System gysylltiedig orwydweithiau cyfrifiadurol byd-eang, sydd ar gael i'r cyhoedd, yw'rrhyngrwyd ac sy'n gwasanaethu biliynau o ddefnyddwyr. Mae'n trosglwyddo amrywiaeth o ddata gan gynnwyslluniau,sain,fideo a thestun, ac yn cludo amrywiaeth o wybodaeth a gwasanaethau. Trosglwyddir y data hyn gyda'r safonProtocol Rhyngrwyd (IP).Y gwasanaethau mwyaf amlwg yn strwythur y rhyngrwyd yw'rWe Fyd-Eang (WWW) ace-bost, a hefyd gwasanaethau sgwrsio a throsglwyddo ffeiliau. Mae'r defnyddrwyd ('usenet' neu 'newsnet') hefyd yn bodoli ar y rhyngrwyd, ond nid mor boblogaidd bellach. Hyd at ddiwedd y 2000au roedd angencyfrifiadur i gysylltu â'r rhyngrwyd, ond yna gwelwyd y cyfryngau traddodiadol i gyd yn cael eu hailbobi i gario rhan o'r rhyngrwyd e.e. yffôn, systemau cerdd,ffilm a'rteledu. Gwelwyd hefyd cyhoeddwyr yn addasu ar gyfer y dechnoleg newydd er mwyn dosbarthu eu cynnyrch; yng Nghymru er enghraifft buGwasg y Lolfa'n flaenllaw iawn yn gwerthue-lyfrau aGolwg360 ynbapur newydd digidol.
Argraff arlunydd o sut mae'r rhyngrwyd yn edrych
Nid yw'r rhyngrwyd a'r We Fyd-Eang yn gyfystyr. Casgliad o ddogfennauhyperdestun yw'r we, a defnyddir y rhyngrwyd (sy'n llawer mwy na'r we) i gael mynediad i'r dogfennau hyn.
Crewyd y rhyngrwyd yn yrUnol daliaethau America ar ffurf rhwydwaith o gyfrifiaduron yn 1969 gan adran amddifynnol y llywodraeth. Pwmpiwyd arian i'r cynllun gan yNational Science Foundation (ac arian preifat) yn y 1980au a chysylltwyd y cyfan gan linell ffôn. Erbyn 2012 roedd 2.4 biliwn o bobl ledled y byd - dros draean poblogaeth y byd - wedi defnyddio gwasanaethau'r rhyngrwyd.[1]
CyfrifiadurNeXT a ddefnyddiwyd gan Tim Berners-Lee ynCERN ac a ddaeth ynweinydd gwe cyntaf drwy'r byd.
Cafodd y We Fyd-Eang ei chreu ynCERN yny Swistir yn yr 1990'au gan Sais o'r enwTim Berners-Lee i gysylltu gwyddonwyr gyda'i gilydd. Mae'r enw "net" yn dod o'r term Saesneg llawn "the internet" a'r gair "internet" yn ei dro'n dalfyriad o "inter-" a "networking" i creu "internetworking" (rhyngrwydweithio).[2] Defnyddir priflythyren yn yr enw ("y Rhyngrwyd") a llythyren fach pan fo'r gair yn ansoddair "marchnata rhyngrwyd" yn Saesneg ac yn y Gymraeg.[3]
↑"World Stats".Internet World Stats. Miniwatts Marketing Group. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 2011-06-23. Cyrchwyd2013-01-30.Text "Mehefin 30, 2012" ignored (help)
↑"Internet, n.".Oxford English Dictionary (arg. Draft). March 2009. Cyrchwyd26 October 2010.Shortened < INTERNETWORK n., perhaps influenced by similar words in -net