Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Y Môr Canoldir

Oddi ar Wicipedia
Y Môr Canoldir
Mathmôr mewndirol, môr canoldir, basn draenio Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaGogledd Cefnfor yr Iwerydd,Môr Marmara,Y Môr Coch Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolGogledd Cefnfor yr Iwerydd, Ardal Môr Canoldir Edit this on Wikidata
GwladSbaen,Ffrainc,Yr Eidal,Monaco,Slofenia,Croatia,Montenegro,Albania,Gwlad Groeg,Malta,Cyprus,Twrci,Libanus,Syria, Israel,Gwladwriaeth Palesteina,Yr Aifft,Libia,Tiwnisia,Algeria,Moroco,Bosnia a Hertsegofina Edit this on Wikidata
Arwynebedd2,500,000 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr0 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydabasn yr Almanzora, Cordillera Penibética,Gogledd Affrica, Júcar Basin Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau38°N 17°E Edit this on Wikidata
Map

Môr rhwngEwrop,Asia acAffrica yw'rMôr Canoldir (weithiauMôr y Canoldir). Daw'r enw o'rLladinmediterraneus (medius, "canol" +terra, "tir"), ond roedd yRhufeiniaid yn ei alw'nMare Nostrum, sef "ein môr ni". Ceir tir bron ym mhobman o'i gwmpas: yn y gogledd mae Gorllewin a De Ewrop acAnatolia, yn y de ceirGogledd Affrica, ac i'r dwyrain o'r Môr Canoldir mae'rLefant. Ei arwynebedd yw tua 2.5 miliwn km² (970,000 millt sg), sy'n cyfateb i 0.7% o arwyneb y cefnfor byd-eang.

Y Môr Canoldir

Daearyddiaeth

[golygu |golygu cod]

MaeCulfor Gibraltar, sydd ddim ond 14 km (9 milltir) o led,[1] yn cysylltu'r Môr Canoldir â'rMôr Iwerydd yn y gorllewin ac maeMôr Marmara, yDardanelles a'rBosphorus yn ei gysylltu â'rMôr Du yn y dwyrain. Mae Môr Marmara yn rhan o'r Môr Canoldir ym marn rhai pobl. Yn y de-ddwyrain maeCamlas Suez yn cysylltu'r Môr Canoldir a'rMôr Coch. Ceir nifer sylweddol o ynysoedd yn y Môr Canoldir (gweler isod), yn arbennig yn y gogledd-ddwyrain rhwngAsia Leiaf aGwlad Groeg.

Mae'r Môr wedi chwarae rhan ganolog yn hanes gwareiddiad y Gorllewin. Er bod Môr y Canoldir weithiau'n cael ei ystyried yn rhan oGefnfor yr Iwerydd, cyfeirir ato fel arfer fel corff o ddŵr ar wahân. Mae tystiolaethddaearegol yn dangos bod Môr y Canoldir oddeutu 5.9 miliwn o flynyddoedd yn ôl wedi ei dorri i ffwrdd o Fôr yr Iwerydd gan ffurfio llyn, yn rhannol neu'n llwyr dros gyfnod o ryw 600,000 o flynyddoedd yn ystod 'argyfwng halltedd Messina' cyn cael ei ail-lenwi gan lifogydd Zanclean tua 5.3 miliwn o flynyddoedd yn ôl.

Mae gan y Môr Canoldir ddyfnder cyfartalog o 1,500 m (4,900 tr) a'r pwynt dyfnaf a gofnodwyd yw 5,267 m (17,280 tr) yn yCalypso Deep yn yMôr Ionia. Mae'n gorwedd rhwng lledredau 30 ° a 46 ° Gogledd a hydoedd 6 ° W a 36 ° Dwyrain. Mae ei hyd gorllewin-dwyrain, o Culfor Gibraltar i Gwlff Iskenderun, ar arfordir de-ddwyreiniolTwrci, tua 4,000 cilomedr (2,500 mi).

