Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Brythoniaid

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriwyd oY Brythoniaid)
Y Celtiaid
Llwythau eraill
Diwylliannau hynafol

Roedd yBrythoniaid (neu'rBrutaniaid a hefydBrython fel enw unigol lluosog) yn bobl a'r oedd yn byw ynynys Prydain i'r de oUcheldiroedd yr Alban cyn goresgyniady Rhufeiniaid. Nid un "genedl" oeddynt ond yn hytrach gasgliad o deyrnasoedd annibynnol mawr a bach yn seiliedig ar batrymau llwythol. Mae llawer o ysgrifenwyr wedi anghofio am y Brythoniaid – maen' nhw'n defnyddio termau fel "Celtiaid" neu "Brythoniaid Rhufeinig" gan amlaf.

Erbyn i'r Rhufeiniaid adael yn410OC roeddLladin, iaith y Rhufeiniaid, wedi dylanwadu ar yFrythoneg ac roedd hi'n dechrau newid ei strwythur. Roedd yr iaith yn datblygu a'r ysgogiad i gofnodi gwahanol ddeunydd – ysgrifau am hanes a dirywiad tybiedig y genedl gan y mynachGildas, canuTaliesin acAneirin yn cael eu traddodi ar lafar, a chofnodion a phytiau mewn llawysgrifau eglwysig ac ar feini – yn arwain at gychwynllenyddiaeth Gymraeg.

Yn llenyddiaeth gynnar Cymru, defnyddir yr enwau "Cymry" a "Brython" (Brythoniaid/Brutaniaid) ochr yn ochr.

Roedd y Cymry'n ymwybodol iawn o'u perthynas â'r Llydäwyr ynLlydaw (fel y tyst yr enwBreton) a'r Cernywiaid yngNghernyw, ynghyd â'u cyd-Frythoniaid yn yrHen Ogledd. Dros y môr i Lydaw aeth nifer o'r Brythoniaid, yn ôl chwedlMacsen Wledig a ffynonellau eraill, wedi'r goresgyniad Sacsonaidd ynLloegr – a dyma le ymsefydlodd nifer o'r seintiau Brythonaidd cynnar.

Hanes

[golygu |golygu cod]

Brythoniaid cynnar

[golygu |golygu cod]
Tiriogaethau Prydain 500-700

Bu mewnfudiad Celtaidd i dde Prydain tua 1000-875 CC a all fod yn gyfrifol yn lledaeniad ieithoedd Celtaidd cynnar yn y cyfnod.[1] Yn 55 a 54 CC, glanioddIŵl Cesar ym Mhrydain a theithiodd drwy'r de-ddwyrain yn unig. Gwelodd debygiaethau rhwng Celtiaid Prydain a CheltiaidGâl ond roedd rhai pethau yn unigryw am y CeltiaidBrythonaidd gan gynnwys peintio'i hunain gydaglaslys a'u defnydd parhaol o'r cerbyd (chariot) mewn rhyfel.[2]

Map bras o lwythau Cymru, ~48 OC

Dechreuodd goresgyniad y Rhufeiniaid tua 90 mlynedd yn ddiweddarach yn 43 OC, ac anfonwyd byddin o 40,000 i Brydain yn 48 OC.[3] Rhoddir darlun gwahanol o'r Brythoniaid yn y cyfnod hwn gan yr ymerawdwrClaudius. Daeth y Rhufeiniaid i adnabod y llwythau Prydain yn ehangach a disgrifir rheolaeth mwy canolog ohonynt gan gynnwys brenhinoedd. Awgrymir yr awdur Barri Jones mai conffederasiwn o lwythau Celtaidd a fodolodd yng Nghymru rhwng yCornoficiaid, yDemetiaid, yrOrdoficiaid a'rSilwriaid.[2] Mae'n bosib yr ysgogwyd Rhufain i oresgyn Cymru er mwyn sicrhau cyfoeth ei chyfoeth mwynol.[4]

