Weithiau, caiff dechrau'r Dadeni Dysg ei ddyddio i farwolaethyr Ymerawdwr Ffredrig II—yr arweinydd olaf i feddu ar reolaeth dros ogledd a chanolbarth yr Eidal—ym 1250. Dyma ddyddiad digon mympwyol, ond mae'n nodi un o'r elfennau pwysicaf a arweiniai at gychwyniadau'r Dadeni yn yr Eidal, sef annibyniaethde facto y rhanbarthau hynny a fyddai'n ganolfannau diwylliannol y dyneiddwyr.
1435: Cyhoeddir y traethawd dylanwadolDe pictura ('Am beintiadau') ganLeon Battista Alberti, sydd yn cynnwys yr astudiaeth gwyddonol cyntaf oberspectif.
1477: Y llyfr argraffiedig cyntaf ynLloegr (Dicets and Sayings of the Philosophers) yn cael ei gynhyrchu ganWilliam Caxton. Sandro Botticelli yn peintioPrimavera.