Wladimir Kaminer | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Владимир Викторович Каминер ![]() 19 Gorffennaf 1967 ![]() Moscfa ![]() |
Dinasyddiaeth | yr Almaen ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, newyddiadurwr, peiriannydd sain, troellwr disgiau ![]() |
Adnabyddus am | Russian Disco ![]() |
Priod | Olga Kaminer ![]() |
Gwobr/au | Ben-Witter-prize, Berliner Bär ![]() |
Gwefan | http://www.wladimirkaminer.de/ ![]() |
Awdur Rwsiaidd-Almaenig ywWladimir Kaminer (Rwsieg Владимир Каминер); ganed19 Gorffennaf1967 ymMoscfa). Mae'n golofnydd, awdur straeon byrion ac yn DJ.
Mae ei deulu o darddiadIddewig yn Rwsia. Cafodd ei eni ym Moscfa. Yno astudiodd dechnoleg sain cyn droi at y theatr yn Sefydliad Drama Mosgfa.
Wedi cwympMur Berlin symudodd i'r DDR (Dwyrain yr Almaen), lle cafodd ddinasyddiaeth misoedd cyn yr aduniad Almaenig. Daeth yn ddinasyddyr Almaen yn syth wedyn. Sefydlodd ei hun ymMarzahn,Berlin, ym 1990. Daeth yn ffigwr enwog ymhlith llenorion Berlin yn y clwb Kaffee Burger. Mae'n cyfrannu i gylchgronnau llenyddol, ac mae ganddo sioe radioWladimir's World, ar Rundfunk Berlin-Brandenburg. Mae Kaminer hefyd yn DJ ar ei "Russendiskos" ei hun ac mae'n chwarae dim ond cerddoriaeth Rwseg. Er mai'rRwseg yw ei famiaith mae'n sgwennu yn yrAlmaeneg yn unig, ac yn aml yn ysgrifennu am sefyllfa y mewnfudwyr o Rwsia.
Yn 2006 penderfynnodd sefyll fel Maer Berlin; ers hyn mae wedi treulio ei amser yn siarad i gylchoedd llenyddol drwy'r byd Almaeneg. Cadwodd ddyddiadur, nodiadau a gyhoeddwyd yn nes ymlaen yn ei gasgliadDeutsches Dschungelbuch ("Jwngl-lyfr Almaenig"). Mae'n un o nifer o awduron tramor sy wedi cyfrannu at lenyddiaeth Almaeneg ers 2000, felRafik Schami ac awduron eraill y grwpSudwind ('Gwynt y De').