A = papur; B = alwminiwm; C = plwm. Cryfder y tri math o belydrau: Alffa, Beta a Gamma; dengys y diagram hwn mai'r gwanaf ydy Alffa a'r cryfa ydy Gamma.
Ymbelydredd (Saesneg:radiation) yw'r broses pan foegni yn teithio drwy'r gofod neu le gwag ac sydd, yn y diwedd, yn cael ei amsugno gan gorff neu ddefnydd arall. Mae'n digwydd, er enghraifft, mewnbom atomig, mewnadweithydd niwclear ac mewngwastraff niwclear wrth iddoddadfeilio. Ymbelydredd, hefyd, ydy'r term a roir i brosesau llai peryglus) megistonnau radio,golau uwchfioled neubelydr-X. Yr hyn sy'n gyffredin rhwng y prosesau hyn i gyd ydy'r ffaith fod yma belydrau sy'n "ymbelydru" mewn llinell hollol syth o un lle i'r llall: o'r ffynhonnell i'r targed.
Mae'r broses o ddadfeilio yn digwydd yn gyfangwbwl ar hap; ni ellir rhagweld pa bryd y bydd unrhywniwclews ansefydlog yn dadfeilio ac yn rhoi allan belydriad. Mae pob niclews yn dadfeilio'n gwbwl ddigymell ac yn ei amser ei hun. Gellir defnyddioSynhwyrydd Geiger-Müller i'w "clywed" yn clician yn afreolaidd ac ar hap.
Gellir peri i niwclysau sefydlog droi yn ansefydlog drwy ei pledu gydaniwtronau.
Caiff ymbelydredd ei fesur mewnBecquerelau ac fe'i dynodir gyda'r symbol Bq. Un Becquerel ydy un niwclews yn dadfeilio bob eiliad. O ganlyniad, mae cyfradd rifo o 60 rhifiad y funud (60 rh. y f.) = 1 Bq.
Gronyn alffa yw cnewyllyn atomHeliwm He2+, sef 2proton a 2niwtron. Mae ganddofas eitha trwm, felly gall gael ei atal gan ddim byd amgenach na tudalen dennau o bapur.
Gronyn beta yw electron, positron sydd yn electron gyda gwefr positif, neu niwtrino. Gellir eu hatal efo haen denau o ffoil metel.
Gamma yw allyrriad o ffoton o ynni uchel – uwch na 1019 Hz (mewn amrediad o 10keV i 10MeV). Dydy ymbelydredd gamma ddim yn digwydd ar ei ben ei hun, ond mae'n digwydd gydag ymbelydredd alffa neu beta.
Pan fo'rniwclews yn ymbelydru, mae e'n newid i niwclews elfen arall. Mae'r term "hanner oes" (Saesneg:half-life) yn disgrifio cyflymder y broses hon. Mae e'n ymateb i'r amser angenrheidiol i hanner o'r niwclewsau gael eu newid. Hanner oes elfen yw'r amser mae'n gymryd i hanner y deunydd ymbelydrol gael ei allyrru o niwclews yr atom.
Achosir ymbelydredd beta a alffa newidiadau mewn más a rhif atomig yr elfen y daeth ohono. Gan fod yr gronyn alpha yn cynnwys 2proton a 2niwtron, mae ei golled o elfen yn achosi gostyngiad o ddau yn yrhif atomig a phedwar yn yrhif más. Pan mae ymbelydredd beta yn digwydd, mae un niwtron o'r elfen yn ei drawsnewid i mewn i un proton ac un electron (mae'r proton yn aros yn y niwclews). Felly, mae ymbelydredd beta yn achosi cynnydd o un yn y rhif atomig a dyw'r rhif más ddim yn newid.
Dyw'r ymbelydredd gama ddim yn effeithio ar y más a rhif atomig elfennau.
Dyddio Carbon 14 – gall gwyddonwyr gyfrifo oedran pethau byw (pethau sydd wedi cynnwys carbon) gan fesur faint o garbon 14 sydd wedi cael eu allyrru, a faint sydd ar ôl. Mae'r dull yma (a elwir yn ddyddio carbon yn cael ei ddefnyddio'n aml gan yr archeolegydd i weithio allan oedrannau cyrff a phlanhigion hen iawn.
Defnydd Meddygol – defnyddir ymbelydredd Gamma (Cobalt-60) (radiotherapi) i ladd tyfiantcancr. Defnyddir Pliwtoniwm 238, hefyd, fel "tanwydd" ar gyfer peiriannau rheoli'r galon.
Diheintio Di-Wres – defnyddir ymbelydredd Gamma i laddbacteria afeirysau ar nwyddau meddygol sydd yn methu cael eu gwresogi.
Mesuriad O Drwch – gall mesur trwch papur, metel, plastig ayyb trwy allyrru ymbelydredd alffa neu beta drwyddynt ac yna mesur yr ymbelydredd ar yr ochor arall. Os yw'r mesuriadau'n gyson yna fe fydd y trwch yn gyson.
Traswyr Ymbelydrol – gall defnyddio ymbelydredd diogel o fewn y corff ganfod symudiadau a phroblemau mewnol.