Ceir gwreiddiau'r Talmwd yn natblygiady Tora deuol a dechreuad traddodiadIddewiaeth rabinaidd. Yn ogystal â'rTora ysgrifenedig, y pumllyfr a briodolir iFoses, honnir i'r Tora llafar gael ei drosglwyddo o un genhedlaeth i'r llall ers oes Moses. Tua'r 2g, penderfynai'r rabïaidYohanan ben Zakkai,Hillel, acAkiva i ysgrifennu'r Tora llafar a gelwir y corff o destunau hyn yn y Mishnah.
Datblygodd lunwedd nodweddiadol ar y Talmwd yn yr ail fileniwm OC. Rhoddir teitl y bennod ar frig y dudalen a'r Mishnah a'r Gemara yng nghanol y dudalen. Ar y chwith mae sylwadauRashi, y Rabi Shelomo ben Yitzhak o Ffrainc (1040–1105), ac ar y dde mae'r Tosafot, sef atodiadau i esboniadau Rashi. Ar ymylon chwith y dudalen argraffir croesgyfeiriadau at ffynonellau a thestunau cyffelyb, ac yn yr ymylon ar y dde rhestrir cyfeiriadau at gyfreithiau'r Oesoedd Canol, er enghraifftMaimonides.
Rhennir y Mishnah yn chwech adran: Zeraim ("hadau"), yn ymwneud â chnydau; Moed ("amserau penodol"), yn ymwneud â gwyliau crefyddol; Nashim ("merched"), yn ymwneud â'r teulu, y gartref a safle'r unigolyn; Nezikin ("iawndal"), y cyfreithiau sifil a throseddol; Kodashim ("pethau sanctaidd"), yn ymwneud â'r Deml acaberth; a Tohorot ("purdebau"), yn ymwneud ag halogiad a phuredigaeth.
Yr enw ar draddodiad traethiadol y Talmwd ydy'r Haggada. Mae'n cynnwys chwedlau, straeon gwerin, achanes traddodiadol yr Iddewon, yn ogystal âllên ddoethineb, dealltwriaeth gynnar o wyddoniaeth, diwinyddiaeth, a moeseg.
Argraffwyd y Talmwd Babilonaidd a'r Talmwd Palesteinaidd am y tro cyntaf yn 1520–23 ynFenis gan Daniel Bomberg. Ceir ugain o draethodau'r Talmwd Palesteinaidd wedi eu cyfieithu iLadin ynThesaurus Antiquitatum Sacrarum (1744–69) gan Blasio Ugolino.