat neu gyhoeddus. Serch hynny, mae rhai pobl yn cael eu gorfodi i ymddeol pan fo'u cyflwr corfforol yn golygu nad ydynt yn medru cyflawni eu swyddi bellach (e.e. drwy salwch neu ddamwain). Weithiau hefyd bydd deddfwriaeth yn datgan nad oes hawl ganddynt i barhau i weithio.[3] Yn y mwyafrif o wledydd, mae'r syniad o ymddeoliad yn rhywbeth gymharol newydd a gyflwynwyd yn ystod y19fed a'r20g. Cyn hynny, golygaidisgwyliad oes byr a diffyg trefniadau pensiwn fod y rhan fwyaf o weithwyr yn parhau i weithio tan eu bod yn marw. YrAlmaen oedd y wlad gyntaf i gyflwyno ymddeoliad yn ystod y1880au.

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. "Retire: To withdraw from one's occupation, business, or office; stop working."American Heritage DictionaryArchifwyd 2008-12-04 yn yPeiriant Wayback
  2. "Retire: Leave one's job and cease to work, especially because one has reached a particular age.Compact Oxford Dictionary[dolen farw]
  3. Er enghraifft, yn yr Unol Daleithiau, mae'n rhaid gadfridog neu lyngesydd ymddeol ar ôl 40 mlynedd o wasanaeth oni bai ei fod ef neu hi'n cael ei ailapwyntio i wasanaethu am gyfnod hirach.10 USC 636 Ymddeoliad ar gyfer blynyddoedd o wasanaeth: swyddogion cyffredin mewn safleoedd sy'n uwch na brigadydd cadfridog a llyngesydd cefn (hanner waelod).
Eginyn erthygl sydd uchod amgymdeithaseg. Gallwch helpu Wicipedia drwyychwanegu ato.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Ymddeoliad&oldid=11647320"
Categorïau:
Categori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp