Sylw diweddaraf:8 mis yn ôl13 sylw6 pherson yn trafod
Gan ddilyn y ffasiwn ddiweddaraf gan hanesyddion ee John Davies (Hanes Cymru) a'rBBC, dw i wedi symud y Cymreigiad artiffisial 'Siarl' i'r 'Charles' brodorol gw.Charles III, brenin y Deyrnas Unedig. Mae cyfieithu 'William' i 'Nedw' yn hurt ac i 'Wiliam' yn ddiangen, ac mae defnyddio'r enw brodorol yn llawer mwy cywir o ran y cyfeiriadau. Carwn gynnig fod hyn yn troi'n bolisi. Hefyd, unwaith eto, gan ddilyn esiampl J.D., dylid cyfeirio at aelodau brenhinol pob gwlad gyda'r ardal maent yn argwyddiaethu arno ac nid eu teitl gwleidyddol ee 'Edward II, brenin Lloegr' neu 'Edward II' yn hytrach nag 'Edward II, Tywysog Cymru' ayb, ac yng nghorff yr erthygl, awgrymir defnyddir yr enw cyntaf 'Edward', fel a wneir ar bob Wici-iaith arall, gan gynnwys y Saesneg. Yn ddiweddar cafwyd un golygydd a ddaeth atom o en-wici a geisiai ychwanegu 'Tywysog Cymru' drwy'r erthygl gyfan, yn gwbwl ddiangen.Llywelyn2000 (sgwrs)11:19, 30 Awst 2024 (UTC)Ateb
Rwy wedi meddwl bod angen gwneud hyn ers sbel fawr, ond ddim yn gwybod hanes y penderfyniad gwreiddiol. Oes yna le addas i ni gofnodi polisi/confensiwn fel hyn?Dafyddt (sgwrs)23:36, 31 Awst 2024 (UTC)Ateb
Anghytuno bod enwau Brenhinoedd Lloegr fel Iorweth I, Gwilym y Fastard, Harri VIII, Bess yn ffals. Maent yn britho hen lyfrau a chaniadau Cymru. Mantais lle ar y we yw y gallu i greu doleni rhwng y wahanol deitlau, pa bynag un yw prif benawd erthygl. Pwy sy'n chwilio Wicipedia am Ellis Humphrey Evans, Albert Jones nu Henry VIII?AlwynapHuw (sgwrs)04:53, 1 Medi 2024 (UTC)Ateb
Da byddai polisi gyda rhagor o enghreifftiau i gael deall y rhesymeg yn well - onid "Guillaume" oedd enw brodorol Gwilym y Concwerwr yn hytrach na Wil(l)iam? Cytuno efo pwynt @AlwynapHuw wedyn, mae digon o le yma ac er bod defnyddio e.e. Charles yn y teitl ac yn gyson o fewn yr erthygl yn ddigon rhesymol, lle mae ffurfiau eraill yn cael eu defnyddio, neu wedi cael eu defnyddio yn Gymraeg (neu enwau brodorol eraill lle maen nhw'n teyrnasu dros sawl gwlad), byddai cynnwys yr enwau hynny'n glir yn cyfoethogi'r erthygl, e.e.Charles III (Cymreigiad:Siarl, Llys-enw:Carlo, Māori:Tiāre te Tuatoru)Llygad Ebrill (sgwrs)06:46, 2 Medi 2024 (UTC)Ateb
Y dull symlaf i ni ei fabwysiadu, efallai, fyddai defnyddio'r un sillafiad ag a ddefnyddia John Davies, Bwlchllan, yn ei gyfrolHanes Cymru. Fel hyn, byddai gennym bolisi cyson gan y meistr ei hun. Dydy JD ddim yn defnyddio'r sillafiad Saesneg yn slafaidd, os yw'r enw Cymraeg wedi'i fabwysiadu yn y cyfnod hwnnw. Felly, Harri VII sydd ganddo, nid Harry VII, ac wrth gwrs mae gennym yr ailgyfeiriad i ychwanegu faint fynom o lysenwau, enwau ffurfiol, barddol, cyffredin a ballu. Efallai mai'r ffordd orau i nodi sillafiad JD fyddai i mi restru enwau'r brenhinwyr sydd a fesiwn Gymraeg ynHanes Cymru, lleied sydd. Yn ddiddorol iawn, mae'n defnyddio Gwilym 1 a Gwilym II (gan mai dyma'r enwau Cymraeg y dydd ar y ddau yma), ond William III (gan mai fel hyn y'i gelwid yntau yn ei gyfnod gan y Cymru).
Yr unig enwau Cymraeg eraill yn y gyfrolHanes Cymru yw: Catrin (Ymerodres Rwsia); Ceredic, brenin Elfed, Elinor o Gastîl; Harri I - VIII, brenhinoedd Lloegr; Harri o Drefynwy; Iwl Cesar; Mari I a II, breninesau Lloegr; Mari, brenhines yr Alban ac Oswy, brenin Northumbria.
Sillafiad Saesneg / gwreiddiol sydd i'r gweddill, gan gynnwys: Augustus, Ymerawdwr Rhufain; 'Bonnie Prince Charlie'; Isabella de Breos; Catherine (gwraig Owain Tudur); Charles VI, brenin Ffrainc; Charles I, II a III, breninoedd Lloegr; David I, brenin yr Alban; Elizabeth I, brenhines Lloegr; George I - III, brenhinoedd Lloegr; Edward I-VIII, brenin Lloegr; Henry,tywysog Cymru (mab James I); James I a II, brenhinoedd Lloegr; John, brenin Lloegr; Louis VII ayb, brenin Ffrainc, Richard i - III, brenhinoedd Lloegr; Stephen, brenin Lloegr a William I, II a III, brenhinoedd Lloegr [cynsail i ddefnyddio'r sillafiad Saesneg i'r tywysog William sy'n fyw heddiw].
Y telu brenhinol, presennol: carwn gynnig ein bod yn dilyn patrwm JD (a'r sillafiad yn ein cylchgronau, llyfrau...) sef y fersiwn Saesneg: Harry, Charles, William a ballu, gan gyfeirio at yr enw llys/swyddogol/llawn unwaith yn unig ar frig y dudalen fel y nodir ganDefnyddiwr:Llygadebrill, uchod. O dderbyn hyn, neu amrywiad ar hyn, byddai'r polisi yma'n cael ei ychwanegu i'r fan priodol yn:Wicipedia:Arddull.Llywelyn2000 (sgwrs)16:37, 2 Medi 2024 (UTC)Ateb
O wario gormod o amser efo hen lyfrau, mae'n ymddangos i mi fod yr arfer o gyfieithu enwau teyrnoedd Lloegr (a gweddill y byd) i'r Gymraeg yn dod i ben ym 1901 ar ôl farwolaeth Victoria / Fictoria / Buddug (gyda'r eithriad o "Garlo" am resymau gwleidyddol cyfnod, a "Charlo yw ei enw EF" nid enw ei gyndeidiau Siarl I a II). Mae'n debyg bod digon o enghreifftiau o ddefnydd cyfieithiad a sillafiad amgen Cymraeg ar Wicidestun am bob un o'r diawliaid. Y peth pwysig yw bod unrhyw drefn yn cynnwys dolen i, a chyfeiriadau at yr enwau amgen. Wedi pennu rheol, mi af ati i sicrhau bod dolenni, ailgyfeiriadau a chyfeiriadau ar gael o drawsgrifiadau Wicidestun. Dyna pam fod Wicidestun yn bod!AlwynapHuw (sgwrs)02:38, 5 Medi 2024 (UTC)Ateb
Doeddwn i ddim yn gwybod am y penderfyniad hwn. Rwy'n meddwl ei fod yn anghywir. Os oes enw Cymraeg, dylen ni ei ddefnyddio.Deb (sgwrs)13:23, 11 Mawrth 2025 (UTC)Ateb
Haia Deb. Mae Dr John Davies (Hanes Cymru...) yn cymeryd hyn i ystyriaeth:Dydy JD ddim yn defnyddio'r sillafiad Saesneg yn slafaidd, os yw'r enw Cymraeg wedi'i fabwysiadu yn y cyfnod hwnnw... fel y soniais uchod. Heb i ni dderbyn un templad, un canllaw cadarn, fel hyn, mae'r enwau'n mynd yn ffradach, i bobman. A pha demplad gwell i'w ddilyn na J.D.? Cofia hefyd y gallwn barhau i roi'r enw amgen / iaith arall fel ailgyfeiriad. Cofion cynnes!Llywelyn2000 (sgwrs)15:49, 17 Ebrill 2025 (UTC)Ateb
Eich barn gyfeillion. Dwi wedi sgwennu cofnod ar Coup d'État, ond wrth ddolennu ar WikiData gweld bod ffilm o'r un enw wedi ei gofnodi ganddom. Felly, mae'r cofnod ar y weithred o Coup d'État (https://cy.wikipedia.org/wiki/Coup_d%27%C3%A9tat_(gwleidyddiaeth)) efo'r cromfach (gwleidyddiaeth) ar ei ôl. A fyddai'n gwneud synnwyr i newid y ffilm CdE gyda cronfach (ffilm) wrth ei enw, a bod y weithred CdE heb gromfach. Beth yw'ch barn? Jyst meddwl bod y term yn fwy tebygol o gael ei ddefnyddio na'r ffilm.Stefanik (sgwrs)09:08, 6 Medi 2024 (UTC)Ateb
... Rwy'n meddwl bod yr holl ddolenni'n gweithio'n gywir nawr. Rwyf hefyd wedi cysylltu llu o gyfeiriadau atcoups d'état ar dudalennau eraill i'th erthygl newydd. --Craigysgafn (sgwrs)20:32, 6 Medi 2024 (UTC)Ateb
Ac yn y blaen. Ffrangeg yw iaith wreiddiol y ffilmiau yma, felly does dim rheswm i ddefnyddio cyfieithiad Almaeneg fel teitl yr erthygl, ond dyna mae'r bot wedi ei wneud! Bydd angen i fod dynol gywiro hyn dw i'n cymryd, ond mae'n anodd gwybod lle i ddechrau wrth geisio ffeindio'r teitlau Almaeneg a Saesneg sy'n cuddio ymysg 7,045 o ffilmiau Ffrangeg (a dw i'n amau bod yr un broblem wedi codi gyda ffilmiau mewn ieithoedd eraill).Llygad Ebrill (sgwrs)23:40, 13 Medi 2024 (UTC)Ateb
Ie'n wir! Rwy'n credu bod hyn wedi digwydd oherwydd y set ddata roedd y bot yn ei defnyddio. Mwy llechwraidd yw'r duedd i gronfeydd data ddefnyddio teitlau Saesneg ar gyfer ffilmiau Ewropeaidd. Rwyf wedi bod yn cywiro pethau o'r math hwn fesul tipyn ers amser maith. Rwy'n amau'n fawr a oes modd gwneud y cywiriadau hyn yn awtomatig, neu hyd yn oed a allai'r bot fod wedi gweld y broblem yn y lle cyntaf. Felly mae'n debyg bod yn rhaid i ni gadw llygaid ar agor am y broblem hon.Craigysgafn (sgwrs)06:49, 14 Medi 2024 (UTC)Ateb
Diolch! Ro'n i wedi dechrau mynd trwy'r rhai "Ffrangeg" yn nhrefn yr wyddor ac wedi cyrraedd "G" - wna i adael y dasg honno am y tro, gan obeithio bydd ffordd o gyflymu'r gwaith. Mae tipyn un ai ef teitl y fersiwn Almaeneg, neu gyfieithiad otomatig i'r Gymraeg (o'r teitl Saesneg) yn lle teitl gwreiddiol yn Ffrangeg. Rhai o'r rheini - lleiafrif - yn gopïau dyblyg, gydag erthygl eisoes yn bodoli efo'r teitl gwreiddiol. Ambell achos mwy cymhleth lle mae'r ffilm mewn sawl categori iaith, neu hyd yn oed yn y categori iaith anghywir - fel arfer mae'r wybodaeth i'w gael ar IMDB.Llygad Ebrill (sgwrs)14:07, 17 Hydref 2024 (UTC)Ateb
Fel y dywedais uchod, diolch am eich amynedd. Fy mlaenoriaeth ydy tudalenau poblogaidd, sy'n cael eu gweld yn aml ee2024; byddaf mewn sefyllfa i droi at ffilmiau yn ystod yr wythnosau nesaf. Yn fyr:
1. 'Mae angen dat-gyfieithu'r holl deitlau "Cymraeg"' - i wneud hyn, bydd yn rhaid canfod y gronfa ddata wreiddiol. Mi wnaf hynny.
2. Rwyt yn galw'r teitlByddwch Yno Neu Byddwch Sgwâr yn ddwl. Pawb a'i farn. Ond dyma iaith sy'n ffyrnigo golygyddion; bydd yn ofalus os gweli di'n dda. Roedd sawl dewis: defnyddio'r ffont Fandarin wreiddiol, defnyddio'r Fandarin wreiddiol mewn llythrennau Rhufeinig, defnyddio'r teitl Saesneg swyddogol neu ddefnyddio'r Gymraeg gydag addasiad o unrhyw un o'r uchod. Aethpwyd am y trydydd, ar ol trafodaeth yn y Caffi.Be There or Be Square fyddai darllenwr Cymraeg yn ei ddarllen yn Netflix ac Amazon Prime, dyma fydden nhw'n ei gofio a byddai 不见不散 yn golygu dim. Edrych ar y Tsieinieg:Welai di Yno yw'r teitl. Yn Pinyineg:Bore Da! yw'r teitl. Pe cyfieithid y ffilm i'r Gymraeg, efallai maiY Fuwch a'r Afr fyddai'r teitl - does dim rhaid wrth gyfieithiad llythrennol, air am air. Mi faswn i'n dweud fod cyfieithu i'r Gymraeg o fersiwn Saesneg hefyd yn dderbyniol, gan mai'r fersiwn Saesneg mae gwylwyr yng Nghymru'n ei wylio, yn ei gofio ac yn chwilio amdano, ac nid gyda ffontiau annelwig nad ydyn nhw'n ei ddeall.
3. 'Film noir' - mi allaf newid 'ffim du' i'r term rhyngwladol amlieithog 'film noir' yn rhwydd, efo bot. Gellir newid i'r 'ffilm ddu', rwyt yn ei awgrymu. Mae 'ffilm ddu' i mi ymhell y tu hwnt i sgwrs naturiol Gymraeg, yn annaturiol, yn ramadegol glinigaidd, yn rhywbeth na fyddet yn ei glywed ar strydoedd Caernarfon, ac yn dilyn ffasiwn 'Dafydd Du', wrth gwrs! Genre ydyfilm noir, yn te, ac mae'r term Ffrangeg yn gwbwl dderbyniol. Mi gychwyna i newid y rhain.
Diolch eto am godi'r rhain; rho wybod os gweli ragor. Tydyn nhw ddim yn flaenoriaeth gen i, fel dw i'n dweud: os edrychi ar y stats, fe weli'n aml fod nifer yr ymweliaidau'n isel iawn (Botwm chwith 'Gwybodaeth am y dudalen', yna 'Nifer y gwylwyr tudalennau a ymwelodd yn ystod y 30 diwrnodau diwethaf'. Gan amlaf, 0 yw'r ateb. Efallai mai'r flaenoriaeth yw ffilmiau Netflix / Amazon Prime cyfoes sydd ag isdeitlau Saesneg - y rhain fydd yn cael eu gwylio yng Nghymru. Ac am erthyglau ar y rhain y bydd gwylwyr yn chwilio am wybodaeth Cymreag. Rhestr o ffilmiau yn ol poblogrwydd yng Nghymru fyddai'n dda.Llywelyn2000 (sgwrs)07:57, 7 Chwefror 2025 (UTC)Ateb
Diolch yn fawr am hyn - does dim brys wrth gwrs! Ond da fyddai cael pethau fel hyn yn iawn yn y pen draw, gan fod erthyglau fel hyn bellach yn rhan fawr o'r "corpws" o destun Cymraeg mae wicipedia yn ei gynnig i bobl a robotiaid fel ei gilydd.
Cytuno'n llwyr bodfilm noir yn rhagori ar "ffilm ddu".
Ymddiheuriadau am ddewis fy ngeiriau'n annoeth. Yr hyn ddylwn wedi ei ddweud, efallai, yw bod angen dat-gyfieithu'r teitlau ymayn fy marn i a bodblas cyfieithu peirianyddol ar bethau fel "Byddwch Yno Neu Byddwch Sgwâr" - dyna sut maen nhw'n taro fy nghlust i beth bynnag. Fy marn personol i yw nad oes lle i gyfieithiadau o'r fath ar wicipedia heb eu gwirio'n ofalus fesul un - yn sicr dim yn nheitl yr erthygl - rhywbeth i'w drafod ymhellach wrth ystyried prosiectau bas data yn y dyfodol efallai.
Helo bawb, Arbed y dyddiad yn eich calendr! Ar Ddydd Sadwrn 23 Tachwedd, 11am - 1pm, bydd WMUK yn cynnal Dathliad Cymunedol Wikimedia UK 2024. Rydym yn anelu at y digwyddiad ar-lein hwn i fod yn ddathliad o'r hyn y mae ein cymuned wedi'i gyflawni yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac yn gyfle i arddangos rhywfaint o'r gwaith anhygoel ar brosiectau Wiki sydd wedi bod yn digwydd ledled y DU.
Yn y digwyddiad, hoffem arddangos gwaith y mae aelodau'r gymuned wedi bod yn ei wneud yn ddiweddar trwy gyfres o sgyrsiau mellt. Byddem yn wirioneddol hoffi clywed am yr hyn nad ydym ni, neu aelodau eraill o’r gymuned efallai wedi clywed amdano. Mae'n aml fod llawer iawn o waith yn cael ei wneud gan Wicimediwr nad yw eraill yn ei weld. Felly dyma wahoddiad i rannu’r hyn rydych wedi bod yn ei wneud mewn cyflwyniad byr o 5 munud neu lai.
Ydych chi wedi gwneud rhywbeth diddorol gyda set ddata ar Wikidata? Efallai bod chi wedi llwyddo i ddod o hyd i ffynhonnell o'r diwedd i drwsio'r erthygl yna rydych chi wedi bod yn sbïo arni am y ddau fis diwethaf? A wnaeth eich gwaith ar erthygl Wicipedia arwain at ddarganfod stori ddiddorol iawn? A wnaethoch chi lwyddo i gael delwedd â thrwydded agored sydd wedi trawsnewid erthygl? …ac yn hollbwysig, a hoffech chi rannu eich stori?Defnyddiwr:Rupal Karia WMUK
Sylw diweddaraf:blwyddyn yn ôl25 sylw3 pherson yn trafod
Rwyf newydd osodTri Wyr o Sodom a'r Aipht ar Wicidestun, oherwydd bod y testun yn cael ei grybwyll yn yr erthygl wych amY nofel Gymraeg. Rwy'n gobeithio ategu trawsgrifiadau o bob llyfr arall, sydd o fewn fy ngafael, i gefnogi'r erthygl. Nid prosiect ar wahân i Wicipedia yw Wicidestun, ond chwarel ffynonellau i erthyglau.One liner yw erthyglEbenezer Richard ar hyn o bryd, mae llyfr a ddau erthygl amdano ar gael yn [[s:Categori:Ebenezer Richard|Categori:Ebenezer Richard]], cyfoeth i wella'r erthygl! Oni bai bod erthyglau Wicidestun yn cael eu defnyddio i greu a gwella erthyglau Wicipedia, gwe pry cop mewn ystafell wag ydynt. Da chwi olygyddion, defnyddiwch hwy!AlwynapHuw (sgwrs)03:17, 28 Medi 2024 (UTC)Ateb
Diolch Alwyn am dy holl waith diflino, a'th ddyfalbarhad. Duda mod i'n defnyddio gwybodaeth o'r dudalenhon, yna sut mae cyfeirio at y ffynhonnell yma? Mi faswn yn disgwyl botwm bach (fel sydd gan y Bywgraffiadur ar eu safle nhw); neu ddefnyddio'r cyfeiriad llawn at y dudalen?
Mae'r hyn sydd ar Wicidestun yn sail gadarn i erthyglau Wicipedia, ac efallai fod angen tudalen syml yn dangos sut i ddefnyddio'r testun cyfoethog yma a sut i gyfeirio at y ffynhonnell.Llywelyn2000 (sgwrs)07:04, 5 Hydref 2024 (UTC)Ateb
Ffordd cymleth: defnyddio y nodyn cyfeirio at lyfr <ref>{{Cite book|title=Bywyd y Parch. Ebenezer Richard|last=Richard|first=Henry|publisher=W. Clowes a'i feibion|year=1839|location=Llundain|pages=28|last2=Richard|first2=Edward|chapter=[[s:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard/Pen III|Bywyd y Parch. Ebenezer Richard Pen III ar Wicidestun]]}}</ref>:: Ffordd syml - defnyddio dolen fewnol Wici gan ddefnyddio s: ar ei ddechrau i ddynodisource <ref>[[s:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard/Pen III|Bywyd y Parch. Ebenezer Richard Pen III]]</ref> [[s:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard/Pen III|Bywyd y Parch. Ebenezer Richard Pen III]]Bywyd y Parch. Ebenezer Richard Pen III (at y tudalen wedi ei drawsysgrifio) neu [[s:Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/39|Bywyd y Parch. Ebenezer Richard Pen III tud 28 ]]Bywyd y Parch. Ebenezer Richard Pen III tud 28 (i'r tudalen indecs). Noder mai 39 yw rhif y tudalen indecs ar Wicidestun a 28 y rif tudalen y llyfr — sef yr hyn sydd ei angen mewn cyfeirnod
@AlwynapHuw:Yn fy marn i byddai'n well, yn hytrach na rhoi dolenni i'r tudallenau Wicidestun ar yr erthygl, creu erthyglau newydd ar gyfer y testunau, wedyn rhoi dolen i Wicidestun o fana. O ddarllen erthygl mae rhywun yn disgwyl i'rin-text citations", y cyfeiriadau hynny yw, gefnogi'r datganiadau a wneir; yn hytrach na bod yn ddolenni at rywbeth gwahanol.Figaro (sgwrs)13:01, 10 Hydref 2024 (UTC)Ateb
Dim yn sicr be wyt ti'n golygu wrth "greu erthyglau newydd ar gyfer y testunau". Copi o'r llyfr sy'n cael ei drafod yn yr erthyglWilliam Jones (nofel) yw'rtestun ar Wicidestun. Sefydliad Wikimedia sydd wedi creu'r modd o ddolenni mewnol uchod rhwng y gwahanol brosiectau, gan eu bod yn credu bod defnydd iddynt, am wn i. Mae modd eu defnyddio fel dolenni mewn brawddeg heb beri dryswch ee "Un o lyfrau mwyaf poblogaidd T. Rowland Hughes ywWilliam Jones; (trawsgrifiad ar gael ar Wicidestun)," neu fel cyfeirnod "Un o lyfrau mwyaf poblogaidd T. Rowland Hughes ywWilliam Jones
Baswn i'n disgwyl i'r cyfeiriad ar ddiwedd y frawddeg "Un o lyfrau mwyaf poblogaidd T. Rowland Hughes yw William Jones" fod at waith ysgolheigaidd (neu ffynhonnell arall) yn cefnogi'r datganiad mai WJ yw un o'i weithiau mwyaf poblogaidd - nid yn gyfeiriad at destun y llyfr, nad yw'n cefnogi'r datganiad y naill ffordd neu'r llall.Figaro (sgwrs)22:20, 12 Hydref 2024 (UTC)Ateb
Nid ddatganiad o ffaith, na dyfyniad o'r erthygl yw "Un o lyfrau mwyaf poblogaidd T. Rowland Hughes yw William Jones". Brawddeg ddychmygol ydyw, peg dillad ar gyfer creu enghraifft o sut i ddefnyddio rhan o gystrawen fewnol Wici fel dolen neu gyfeirnod i wybodaeth ar ran arall o'r Wici Cymraeg.AlwynapHuw (sgwrs)23:29, 12 Hydref 2024 (UTC)Ateb
Ie ond fy mhwynt yw y baswn i'n disgwyl i bob gyfeiriad fod at ffynhonell i gefnogi'r hyn mae'r frawddeg dan sylw newydd ei ddatgan.Figaro (sgwrs)21:43, 13 Hydref 2024 (UTC)Ateb
Pe bai hwn yn edefyn am rinweddau T Rowland Hughes fel llenor, mi fyddai gen ti bwynt, ond tydi o ddim, mae'n edefyn am ddefnyddio a chysylltu rhwng y gwahanol ganghennau o Wici. Mae William Jones, boed yma, ar Wiciddyfynu, Wicidestun, Comin, Wiciddata ac ati ddim yn berthnasol. Yr hyn sydd yn berthnasol yw bod y gystrawen dolennu enghreifftiol (pwnc yr edefyn) yn berffaith gywir. Pe bawn wedi dweudGanwyd Lloyd George yng Nghaerdydd<ref>[[s:Drych yr Amseroedd]]</ref>, mi fyddwn yn 100% cywir o ran rhoi enghraifft o sut i ddefnyddio'r gystrawen dolen fewnol.AlwynapHuw (sgwrs)00:50, 14 Hydref 2024 (UTC)Ateb
Yr hyn rwy'n ceisio'i ddweud yw na ddylir defnyddio cyfeirnodau o fewn tesun i roi gwybod i'r darllenydd bod rhywbeth ar gael ar wicidestun (er enghraifft, fel rydych chi wedi gwneud yn yr erthygl ar y Nofel Gymraeg yn achos y Bardd Cwsg a Tri Wyr o Sodom). Nid dyna beth mae cyfeirnodau i fod i'w wneud. Pwrpas cyfeirnod yw cynnig ffynhonell i gefnogi datganiad.Figaro (sgwrs)08:47, 14 Hydref 2024 (UTC)Ateb
Os felly mae dy farn di a barn Sefydliad Wici rhyngwladol yn wahanol, ac yn wir byddai y rhan fwyaf o sefydliadau academaidd yn anghytuno efo ti hefyd. Os wyt ti'n sôn am lyfr, dylid rhoi gwybodaeth ddigonol i alluogi dy ddarllenydd caffael ar y llyfr i'w darllen ei hun. Mae cyfeiriad at gopi ar Wicidestun, Google Books, Internet Archive ac ati yn frith ym mhob iaith. Rwy't yn sôn yn dy erthyglY nofel Gymraeg am "Llyfr y Tri Aderyn (1653) gan Morgan Llwyd a Gweledigaethau y Bardd Cwsc (1703) gan Ellis Wynne, a rhai o weithiau rhyddiaith Williams Pantycelyn fel Tri Wŷr o Sodom (1768). "Fel enghreifftiau o lyfrau crefyddol allgarol Cymraeg, sydd ddim fel arfer yn cael eu hystyried yn nofelau yn yr ystyr fodern", heb gyfeiriad i gefnogi dy haeriad. Gan fy mod i wedi darllen y tri, rwy'n cydsynio efo dy osodiad. Ond sut wyddost ti? Mae'n ymddangos dy fod yn dibynnu a'r farn 'Y Nofel Gymraeg Gynnar' gan Gerwyn Williams, (1999), sydd yn dyfynnu o gyflwyniad Dafydd Jenkins i Helyntion Hen deiliwr (Y Clwb Llyfrau Cymraeg 1940), gwybodaeth trydedd law! Be sydd well, rhoi cyfle i bobl darllen y gweithiau gwreiddiol, neu ddibynnu ar dy honiad trydydd dosbarth di? Mae Wikisource ar gael mewn 78 o ieithoedd, fel modd i gadw testunau ar gyfer eu defnyddio fel cyfeiriadau i erthyglau pynciol ar Wicipedia. Mae pob erthygl yn gynllun cydweithredol, does dim "erthygl fi" yn bodoli yma. Mae bod yn biwis bod eraill wedi ymyrred ag "erthygl fi" yn wrthyn i ethos Wici Mae gennyf gopiau o nifer o'r llyfrau rwyt yn cyferio atynt, mi fyddwyf yn eu defnyddio fel cyfeiriadau yn dy erthyglAlwynapHuw (sgwrs)02:28, 15 Hydref 2024 (UTC)Ateb
Mae yna lawer o haeriadau a beirniadaethau personol cwbl anheg a di-sail yn y sylw uchod.
Dydy testun "Tri wyr o Sodom" (er enghraifft) ddim yn dystiolaeth cefnogol i ddatganiad amnatur y testun hwnnw (er enghraifft "nid nofel yw'r testun yma"). Pe bai e, gellid ei ddefnyddio i gefnogi bron iawnunrhywbeth am y testun. Rwy'n methu â chyfleu'r pwynt yn symlach na hynny. Does dim yn academydd yn y byd fyddai'n derbyn "tystiolaeth" felly.
Os ydych chi'n dymuno camddeall a bod yn bersonol drwy wneud honiadau anheg (e.e. fy mod in sôn am "erthygl fi" - rhywbeth nad ydw i wedi'i ddweud o gwbl!) yna dydw i ddim yn dymuno parhau a'r drafodaeth.Figaro (sgwrs)09:14, 15 Hydref 2024 (UTC)Ateb
Gyda llaw, baswn i'n dweud bod eich dull a'ch dadl chi yn yr achos hwn yn mynd yn erbyn egwyddor "No Original Research" -
"Even with well-sourced material, if you use it out of context, or to state or imply a conclusion not directly and explicitly supported by the source, you are engaging in original research... Drawing conclusions not evident in the reference is original research regardless of the type of source." (Ymddiheuriadau am y Saesneg, methu cael hyd I fersiwn Cymraeg o'r dudalen).
Cydnabod y dyliwn I wedi cefnogi'r datganiad am natur y gweithiau alegorïol gyda ffynhonnell - ond dydy'ch newidiadau chi heb wneud hynny.Figaro (sgwrs)10:02, 15 Hydref 2024 (UTC)Ateb
Sut yn y byd yw cyfeiriad at destun gwreiddiol llyfr yn groes i'r rheolno original research? Sut mae dweudDyma'r Llyfr yn gyfystyr aDrawing conclusions?. Os yw awdur traethawd neu erthygl yn crybwyll gwaith (llyfr, llawysgrif, erthygl, cerdd ac ati) rhaid rhoi gwybodaeth i'r darllenydd sut mae modd caffael ar y gwaith dan sylw. Diwerth yw cyfeiriadau at adolygiadau, barn academaidd, erthyglau ac ati am natur neu werth gwaith heb fod modd eu gwirio yn erbyn copi o'r gwaith. Ti'n hollol gywir wrth ddweud"Dydy testun "Tri ŵyr o Sodom" (er enghraifft) ddim yn dystiolaeth gefnogol i ddatganiad am natur y testun hwnnw, mae'n fwy sylfaenol na hynny, mae'n brawf bod y gwaithyn bodoli. Heb y prawf sylfaenol hwn, mae fy marn i dy farn di, barn Gerwyn Williams, barn Dafydd Jenkins a barn unrhyw un arall am y gwaith megis rhech mewn corwynt. Nid wyf wedi darllenY Nofel Gymraeg Cynnar gan Gerwyn Williams, (1999), ond mae cyflwyniad Dafydd Jenkins iFywyd Hen Deiliwr o'm mlaen i nawr. Yn unol ag arfer academaidd da mae Dafydd yn cynnwys llyfryddiaeth lawn, sydd yn galluogi ei ddarllenwyr i ymofyn copi o bob nofel a lled nofel mae'n crybwyll yn ei ragymadrodd. Mae ei lyfryddiaeth hefyd yn fy ngalluogi i i chwilio fy silffoedd llyfrau, chwilota mewn llyfrgelloedd a phori siopau llyfrau ail law i gael gafael ar y llyfrau mae'n cyfeirio atynt er mwyn i mi gael eu gosod ar Wicidestun fel nad oes raid i neb arall tagu ar lwch yr oesoedd er mwyn cael gafael arnynt. Os nad wyt am gael dolenni mewnol neu gyfeirnodau waelod y tudalen i'r llyfrau rwyt yn eu crybwyll yn yr erthygl fel esiamplau gai awgrymu dy fod yn ychwanegu adran llyfryddiaeth ar waelod yr erthygl gydaNodyn:Cite book wicipedia ar gyfer pob un <ref>{{Cite book|title=teitl|last=Cyfenw|first=Enw bedydd|publisher=cyhoeddwr|year=blwyddyn|isbn=|location=lleoliad cyhoeddi|url=URLmewnosod URL fersiwn ar-lein o'r llyfr neu ddetholiad, os yw ar gael}}</ref>AlwynapHuw (sgwrs)16:17, 15 Hydref 2024 (UTC)Ateb
Mae'n "drawing conclusions" oherwydd nid yw'r peth mae'r cyfeirnod yn cyfeirio ato (Tri wŷr o Sodom ar wicidestun) yn cefnogi'r honiad yn y frawddeg (na fyddai pobl yn ystyried alegorïau crefyddol cynnar yn nofelau yn yr ystyr fodern).
Baswn i ddim yn erbyn rhestr ar waelod y dudalen fel math o lyfryddiaeth, ond mewn gwirionedd onid y ffordd arferol ar wicipedia o "brofi bod rhywbeth yn bodoli" - mewn erthygl ar bwnc llawer ehangach - yw dolen at dudalen wicipedia y "rhywbeth" hynny? Sef, hynny yw, beth mae'r erthygl eisoes yn ei wneud. Cofiwch hefyd bod dwsinau o nofelau'n cael eu crybwyll yn yr erthygl - byddai rhaid rhoi pob un ohonynt yn y llyfryddiaeth er mwyn cysondeb, fyddai'n waith eitha mawr a dibwrpas gan fod dolenni eisoes at y dudalennau'r llyfrau penodol.
Yr lle mwyaf priodol ar wicipedia i ddolen at WicidestunTri Wŷr yw ar y dudalenTri Wŷr o Sodom. Os nad yw'r dudalen honno'n bodoli yna yr ateb yw ei chreu - dyna beth oeddwn i'n cyfeirio ati wrth sôn am greu tudalennau newydd.Figaro (sgwrs)21:52, 15 Hydref 2024 (UTC)Ateb
Dydy cyfeiriad at lyfr ar Wicidestun, Google Books, Internet Archive ac ati, dim yn "drawing conclusions" gan gyfrannydd i'r erthygl, mae'n rhoi cyfle i'r darllenydd cael gaffael ar y llyfr er mwyn iddo greu ei farn ei hun tu allan i faes Wicipedia. Mae'n gyfeiriad at ffynhonnell dibynadwy gellid gwirio yr erthygl Wici, adolygiadau, beirniadaethau, ac ati yn ei erbyn. Mae'n tu hwnt i'n nirnadaeth i pam dy fod am greu erthygl am y "Nofel Gymraeg" heb creu modd i dy ddarllenwyr darllen yn nofelau rwyt yn sôn amdanynt, ac yn gwrthwynebu cysylltiadau iddyntAlwynapHuw (sgwrs)00:40, 17 Hydref 2024 (UTC)Ateb
Yr lle mwyaf priodol ar wicipedia i ddolen at WicidestunTri Wŷr o Sodom
Unwaith eto dach chi'n fy nghyhuddo i o bethau gwirion ac anheg; gan ddweud nad ydw i eisiau cysylltiadau at wicidestun o dan esboniad o ble dwi'n meddwl dylai'r union gysylltiadau hynny fod. A dwi erioed wedi awgrymru defnyddio wicipedia fel ffynhonnell ar wicipedia. Fi'n methu deall sut allech chi wedi neidio i gasgliad hurt o'r fath.
Mae gwahaniaeth (yn amlwg) rhwngdolen a chyfeiriad<ref>fel hwn.</ref>
Dadlau ydw i mai'r lle priodol i gyswllt at wicidestun yw ar yr erthygl am y testun hwnnw. Byddai hynny'n rhoi pob testun ar wicidestun a grywbyllir yn yr erthygl 2 glic i ffwrdd o'r darllennydd gan bod yr erthyglau ar y llyfrau dan sylw eisoes un glic i ffwrdd (diolch i'r dolenni atynt sydd eisoes yma). Sut yn y byd ydy hynny'n golygu nad ydw i eisiau i bobl allu cael mynediad at y testunau?
O ddilyn eich awgrym (rhyfedd ac ansafonol) chi - sef y dylid rhoi cyfeirnod bob tro y crywbyllir llyfr ar wicipedia - byddai'r erthygl yn frith o gyfeiriadau; 3-4 gwaith yn fwy na sydd yno eisoes a'r mwyafrif helaeht ohonyn nhw ddim at ffynhonellau o gwbl ond dim ond yn "dangos bod testun yn bodoli".
Edrychwch ar yr erthygl yma [[1]] - yn yr adran gynta yn unig sonir am 18 o nofelau yn y parth cyhoeddus heb deimlo'r angen i roi dolenni i brofi eu bod yn bodoli (Ond sylwch! O glicio trwodd at erthyglau'r 18 nofel maepob un yn cynnig dolenni i Project Gutenberg, Standard eBooks ac ati ar dudalennau'r erhyglau hynny).Figaro (sgwrs)19:45, 18 Hydref 2024 (UTC)Ateb
Mae'n ddrwg gennyf, ond nid ydwyf i yn troi mewn cylchoedd; rwyf yn sefyll yn fy unfan tra yr wyt ti yn troelli. Mae dadlau bod angen "lle priodol i gyswllt at wicidestun yw ar yr erthygl am y testun hwnnw, yn nonsens". Nid "erthyglau" yw'r hyn sydd ar Wicidestun ond "testunau". Nid erthyglau am "Tri Ŵyr o Sodom a'r Aipht" na "William Jones (Nofel)" sydd ar Wicidestun ond trawsysgrifau triw i'r testunau gwreiddiol. Sut mae modd creu erthygl ar wahân rhwng William Jones Wicipedia a William Jones Wicidestun?. Os caf amser mi ysgrifennaf erthygl am "Tri Ŵyr o Sodom a'r Aipht", os na chaf amser mae'r cyfeiriad at y testun yn gywir a dibynol. Barn Wikimedia Foundation, nid fy marn i, yw bod cyfraniadau teg prosiect Wicidestun yn dderbyniol fel cyfeiriadau Does dim o'r fath beth ag "erthygl fi" ar Wikipedia, does dim mo'r hawl gen ti i wrthwynebu cyfeiriadau rhwng wici Cymraeg parthed erthyglau a chychwyned gennytAlwynapHuw (sgwrs)05:04, 26 Hydref 2024 (UTC)Ateb
Rwyn methu deall pam nad ydych chi'n deall beth dwi'n ei esbonio. Mae gan bawb hawl i anghydsynio, wrth gwrs; ond ym mhob neges rydych chi'n dangos nad ydych chi wedi deall fy nadl ac wedyn yn mynd ati i ymosod ar safbwynt nad ydyw i wedi'i fynegi.
Ar wicipedia mae erthygl X am lyfr (neu gall fod).
Mae erthygl erall, erthygl Y (er enghraifft am gysyniad fel "y nofel") gyda dolenni i'r erthygl am y llyfr.
Yn fy marn i, ar erthygl X dylai'r ddolen i'r llyfr ar wicidestun fod; *nid* ar erthygl Y, ymhlith cyfeiriadau at ffynhonellau academaidd ac ati. Does dim angen cyfeiriad i "brofi bod rhywbeth yn bodoli" os yw'r rhywbeth hynny'n destun erthygl ar wicipedia. O ddilyn eich rhesymeg i'w gasgliad abswrd, byddai angen cyfeirnod bob un tro y crybwyllir unrhyw lyfr yn rhoi manylion bywgraffiadol y llyfr hwnnw, sy'n amlwg yn hurt - ydych chi'n bwriadu mynd drwy'r chwarter miliwn o erthyglau i weithredu hynny?
Croeso i chi anghytuno wrth gwrs a gwneud fel y mynnoch. Dwi ddim yn ystyried dim byd y gwnaf ar wicipedia yn "erthygl fi" (eich geiriau chi erioed; nid fi); y cwbl dwi'n ei wneud yw mynegi fy marn bersonol i am sut a pham y dylir strwythuro pethau. Onid pwrpas y lle hwn yw penderfynu ar weithdrefnau i'w dilyn? Awgrymaf felly'n bod ni'n dau bellach yn gadael i eraill benderfynu eu barn, gan nad yw'n ymddangos y byddwn yn cydweld.
Rhaid i mi ddweud gyda llaw bod y ffordd rydych chi'n ymateb i bobl eraill yn mynegi eu barn - drwy eu cyhuddo o bob math o nonsens - yn awgrymu'r gwrthwyneb; ac mai chi yw'r un sy'n cael trafferth delio â phobl sydd eisiau gwneud pethau fel arall i chi.Figaro (sgwrs)20:50, 26 Hydref 2024 (UTC)Ateb
Mae'n amlwg nad wyt ti yn ddeallt natur Wicidestun. Does dim erthyglau ar y safle, dim ond testynau. Yr unig modd i greu "erthygl" amTri Wyr o Sodom a'r Aipht yw trwy greu erthygl am y testun ei hun, nid trwy greu erthyglau at y tesun ar Wicidestun, nac erthygl eraill am yr un destun ar safle'r Llyfrgell Genedlaethol, ac eto byth at y dau fersiwn ar Google Books, ac erthygl eraill ar brosiect Guttenburg a'r Hithu Trust ac ati. Mi fyddai'n braf cael erthygl amTri Wyr o Sodom a'r Aipht, efo cysylltiadau at y manau lle mae ar gael, ond erthygl am "Tri Wyr o Sodom" gan Pantycelyn byddai hynny, nid erthygl am y copiau o'r testun, lle mae'r testun ar gael.
Welodd rywun y cwestiwn hwn ar y Chase? (4 Hydref 2024) - fideo 30 eiliad[2]
Chwarae teg i Bradley am ei ynganiad perffaith. Roedd Clive o Gaerdydd yn ateb yn dda iawn ond fei neidiodd yn rhy gyflym i'r ateb penodol hwn!Dafyddt (sgwrs)19:26, 5 Hydref 2024 (UTC)Ateb
Helo gyfeillion, dwi wedi sgwennu rhai cofnodion ar glybiau golff Caerdydd - er nad oes gen i ddim diddordeb mewn golff ond teimlo y byddai'n werthfawr i'r math o bobl sy'n ymuno gyda'r clybiau yma weld y Gymraeg am eu clwb. Dwi wedi cael neges i ymhelaethu ar yr erthygl arClwb Golff Llanisien - mae'r erthygl yn hwy na'r un Saesneg, ac ar filoedd o erthyglau (bid siŵr) ar y Wicipedia. Does dim llawer mwy i'w ddweud am y clwb. Ydw i wedi methu rhywbeth? Beth yw'r broblem?Stefanik (sgwrs)11:53, 8 Hydref 2024 (UTC)Ateb
Sori am y neges aneglur ar y dudalen sgwrs - i'r gwrthwyneb, dw i'n teimlo'n bersonol bod yr erthygl yn rhy hir. Mae angen ei phrawfddarllen yn ofalus ar ei hud (gw. cymalau od dw i'n eu dyfynnu ar y dudalen sgwrs) neu ei chwtogi er mwyn gwneud y dasg honno'n haws. Mae gen i hyd yn oed yn llai o ddiddordeb mewn golff na ti, felly nid fi yw'r un ar gyfer y gwaith!Llygad Ebrill (sgwrs)12:53, 8 Hydref 2024 (UTC)Ateb
HaiaStefanik - Sion. MaeLlygadebrill wedi awgrymu ar y dudalen sgwrs rhai cywiriadau i ti. Dw i'n meddwl mai gofyn i ti ddenyddio idiomau Cymraeg yn hytrach na chyfieithu'r rhai Saesneg yw byrdwn ei neges. Byddai hynny'n beth da. Cofion cynnes...Llywelyn2000 (sgwrs)10:51, 9 Hydref 2024 (UTC)Ateb
iawn, dwi'n deall nawr. Wedi gwneud bach o dwtio, gobeithio ei fod yn lân nawr. Dwi'm yn meddel ei fod yn rhyw hir - mae'n braf cael erthygl hwy na'r un Saesneg i ddangos unrhyw snobs Cambroffobig y clwb golff (a'r Cymry Cymraeg sydd yno hefyd) o werth y Gymraeg.Stefanik (sgwrs)13:41, 9 Hydref 2024 (UTC)Ateb
@Llywelyn2000 @Llygadebrill yn dilyn y drafodaeth amWrth aros Godot, credaf mai dyma'r adeg i godi'r pwynt ynglŷn â'r patrwm / rheol o enwi erthyglau Cymraeg, sy'n trafod [neu yn gyfieithiad (i fod)] o ddrama mewn iaith arall, gyda'r teitl Gymraeg yn hytrach na'r gwreiddiol. MaeRhianedd Jewell yn dadlau yn ei chyfrolHer a Hawl Cyfieithu Dramâu SL bod y "cyfieithiadau" yma, sydd weithiau yn fwy o "addasiadau" yn haeddu cael eu trin fel dramâu newydd. Mae hyn yn mynd yn groes i'r patrwm / rheol? yma ar Wicipedia. Beth yw'r peth calla' a mwya derbyniol i'w wneud, gan bod hyn am godi dro ar ôl tro. Beth ddywed y Sanhedrin Wicipediaidd am hyn?Paulpesda (sgwrs)07:24, 8 Hydref 2024 (UTC)Ateb
Gofynner ynWicipedia:Y_Caffi (wedi i saga Godot dawelu efallai;). Yn bersonol dw i'n cefnogi dy resymeg, belled bod werth cwpl o baragraffau (paragraffau go iawn, dim rhai bas-data!) i'w ddweud am y ddrama Gymraeg dan sylw - ond yn y Caffi mae'r Sanhedrin yn cwrdd!Llygad Ebrill (sgwrs)12:46, 8 Hydref 2024 (UTC)Ateb
@Paulpesda,Llygadebrill,Figaro-ahp: Ia, sgwrs ddiddorol. Dwi'n cofio rhywun yn dweud, ryw dro, fod pob cyfieithiad gwerth ei halen yn greadigaeth / yn waith newydd! Bid a fo am hynny: fel pob erthygl ar Wicipedia, mae'n rhaid mesur a phwyso'r gwaith gyda'r llinyn mesur hollbwysig o: - pa mor nodedig yw'r gwaith hy defnyddio'r criteriaamlygrwydd (notability)? Yn gyffredinol, mae un erthygl sy'n cynnwys yr holl gyfieithiadau'n well na thameidiau fan hyn, fan draw. Ond os oes tystiolaeth fod y cyfieithiad / addasiad yn un nodedig, unigryw, gyda'r beirniaid llenyddol yn ei godi i'r cymylau fel gwaith newydd, yna fe ddywedwn i ei fod yn haeddu erthygl gyfan ar ei liwt ei hun. Os yw Rhianedd Jewell ac un arall yn nodi hyn am ddrama/au SL, yna mae'n ateb gofynion ein polisiWicipedia:Amlygrwydd.Llywelyn2000 (sgwrs)11:16, 9 Hydref 2024 (UTC)Ateb
Cytuno yn gyffredinol efo'r sylw uchod. Does ddim angen dwsinau o erthyglau ar wahân am bob cyfieithiad neu addasiad oRomeo and Juliet ac ati. Ond pan fo un o'n llenorion amlycaf wedi cyfieithu un o ddramâu mawr y byd i'n hiaith ni, ac mae wedi ei berfformio gan ein cwmnïau drama flaenllaw, mae 'na stori fach arall i'w hadrodd yma ar wahân i stori'r prif waith. Rwy'n credu'n sicr bod lle am erthyglau amWrth Aros Godot,Y Claf Di Glefyd,Tan y Wennallt ac ati; cyn belled â'u bod yn erthyglau annibynnol sydd ddim yn ail bobi gormod o'r hyn sydd yn y brif erthygl.AlwynapHuw (sgwrs)00:05, 10 Hydref 2024 (UTC)Ateb
Gormod o ail adrodd o ran fy chwaeth i, ond yn sicr digon o wybodaeth Cymreig unugryw i gyfiawnhau'r erthygl Cymraeg amWrth Aros Godot! Cynnig cyngor a chymorth sydd ei angen, nid beirniadaeth flin!AlwynapHuw (sgwrs)01:42, 17 Hydref 2024 (UTC)Ateb
Ie, a'r cwbl wedi'i ychwanegu ar ol i mi wneud y sylwad gwreiddiol ar 3ydd hydref yn cwestiynu pwrpas cael dwy erthygl ar wahan! Doedd dim beirniadaeth yn y sylwad; dim ond dsgrifiad teg o'r dudalenWrth aros Godot fel ag yr oedd hi pan ymwelais i â'r dudalen ar ddechrau'r mis. Rwy'n dal i gredu y byddai un erthygl fawr gyda'r holl wybodaeth yn well, yn bersonol; ond yn sicr mae llai o wrthwynebiad gen i os yw'r ddwy erthygl yn ddigon gwahanol i'w gilydd.Figaro (sgwrs)19:53, 18 Hydref 2024 (UTC)Ateb
Ymholiad sydyn [ymddiheuriadau os yw'r ateb eisioes ynghanol y môr o gyngor - methu ei ganfod o sgota sydyn]. Wrth nodi'r cynyrchiadau drama neu deledu mae'r actor wedi bod yn rhan ohonynt, beth yw'r ffordd mwya derbyniol o wneud hynny. Eu rhestru fel hyn mewn paragraffRomeo a Juliet (2004),Plas Drycin (2005),Hen Rebel (2005),Dominos (2006) ta mewn rhestr fel hyn:
Helo bawb. Neges isod gan WMUK - Bydd e'n wych gweld enwau o'n gymuned ni yn y mix!
Mae WMUK yn hapus i gyhoeddi bod enwebiadau ar agor ar gyfer GwobrauWicimediwr y Flwyddyn y DU 2024. Rydym yn gofyn i chi enwebu unigolion a sefydliadau sydd wedi bod yn rhan o ymdrechion Wikimedia UK i hybu gwybodaeth agored yn 2023/24. Y categorïau ar gyfer eleni yw:
Wicimediwr y Flwyddyn y DU (Unigolyn)
Partneriaeth y Flwyddyn (Sefydliad)
Wikimediwr Neywdd (Up and coming) (Unigolyn)
Rydym yn chwilio am bobl a phartneriaethau o fewn cymuned Wikimedia UK sydd wedi gwneud argraff fawr arnoch gyda'u gwaith gwybodaeth agored, yn 2023/24. Rydym yn arbennig o awyddus i glywed am bobl a sefydliadau a gyflawnodd brosiectau sy'n mynd i'r afael â'n themâu strategol, sef Tegwch Gwybodaeth, Llythrennedd Gwybodaeth, a'r Hinsawdd a'r Amgylchedd. Bydd enwebiadau'n cael eu beirniadu gan aelodau'r Pwyllgor Datblygu Cymunedol a chyhoeddir yr enillwyr yn y Dathliad Cymunedol ar Dydd Sadwrn 23 Tachwedd 2024.
Braidd yn siomedig bod y cymhwyster iaith ar gyfer y swydd yw "Cymraeg ar lefel dysgwyr". Oni ddylai cymhwyster ar gyfer "rheolwr" prosiectau Wici yn yr iaith Gymraeg bod a galluoedd Cymraeg uwch na rhuglder cyffredinol?AlwynapHuw (sgwrs)03:56, 30 Hydref 2024 (UTC)Ateb
Haia Sion! Cyn dod at y cyfuno: dw i wedi ffeirio dwy wybodlen. Mae na fwy o eitemau perthnasol i lefydd yn y Nodyn:Lle. Tri / Tair prif nodyn sydd i gyd: Lle, Person a Phethau.
O ran y cyfuno, mae na ffordd haws - sef jyst dileu'r hyn sydd weddill! Dw i wedi methu, fel ti, cyfuno yn y gorffennol, a rhyw wali yn bygwth fy nhaflu allan o WD am nad oeddwn wedi gadael nodyn yn y Caffi / y gymuned yn nodi hynny! Tydy'r ffordd dw i'n ei awgyrmu ddim yn cael ei argymell, ond mae'n llawer haws! Unwaith y mae'r dudalen yn wag, fe ddaw bot heibio fel rhyw jac codi baw a'i ddileu. Cofion fil...Llywelyn2000 (sgwrs)13:19, 12 Tachwedd 2024 (UTC)Ateb
Diolch Robin. Wnes i geisio dileu y gwahanol sydd yn y gwahanol is-fylchau 'mynegiadau' yn y Wikidata (e.e. lle) ai dyna sydd angen dileu? Neu oes modd dileu y dudalen WD i gyd h.y. y cofnod Q131152713? Beth bynnag, wedi dileu y mynegiadau i ddechrau!Stefanik ({{Sgwrs Defnyddiwr:Stefanik|sgwrs)13:35, 12 Tachwedd 2024 (UTC)]]Ateb
Ia - y Mynegiadau, yr Identifiers a'r teitl ar y brig. Gan i ti wneud hynny, mae'r bot wedi dileu'r 'dudalen i gyd'. Gwira fod y wybodlen bellach yn mynd i'r dudalen gywir (efo'r ddwy iaith arall). Mae o ar fy nghyfrifiadur i.Llywelyn2000 (sgwrs)15:06, 12 Tachwedd 2024 (UTC)Ateb
Ar yDudalen Sgwrs, dw i wedi awgrymu newid y teitl iHil-laddiad y Palesteiniaid gan Wladwriaeth Israel, 2023‒24. Unrhyw deimladau am hyn? Mae llawer o wledydd y byd bellach yn defnyddio'r gairhil-laddiad am yr hil-laddiad sy'n digwydd yno. Diolch. ON Ymateb ar y Dudalen Sgwrs yn hytrach nag yn fama, os gwelwch yn dda.Llywelyn2000 (sgwrs)13:26, 12 Tachwedd 2024 (UTC)Ateb
Mae Defnyddiwr newydd dienw wedi creu nifer o Fodiwlau a Nodion (templates) ar bel-droed. Efallai eu bod yn lân eu cod; efallai nad ydynt. Roedd un yn cynnwys data cuddiedig. P'un bynnag, dw i ddim yn meddwl y dylem dderbyn codio fel hyn gan ddefnyddiwr dienw nad yw wedi trafod unrhyw beth o gwbwl gyda'n cymuned, yma yn y Caffi neu ar ei dudalen defnyddiwr. Mae'n rhy beryglus. Rydyan ni wedi trafod a chytuno yn y gorffennol ein bod yn analluogi defnyddwyr newydd rhag golygu. Gwnes gais ar Meta, ond ni chafodd ei dderbyn.
Pan fo defnyddiwr newydd yn creu erthygl ar cy-wici, beth am ei roi ym Mhwll Tywod y Defnyddiwr nes ei fod yn cael ei gymeradwyo? Dyna sy'n digwydd ar sawl wici arall.Llywelyn2000 (sgwrs)07:27, 6 Rhagfyr 2024 (UTC)Ateb
Hello, it seems that category should contain horror films made in Poland but it has a lot of movies that are not horrors. Probably an error with the bot that created those, might be worth checking other horror categories too.Plushy (sgwrs)02:47, 11 Rhagfyr 2024 (UTC)Ateb
Mi wnes i newid agoriad yr erthygl ar2023 i'r gorffennol; ond maeDeb wedi tynnu fy sylw i'r ffaith mai yn y presennol mae'r erthyglau hyn i gyd. Mae defnyddio'r presennol i ddisgrifio'r hyn sydd wedi digwydd yn chwithig ar y naw, i mi. Ond os yw'r presennol yn dderbyniol gan y gymuned, mi wna i ei newid yn ol. Coblyn o waith newid erthyglau ar ddigwyddiadau cronolegol, fel hyn i'r gorffennol: ac mae 'na lawer o waith eu cywiro hefyd! Unrhyw farn?Llywelyn2000 (sgwrs)12:48, 23 Rhagfyr 2024 (UTC)Ateb
Rwy'n derbyn dy bwynt yn union, Robin! Ond dyma hen olygydd yn ysgrifennu ...
Pan ddaw i rywbeth ar ffurf rhestr â dyddiadau, fel cronicl, neu ddyddiadur, neu gyfres o ddiweddariadau newyddion, y confensiwn yn Saesneg yw ei fod wedi ei ysgrifennu yn yr amser presennol. (Ond gweler isod!) Cyn belled ag y gallaf wirio'r pwynt ar frys, dyna sut mae erthyglau cyfatebol yn cael eu creu yn y wikis Ffrangeg, Eidaleg ac Almaeneg. Dydw i ddim yn credu bod unrhyw beth neilltuol am y Gymraeg a ddylai ein harwain i wneud rhywbeth gwahanol yma.
Fodd bynnag, fel y dywedais, confensiwn yw hwn, yn hytrach na rheol sefydlog. Gellir newid confensiynau. Nid oes gwahaniaeth sylfaenol a ddylai'r rhestrau hyn fod yn yr amser presennol neu'r amser gorffennol. Mae'r ddau yn gwneud synnwyr yn eu ffyrdd eu hunain. Y pwynt pwysig yw y dylent ddefnyddio'r un amser. Mae cysondeb yn bwysig, gan fod anghysondeb yn drysu'r darllenydd ac yn creu amheuaeth ym meddwl cyfranwyr a golygyddion eraill. Felly os ydym am gael yr amser gorffennol yn safonol dylem fynd trwy'r cannoedd o erthyglau fel hyn a newid pob cofnod.
Ysgrifennais uchod am ddefnyddio'r amser presennol. Mewn gwirionedd mae'n syniad da peidio â defnyddio amser o gwbl, yn enwedig y ferf "Mae". Mae'r canlynol (o2023) yn ddelfrydol: "Etholiad cyffredinol y Ffindir." "Coroni'r Brenin Siarl III a'r Frenhines Camilla." "Chris Hipkins yn dod yn Brif Weinidog Seland Newydd."
Rhai enghreifftiau eraill. Ar hyn o bryd mae gennym ni "15 Ionawr – Lladdwyd 72 o bobl mewn damwain awyren ger Pokhara, canol Nepal." Fodd bynnag i mi mae hyn yn awgrymu y datgelwyd ar 15 Ionawr bod 72 eisoes wedi marw. Onddigwyddodd y peth ar y diwrnod hwnnw. Mae'n well gen i: "Lladdir 72 o bobl mewn damwain awyren ger Pokhara, canol Nepal." I mi mae hyn yn cael effaith fwy uniongyrchol, fel cael pennawd papur newydd yn cael ei daro i lawr o'm blaen.
A dweud y gwir, nawr rwy'n meddwl amdano. efallai mai dyna'r allwedd i'r cofnodion dyddiedig hyn. Maent ar eu gorau pan fyddant ar ffurf penawdau papur newydd, a dylent gyfleu'r wybodaeth mor gryno ac mor uniongyrchol â phosibl.Craigysgafn (sgwrs)22:39, 23 Rhagfyr 2024 (UTC)Ateb
Ie: dw i'n hoffi '..mae'n syniad da peidio â defnyddio amser o gwbl' yn fawr! Ond mae "Lladdir 72 o bobl mewn damwain awyren ger Pokhara, canol Nepal." yn cynnwys teipo? Onid 'Lladd 72 o bobl...' wyt ti'n ei feddwl? Os felly, dw i'n cytuno'n llwyr. Mae'r pennawd papur newydd gen ti hefyd yn y presennol (neu fel y dywedi, yn ddiamser), sy'n golygu nad oes raid newid y cannoedd, dim ond twtio i'r dull hwn wrth fynd ymlaen.Llywelyn2000 (sgwrs)07:44, 27 Rhagfyr 2024 (UTC)Ateb
Nid teipo fel y cyfryw. Ond, wrth gwrs, well o lawer yw "Lladd 72 o bobl". Dydw i ddim yn honni bod y pethau hyn yn hawdd! Pa ryfedd inni faglu weithiau.Craigysgafn (sgwrs)10:45, 27 Rhagfyr 2024 (UTC)Ateb
Blwyddyn Newydd Dda i bawb o'n golygyddion! A diolch am eich cwmni dros y flwyddyn ddiwethaf! Boed i ni gryfhau ein gafael ar wici bach ni, cyn i AI a'r Brawd Mawr ei gipio oddi arnom. Byddwch wych!Llywelyn2000 (sgwrs)07:39, 1 Ionawr 2025 (UTC)Ateb
Echdoe, cysylltodd Golwg360 efo fi i fy holi am y fandaliaeth ar Wicipedia a ddoe, cysylltodd Cymru Fyw, BBC Cymru. Mae'r naill gyfweliad i'w weldyma a'r llallyma. Mae na un cangym ar ddechrau'r ail, ond dim byd mawr. Y gobaith yw y daw eraill atom i'r gorlan, wrth gwrs.Llywelyn2000 (sgwrs)10:44, 8 Ionawr 2025 (UTC)Ateb
Sylwer ar y Sgwrsyma. Unrhyw sylwadau? Mae'n nodi:
Currently, your Wiki's machine translation threshold is 95% by default, meaning contributors can publish up to 95% of unmodified initial machine translation. We can make this stricter to ensure contributors review and edit the machine translation more before they can publish it.