Llun oCaradog, arweinydd Celtaidd a ymladdodd yn erbyn y Rhufeiniaid

Ar ôl gwrthwynebu'r Rhufeiniaid fel arweinydd yCatuvellauni, ffoddCaradog i'r gorllewin lle arweiniodd y Silwriaid a'r Ordoficiad yn erbyn y Rhufeiniaid. Daliwyd Caradog a chymerwyd ef i Rufain yn 51 OC.[5][6] DaliwydYnys Môn, cadarnleDerwyddon yr Ordoficiaid yn 61 OC a thorrwyd coed derw'r derwyddon. Gadawodd y gatrawd Rufeinig i ymladd yn erbynBuddug (Boudica) ond fe oresgynnwyd yr ynys eto yn 78 OC. Parhaodd y Silwriaid i ymladd gyda thactegauguerilla tan yr un cyfnod, 74-78 OC. Ar ei hanterth tua 70 OC roedd tua 30,00 o filwyr Rhufeinig yng Nghymru, ond roeddent yn cynnwys llwythauNervii, Vettones a'rAstwriaid.[3] Ni orchfygwyd Prydain yn drylwyr tan 84 OC.[7]

Darlun gyfoes o Rufeiniaid yn lladdderwyddon arYnys Môn

Erbyn 120 OC creodd y Silwriaid Senedd Lwythol yngNghaer-went fel canolbwynt "civitas", gwladwriaeth ddinesig a ddefnyddiodd system ariannol Rufeinig. Fe ddaethCaerfyrddin yn ganolbwynt i'rDemetae ond fe barhaodd i'r Ordoficiad wrthwynebu'r Rhufeiniaid yn y 3g a'r 4g ac mae eu tiroedd yn wag ar fapiau Rhufeinig, er gwaethaf presenoldeb milwyr.[3] Sefydlodd y Rhufeiniaid gaer llengCaerllion a safle milwrol a ddatblygwyd fel tref Rufeinig yngNghaerfyrddin.[8]

DywedGwyn Alf Williams y ganwyd Cymru yn 383 pan adawodd Macsen Gymru sy'n ymddangos yn y gânYma o Hyd; ond mae'r rhan fwyaf o haneswyr yn anghytuno â hyn. Erbyn 393, dad-filwriwyd Cymru oherwydd roedd angen mwy o filwyr gan y Rhufeiniaid ynGâl ac erbyn 410 gadawodd y catrodau Rhufeinig gan adael dim ond tasgfeistri ar ôl i "fflangellu ysgwyddau'r brodorion" yn ôlGildas. Erbyn 400 cymysgwyd llawer o Ladin gyda'rFrythoneg ac fe gyfunwyd y traddodiadau a diwylliant Celtaidd gyda rhai Rhufeinig.[3]

Oes y Seintiau

[golygu |golygu cod]
Eglwys Llanbadrig
Bedd gwreiddiolArthur, Glastonbury

Derwyddiaeth oedd crefydd y Brythoniaid ond tystiodd awduron y cyfnod bod eglwysi Cristnogol ymysg y Celtiaid erbyn 169 OC; fod Brythoniaid wedi dod yn Gristnogion erbyn 208 ac yn 314 OC roedd tri esgob o Frythoniaid yng Nghyngor Arles.[9] Sefydlwyd Eglwys annibynnol Gymreig/Brythonaidd cynEglwys Rufain acEglwys Loegr ac fe barhaodd i fod yn hollol annibynnol yn y cyfnod hwn.[10]

