Chwaraeodd y Deyrnas Unedig, gwladwriaeth ddominyddol y19g mewn diwydiant a grym morwrol, rôl sylweddol yn natblygiaddemocratiaethseneddol, ynghyd â chyfraniadau pwysig ym mydgwyddoniaeth. Yn anterth ei grym teyrnasai'rYmerodraeth Brydeinig dros chwarter y ddaear. Yn ystod hanner cyntaf yr20g gwanhaodd nerth y DU, yn rhannol oherwydd y ddau Ryfel Byd. Yn ystod ail hanner y ganrif gwelwyd datgymalu'r Ymerodraeth a chryfhau cysylltiadau â'rEwrop fodern a llewyrchus. Serch hynny, er fod y DU wedi ymaelodi a'rUndeb Ewropeaidd, roedd gwahaniaeth barn ynghylch aelodaeth gan unigolion o fewn y Blaid Lafur a'r Ceidwadwyr. Parhaodd yr hollt o fewn y Ceidwadwyr i'r 2000au gan arwain at refferendwm aelodaeth yn 2016. Mae diwygiad cyfansoddiadol yn fater dadleuol ar hyn o bryd: maeTŷ'r Arglwyddi wedi cael ei ddiwygio'n ddiweddar ac mae gan Gymru, Gogledd Iwerddon a Llundain gynulliadau gyda graddau gwahanol o bŵer; fe sefydlwyd hefyd senedd yn yr Alban. Mae mudiad Gweriniaeth Brydeinig yn cael sylw yn y cyfryngau o bryd i'w gilydd, er bod cefnogaeth i'r frenhiniaeth Brydeinig yn dal i fodoli, yn enwedig yn Lloegr, ond heb fod mor gryf ag yr oedd hi yn y gorffennol: ond dydy'r syniad o gael Gweriniaeth Brydeinig ddim yn cael ei gefnogi gan weriniaethwyr a chenedlaetholwyr yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon.
Mae'r Deyrnas Unedig (neu'r Deyrnas Gyfunol i ddefnyddio fersiwn arall ar yr enw yn y Gymraeg) ynfrenhiniaeth gyfansoddiadol. Mae'r llywodraeth yn gweithredu yn enw'r Brenin ac mae'n atebol i'r senedd a thrwy'r senedd i'r etholwyr.Llundain yw prifddinas y DU a Lloegr a dyna leoliad y llywodraeth a'r senedd. Y BreninSiarl III yw pennaeth y wladwriaeth, wedi iddi esgyn i'r orsedd ym2022. Ar y cyfan y mae'n cyflawni dyletswyddau seremonïol, a'rPrif Weinidog sy'n rheoli'r wladwriaeth mewn gwirionedd.
Mae Cymru yn cynnwys 22Awdurdod Unedol, sef 10 Bwrdeistref Sirol, 9Sir, a 3 Dinas. Yn ogystal cedwir siroedd 1974-1996 fel 'siroedd seremonïol' ond heb unrhyw swyddogaeth mewn llywodraeth leol.
Mae'r Alban yn cynnwys 32Awdurdod Unedol. Mae Gogledd Iwerddon yn cynnwys 24 o Ardaloedd, 2 Ddinas, a 6 Sir.
Mae gan bob rhanbarth ei Siroedd a/neu Siroedd Metropolitan a/neu awdurdodau unedol, ac eithrioLlundain a rennir ynfwrdeistrefi.
Yn ogystal mae nifer o diriogaethau dibynnol gwahanol yn perthyn i'r Deyrnas Unedig; gweler Gwladfa'r Goron. Ni chyfrifirYnys Manaw nacYnysoedd y Sianel yn rhanbarthau o'r Deyrnas Unedig yn ôl y gyfraith; dibynyddion y goron Brydeinig ydynt, ond y mae'r Deyrnas Unedig yn gyfrifol am eu materion allanol.
Rhennir brenhines y Deyrnas Unedig yn symbolaidd gyda 16 prif wledydd eraill, a adnabyddir gyda'i gilydd felTeyrnasoedd y Gymanwlad, er bod y DU ddylanwad gwleidyddol bychan dros y cenedlaethau annibynnol hyn.
Mae'r Deyrnas Unedig, sy'n fasnachwr pwysig a chanolfan ariannol, yn meddu economi cyfalafol, sy'n un o'r fwyaf yng ngorllewin Ewrop. Dros y ddau ddegawd diwethaf fe leiheuwyd perchenogaeth gyhoeddus yn ddirfawr gan y llywodraeth trwy raglennipreifateiddio, ac fe gyfyngwyd ar dwf yWladwriaeth Les. Maeamaethyddiaeth yn ddwys, wedi ei mecaneiddio yn drwm, ac yn effeithlon yn ôl safonau Ewropeaidd, gan gynhyrchu tua 60% o anghenion lluniaethol gyda dim ond 1% o'r llu llafur. Mae gan y DU gronfeydd eang olo,nwy naturiol, acolew; mae cynhyrchiad cynradd egni yn cyfrif tuag at 10% oGynnyrch Mewnwladol Crynswth, un o rannau uchaf unrhyw wladwriaeth ddiwydiannol. Mae gwasanaethau, yn enwedigbancio,yswiriant, a gwasanaethau busnes, yn ffurfio cyfartaledd uchaf GWC o bell ffordd, wrth i ddiwydiant trwm barhau i edwino.
Gohiriodd llywodraethBlair ateb cwestiwn cyfranogiad y DU yn y systemEwro, gan nodi pump o brofion economaidd y dylai eu pasio cyn i'r wlad gynnalrefferendwm.
Mae gan y Deyrnas Unedig amryw o gerddorfeydd gan gynnwysCerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru, Cerddorfa Symffoni'r BBC, y Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol, y Ffilharmonia, Cerddorfa Symffoni Llundain, Royal Scottish National Orchestra,Cerddorfa Symffoni Dinas Birmingham a Cherddorfa Ffilharmonig Llundain, ac fe astudiodd llawer o gerddorion enwog yng ngholegau cerddoriaeth y DU. Oherwydd ei lleoliad ac am resymau economaidd eraill,Llundain yw un o ddinasoedd pwysicaf cerddoriaeth y byd - mae gan y ddinas sawl neuadd gyngerdd bwysig ac mae hi'n gartref i'rTŷ Opera Brenhinol.