![]() | |
Math | baner ![]() |
---|---|
Lliw/iau | coch ![]() |
![]() |
Symbol rhyngwladol oSosialaeth aChomiwnyddiaeth yw'rfaner goch,[1][2] gysylltir â gwleidyddiaeth yradain chwith ersChwyldro Ffrainc.[3] Codwyd dros y dosbarth gweithiol am y tro cyntaf yn hanes Prydain ymMerthyr Tudful, yn ystodgwrthryfel 1831 pan liwiwyd dwy faner mewn gwaed llo.[4] Mae sawl gwlad gan gynnwysRwsia,Tsieina aFietnam wedi eu sefydlu ar y Faner Goch wreiddiol. Caiff ehyd ei defnyddio fel lliw undebau a phleidiau sosialaidd ledled y byd. Yn ogystal â bod yn ddefnydd lliw coch ar bolyn, mae'r Faner Goch hefyd yn anthem a gyfansoddwyd gan Ernst Anschütz yn 1824 a'r geiriau gwreiddiol gan Jim Connell yn 1889.
O'r symbol daw enw'r gân ddosbarth gweithiolY Faner Goch (The Red Flag) a ysgrifennwyd gan y GwyddelJim Connell yn 1889. Ysgrifennwyd y geiriau Cymraeg gan y barddNiclas y Glais, a ddechreua:
Mae baner gwerin yn y nen
A'i phlygion tanllyd uwch ein pen;
O'r gwan a sathrwyd o dan draed
Y daeth i'w phlygion liw y gwaed.
Cytgan:
Mae'r Faner Goch yn fflam o dân
Yn chwifio yn yr awyr lân;
Er brad y stanc a nos y gell
Cyhoedda'r faner ddyddiau gwell.
Mae'r holl benillion ar gael ary tudalen Wicitestun.