Yn 440 OC dywed iSant Padrig sefydlu eglwys ynLlanbadrig yn Ynys Môn ac yn 470 eglwys lle sefirEglwys Tyddewi heddiw.[11][12] DywedNennius i'rBrenin Arthur cael ei arwisgo ag arwyddlun brenhinol gan Dyfrig, esgob Llandaf yngNghaerllion yn 517 OC cyn arwain y Brythoniaid i ryfel yn erbyn yr Eingl-Sacsoniaid. Claddwyd ef yn Ynys Wydrin, Glastonbury, dan reolaeth y Brythoniaid ar y pryd.[13] Yn ôlRhygyfarch ap Sulien, gwnaedDewi Sant yn Archesgob metropolitan Prydain a'r Brythoniaid yn Synod Brefi (Llanddewi Brefi).[14]

Teyrnasoedd cynnar Cymru

[golygu |golygu cod]
Prif:Yr Oesoedd Canol Cynnar yng Nghymru
Teyrnasoedd Cymru 400-800
(y map gwreiddiol gan William Rees 1959
Atgynhyrchwyd ynHanes Cymru gan John Davies)

Dechreuodd y cyfnod Eingl-Sacsonaidd ym Mhrydain tua'r 5g, ac ar yr un pryd ffurfiwyd teyrnasoedd yng Nghymru megisPowys,Ystrad Tywi,Gwent,Dyfed,Gwynedd,Morgannwg,Ceredigion, aBrycheiniog. Yn y 5g symudoddCunedda oForyd Forth i Wynedd a gyrru setlwyr Gwyddelig oBen Llŷn.[15]

Gellir cysylltu'r teyrnasoedd Cymreig gyda thiroedd y llwythau a barhaodd trwy gydol y cyfnod Rhufeinig; Gwynedd gyda'r Ordoficiaid; Powys gyda'rCornoficiaid; Gwent a Glywysing gyda'r Silwriaid; a Dyfed a Deheubarth gyda'r Demetiaid. Ar ôl i Cunedda fudo i lawr o deyrnasGododdin, cysylltwyd ei fab Ceredig gyda'r deyrnas Ceredigion a'i fab Meirion gyda Meirionydd. Dywed mae un o deyrn cynnar Glywysing (a ranodd yn hwyrach i Morgannwg, Gwynllyw a Gwent) oeddEmrys Wledig ac maiGwrtheyrn a sefydloddGwerthrynion (Rhwng Gwy a Hafren).[16]

Hanes Cymru
Cynhanes Cymru
Hanesyddiaeth
WiciBrosiect Cymru

Gwahanwyd y Cymry a'rCernywiaid ar ôl brwydr gerDyrham yn 577 OC. CurwydRheged aManaw Gododdin yn yrYr Hen Ogledd.[15] Dywed iFrwydr Caer yn 616 OC dorri'r cysylltiad tir rhwng Brythoniaid yr Hen Ogledd (Cumbria a gogledd ddwyrain Lloegr) a Chymru.[17] Llwyddodd teyrnasYstrad Clud i amddiffyn ei hannibyniaeth tan yr 11g hwyr. Yn y cyfnod hwn, roedd y barddAneirin yn byw ym mhrifddinas teyrnas Manaw Gododdin sefDin Eidyn (Caeredin). Ysgrifennodd y gerdd enwog,y Gododdin, yn sôn am lwyth y Gododdin yn yr Hen Ogledd yn brwydro yn erbyn yr Eingl-Sacsoniaid yn y 590au:[15]

Gwyr a aeth Gatraeth oedd fraeth eu llu

Glasfeydd eu hancwyn a gwenwyn fu

Trichant mewn peiriant yn catau

Ac wedi elwch tawelwch fu...

