Mae'rBlaid Geidwadol ac Unoliaethol (Saesneg:The Conservative and Unionist Party) ynblaid wleidyddol canol-dde yn y Deyrnas Unedig. Fe'i hadnabyddir hefyd fely Blaid Geidwadol,Ceidwadwyr,y Blaid Dorïaidd neu'n llai ffurfiol,yTorïaid.
Sefydlwyd y blaid yn ei ffurf bresennol pan unodd gyda'r 'Rhyddfrydwyr Unoliaethol' (Liberal Unionist Party) a newidiwyd yr enw i 'Blaid Geidwadol ac Unoliaethol', sy'n parhau i fod yr enw swyddogol a chyfreithiol. Yn hanesyddol fe'i hystyrir yn brif blaid yr asgell dde gymedrol. Yn 2014 roedd ganddi fwy o Aelodau Seneddol ynNhŷ'r Cyffredin ac yn llywodraethu mewn clymblaid gyda'rRhyddfrydwyr Democrataidd. Yn ystod yr20g, hi oedd un o'r ddwy blaid gryfaf; bu'n llywodraethu am 57 mlynedd, gan gynnwys dan arweinyddiaethWinston Churchill (1940–45, 1951–55) aMargaret Thatcher (1979–90). Erbyn diwedd yr 20g, y Ceidwadwyr hefyd oedd y prif wrthwynebydd i'rSenedd Ewropeaidd.
Syr Robert Peel, cyn Brif Weinidog ac un o sefydlwyr y Blaid Dorïaid
Yn yr Etholiad Cyffredinol 1997 collodd y blaid bob un o'i seddi yng Nghymru, ond yn yrEtholiad Cyffredinol 2005, fe ailgipiwyd tair ohonynt.
Yn dilynEtholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2007, bu gan y blaid 12 o'r 60 sedd; ar ôl 2013 hi oedd ail blaid fwyaf Cymru (o ran nifer yr aelodau seneddol), gyda Phlaid Cymru'n drydedd.
Cafodd y blaid etholiad cyffredinol ysgubol yn Rhagfyr 2019 gan ennill 14 sedd o blith 40 sedd Cymru yn Nhŷ’r Cyffredin. Dyma gynnydd o 6 sedd o'r Blaid Llafur i'r Blaid Geidwadol. Torrwyd wal goch Llafur yn y Gogledd Ddwyrain gan adael un fricsen goch sef etholaethAlun a Glannau Dyfrdwy. Yn ôl nifer dyma berfformiad gwaethaf Llafur ers dyddiauMargaret Thatcher yn y 80au.[4]
Ynetholiad 2024, fe gollodd y Ceidwadwyr bob un o'r seddi hyn.
Siart yn dangos canrannau'r bleidlais boblogaidd i bleidiau gwledydd Prydain a Gogledd Iwerddon, 1832–2005.Canran y bleidlais. Ceidwadwyr (glas); Whigiaid/Rhyddfrydwyr/Rh'r Democrataidd (oren); Llafur (coch); eraill (llwyd).