Baner y Pum Porthladd | |
| Enghraifft o: | cydffederasiwn |
|---|---|
| Gwlad | |
| Dechrau/Sefydlu | 1155 |
| Yn cynnwys | Hastings,New Romney,Hythe,Dover,Sandwich,Rye |
![]() | |
| Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
| Gwefan | https://cinqueports.org/ |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/01j5nz |
Cydffederasiwn hanesyddol o drefi arfordirol yngNghaint aSussex,De-ddwyrain Lloegr, yw'rPum Porthladd.[1] Mae'r enw Saesneg,Cinque Ports (ynganiad/sɪŋkpɔːrts/) yn tarddu o'rFfrangeg Normanaidd. Ffurfiwyd y gynghrair yn wreiddiol at ddibenion milwrol a masnachoch, ond bellach mae'n hollol seremonïol. Lleolir y porthladdoedd ar lan dde-orllewinol yMôr Udd, lle mae'r fordaith i dir mawr Ewrop yn fyr.
Roedd y pum tref wreiddiol fel a ganlyn (o'r gorllewin i'r dwyrain):
Fodd bynnag, mae'r enw "Pum Porthladd" braidd yn gamarweiniol. Yn yr Oesoedd Canol roedd y cydffederasiwn yn ymestyn ar draws cyfanswm o 42 o drefi a phentrefi (mor bell i'r gorllewin âSeaford yn Sussex, ac mor bell i'r gogledd âBrightlingsea ynEssex). Rhestrwyd rhyw 23 ohonynt ymMagna Carta (1297).
Roedd hefyd ddwy "dref hynafol" (ancient towns), fel y'u gelwir, yn y cydffederasiwn:
Ar y dechrau, roedd Rye yn is-borthladd i New Romney, ond enillodd Rye statws llawn fel un o'r Pum Porthladd ar ôl i New Romney gael ei ddifrodi gan storm fawr1287; siltiodd yr harbwr yno, a symudoddAfon Rother yn agosach at Rye. O ganlyniad, daeth New Romney yn llai pwysig o lawer erbyn y 14g.
Yn ogystal, roedd saith "aelod" (limbs), sef trefi â chysylltiadau agos â'r prif drefi:
Mae'n debyg i'r pum porthladd gwreiddiol ddod at ei gilydd yn ystod teyrnasiadEdward y Cyffeswr (1042–66) er mwyn amddiffyn yr arfordir a'r Môr Udd. Yn gyfnewid am ddarparu llongau a dynion ar gyfer gwasanaeth y brenin derbyniodd y porthladdoedd amryw freintiau. Yn dilynConcwest Normanaidd Lloegr yn1066, cynyddodd eu pwysigrwydd. RhoddwydSiarter Brenhinol i'r porthladdoedd yn 1155, a chyrhaeddasant eu hanterth yn y 13g a'r 14g. Hyd at yr adeg honno roeddent yn darparu cnewyllyny llynges frenhinol. Dirywiasant wrth i'r môr erydu'r arfordir mewn rhai mannau (Hastings) ac wrth i'r silt gronni mewn lleoedd eraill (New Romney, Rye, Hythe, Sandwich). Heddiw dim ond Dover sy'n dal i fod yn borthladd o unrhyw bwys.