Fe lwyddodd Powys i amddiffyn ei thiroedd rhag teyrnas Eingl-SacsonaiddMersia ac fe godwydCroes Eliseg ganCyngen ap Cadell i goffáu ymdrechionElisedd ap Gwylog (ei daid), "Yr Eliseg hwnnw a gasglodd ynghyd etifeddiaeth Powys . . . allan o afael yr Eingl â'i gleddyf ac â thân". Yn yr 8g, fe gododd Aethelbald, brenin Mersia,Glawdd Wat ac yna cododd ei olynydd Offa,Glawdd Offa i gadw Brythoniaid Powys allan.[15]

Llyfryddiaeth

[golygu |golygu cod]
  • Geraint Bowen (gol.),Y Gwareiddiad Celtaidd (Caerdydd, 1987). Gweler yn arbennig pennod 4, "Y Brydain Rufeinig" gan D. Ellis Evans a phennod 9, "Yr Ymfudo i Lydaw" gan Léon Fleuriot.
  • Wendy Davies,Wales in the Early Middle Ages (Leicester, 1982)
  • John Morris,The Age of Arthur (Llundain, 1973)
  • Christopher Snyder,The Britons (Blackwell, 2003)

Gweler hefyd

[golygu |golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. "Large-scale migration into Britain during the Middle to Late Bronze Age". Nature. 2021 [2020].
  2. 2.02.1Jones, Barri (1990).An atlas of Roman Britain. Internet Archive. Cambridge, Mass., USA : Blackwell. t. 42.ISBN 978-0-631-13791-7.
  3. 3.03.13.23.3Gower, Jon (2013).The Story of Wales (yn Saesneg). BBC Books. tt. 37–52.ISBN 978-1-84990-373-8.
  4. Jones, Barri (1990).An atlas of Roman Britain. Internet Archive. Cambridge, Mass., USA : Blackwell. tt. 61, 179.ISBN 978-0-631-13791-7.
  5. Haywood, John (2014-07-10).The Celts: Bronze Age to New Age (yn Saesneg). Routledge. tt. 73–76.ISBN 978-1-317-87017-3.
  6. "Cornelius Tacitus, The Annals, BOOK XII, chapter 33".www.perseus.tufts.edu. Cyrchwyd2024-06-01.
  7. Hughes, William (1894).A History of the Church of the Cymry: From the Earliest Period to the Present Time (yn Saesneg). E. Stock. t. 447.
  8. Jones, Barri (1990).An atlas of Roman Britain. Internet Archive. Cambridge, Mass., USA : Blackwell. t. 21.ISBN 978-0-631-13791-7.
  9. Penny Cyclopaedia of the Society for the Diffusion of Useful Knowledge (yn Saesneg). C. Knight. 1837. tt. 2–17.
  10. "Cambrian quarterly magazine and Celtic repertory | No. 20 - October 1 - 1833 | 1833 | Welsh Journals - The National Library of Wales".journals.library.wales (yn Saesneg). tt. 580–581. Cyrchwyd2024-05-27.
  11. Cathrall, William (1860).A guide through North Wales, including Anglesey, Caernarvonshire, Denbighshire, Flintshire ... with a notice of the geology of the country, by A.C. Ramsay (yn Saesneg). t. 190.
  12. Hughes, William (1894).A History of the Church of the Cymry: From the Earliest Period to the Present Time (yn Saesneg). E. Stock.
  13. Hughes, William (1894).A History of the Church of the Cymry: From the Earliest Period to the Present Time (yn Saesneg). E. Stock. tt. 62–63.
  14. Wade-Evans, Arthur W. (Arthur Wade) (1923).Life of St. David [microform]. Internet Archive. London : Society for Promoting Christian Knowledge; New York, Macmillan. tt. 24–27, 32.
  15. 15.015.115.215.3Gower, Jon (2013).The Story of Wales (yn Saesneg). BBC Books. tt. 53–66.ISBN 978-1-84990-373-8.
  16. Watkin, Thomas (2007).The Legal History of Wales. Gwasg Prifysgol Cymru. tt. 32–35.
  17. Jewell, Helen M. (1994).The North-south Divide: The Origins of Northern Consciousness in England (yn Saesneg). Manchester University Press. t. 18.ISBN 978-0-7190-3804-4.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Brythoniaid&oldid=12963697"
Categorïau:
Gategori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp