Erthygl am Y Gymanwlad yw hon. Am ddefnyddiau eraill o'r gair gwelerCymanwlad (gwahaniaethu).
Cymdeithas o wledydd a gwladwriaethau annibynnol yw'rGymanwlad. YDeyrnas Unedig a'i chyn wladfeydd sy'n ffurfio mwyafrif llethol aelodau'r Gymanwlad. Ail dydd Iau mis Mawrth ywDydd y Gymanwlad.
Maebrenhines y DU yn ben gwladwriaeth mewn nifer o aelod-wladwriaethau, sef yrNheyrnasoedd y Gymanwlad. Mae mwyafrif aelodau y Gymanwlad yn weriniaethau, ond mae pob un ohonynt yn cydnabod ySiarl III fel pen y Gymanwlad.
Olynydd yrYmerodraeth Brydeinig yw'r Gymanwlad. Dechrau ffurfiol y Gymanwlad oedd y Cynadleddau Imperialaidd tua diwedd y 1920au, sef cynadleddau o Brif Weinindogion Prydain a'i (chyn)wladfeydd. Yn y cynadleddau hyn fe gydnabyddwyd annibyniaeth gwladfeydd a oedd yn rheoli eu hunain. Fe gydnabyddwyd perthynas gyfartal gwledydd y Gymanwlad yn fffurfiol ynStatud Westminster ym1931.
Wedi'r ail ryfel byd roedd yr Ymerodraeth Brydeinig yn datgymalu o dipyn i beth. Roedd nifer cynyddol y cyn wladfeydd yn ennill eu hannibyniaeth yn rhannol oherwydd twf mudiadu dros annibyniaeth (fel ag yn yrIndia o dan ddylanwadMohandas Gandhi) ac yn rhannol oherwydd bod llywodraeth Prydain o dan straen cyllidol wedi'rAil Ryfel Byd. Fe ymunodd pob gwladfa flaenorol heblaw am ambell wlad tebyg i Myanmar (a elwir yn awr ynMyanmar;1948) aDe Iemen (1967). BuIwerddon yn aelod hefyd, ond gadawodd wedi iddi droi yn weriniaeth ym1949. Ar hyn o bryd mae tua 30% o boblogaeth y byd yn drigolion y Gymanwlad.
Gall pa wlad bynnag sy'n cydnabod amcanion y Gymanwlad ymuno, ond fel arfer mae'n rhaid bod cysylltiad cyfansoddiadol rhwng yr aelod â'r DU neu unrhwy aelod arall y Gymanwlad. Gan hynny, mae rhai gwledydd yMôr Tawel yn aelodau yn sgil eu cyn rwymau agAwstralia. MaeNamibia yn aelod oherwydd iddi gael ei rheoli ganDe Affrica o1920 hyd at1990, sef blwyddyn ei hannibyniaeth. YmunoddCamerŵn ym1995 serch nad ond rhan fechan o'r wlad oedd wedi ei weinyddu gan Brydain. Yn eithriad nad oedd i osod cynsail cafoddMosambic ymuno er nad oedd eriod wedi ei reoli gan Brydain nag unrhyw aelod arall y Gymanwlad.
Mae cynhadledd yr aelod-wladwriaethau yn digwydd bob yn ail flwyddyn. Er bod hynny yn gyfle i bobl o wledydd cyfoethog a gwledydd tlawd siarad a phenderfynu gyda'i gilydd, bu y berthynas rhwng Prydain a gwledydd Affrica yn oeri ers problemauRhodesia, yn y1970au, ac apartheid yn Ne Affrica, yn y1980au. O ganlyniad, bu aelodau yn cryfhau eu perthynas â gwledydd eraill ac yn sgil hynny lleihaodd nerth gwleidyddol ac economaidd y Gymanwlad.