MaeWrwgwái (yn swyddogol:Gweriniaeth Ddwyreiniol Wrwgwái), yn wlad sofran ynNe America. Mae'n rhannu ffiniau â'rAriannin i'r gorllewin a'r de-orllewin aBrasil i'r gogledd a'r gogledd-ddwyrain, tra'n ffinio â'rRío de la Plata i'r de aChefnfor Iwerydd i'r de-ddwyrain. Arwynebedd Wrwgwái yw tua 176,215 metr sgw (68,037 mi sgw) a'i phoblogaeth yn ôl y Cyfrifiad diweddaraf yw 3,444,263(2023)[1] gyda bron i 2/3an ohonynt yn byw o fewn ardal fetropolitan ei phrifddinas a'i dinas fwyaf, sefMontevideo. Gellir cymharu'r boblogaeth yma gyda phoblogaeth Cymru, a oedd yn y Cyfrifiad diwethaf yn 3,131,640(2022)[2].
Cafodd yr ardal a ddaeth yn Wrwgwái ei thrin gyntaf gan grwpiau o helwyr a chasglwyr 13,000 o flynyddoedd yn ôl (CP).[3] Y Portiwgaliad, Juan Díaz de Solís oedd y fforiwr Ewropeaidd cyntaf i gyrraedd y wlad, a hynny yn 1516, ond cafodd yr ardal ei gwladychu'n hwyrach na'i chymdogion. Ar adeg yma, yCharrúa oedd y llwyth mwyaf cyffredin yn yr ardal, ochr yn ochr â grwpiau eraill fel yGuaraní a'r Chaná. Fodd bynnag, nid oedd yr un o'r grwpiau hyn wedi'u trefnu'n gymdeithasol nac yn filwrol - dau ffactor a gyfrannodd at eu goresgyniad.[4] Ynghanol anghydfodau tiriogaethol, sefydlodd y Portiwgaliaid Colônia do Sacramento ym 1680, a sefydlodd y SbaenwyrMontevideo fel cadarnle milwrol. Sicrhaodd Wrwgwái ei hannibyniaeth rhwng 1811 ac 1828, yn dilyn brwydr bedair ffordd yn cynnwys Portiwgal, Sbaen, ac yn ddiweddarach Taleithiau Unedig y Río de la Plata ac Ymerodraeth Brasil. Ar 18 Gorffennaf 1830 cyhoeddodd ei chyfansoddiad ei hun, a chafodd ei sefydlu'n ffurfiol fel gwladwriaeth annibynnol.[5]
Yn ystod y blynyddoedd yn union wedi annibyniaeth, parhaodd Wrwgwái i fod yn agored i ddylanwad ac ymyrraeth gan wledydd tramor, ynghyd â chyfres o wrthdaro mewnol a chythrwfl gwleidyddol.[6] O ail hanner y19g, gwelodd y wlad donnau sylweddol o fudo Ewropeaidd - yn bennaf o Sbaen, yr Eidal, a Ffrainc - a ddylanwadodd yn fawr ar ei demograffeg gan osod sylfaen ar gyfer diwylliant a chymdeithas Wrwgwái fodern.[7][8] Ar ddechrau'r20g, cyflwynwyd cyfres o ddiwygiadau economaidd, diwydiannol a chymdeithasol arloesol, gan arwain at sefydlugwladwriaeth les ddatblygedig iawn. Ynghyd â'i sefydlogrwydd gwleidyddol, cyfrannodd hyn at y wlad yn cael ei hadnabod fel "Swistir yr Amerig".[9]
Yn dilyn annibyniaeth Wrwgwái, roedd gwleidyddiaeth genedlaethol dan arweiniad dwy blaid wleidyddol: Plaid Colorado a'r Blaid Genedlaethol, a wrthdarodd mewn sawl rhyfel cartref yn ystod y19g. Gelwir y pleidiau hyn yn 'Bleidiau Traddodiadol'.[10] Ar wahanol adegau yn ei hanes, trefnwyd y Gangen Weithredol fel corff colegol, gyda'r achos olaf o hyn yn digwydd ym 1967. Arweiniodd cyfres o argyfyngau economaidd a'r frwydr yn erbynrhyfelherwfilwrol (neu gerila)asgell chwith eithafol ddiwedd y1960au a dechrau'r1970au at y <i>coup d'état</i> ym 1973, a sefydlodd unbennaeth ddinesig-filwrol tan 1985.[11] Mae Wrwgwái heddiw ynweriniaeth gyfansoddiadol ddemocrataidd, gydag arlywydd sy'n gwasanaethu fel pennaeth y wladwriaeth ac fel pennaeth y llywodraeth.
Yn 2023, cafodd Wrwgwái ei chategoreiddio fel "democratiaeth lawn" ym Mynegai Democratiaeth <i>The Economist</i>,[12] ac mae wedi'i rhestru'n uchel mewn mesuriadau rhyngwladol o dryloywder llywodraeth, rhyddid economaidd, cynnydd cymdeithasol, cydraddoldeb incwm, incwm y pen, arloesedd a seilwaith.[13][14] Mae'r wlad wedicyfreithloni canabis yn llawn (y wlad gyntaf yn y byd i wneud hynny), yn ogystal â phriodas o'r un rhyw ac erthyliad. Mae'n aelod sefydlol o'rCenhedloedd Unedig, OAS, aMercosur.
Daw'r gair Wrwgwái o'r SbaenegUruguay sy'n cymryd ei henw o'rRío Uruguay (Afon Wrwgwái) yn yr iaith Waraní Cynhenid. Ceir sawl dehongliad, gan gynnwys "aderyn-afon" ("afon yruru ", trwy Charrua,urú (gan ei fod ynenw cyffredin am unrhywaderyn gwyllt).[15][16] Gallai'r enw hefyd gyfeirio at falwen afon o'r enwuruguá (Pomella megastoma, sy'n byw mewn afonydd) ac a oedd yn gyffredin iawn ar hyd ei glannau.[17]
Cynigiwyd un o'r dehongliadau mwyaf poblogaidd o'r enw gan y bardd enwog o Wrwgwái, Juan Zorrilla de San Martín, "afon yr adar a beintiwyd";[18] er bod y dehongliad hwn yn amheus, mae ganddo arwyddocâd diwylliannol pwysig yn y wlad o hyd.[19]
Ceir olion dynol yn y rhanbarth a elwir bellach yn Wrwgwái sy'n dyddio'n ôl i tua 13,000 o flynyddoeddCP, gyda thystiolaeth eang o gymunedau helwyr-gaslwyr.[20][21] Amcangyfrifir fod tua 9,000 oaneddiadau y Charrúa a 6,000 o aneddiadau pobl Chaná yma pan laniodd y goresgynwyr cyntaf o Bortiwgal yn y 16g, ac roedd yno hefyd rai aneddiadau ar ynysoeddGuaraní.[22]
Ceir casgliad archaeolegol helaeth o fwntiau claddu a wnaed gan y bobl a elwir yn "Cerritos de Indios" sef y Sbaeneg am 'Fryniau Bychan', yn rhan ddwyreiniol y wlad, rhai ohonynt yn dyddio 5,000 o flynyddoedd yn ôl, tua'r un pryd a chloddio Mwynfeydd Copr y Gogarth. Ychydig iawn a wyddys am y bobl a'u hadeiladodd gan nad ydynt wedi gadael unrhyw gofnod ysgrifenedig, ond ceir tystiolaeth o amaethyddiaeth frodorol a chŵn blewog, brodorol sydd bellach wedi eudifodi.[23][24][25]
Sefydlodd y Portiwgaliaid Colonia do Sacramento ym 1680.
YPortiwgaliaid oedd yr Ewropeaid cyntaf i ddod i mewn i diriogaeth Wrwgwái a hynny yn 1512.[26][27] Cyrhaeddodd ySbaenwyr yn 1515 ond nhw oedd y cyntaf i'w hawlio ar gyfer Coron Sbaen.[28] Gwrthwynebodd y bobl frodorol yn ffyrnig y goncwest, ac ni chawsant lawer o lwyddiant yn ystod y16g a'r17g. Yna daeth Wrwgwái asgwrn y gynnen rhwng ymerodraethau Sbaen a Phortiwgal. Yn 1603, dechreuodd y Sbaenwyr gyflwyno gwartheg, a ddaeth yn a chyfoeth i'r ardal. Sefydlwyd yr anheddiad Sbaenaidd parhaol cyntaf yn 1624 yn Soriano ar y Río Negro. Ym 1680, adeiladodd y Portiwgaliaid gaer yn Colonia del Sacramento.
SefydlwydMontevideo, prifddinas bresennol Wrwgwái, gan y Sbaenwyr yn 1726 fel cadarnle milwrol.[29] Yn fuan datblygodd ei harbwr naturiol yn ardal fasnachol a oedd yn cystadlu â phrifddinas Río de la Plata,Buenos Aires.[30][29] Cafodd hanes Wrwgwái ddechrau'r19g ei liwio gan frwydrau parhaus am oruchafiaeth yn rhanbarth Platina rhwng lluoedd Prydain, Sbaen, Portiwgal, a lluoedd trefedigaethol eraill. Yn 1806 a 1807, ceisiodd byddin Prydain gipio Buenos Aires a Montevideo fel rhan oRyfeloedd Napoleon.[31] Meddiannwyd Montevideo gan luoedd Prydain rhwng Chwefror a Medi 1807.[31]
Ym 1825, cychwynnoddllw'r Tri Deg a Thri Dwyreiniwr y broses lle enillodd Wrwgwái annibyniaeth oddi wrth Ymerodraeth Brasil.
Ym 1811, lansiodd José Gervasio Artigas, a ddaeth yn arwr cenedlaethol Wrwgwái, wrthryfel llwyddiannus yn erbyn awdurdodau Sbaen, gan eu trechu ar 18 Mai ym Mrwydr Las Piedras. Ym 1813, sefydlwyd llywodraeth newydd yn Buenos Aires, cynulliad cyfansoddol lle daeth Artigas i'r amlwg fel hyrwyddwr ffederaliaeth, gan fynnu ymreolaeth wleidyddol ac economaidd i bob ardal a'r Banda Oriental yn benodol. Gwrthododd y cynulliad roi sedd i'r cynrychiolwyr o'r Banda Oriental; fodd bynnag, dilynodd Buenos Aires system yn seiliedig ar ganoli unedol.
O ganlyniad, torrodd Artigas oddi wrth Buenos Aires a chafwyd gwarchae milwrol ar Montevideo, gan gipio'r ddinas ddechrau 1815. Unwaith i'r milwyr o Buenos Aires gamu'n ôl, penododd y Banda Oriental ei llywodraeth ymreolaethol gyntaf. Trefnodd Artigas y Gynghrair Ffederal (gan ei hamddiffyn), yn cynnwys chwe thalaith, ond aeth pump ohonynt yn rhan o'r Ariannin yn ddiweddarach.
Ym 1816, ymosododd 10,000 o filwyr Portiwgalaidd ar Banda Oriental ac fe ddalion nhw Montevideo yn Ionawr 1817. Ar ôl bron i bedair blynedd arall o frwydro, atododd Teyrnas Bortiwgalaidd BrasilBanda Oriental fel talaith o dan yr enw "Cisplatina". Daeth Ymerodraeth Brasil yn annibynnol oddi ar Bortiwgal yn 1822. Mewn ymateb i'r atodi hwn, cyhoeddodd yTri Deg a Thri Dwyreiniwr, dan arweiniad Juan Antonio Lavalleja, annibyniaeth ar 25 Awst 1825, gyda chefnogaeth Taleithiau Unedig y Río de la Plata (Ariannin heddiw).[32] Arweiniodd hyn at Ryfel Cisplatine a barodd 500 diwrnod. Ni chafodd y naill ochr na'r llall y llaw uchaf, ac ym 1828, rhoddodd Cytundeb Montevideo, a hyrwyddwyd gan y DU yn ei lle, trwy ymdrechion diplomyddol Is-iarll John Ponsonby. Dyma enedigaeth Wrwgwái fel gwladwriaeth annibynnol, sofran. Dethlir 25 Awst fel Diwrnod Annibyniaeth a gŵyl genedlaethol.[33] Mabwysiadwyd cyfansoddiad cyntaf y genedl ar 18 Gorffennaf 1830.
Ar adeg annibyniaeth, roedd gan Wrwgwái boblogaeth o ychydig o dan 75,000.[34] Rhannwyd y byd gwleidyddol yn Wrwgwái rhwng dwy blaid: yBlancos (y Gwynion) ceidwadol, dan arweiniad yr ail Arlywydd Manuel Oribe, yn cynrychioli buddiannau amaethyddol cefn gwlad, a'rColorados (y Cochion) rhyddfrydol, dan arweiniad yr Arlywydd cyntaf Fructuoso Rivera, yn cynrychioli buddiannau busnes Montevideo. Derbyniodd pleidiau Wrwgwái gefnogaeth gan garfannau gwleidyddol rhyfelgar o'rAriannini.
Mae Lluoedd Arfog Wrwgwái yn dod o dan arlywydd y Weriniaeth yn ôl Cyfansoddiad y wlad, trwy'r gweinidog amddiffyn.[35] Ar gyfartaledd, mae tua 18,000 o bersonél y lluoedd arfog yn y Fyddin,[36] 6,000 yn y Llynges, a 3,000 yn yr Awyrlu. Mae cofrestru'n wirfoddol yn ystod amser heddwch, ond mae gan y llywodraeth yr awdurdod i gonsgriptio mewn argyfwng.[37] Mae poblogaeth Wrwgwái a Chymru'n debyg iawn, ond yn wahanol i Wrwgwái, mae Lloegr dros y blynyddoedd wedi gwrthod yr hawl i Gymru reoli ei byddin ei hun.
Mae Wrwgwái yn gyntaf yn y byd o ran ei chyfraniadau i luoeddcadw heddwch y Cenhedloedd Unedig (ar sail y pen) gyda 2,513 o filwyr a swyddogion mewn 10 cenhadaeth cadw heddwch y Cenhedloedd Unedig.[38] Yn Chwefror 2010, roedd gan Wrwgwái 1,136 o bersonél milwrol yn Haiti yn cefnogi MINUSTAH a 1,360 yn cefnogi MONUC yn y Congo.[30] Yn Rhagfyr 2010, penodwyd yr Uwchfrigadydd Gloodtdofsky o Wrwgwái yn Brif Sylwedydd Milwrol ac yn bennaeth Grŵp Sylwedydd Milwrol y Cenhedloedd Unedig yn India a Phacistan.[39]
Ers Mai 2009, mae pobl hoyw wedi cael caniatâd i wasanaethu yn y fyddin ar ôl i'r gweinidog amddiffyn lofnodi archddyfarniad yn nodi na fyddai polisi recriwtio milwrol yn gwahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol. Yn y flwyddyn ariannol 2010, darparodd yr Unol Daleithiau $1.7 miliwn i Wrwgwái miliwn mewn cymorth milwrol, gan gynnwys $1 miliwn mewn Cyllid Milwrol Tramor a $480,000 mewn Addysg a Hyfforddiant Milwrol Rhyngwladol.[40]
Datblygiad CMC y pen ers 1900.Canolfan Masnach y Byd Montevideo .