Arwynebedd Môr y Canoldir yw tua 2,500,000 km2 (970,000 metr sgwâr), sy'n cynrychioli 0.7% o arwyneb cefnfor byd-eang, ond mae ei gysylltiad â'rMôr Iwerydd trwyCulfor Gibraltar yn ddim ond 14 km (9 milltir) o led - dyma'r culfor cul sy'n cysylltu Cefnfor yr Iwerydd â Môr y Canoldir a yn gwahanu Sbaen yn Ewrop oddi wrth Moroco yn Affrica. Yn strategol, ynOes y Celtiaid, roedd y rhan gul yma'n allweddol, ac yn rheoli'r mynd a'r dod. Yn 2009, cyflwynodd yr AthroJohn Koch, o'rBwrdd Gwybodau Celtaidd ynAberystwyth, ddamcaniaeth newydd a chwyldroadol iawn fod bron i gant o gerrig beddau yn ardalTartessos, deSbaen wedi'u hysgrifennu yn yr iaith Geltaidd, gyda llawer o'r geiriau i'w cael mewn Cymraeg a Gwyddeleg, ac yn dyddio i gychwynOes yr Haearn.[2] Dywed ymhellach, fod y Tarteseg yn perthyn i deulu'rIeithoedd Indo-Ewropeaidd, ac yn benodol, yn iaith Geltaidd, gynnar.[3] Golyga hyn fod y ddamcaniaeth draddodiadol mai crud y Celtiaid oedd canol Ewrop (Hallstatt ayb) wedi'i chwalu, a chred llawer o haneswyr, bellach, mai yn ne Portiwgal a de Sbaen mae gwir grud yr iaith Geltaidd, ac efallai'r Celtiaid eu hunain.

Y gwledydd o amgylch Môr y Canoldir mewn trefn clocwedd yw Sbaen, Ffrainc, Monaco, yr Eidal, Slofenia, Croatia, Bosnia a Hertsegofina, Montenegro, Albania, Gwlad Groeg, Twrci, Syria, Libanus, Israel, yr Aifft, Libya, Tiwnisia, Algeria, a Moroco; mae Malta a Chyprus yn wledydd-ynysoedd yn y môr. Yn ogystal, mae gan Llain Gaza a Thiriogaethau Tramor Prydain yn Gibraltar ac Akrotiri a Dhekelia arfordiroedd ar y môr.

Hinsawdd

[golygu |golygu cod]

Maehinsawdd arbennig o amgylch y Môr Canoldir, a nodweddir gan aeafau byr a chymhedrol ar y cyfan a hafau poeth, er ei bod yn amrywio o wlad i wlad o gwmpas y môr.

Map o barthau hinsawdd yn yr ardaloedd o amgylch Môr y Canoldir, yn ôl ydosbarthiad hinsawdd Köppen

Mae gan y rhan fwyaf o'i harfordir de-ddwyreiniol hinsawdd anialwch poeth, ac mae gan lawer o arfordir dwyreiniol Sbaen (Môr y Canoldir) hinsawdd lled-cras oer. Er eu bod yn brin, maeseiclonau trofannol yn ffurfio weithiau ym Môr y Canoldir, ym mis Medi-Tachwedd, fel arfer.

Tymheredd y Môr

[golygu |golygu cod]
Mean sea temperature (°C)
IonChweMawEbrMaiMehGorAwsMedHydTachRhagBlwy
Málaga[4]16151516172022232220181618.3
Barcelona[5]13121314172023252320171517.8
Marseille[6]13131314161821222118161416.6
Napoli[7]15141415182225272522191619.3
Malta[8]16161516182124262523211819.9
Fenis[9]11101113182225262320161417.4
Athen[10]16151516182124242421191819.3
Heraklion[11]16151516192224252422201819.7
Antalya[12]17171617212427292725221921.8
Limassol[13]18171718202426272725221921.7
Mersin[14]18171718212528292825221922.3
Tel Aviv[15]18171718212427282826232022.3
Alexandria[16]18171718202325262625222021.4

Newid hinsawdd

[golygu |golygu cod]

Mae Môr y Canoldir yn cael ei ystyried yn fan allweddol a difrifol ar gyfer effeithiaunewid hinsawdd; cynyddodd tymheredd dŵr dwfn 0.12 ° C (0.22 ° F) rhwng 1959 a 1989.[17] Yn ôl sawl amcangyfrif, fe allai Môr y Canoldir gynhesu ymhellach a gallai'r gostyngiad mewndyodiad dros y rhanbarth arwain at fwy o anweddiad yn y pen draw, gan cynydduhalltedd y môr.[18][17][19] Oherwydd y newidiadau hyn mewn tymheredd a halltedd, gall Môr y Canoldir ddod yn fwy 'haenog' erbyn diwedd21g, gyda chanlyniadau enbyd ar gylchrediad y dŵr a'i biocemeg.

Ynysoedd

[golygu |golygu cod]

Mae ynysoedd mawr y Môr Canoldir yn cynnwys:

Yn yMôr Aegeaidd ceir nifer mawr o ynysoedd llai a'r rhan fwyaf yn perthyn i Wlad Groeg.

Gwledydd

[golygu |golygu cod]

Y gwledydd sydd ar lannau y Môr Canoldir yw:

gw  sg  go
Gwledyddy Môr Canoldir

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. "Mediterranean Sea".Encyclopædia Britannica. Cyrchwyd23 Hydref 2015.
  2. Koch, John T. (2009). "A Case for Tartessian as a Celtic Language". Acta Palaeohispanica (Aberystwyth University) X (9): 339–351. ISSN 1578-5386. http://ifc.dpz.es/recursos/publicaciones/29/54/26koch.pdf. Adalwyd 2010-05-17.
  3. The Celts - Search for a Civilization gan Alice Roberts; BBC / Heron Books (2016); ISBN 78429-335-2.
  4. Weather2Travel.com."Malaga Climate: Monthly Weather Averages – Costa del Sol".
  5. Weather2Travel.com."Barcelona Climate: Monthly Weather Averages – Spain".
  6. Weather2Travel.com."Marseille Climate: Monthly Weather Averages – France".
  7. Weather2Travel.com."Naples Climate: Monthly Weather Averages – Neapolitan Riviera".
  8. Weather2Travel.com."Valletta Climate: Monthly Weather Averages – Malta – Malta".
  9. Weather2Travel.com."Venice Climate: Monthly Weather Averages – Venetian Riviera".
  10. Weather2Travel.com."Athens Climate: Monthly Weather Averages – Greece – Greece".
  11. Weather2Travel.com."Iraklion Climate: Monthly Weather Averages – Crete – Crete".
  12. Weather2Travel.com."Antalya: Monthly Weather Averages - Antalya Coast - Turkey".
  13. Weather2Travel.com."Limassol Climate: Monthly Weather Averages – Cyprus".
  14. Seatemperature.org."Mercin (alternate names - Mersin, Mersina, Mersine): Monthly Weather Averages - Turkey".
  15. Weather2Travel.com."Tel Aviv Climate: Monthly Weather Averages – Israel".
  16. Seatemperature.org."Alexandria Climate: Monthly Weather Averages – Egypt".
  17. 17.017.1Giorgi, F. (2006). Climate change hot-spots. Geophysical Research Letters, 33(8) :L08707. 15
  18. Béthoux, J. P., Gentili, B., Raunet, J., and Tailliez, D. (1990). Warming trend in the western Mediterraneandeep water. Nature, 347(6294) : 660–662.
  19. Adloff, F., Somot, S., Sevault, F., Jordà, G., Aznar, R., Déqué, M., Herrmann, M., Marcos, M., Dubois,C., Padorno, E., Alvarez-Fanjul, E., and Gomis, D. (2015). Mediterranean Sea response to climatechange in an ensemble of twenty first century scenarios. Climate Dynamics, 45(9–10) : 2775–2802
Awdurdod
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Y_Môr_Canoldir&oldid=13447971"
Categorïau:
Categorïau cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp