Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Yasuo Fukuda

Oddi ar Wicipedia
Yasuo Fukuda
Ganwyd16 Gorffennaf 1936 Edit this on Wikidata
Takasaki, Setagaya-ku Edit this on Wikidata
Man preswylGunma Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Japan Japan
Alma mater
  • Prifysgol Waseda
  • Azabu Junior and Senior High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd,economegydd Edit this on Wikidata
SwyddPrif Weinidog Japan, Prif Ysgrifennydd y Cabinet, aelod o Dŷ Cynrychiolwyr Japan, Minister of State for Gender Equality Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolY Blaid Ryddfrydol Ddemocrataidd Edit this on Wikidata
TadTakeo Fukuda Edit this on Wikidata
MamMie Fukuda Edit this on Wikidata
PriodKiyoko Fukuda Edit this on Wikidata
PlantTatsuo Fukuda Edit this on Wikidata
Gwobr/auOrder of Merit, Urdd Fawr y Frenhines Jelena Edit this on Wikidata

Yasuo Fukuda (福田 康夫, Fukuda Yasuo, ganwyd16 Gorffennaf1936) oedd 91ainprif weinidogJapan ac arweinyddPlaid y Democratiaid Rhyddfrydol. Fe'i apwyntiwyd i'r swyddi ym mis Medi 2007 ar ôl ymddiswyddiad sydyn ei ragflaenydd,Shinzo Abe. Fe ymddiswyddodd yn sydyn hefyd ym mis Medi 2008, ar ôl llai na flwyddyn yn y swydd.Cyn hyn, Fukuda oedd prif ysgrifennydd y cabinet rhwng 2000 a 2004. Pan ymddiswyddodd yng nghanol sgandal ynglŷn â phensiynau, fe oedd y prif ysgrifennydd a ddaliodd y swydd am yr amser hiraf yn hanes y wlad. Yn ogystal â hyn, Fukuda oedd y prif weinidog cyntaf sydd yn fab i gyn-brif weinidog, gan maiTakeo Fukuda oedd ei dad.

Bywyd cynnar

[golygu |golygu cod]

Fe anwyd Yasuo Fukuda ynTakasaki, Gunma, mab cyntaf y gwleidydd Takeo Fukuda. Cafodd ei fagu ynSetagaya,Tokyo ble mynychodd Ysgol Uwch Azabu. Graddiodd ymMhrifysgol Waseda gyda gradd mewneconomeg ym1959. Ar ôl ei amser yn y brifysgol, cafodd swydd yn Maruzen Petroleum (heddiw yn rhan o'rCosmo Oil Company). Dros yr 17 mlynedd nesaf, nid oedd ganddo lawer i wneud mewn gwleidyddiaeth. Fe ddringodd ei ffordd i fod yn bennaeth adran busnes. Ymsefydlodd yn yrUnol Daleithiau rhwng 1962 a 1969.Pan roedd ei dad yn brif weinidog rhwng 1976 a 1978, gweithiodd fel ysgrifennydd gwleidyddol. O 1978 i 1989 roedd e'n gyfarwyddwr yn Sefydliad Achosion Ariannol Kinzai, yn gweini fel ymddiriedolwr o 1986 ymlaen.

Gyrfa wleidyddol

[golygu |golygu cod]

Rhedodd Fukuda amDŷ'r Cynrychiolwyr ym 1990 ac ennill sedd. Daeth yn is-gyfarwyddwrPlaid y Democratiaid Rhyddfrydol ym 1997 a phrif ysgrifennydd y cabinet yn 2000, gydaYoshiro Mori yn brif weinidog. Fe ymddiswyddodd o'r swydd yma yn 2004 yng nghanol sgandal mawr yn perthnasu a'r sustem bensiynau yn Japan. Fe'i ystyriwyd fel ymgeisydd potensial am arweinyddiaeth y blaid yn 2006 ond dewisodd yn erbyn rhedeg. Yn lle, daethShinzo Abe yn arweinydd y blaid a prif weinidog Japan, yn colynnu Junichiro Koizumi. Un o'i bolisïau nodedig yw ceisio terfynu ymweliadau gan y prif weinidog i'rAllor Yasukuni. Ym mis Mehefin 2006, cynigodd Fukuda a 136 cynrychiolwr arall am arall ddewis seciwlar yn lle, yn dyfynnu o bryderon cyfansoddiadol.

Prif weinidogaeth

[golygu |golygu cod]

Ar ôl ymddiswyddiad Shinzo Abe yn Medi 2007, cyhoeddodd Fukuda y byddai'n rhedeg yn etholiad arweiniol y blaid, gyda'r enillydd yn dod yn brif weinidog, hefyd, gan mai'r Blaid Ryddfrydol Ddemocrataidd yw'r blaid fwyaf yn Nhŷ'r cynrychiolwyr. Fe fwynhaodd Fukuda llawer o gefnogaeth yn ei ymgais, yn cynnwys y grŵp mwyaf yn y blaid, o dan arweinyddiaeth yr ysgrifennydd tramor Nobutaka Machimura, ble mae Fukuda hefyd yn aelod. Cefnodd y gweinidog ariannol Fukushiro Nukaga ei ymgais hefyd. Fe addefodd yr unig ymgeisydd arall yn yr etholiad,Taro Aso, y byddai mwy na thebyg yn colli'r etholiad yn yr wythnos cyn byddai'r bleidlais yn digwydd.

Yn yr etholiad, ar y23 Medi, fe enillodd Fukuda gan 330 pleidlais yn erbyn 197 i Aso. Fe'i etholwyd yn 91fed prif weinidog Japan ar25 Medi. Derbyniodd 338 pleidlais, bron â bod dros gant mwy nag oedd eisiau am fwyafrif yn Nhŷ'r cynrychiolwyr; ond yn Nhŷ'r Cynghorwyr (yr ail dŷ), sydd dan reolaeth yBlaid Ddemocrataidd, fe gollodd i'w ymgeisydd nhw,Ichiro Ozawa gyda 106 pleidlais i 133. Fe ddatryswyd hwn gan fynd gyda dewisiad Tŷ'r Cynrychiolwyr, yn ôl cyfansoddiad Japan.

Tyngwyd Fukuda a'i gabinet mewn i lywodraeth gan yr ymerawdwrAkihito ar26 Medi.

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae ganGomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Ymerodraeth Japan
(1868–1947)
Oes Meiji (1868–1912)
Oes Taishō (1912–26)
Oes Shōwa (1926–47)
Baner Prif Weinidog Japan
Gwladwriaeth Japan
(ers 1947)
Oes Shōwa (1947–89)
Oes Heisei (1989–2019)
Oes Reiwa (ers 2019)
Awdurdod
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Yasuo_Fukuda&oldid=12871182"
Categorïau:
Categori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp