| Math | coedwig |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Ardal warchodol | Parc Cenedlaethol Sequoia |
| Sir | Tulare County |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 7.6 km² |
| Uwch y môr | 6,972 troedfedd |
| Cyfesurynnau | 36.5624°N 118.751°W |
![]() | |



Mae'rGoedwig Gawraidd (Giant Forest) yn rhan arbennig oBarc Cenedlaethol Sequoia, sy'n enwog am ei choedSequoia Cawraidd. Gorwedd y goedwig ar uchder o 1,800 medr (6000 troedfedd) yng ngorllewinSierra Nevada, yn nhalaithCaliffornia,Unol Daleithiau America.
Dywedir fod y Goedwig Gawraidd yn cynnwys pump allan o'r 10 coeden fwyaf yn y byd o ran eu sylwedd pren, gan gynnwys yr un fwyaf oll, sefCoeden General Sherman, gyda chylch o 11.1 meder (36.5 troedfedd) yn ei bôn.
Mae'n gorwedd yn agos i'rOgof Grisial,Carreg Moro aDôl Cryman. Mae pen gorllewinol yHigh Sierra Trail sy'n croesi'r Sierra Nevada iFynydd Whitney ger Dôl Cryman.
Mae'rbinwydden Ponderosa,Pinwydden Jeffrey,Pinwydden Siwgr, a'rbinwydden gamfrig yn goed cyffredin yno, ynghyd â'rFfynidwydden Wen a'rFfynidwydden Goch. Gwelirceirw asen (mule deer),gwiwerod Douglas, a'rArth Ddu Americanaidd yn aml yn y cyffiniau.
Ar un adeg roedd dros 300 o dai ac adeiladau eraill yno ond heddiw dim ond pedwar adeilad sydd ar ôl a chyfyngir gweithgareddau i ymweliadau dydd yn unig
Mae ffordd yn cysylltu'r ardal âFresno aVisalia. Mae priffordd y parc yn rhedeg o'r goedwig iParc Cenedlaethol Kings Canyon aLlwyn Grant, cartrefCoeden General Grant a sequoias eraill.