Yn 1991, profodd y wlad gynnydd mewn streiciau i hawlio iawndal cyflog i wrthbwyso chwyddiant ac i wrthwynebu'r preifateiddio a ddymunir gan lywodraeth Luis Alberto Lacalle. Galwyd streic gyffredinol ym 1992, a gwrthodwyd y polisi preifateiddio yn eang gan refferendwm.[41] Yn 1994 a 1995, wynebodd Wrwgwái anawsterau economaidd a achoswyd gan ryddfrydoli masnach dramor, a gynyddodd y diffyg masnach (ytrade deficit).[42] Trosglwyddwyd Cwmni Nwy Montevideo a chwmni hedfan Pluna i'r sector preifat, ond arafodd cyflymder preifateiddio ym 1996. Profodd Wrwgwái argyfwng economaidd ac ariannol mawr rhwng 1999 a 2002, oherwydd problemau economaidd yr Ariannin.[43] Crebachodd yr economi 11%, a chododd diweithdra i 14–21%.[44]
Yn 2004, llofnododd llywodraeth Batlle gytundeb tair blynedd o $1.1 biliwn wrth gefn gyda'rGronfa Ariannol Ryngwladol (yr IMF), gan ymrwymo'r wlad i warged cyllidol sylfaenol sylweddol, chwyddiant isel, gostyngiadau sylweddol mewn dyled allanol, a sawl diwygiad strwythurol a gynlluniwyd i wella cystadleurwydd a denu buddsoddiad tramor.[45] Terfynodd Wrwgwái y cytundeb yn 2006 yn dilyn ad-dalu'r ddyled yn gynnar.[40] Creodd Vázquez, a gymerodd y llywodraeth ym mis Mawrth 2005, y Weinyddiaeth Datblygu Cymdeithasol a cheisiodd leihau cyfradd tlodi'r wlad gyda $240 miliwn Cynllun Cenedlaethol i Fynd i’r Afael â’r Argyfwng Cymdeithasol (PANES), a ddarparodd drosglwyddiad arian parod amodol misol o tua $75 i dros 100,000 o gartrefi mewn tlodi eithafol. Yn gyfnewid, roedd yn ofynnol i’r rhai a oedd yn derbyn y budd-daliadau gymryd rhan mewn gwaith cymunedol, sicrhau bod eu plant yn mynychu’r ysgol bob dydd, a chael archwiliadau iechyd rheolaidd.[40]
Tyfodd yr economi ar gyfradd flynyddol o 6.7% yn ystod y cyfnod 2004–2008.[46] Mae marchnadoedd allforio Wrwgwái wedi'u hailwampio er mwyn lleihau dibyniaeth ar yr Ariannin a Brasil.[46] Gostyngwyd tlodi o 33% yn 2002 i 21.7% yng Ngorffennaf 2008, tra gostyngodd tlodi eithafol o 3.3% i 1.7%.[46]
Rhwng 2007 a 2009, Wrwgwái oedd yr unig wlad yn yr Amerig nad oedd wedi profi dirwasgiad (gostyngiad mewn dau chwarter yn olynol).[47] Cyrhaeddodd diweithdra ei lefel isaf erioed o 5.4% yn Rhagfyr 2010 cyn codi i 6.1% yn Ionawr 2011.[48] Er bod diweithdra yn dal i fod ar lefel isel, gwelodd yr IMF gynnydd mewn chwyddiant,[49] a chododdCMC Wrwgwái 10.4% ar gyfer hanner cyntaf 2010.[50][49]
Roedd Wrwgwái 62fed ar Fynegai Arloesi Byd-eang yn 2024.[51] Mae nifer aelodau o undebau'r wlad wedi pedryblu ers 2003, gan godi o 110,000 i fwy na 400,000 yn 2015 ar gyfer poblogaeth weithio o 1.5 miliwn.[52] Yn ôl Cydffederasiwn Undebau Llafur Rhyngwladol, mae Wrwgwái wedi "cadarnhau pob un o'r wyth Confensiwn Llafur craidd ILO".[53] Cyfreithlonwyd tyfu, defnyddio a gwerthucanabis ar 11 Rhagfyr 2013, gan y cyn-arlywydd José "Pepe" Mujica, gan wneud Wrwgwái y wlad gyntaf yn y byd i gyfreithloni mariwana yn llawn. Pleidleisiwyd ar y gyfraith yn Senedd Wrwgwái ar yr un dyddiad gyda 16 pleidlais i'w chymeradwyo ac 13 yn erbyn.
Mae Punta del Este yn un o brif gyrchfannau twristaidd yn y Côn Deheuol .
Mae'r diwydiant twristiaeth yn Wrwgwái yn rhan bwysig o'i heconomi. Yn 2012, amcangyfrifwyd bod y sector yn cyfrif am 97,000 o swyddi a 9% o'i CMC.[54] Wrwgwái yw'r wlad yn America Ladin sy'n derbyn y nifer fwyaf o dwristiaid o'i gymharu â'i phoblogaeth. Yn 2023, daeth 3.8 miliwn o dwristiaid i Wrwgwái ar eu gwyliau, ac roedd y mwyafrif ohonynt yn Arianninwyr a Brasilwyr, ac yna Chileaid, Paragweiaid, Americanwyr ac Ewropeaid o wahanol genhedloedd.[55]
Mae profiadau diwylliannol yn Wrwgwái yn cynnwys archwilio treftadaeth drefedigaethol y wlad, fel y'i ceir yn Colonia del Sacramento. Ceir henebion hanesyddol gan gynnwys Amgueddfa Torres García ac Estadio Centenario. Un o brif atyniadau naturiol Wrwgwái yw Punta del Este, sydd wedi'i lleoli ar benrhyn bach oddi ar arfordir de-ddwyrain Wrwgwái. Mae ei draethau wedi'u rhannu'n Mansa, sef yr ochr ddof (o'r afon) a Brava, neu ochr garw (cefnfor). Mae Punta del Este yn ffinio â dinas Maldonado, tra i'r gogledd-ddwyrain ar hyd yr arfordir mae cyrchfannau llai La Barra a José Ignacio.[56]
Yn 2010, cymeradwyodd Weinyddiaeth Ynni, Mwyngloddio a Diwydiant Wrwgwái Archddyfarniad 354 ar Hyrwyddo Ynni Adnewyddadwy.[57] Erbyn 2021, roedd gan Wrwgwái, o ran trydan adnewyddadwy, 1,538 MW mewn ynni dŵr, 1,514 MW mewn pŵer gwynt (35ain mwyaf yn y byd), 258 MW mewn pŵer solar (66ain mwyaf yn y byd), a 423 MW mewn biomas.[58] Yn 2023, roedd 98% o drydan Wrwgwái yn dod oynni adnewyddadwy.[59] Daw'r rhan fwyaf o'r trydan o gyfleusterau trydan dŵr a pharciau gwynt. Nid yw Wrwgwái bellach yn mewnforio trydan.[60][61]
Sbaeneg yw'r iaith genedlaethol de facto.[62] Mae Sbaeneg Wrwgwáiaidd, fel amrywiad oRioplatense, yn defnyddiovoseo ayeísmo (gyda[ʃ] neu[ʒ] ). Yn ardaloedd y ffin â Brasil yng ngogledd-ddwyrain y wlad, siaredir Portiwgaleg Wrwgwáiaidd, sy'n cynnwys cymysgedd o Sbaeneg a Phortiwgaleg Brasil.[63] Mae'n dafodiaith heb orgraff wedi'i diffinio'n ffurfiol a heb unrhyw gydnabyddiaeth swyddogol.[64]Saesneg yw'r iaith dramor fwyaf cyffredin ymhlith pobl Wrwgwáiaidd, gan ei bod yn rhan o'r cwricwlwm addysgol.[65]
Gan mai ychydig o bobl frodorol sydd yn y boblogaeth, ni chredir bod unrhyw ieithoedd brodorol yn parhau i gael eu defnyddio'n weithredol yn y wlad.[66] Tafodiaith arall a siaredir oedd y Patois, sy'n dafodiaithOcsitaneg. Siaradwyd y dafodiaith yn bennaf yn Adran Colonia, lle ymsefydlodd y pererinion cyntaf, yn ninas La Paz. Mae darnau ysgrifenedig o'r iaith o hyd yn Llyfrgell y Waldensiaid (Biblioteca Valdense) yn nhref Colonia Valdense, Adran Colonia. Cyrhaeddodd siaradwyr Patois i Wrwgwái oPiedmont. Yn wreiddiol, roeddent yn Vaudois a ddaeth yn Waldensiaid, gan roi eu henw i'r ddinas Colonia Valdense, sy'n cyfieithu o'r Sbaeneg i olygu "Gwladfa Waldensaidd".[67]
Yn 2001, cydnabuwyd Iaith Arwyddion Wrwgwái (LSU) fel iaith swyddogol Wrwgwái o dan Gyfraith 17.378.
