Mae ganddoarwynebedd o 179.7 miliwn km² (35% o arwynebedd y ddaear) ac mae'n cynnwys tua 723.7 miliwnkm³ o ddŵr. Mae dyfnder cyfartalog y Cefnfor Tawel oddeutu 4,028 m, ac mae'n cynnwys y lle dyfnaf yn y byd: dyffryn hollt Marianas sydd 11,034m o danlefel cymedrig y môr. Mae 15,500 km (9,600 milltir) o bellter rhwng y Môr Bering yn y gogledd a Môr Ross ynAntarctica yn y dde, a 19,800 km (12,300 milltir) o Indonesia i glannau Colombia.
O'r Cefnfor Tawel gellir mynd i GefnforArctig trwy Fôr Bering, iGefnfor Iwerydd trwyGamlas Panamâ neu rowndYr Horn neu yn yr haf yn 2007 roedd yn bosib heibio gogledd Canada (does dim llwybr trwy'r iâ yn arferol), ac iGefnfor India o gwmpas Awstralia neu drwy ynysoeddde-ddwyrain Asia aChulfor Melaka, un o'r dyfrffyrdd prysuraf yn y byd.