Gwlad ar hyd arfordir deheuolGorllewin Affrica yw'rTraeth Ifori,[1] yn swyddogolGweriniaeth y Traeth Ifori[2] (Ffrangeg:République de Côte d'Ivoire). Lleolir y brifddinasYamoussoukro yng nghanol y wlad, a'r ddinas fwyaf a chanolfan economaidd y wlad, y borthladdAbidjan, yn y de-ddwyrain. Ffinia'r Traeth Ifori âGini aMali i'r gogledd-orllewin,Liberia i'r gorllewin,Bwrcina Ffaso i'r gogledd-ddwyrain,Ghana i'r dwyrain, gydag arfordir deheuol ar hydGwlff Gini, yngNghefnfor yr Iwerydd. Iaith swyddogol y wlad ywFfrangeg, a siaredir rhyw 78 o ieithoedd i gyd gan gynnwys ieithoedd brodorol megisBété,Baoulé, Dioula, Dan, Anyin, a Cebaara Senufo. Mae ganddi boblogaeth amrywiaethol grefyddol, gan gynnwysMwslimiaid,Cristnogion, a rhai sy'n ffyddlon i gredoau traddodiadol megisAnimistiaeth.[3][4]