José Enrique Rodó (1871–1917), yw ffigwr llenyddol pwysicaf Wrwgwái. Mae ei lyfr,Ariel (1900), yn ymdrin â'r angen i gynnal gwerthoeddysbrydol wrth ddilyn cynnydd materol a thechnegol.[68][69] Mae hefyd yn pwysleisio'r frwydr yn erbyn diwylliant Ewrop a'r Unol Daleithiau.[69] Yn nodedig ymhlith tramodwyr America Ladin maeFlorencio Sánchez (1875–1910), a ysgrifennodd ddramâu am broblemau cymdeithasol ei hoes yn dal i gael eu perfformio heddiw.[69]
Awdur cyfoes mwyaf adnabyddus Uruguay ywEduardo Galeano, awdurLas venas abiertas de América Latina (1971; "Gwythiennau Agored America Ladin") a'r driolegMemoria del fuego (1982-87; "Y Cof am Dân"). Mae awduron Uruguayan modern eraill yn cynnwys Sylvia Lago, Jorge Majfud, a Jesús Moraes.[69]
Mae mynegairhyddid y wasg byd-eang Gohebwyr Heb Ffiniau wedi rhestru Wrwgwái yn 19fed allan o 180 o wledydd a ymchwiliwyd yn 2019.[70] Mae rhyddid barn a'r cyfryngau wedi'u gwarantu gan Gyfansoddiad y Wlad.[71] Cafodd rhyddid y wasg Wrwgwái ei gyfyngu'n ddifrifol yn ystod blynyddoedd unbennaeth filwrol. Ar ei ddiwrnod cyntaf yn y swydd ym mis Mawrth 1985, ailsefydlodd Sanguinetti ryddid y wasg - yn llwyr.[72] O ganlyniad, ehangodd papurau newydd Montevideo eu cylchrediadau.[72] Mae gan Wrwgweiiaid fynediad at fwy na 100 o bapurau newydd dyddiol ac wythnosol preifat, mwy na 100 o orsafoedd radio, a thua 20 o sianeli teledu daearol, ac mae teledu cebl ar gael yn eang.[71] Mae'r nifer yma'n llawer uwch a gwell na'r hyn sydd yng Nghymru, sydd â'r un boblogaeth.
Andrew, G. R. (2010). Blackness in the White Nation: A History of Afro-Uruguay, The University of North Carolina Press
Behnke, A. (2009). Uruguay in Pictures, Twenty First Century Books
Box, B. (2011). Footprint Focus: Uruguay, Footprint Travel Guides
Burford, T. (2010). Bradt Travel Guide: Uruguay, Bradt Travel Guides
Canel, E. (2010). Barrio Democracy in Latin America: Participatory Decentralization and Community Activism in Montevideo, The Pennsylvania State University Press
Clark, G. (2008). Custom Guide: Uruguay, Lonely Planet
Jawad, H. (2009). Four Weeks in Montevideo: The Story of World Cup 1930, Seventeen Media
Lessa, F. and Druliolle, V. (eds.) (2011). The Memory of State Terrorism in the Southern Cone: Argentina, Chile, and Uruguay, Palgrave Macmillan
Mool, M (2009). Budget Guide: Buenos Aires and Montevideo, Cybertours-X Verlag
↑Jacob, Raúl; Weinstein, Martin (1992). "Modern Uruguay, 1875–1903: Militarism 1875–90". In Rex A. Hudson; Sandra W. Meditz (gol.).Uruguay: A Country Study (arg. 2nd). Washington DC: Federal Research Division, Library of Congress Country Studies. tt. 17–19.ISBN978-0-8444-0737-1. Cyrchwyd23 Chwefror 2011.
↑"Spartacus Gay Travel Index"(PDF).spartacus.gayguide.travel. 29 Chwefror 2024. No. 8, p. 2. Archifwyd o'rgwreiddiol(PDF) ar 14 Medi 2017. Cyrchwyd3 Medi 2020.
↑Revista Del Río de La Plata. 1971. t. 285. Cyrchwyd23 Hydref 2015.The word itself, 'Uruguay', is clearly derived from the Guaraní, probably by way of the tribal dialect of theCharrúas [...] fromuru (a generic designation of wild fowl)
↑Bureau of Western Hemisphere Affairs."Background Note: Uruguay". US Department of State. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 22 Ionawr 2017. Cyrchwyd23 Chwefror 2011.
↑30.030.1Bureau of Western Hemisphere Affairs."Background Note: Uruguay". US Department of State. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 22 Ionawr 2017. Cyrchwyd23 Chwefror 2011.Bureau of Western Hemisphere Affairs."Background Note: Uruguay". US Department of State.Archived from the original on Ionawr 22, 2017. RetrievedFebruary 23, 2011.
↑Bureau of Western Hemisphere Affairs."Background Note: Uruguay". US Department of State. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 22 Ionawr 2017. Cyrchwyd23 Chwefror 2011.Bureau of Western Hemisphere Affairs."Background Note: Uruguay". US Department of State.Archived from the original on Ionawr 22, 2017. RetrievedFebruary 23, 2011.
↑Bureau of Western Hemisphere Affairs."Background Note: Uruguay". US Department of State. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 22 Ionawr 2017. Cyrchwyd23 Chwefror 2011.Bureau of Western Hemisphere Affairs."Background Note: Uruguay". US Department of State.Archived from the original on Ionawr 22, 2017. RetrievedFebruary 23, 2011.
↑Central Intelligence Agency (2016)."Uruguay".The World Factbook. Langley, Virginia: Central Intelligence Agency. Cyrchwyd1 Ionawr 2017.
↑Bureau of Western Hemisphere Affairs."Background Note: Uruguay". US Department of State. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 22 Ionawr 2017. Cyrchwyd23 Chwefror 2011.Bureau of Western Hemisphere Affairs."Background Note: Uruguay". US Department of State.Archived from the original on Ionawr 22, 2017. RetrievedFebruary 23, 2011.
↑Lebedys, Arvydas; Akande, Dennis; Coënt, Nicolas; Elhassan, Nazik; Escamilla, Gerardo; Arkhipova, Iana; Whiteman, Adrian (2022)."Renewable Energy Statistics 2022"(PDF) (yn Saesneg, Ffrangeg, a Sbaeneg). Abu Dhabi: International Renewable Energy Agency (IRENA). tt. 7, 15, 22, 33. Archifwyd o'rgwreiddiol(PDF) ar 9 Hydref 2022. Cyrchwyd5 Awst 2022.
↑Central Intelligence Agency (2016)."Uruguay".The World Factbook. Langley, Virginia: Central Intelligence Agency.Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Rhagfyr 2021. Cyrchwyd1 Ionawr 2017.