Rwy'n credu bod hynny'n gwbl resymol ac yn ateb cymesur. Suddodd fy nghalon pan welais dy sgwrs ag UOzurumba. Mae gan bolisi WMF fwriad da, ond o ba fudd y mae i bobl sy’n defnyddio cywiki mewn gwirionedd ac sydd â diddordeb yn y Gymraeg? Yn nwylo pobl sydd eisiau gwthio eu hagendâu eu hunain mae cyfieithu awtomatig yn mynd yn arf peryglus.Craigysgafn (sgwrs)10:50, 14 Ionawr 2025 (UTC)Ateb
Y broblem fwyaf efo erthyglau sydd wedi mynd trwy'r peiriant cyfieithu yw ei ddefnyddio gan bobl gwbl di Gymraeg, neu bobl sydd ddim am drafferthu gwirio o gwbl. Byddai gorfod gwirio o leiaf 20-25% yn chwynnu y rhan fwyaf o'r troseddwyr hyn. Yn ddibynnol ar y testun, mae'r peiriant cyfieithu yn gallu bod yn hynod gywir yn achlysurol, gan greu cyfieithiad sy'n well na'r targed. Y modd i osgoi gwrthod y fath gyfieithiad yw trwy ychwanegu gwybodaeth amgen i'r cyfieithiad eeSaesneg="David Lloyd George was Chancellor of the Exchequer between 1908 and 1915"Cyfieithiad Google="Roedd David Lloyd George yn Ganghellor y Trysorlys rhwng 1908 a 1915" (100% cywir). Mae rhoigwybodaeth amgen yn y cyfieithiad="Roedd David Lloyd George(Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Caernarfon) yn Ganghellor y Trysorlys rhwng 1908 a 1915" yn mynd a'rcyfieithiad dros y trothwy. Mae annog rhoi gwybodaeth amgen mewn cyfieithiad hefyd yn arfer da. Felly, cytuno'n llwyr efo'r awgrym.AlwynapHuw (sgwrs)01:05, 15 Ionawr 2025 (UTC)Ateb
Diolch eich dau! Newydd roi crynhodeb o'n sgwrs ar dudalen y defnyddiwryma. Dw i ddim yn ffyddiog, gan fod sawl ffordd o ddod dros y rhiniog, ee copio a gludo clenc / paragraff yn uniongyrchol yn hytrach na thrwy'r Cymhorthydd Cyfieithu. Atal pawb sy'n golygu heb fewngofnodi fyddai ateb arall, wrth gwrs. Cawn weld!Llywelyn2000 (sgwrs)11:33, 19 Ionawr 2025 (UTC)Ateb
Weithiau, mae bron yn amhosib gwneud synnwyr o'r ciplun yn y blwch 'Ar y dydd hwn' yn yr Hafan, gan ei fod mor fach. Dw i wedi codi maint y ddelwedd o 100x100 i 110x110 ar un diwrnod, i weld ydy o'n well ai peidio -Wicipedia:Ar y dydd hwn/20 Ionawr. Mi wna i gynyddu'r gweddill i'r un patrwm (110x110), efo bot, os nad oes gwrthwynebiad.Llywelyn2000 (sgwrs)07:03, 20 Ionawr 2025 (UTC)Ateb
Syniad da! A dweud y gwir, roedd y canlyniad diweddaraf dal braidd yn fach. Rwyf wedi ceisio 140px, sy'n gweithio ar fy nesgtop a'm iPad. (Does dim ffôn symudol 'da fi.) Gawn ni weld!Craigysgafn (sgwrs)09:44, 20 Ionawr 2025 (UTC)Ateb
Mae'n edrych yn iawn i mi, ond yn wahanol i'r fformat 110x100px gwreiddiol. Dw i erioed wedi deall y gwahaniaeth rhwng y ddwy drefn yma.@Ham: osododd y maint gwreiddiol - be ti'n feddwl? Ydy newid y drefn yn bygro'r cod rywsut ar rai dyfeisiau?Llywelyn2000 (sgwrs)09:30, 21 Ionawr 2025 (UTC)Ateb
Byddai lled (yn unig) o 140px yn gweithio'n dda fel arWicipedia:Ar y dydd hwn/22 Ionawr achos mae rheolau CSS yn lleihau y ddelwedd i 110px ar ffonau symudol gyda sgrin bach, beth bynnag. Felly does dim perygl o fynd yn rhy fawr achos mae rheolau i gadw'r ddau golofn Pigion/Ar y dydd yn gymesur. Ar y rhan fwyaf o ffonau symudol o bob maint mae'r llun yn ymddangos ar y top gyda'r dyddiad o dano. Ar tabled mae'r llun edrych yn dda hefyd.Dafyddt (sgwrs)23:03, 22 Ionawr 2025 (UTC)Ateb
@Llywelyn2000:Ham oedd fy hen gyfrif, felly gweithiodd y{{ping}} ddim i fi ar ddydd Mawrth. Falch iawn gweld dy fod yn mynd i gynyddu meintiau'r delweddau hyn gyda bot.90x90px oedd y maint gwreiddiol, sydd nawr yn rhy fach o lawer, ac rwy wedi ei godi i100x100px bob tro rwy'n golygu un o'r tudalennau AYDH – dyna'r unig reswm dros yr amrywiaeth hyd ag y gwn i, am fod rhai nad ydw i wedi eu golygu. Rwy'n hapus iddo fod yn fwy byth, ond gawn ni gadw'r ddau dimensiwn os gwelwch yn dda, e.e.140x140px nid dim ond140px (sef lled yn unig)? Wedyn fe fydd y lluniau fformat 'portread' yn 140px o hyd a'r rhai 'tirlun' yn 140px o led.Ham II (sgwrs)11:34, 26 Ionawr 2025 (UTC)Ateb
@Craigysgafn: Dim dyna fy nealldwriaeth i; dydi140x140px ddim yn gosod y dimensiynau union hynny (a fyddai'n gwneud pob delwedd yn sgwâr), ond yn hytrach yn gosod y dimensiwn mwyaf i 140px boed hynny'n hyd neu'n lled.Ham II (sgwrs)12:31, 26 Ionawr 2025 (UTC)Ateb
@Llywelyn2000: Byddai'n rhoi hyd o 140px i ddelweddau fformat portread a lled o 140px i rai fformat tirlun, sydd yn fwy addas nac un lled ar gyfer pob delwedd (a fyddai'n golygu bod portreadau llawer mwy o faint na thirluniau).Ham II (sgwrs)12:31, 26 Ionawr 2025 (UTC)Ateb
@Llywelyn2000: Y brif broblem a welaf yw nad ydym yn cael gweld y capsiynau "Cynan" a "Louvre" rwyt ti wedi'u cyflenwi. Ar ôl edrych ar Hafan ar enwiki, mi welais ddatrysiad, a dwi wedi hacio peth sydyn sy'n cyfateb i hynny. GwelerWicipedia:Ar y dydd hwn/10 Awst, lle mae capsiwn yn ymddangos. Mae cod y nodyn (a'r enw hefyd!) dwi wedi creu yn bethau dros dro hyll, ond os yw'r canlyniad yn iawn gallwn ni ei dwtio.Craigysgafn (sgwrs)17:47, 26 Ionawr 2025 (UTC)Ateb
Dw i'n licio'r syniad o'i roi maint y ddelwedd mewn Nodyn - un golygiad yn lle 365! Gwych iawn! Dw i newydd ei ychwanegu arWicipedia:Ar y dydd hwn/28 Ionawr (heddiw) i weld sut mae'n ymddangos yn yr Hafan. Ac felWicipedia:Ar y dydd hwn/10 Awst, mae'n bortread ac felly'n llawer rhy fawr. Fedri di ymgorffori syniadHam II, sef 140x140px fyddai'n atal yr hyd a'r lled rhag bod yn fwy na 140px?
Mae na olygydd o en-wici (lle mae'n cyd-gyfarth mewn pac gyda golygyddion tebyg ee Sirfurboy, DankJae...) newydd greu tudalen ar cy-wiciyn fama. Unrhyw olygiad negyddol am Gymru neu'r Gymraeg - neu fandaliaeth arall - a mi gaiff ei flocio. Dyma rai o'i olygiadau ar en:1,2,3,4,5... Llawer o bethau negyddol, bach, dros lawer o flynyddoedd.Llywelyn2000 (sgwrs)11:04, 6 Chwefror 2025 (UTC)Ateb
Archwiliad 2025 o olygiadau diweddar ein Gweinyddwyr
Daeth hi'n amser ail-edrych ar ein Gweinyddwyr nad yddyn nhw wedi golygu ers tro (tros 12 mis). I'r perwyl hynny, dw i wedi rhoi'r manylion arWicipedia:Gweinyddwyr. Tybed, os oes gennych sylw, neu os ydych yn cytuno i mi fynd ymlaen - a wnewch chi nodi hynny ary dudalen Sgwrs yn unig, lle bod y drafodaeth yn mynd ar chwal. Ar ol gorffen y broses (drist) hon, gallem ystyried a oes angen Gweinyddwyr newydd. Cofiwch hefyd nad oes dim yn ddi-droi-nol! Gallem ailarfogi Gweinyddwr sy'n dychwelyd i'r gorlan unrhyw dro, os dymunent ailafael ynddi. Can diolch!Llywelyn2000 (sgwrs)11:48, 6 Chwefror 2025 (UTC)Ateb
Sylw diweddaraf:10 mis yn ôl7 sylw5 person yn trafod
Helo - jest neges fach fyr i gyflwyno fy hun. Fi yw’rCydgysylltydd Rhaglen Cymru (ac Ieithoedd) newydd. Dwi’n gweithio rhan amser, tridiau bob wythnos (Dydd Mawrth i Ddydd Iau). Dechreuais i’r swydd ar ddiwedd Ionawr (a dwi dal yn dysgu lot am ddefnyddio Wicipedia!). Dwi'n byw yng Nghaerdydd nawr ond yn wreiddiol dwi'n dod o Lanelli.
Yn y dyddiau ymlaen wna i rannu holiadur bach ar gyfer unrhyw un sy'n eisiau rhannu eu barn am ba fath o gymorth nhw'n eisiau gan y cydgysylltydd. Ond yn y cyfamser, os hoffech chi cwrddo fi, gofyn cwestiynau neu os gennych unrhyw bryderon neu awgrymiadau chi’n eisiau rhannu, fy nghyfeiriad e-bost yw gemma.coleman@wikimedia.org.uk. Edrych ymlaen at weithio gyda chi gyd!Gemma Coleman (WMUK) (sgwrs)10:01, 12 Chwefror 2025 (UTC)Ateb
Pob hwyl, Gemma! Mae'r disgrifiad o'r swydd yn y ddolen yn defnyddio iaith fiwrocrataidd nodweddiadol. Mae hyn yn anochel, wrth gwrs. Allech chi egluro ychydig pa fath o beth y byddwch chi'n ei wneud o ddydd i ddydd, a pha fath o beth y dylai defnyddwyr a gweinyddwyr fod yn ei ddwyn i'ch sylw?Craigysgafn (sgwrs)10:37, 12 Chwefror 2025 (UTC)Ateb
Hi @Craigysgafn! Cwestiynau gwych ond yr ateb onest yw - dwi ddim yn siŵr ar hyn o bryd!
Does dim rhaid i unrhyw un cysylltu fi ond am unrhyw gwestiynau/ awgrymiadau neu bethau arall pobol yn gobeithio mae'n bosibWikimedia UK gallu helpu gyda (e.e. gwybodaeth am offer Wici, golygathons, awgrymiadau a.y.b.), mae croeso mawr iddyn nhw cysylltwch fi a wna i drio fy ngorau i helpu.
Mae’n rhy gynnar i wybod beth fydd fy ngwaith fel arfer yn edrych fel dydd i ddydd. Mae'n debygol i newid wythnos i wythnos hefyd. Gwaith dwi'n disgwyl gwneud yn y wythnosau ymlaen yw helpu trefnu cynhadledd ieithoedd lleiafrifiedig, dathlu Wicipedia Cymraeg ar gyfryngau cymdeithasol ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi a theithio i nifer o "golygathonau" wahanol dros y DU.Gemma Coleman (WMUK) (sgwrs)15:08, 12 Chwefror 2025 (UTC)Ateb
Helo Gemma, llongyfarchiadau ar dy benodiad a phob dymuniad da ar gyfer y swydd! Gobeithio dy fod yn mwynhau'r profiad hyd yn hyn. --Oergell (sgwrs)15:30, 19 Mawrth 2025 (UTC)Ateb
Wela i'r un rheswm dros ddileu'r erthygl. Mae'r ffaith bod erthygl en: wedi ei dileu yn gwbl amherthnasol. Os nad yw'r unigolyn dan sylw yn hoffi'r erthygl, dylen ni geisio sicrhau mai dim ond gwybodaeth berthnasol sy yn y parth cyhoeddus sydd i'w gweld - ond fe fyddai dileu'r erthygl yn gosod cynsail peryglus.Llygad Ebrill (sgwrs)14:11, 13 Chwefror 2025 (UTC)Ateb
Mae'n werth ystyried yr hawliau o dan ddeddf GDPR (canllaw ICO). Nid yw'r hawl i anghofio yn gymwys ar gyfer ".. exercise the right of freedom of expression and information;". Mae'r erthygl ei hun yn llawn cyfeiriadau da ac amrywiol, felly mae'r wybodaeth i gyd yn gyhoeddus mewn llefydd eraill, ac wedi ei gynnig gan yr unigolyn fel rhan o gyhoeddusrwydd. Mae dyddiad ei ben-blwydd wedi ei gyhoeddi ar Instagram. Mae yna drafodaethau eitha helaeth am hyn a'r effaith ar Wikipedia nôl yn 2014 ond mae'n bosib bod pethau wedi symud ymlaen ers hynny. Rhaid ychwanegu yr ymwadiad arferol - Nid Wyf Yn Gyfreithiwr.Dafyddt (sgwrs)23:13, 13 Chwefror 2025 (UTC)Ateb
Cefais broblem debyg rhai blynyddoedd yn ôl, am berson oedd yn enwog yng Nghymru ond yn cael ei hystyried yn "not notable" yn y byd Saesneg. Barn Wici rhyngwladol, oedd mai mater i'r wiciau lleol yw pwy neu beth y maent yn son amdanynt ar eu safleoedd hwy. Cadwn yr erthygl am Gymro yma. Ond y Cwestiwn yw os yw'r erthygl yn berthnasol i Gymry Cymraeg; pa hawl sydd gan Wikipedia Saesneg i ddweud nad ydyw yn berthnasol i Gymry ddi-gymraeg, gan mae eu Wici hwy, hefyd yw Wikipedia Saesneg? 01:22, 8 Mehefin 2025 (UTC)
Sylw diweddaraf:11 mis yn ôl1 sylw1 person yn trafod
Dwi'n mynd i golygathon nos yfory (dydd Gwener y 7fed) ynHyb Cymunedol Taj Mahal ym Machynlleth sy'n cael ei gynnal fel rhan o'r ymgyrch "Art + Feminism". Cofrestriad a mwy o wybodaethyma. Os oes unrhyw un arall yn mynd hefyd, byddwn i wrth fy modd i ddweud helo (dwi'n menyw wen yn fy nhridegau hwyr gyda gwallt brown byr).Gemma Coleman (WMUK) (sgwrs)10:05, 6 Mawrth 2025 (UTC)Ateb
Sylw diweddaraf:10 mis yn ôl8 sylw5 person yn trafod
Helo pawb. Mae braf gen i cyhoeddu bod y Llyfrgell Gen wedi rhyddhaucasgliad Geoff Charles i Comin Wici. Mae'r casgliad yn cynnwys tua130,000 o ddelweddau gwych o bywyd yng Nghymru rhwng tua 1945 - 1975 gan cynnwys eisteddfodau, gwleiddyddion, tywydd eithafol a protestiaid pwysig. Felly plis ewch amdani a defnyddio nhw i greu a gwella erthyglau Wici! Dyma blas i chi...
Mae 4,500+ o bortreadau o actorion ac o actorion yn perfformio ar lwyfan i Gwmni Theatr Cymru, efo teitlau cyffredinol sydd ddim yn enwi'r actorion. Rwy'n adnabod wynebau nifer ohonynt ond yn methu cofio eu henwau. Os all rhywun rhoi enwau arnynt a'u rhoi ar erthyglau actorion / dramâu, mi fyddent yn gaffaeliad mawr i Wicipedia.Dolen i'r casgliad ?Paulpesda
Paul, dwi wedi ychwanegu enwau i rhai o'r uchod. Clive Roberts ydi'r boi ifanc yn Pros Kairon dwi'n meddwl ie? Mae dy erthyglau di am y dramau yn cynnwys y cast felly mae'n haws gweithio allan pwy di pwy wedyn. Mae tipyn o'r lluniau yn bodoli yn Archifau Gwynedd hefyd felly mae chwilio eugwefan am enw drama yn gallu dangos rhai canlyniadau defnyddiol sy'n cynnwys enwau.--Dafyddt (sgwrs)21:55, 19 Mawrth 2025 (UTC)Ateb
Nid ymhob achos, ond os agorwch chi'r lluniau yn Comin, a sgrolio i lawr i Crynodeb, mae rhai yn cynnwys y maesdepicted people sydd wedi pigo fyny metadata'r Llyfrgell os oedd enw'r person(au) yn hysbys.Rhyswynne (sgwrs)09:43, 20 Mawrth 2025 (UTC)Ateb
Diolch i chi gyd am eich sylwadau. Wedi cymryd seibiant o'r gwaith yma am gyfnod, ond am ddychwelyd ati yn fuan. Mor falch bod y casgliad gwerthfawr yma bellach ar gael i'w gweld a'u gwerthfawrogi. Diolch i @Jason.nlwPaulpesda (sgwrs)10:39, 27 Mawrth 2025 (UTC)Ateb
Diolch i ti @Paulpesda am gwneud y cais i defnyddio'r casgliad - dw'i môr falch gallu rhannu'r lluniau yma yn agored o'r diwedd! Falch hefyd i weld nhw'n cael i defnyddio. Hoffwn i bwydo'r data newydd am pwy sydd yn y lluniau yma nôl i fygronfa data Awdurdodau Gymraeg maes o law. CofionJason.nlw (sgwrs)14:43, 9 Ebrill 2025 (UTC)Ateb
Sylw diweddaraf:10 mis yn ôl1 sylw1 person yn trafod
Helô bawb! Mae’r gwanwyn wedi cyrraedd, ac yma yn Wikimedia UK rydyn ni’n troi ein sylw at Wici'r Holl Ddaear Cymru. Bydd ein cydlynydd newydd yng Nghymru yn arwain adain Gymreig y gystadleuaeth. Ac un o’r pethau sydd ei angen arnom yw help efo’r beirniadu – os hoffech chi gymryd rhan, anfonwch e-bost ataf ar richard.nevellwikimedia.org.uk
Mae maint y gwaith dan sylw yn dibynnu ar nifer y ceisiadau a gawn. Yn y gorffennol, bu miloedd o luniau, felly gorau po fwyaf o bobl sydd gennym sy'n gallu helpu. Os cawn lawer o geisiadau, efallai y byddwn yn rhannu'r gwaith beirniadu yn ddwy ran: (1) proses sgrinio i lunio rhestr hir, a (2) cyfarfod rheithgor i benderfynu ar yr enillwyr. Byddech yn gallu cyfrannu at y cyntaf a dal cyflwyno lluniau ar gyfer y gystadleuaeth, ond peidiwch â gwneud hyn os oes gennych ddiddordeb mewn bod ar y rheithgor a fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol.Richard Nevell (WMUK) (sgwrs)09:13, 21 Mawrth 2025 (UTC)Ateb
Sylw diweddaraf:10 mis yn ôl4 sylw2 berson yn trafod
Helo bawb, wedi bod yn dawel iawn yn 2025 yr unig gofnod dwi 'di sgwennu ywhttps://cy.wikipedia.org/wiki/Y_Llais_(rhaglen_deledu). Gweld nawr bod rhywun wedi creu cofnod Saesneg am Y Llais (ac yna erthygl hŷn am The Voice). Be' chi'n awgrymu? Cadw rhan gyntaf fy erthygl Gymraeg am Y Llais a newid y teitl i rhywbeth fel The Voice (cyfres masnachfraint) ac yna creu cofnod newydd (sef, i bob pwrpas, ail ran fy erthygl i ar Y Llais) fel confod newydd i ddolenni gyda'r cofnod Saesneg ar Y Llais. Dwi ddim eisiau i Saeson a phobl Cymraeg gweld bod 'na gofnod yn Saesneg am y Llais a dim un Cymraeg!Stefanik (sgwrs)16:55, 31 Mawrth 2025 (UTC)Ateb
Mae rhywun arall wedi creu erthygl am y Llais o'r blaen -Y Llais. Rwy'n awgrymu disodli'r cynnwys yn y dudalen gwta yma gyda'r cynnwys o dy erthygl di, sydd o dan adran 'Y Llais Cymru'. Mae hwn yn cysylltu gyda'r erthygl tebyg ar en-wiki, sefhttps://en.wikipedia.org/wiki/Y_Llais
Wedyn gellid ail-enwi dy erthygl wreiddiol i "The Voice (masnachfraint)" a nodi ar hwnnw bod y fersiynau DU, Cymraeg a'r rhai rhyngwladol eraill.Dafyddt (sgwrs)23:08, 31 Mawrth 2025 (UTC)Ateb
Gwych! Diolch Dafydd - lot fawr o help! Dwi wastad yn gweld pethau fel hyn yn ddryslyd! Wedi dilyn dy gyfarwyddiadau. Gobeithio bod yn edrych yn lân.Stefanik (sgwrs)12:24, 1 Ebrill 2025 (UTC)Ateb
Mae'n edrych yn grêt. Dwi wedi addasu'r penawdau ychydig ar erthygl Y Llais. Falle bydd angen ail-drefnu eto ar gyfer ail gyfres.Dafyddt (sgwrs)15:23, 1 Ebrill 2025 (UTC)Ateb
Golygathon Wythnos Hanes Traws + yng Nghaerdydd (9fed Mai)
Sylw diweddaraf:9 mis yn ôl2 sylw1 person yn trafod
Byddwn ddathluWythnos Hanes Traws + (dolen yn Saesneg yn unig) drwy gynnal golygathon yn Llyfrgell Ganolog Caerdydd i greu a golygu erthyglau ynghylch pobol Draws yng Nghymru a digwyddiadau perthnasol.Cofrestriad a mwy o fanylion yma. Croeso cynnes i olygwyr newydd sbon a golygwyr profiadol.
I unrhyw un na all ymuno â ni yfory, mae cyfle i gymryd rhan ar-lein. Mae WMLGBT+ wedi creu golygathon rhithriol o'r 9fed i'r 18fed. Maetudalen y prosiect a manylion yn Saesneg yn unig ond maen nhw wedi cadarnhau y byddan nhw'n cyfrif erthyglau newydd yn Gymraeg hefyd.Gemma Coleman (WMUK) (sgwrs)10:25, 8 Mai 2025 (UTC)Ateb
Sylw diweddaraf:9 mis yn ôl2 sylw1 person yn trafod
Rydym gynllunio ar gyfer cyfarfod cymunedol ar-lein yn ddiweddarach eleni ar gyferCeltic Knot (cynhadledd sy’n dathlu ieithoedd lleiafrifol). Byddem wrth ein bodd yn dysgu oddi wrthych beth hoffech chi ei weld.
Mae'r holiadur uchod yn cau ar y 15fed Mai. Mae'r holiadur yn ar gael ynSaesneg,Cymraeg aGwyddelig ond os mae'r holiadur ddim yn hygyrch amdanoch chi am unrhyw reswm, mae croeso mawr i chi anfon neges Wicipedia neu e-bost i fi (gemma.coleman@wikimedia.org.uk) i rannu eich barn neu drafod am ffyrdd well i chi cael eich dweud.Gemma Coleman (WMUK) (sgwrs)09:56, 6 Mai 2025 (UTC)Ateb
Wedi clywed ambell i sylwebydd Saesneg yn defnyddio'r term diwinyddolpredestined wrth ddisgrifioassist rhagorol. Rhagarfaethiad neu tyngedfeniad yn y Gymraeg, oes modd siapio rhywbeth addas allan o'r geiriau hyn?AlwynapHuw (sgwrs)13:14, 3 Mai 2025 (UTC)Ateb
Hyfforddi'r Hyfforddwr (dysgu pobl newydd sut i olygu Wicipedia)
Sylw diweddaraf:8 mis yn ôl1 sylw1 person yn trafod
I unrhyw un sydd ddim arrestr e-bost Wikimedia UK, maen nhw'n cynnig hyfforddiant "Train the Trainer" i helpu golygydd Wici/Wiki i ddysgu sut i hyfforddi pobl eraill i olygu Wikipedia (a Wicipedia). Maen nhw’n derbyn ceisiadau nawr, ond maen nhw yn enwedig yn eisiau clywed wrth olygyddion yng Nghymru. Mae’r terfyn amser yw Dydd Llun (19eg Mai) ond maemwy o fanylion ar y wefan ac am unrhyw gwestiynau, plîs cysylltwch fy nghydweithiwr Rupal Karia at rupal.karia@wikimedia.org.uk.Gemma Coleman (WMUK) (sgwrs)09:09, 15 Mai 2025 (UTC)Ateb
Sylw diweddaraf:8 mis yn ôl2 sylw2 berson yn trafod
Rwy'n ddyfod yn bensiynwr henoed ym mhen dau fis, pensiynwr sydd wedi byw ers yn laslanc efo "technoleg newydd" y cyfrifiadur. Ers ei chychwyn rwyf wedi ceisio cyfraniadau pytiau bach o'i ddefnydd at iws yr Iaith Gymraeg.
Mae Wici Saesneg yn gyfan gwbl yn ei erbyn, am resymau rwy'n ddeall a chefnogi. Ond be ydy barn Wici Cymraeg?
Mae dros 200 miliwn o ddefnyddwyr weithgar ar Wkii Saesneg, a llai na neb ar rai o'r prosiectau Cymraeg, a ydi'r gwrthwynebiad Saesnig yn berthnasol i'n ofynion ni?
Yn bwysicaf:—Ydy AI yn gallu ymateb i ymofynion y Gymraeg?
Os yw:—
A oes modd i AI gwella eginon (or niferus) ein wici er gwell?
A all cwestiwn AI sy'n ofyn am dalfyriad o lyfr neu hanes awdur ar wicidestun bod yn gychwyn erthygl newydd a chyfannu at werth y naill brosiect a'r llall?
A all chwiliadau trwy enghreifftiau o'r un eiriau poblogiWici ddyfynnu?
A all AI cyfrannu erthyglau newydd sbon unigryw i Wicipedia?
Dechrau sgwrs bydd ei angen yn y Gymraeg am yn hir mae'n, debyg!
Dw i fawr o arbenigydd chwaith! Ond o'r hyn dw i'n ei ddeall, mae technolegmodel iaith mawr yn debyg iawn i'r hyn sydd tu ôl i gyfieithu peirianyddol.
Yn hynny o beth, byddai testun Cymraeg wedi ei greu gan beiriant o'r fath yn dueddol o edrych yn dda ar yr olwg gynta (termau technegol! treigladau!) ond o'i ddarllen yn ofalus byddai'n llawn cam-gyfieithu, cyfieithiadau benthyg ac ati yn ogystal â'r problemau cyffredinol sydd wedi eu trafod ar en:
Onid oes gan wicipedia (y wefan Gymraeg fwyaf?) rôl allweddol yn hyn oll fel corpws? Po fwyaf o destun wedi eiysgrifennu yn Gymraeg gan fodau dynol sydd yma, po gorau bydd y botiaid yn medru ateb cwestiynau'n Gymraeg yn y dyfodol.
Dw i ddim yn gweld "deallusrwydd artiffisial" yn ffordd o greu mwy o gynnwys fel y cyfryw. Ond fe allai fod yn declyn gwerthfawr i hwyluso a chyflymu gwaith golygwyr. O syniadau @AlwynapHuw uchod, drwgdybus fyddai fy ymateb i geisio "gwella eginon" a "cyfrannu erthyglau sbon" yn y fath fodd, ond dw i'n gweld potensial yn y talfyrru a'r croesgyfeirio.
Syniad arall - o greu erthygl newydd am bwnc astrus, allai gofyn i chatbot am esboniad cryno mewn Cymraeg syml fod yn fan cychwyn gwell na chyfieithiad peirianyddol hir o'r wiki mawr? Mae cyfieithiadau'n ymddangos yma sy'n edrych i mi eu bod nhw y tu hwnt i stamina neu allu cyfranwyr i'w prawfddarllen, oherwydd bod yr erthygl wreiddiol mor faith (a weithiau'n aneglur neu'n cynnwys manylion di-angen). Oni ellid cyfarwyddo bot yn benodol i greu 100, 500 neu 1000 o eiriau rhwydd eu darllen, a fyddai felly o fewn ein gallu i'w wirio fesul ffaith a'i wella?Llygad Ebrill (sgwrs)09:27, 13 Mehefin 2025 (UTC)Ateb
Sylw diweddaraf:3 mis yn ôl4 sylw3 pherson yn trafod
Y 2020 fel rhan o ymgyrchCategori:Prosiect WiciLlên mi ysgrifennais erthygl gynhwysfawr am lyfrLouisa May AlcottLittle Women. Mae'r erthygl am y llyfr wedi ei ddisodli gan erthygl bot am ffilm o'r un enw, ond does dim modd ail adfer yr erthygl am y llyfr. Ysgrifennais erthygl hir amLucille Ball, sydd wedi ei droi yn erthygl ychydig frawddegau gan fot. Mae nifer o'r erthyglau rwyf wedi eu hysgrifennu am ffilmiau efo cysylltiad Cymreig wedi eu disodli gan erthyglau bot. Yn drist o ystyried eu bod yn cynnwys gwybodaeth unigryw Gymreig yn hytrach na data noeth. O ddefnyddio botiau i greu erthyglau a oes modd gwneud rhywbeth i sicrhau nad ydynt yn disodli erthyglau mae rhai ohonom wedi chwysu i'w creu?AlwynapHuw (sgwrs)01:47, 14 Mehefin 2025 (UTC)Ateb
Mae gen ti dri mater yn fama.
1. Disodli 'erthygl gynhwysfawr' gen ti am y llyfrLittle Women.
3. Fod yna fot wedi dileu erthyglau eraill gen ti.
1. Pan fo golygydd yn disodli, yn ail-sgwennu, yn dileu erthygl, mae'r gwreiddiol yn parhau o dan y wyneb, i'w weld o chwilio amdano. Mae'n bron yn amhosibl cuddio gwybodaeth ar WP - dw i'n meddwl mai rhyw bedair gwaith mae hyn wedi digwydd, i mi ei gofio, a hynny ar ol cytundeb i wneud hynny yn y Caffi, ac oherwydd posibilrwydd o achos llys. Nid ar chware bach mae gwneud hyn: ac mae'r log 'cuddio' yn dangos beth a pham y cuddiwyd y wybodaeth. Felly, os wyt wedi creu erthygl ar y llyfrLittle Women yna mae'n dal yno yn rhywle. Wyt ti'n cofio'r union deitl? 'Little Women (llyfr)' neu ei debyg? Gelli ganfod hyn yn dy restr 'Fy Nghyfraniadau' a chyfyngu'r chwiliad o ran blynyddoedd. O edrych ar y dudalen (ailgyfeirio erbyn heddiw)Little Women, fe weli na fu erthygl o unrhyw fath o dan yr enw yma. Ailgyfeiriad yn unig. Cyn y dudalen hon roedd tudalen arall yn bodoli gyda'r un enw cyn ei symud iLittle Women (ffilm 1949); byddai unrhyw destun cynharach am lyfr i'w weld yma, neu gyfeiriad ei fod wedi ei guddio. Does dim, ac nid oedd yr erthygl bresennol yn disodli na'n dileu erthygl gynharach, fel y gweli[3]. Felly hefyd gydaLittle Women (ffilm 1994) - does dim erthygl gynharach wedi ei rhagflaenu hi. Felly tyrd ag enw'r erthygl am y llyfr a sgwennaist a gallwn weld ei hanes.
2. Dileu dy 'erthygl hir' amLucille Ball. Ti gychwynodd yr erthygl hon, fel y gwyddost. Wedi i ti ei chwbwlhau: dyma sut yr edrychai:
Yn sicr, nid oedd yn 'erthygl hir'.
A dyma sut mae'n edrych heddiw:
Fel y gweli, does dim byd wedi ei ddisodli, a dim erthygl newydd wedi ei chreu yn ei lle. Do, newidiwyd llun o wrthrych yr erthygl o hen lun ohoni gyda pherson arall i lun gwell o fewn y wybodlen. Efallai dy fod yn cyfeirio at osod gwybodlen newydd, pan ddisgrifiwyd hynny fel 'erthygl newydd' yn hytrach na 'gwybodlen newydd'. Ond gelli weld ar unwaith mai gwybodlen a osodwyd,yma.
3. Fod yna fot wedi dileu erthyglau eraill gen ti. Alwyn - ni wnaeth yr un bot (a dau sydd gennym) ddileu unrhyw erthygl. Os oedd erthygl yn bodoli, mae'r bot yn rhewi a disgwyl i berson wneud penderfyniad - fel arfer pasio'r erthygl sy'n bodoli mae rheolwr y bot. Pe bai rheolwr y bot yn dymuno creu erthygl dros (dyweder) un frawddeg o erthygl lipa, yna gall nweud hynny - ond rheolwr y bot sy'n gwneud y penderfyniad ac NID y bot. Os wnei di roi enwau erthyglau sydd wedi eu dileu , yna gallaf edrych i fewn iddyn nhw bob yn un.Llywelyn2000 (sgwrs)05:58, 14 Mehefin 2025 (UTC)Ateb
Sylw diweddaraf:7 mis yn ôl1 sylw1 person yn trafod
Helo! Oes unrhyw un yma gyda diddordeb mewn ffotograffiaeth? Rydym yn hapus i gyhoeddi roedd Wici'r Holl Ddaear 2025 yng Nghymru wedi agor ar Fehefin 1af ac yn rhedeg tan 31ain Gorffennaf. Ewch i dudalen y gystadleuaeth i ddarllen y rheolau:Commons:Wiki Loves Earth 2025 in Wales Yna gallwch ddarganfod sut i gymryd rhan yn y gystadleuaeth.
Hefyd, os oes gennych ddiddordeb mewn cynnal rhyw fath o "Wiki Walk" neu ddigwyddiad arall ar gyfer Wici Holl Ddaear dwi’n fwy na hapus i gynnig help neu gymorth - mae fy nghyfeiriad e-bost yw'r ffordd orau o gysylltu â mi (gemma.coleman@wikimedia.org.uk).Gemma Coleman (WMUK) (sgwrs)12:57, 23 Mehefin 2025 (UTC)Ateb
Mae'r nodyn, ac un ar gyfer Aeldau o'r Senedd, wedi cael eu gosod ar erthyglau am wardiau, pentrefi, trefi ayyb, wedyn mae'n dangos pwy yw'r Aelod Seneddol ac Aelodau o'r Senedd sy'n cynrychioli'r lle. Mae'r wybodaeth yn dod o Wikidata dwi'n meddwl ac felly'n cael ei ddiweddaru yn awtomatig - ond yn amlwg mae'n rhaid sicrhau bod y nodyn diweddaraf mewn lleǃRhyswynne (sgwrs)08:03, 2 Gorffennaf 2025 (UTC)Ateb
Newydd weld hwn - diolch Rhys.Deb - mae'r swits, fel mae Rhys yn dweud, yn gwneud pethau'n haws (pan fo ar yr erthyglau cywir!): mae nhw ar tua 6,000 o erthyglau, ac mae ychwanegu'r enw newydd ar Wicidata, yn dilyn etholiad, llawer haws na be mae nhw'n ei wneud ar en-wici - newid POB erthygl efo llaw a llygad! Dyna'r dewis: naill ai defnyddio switys a newid rhyw 30 o dudalennau, neu peidio defnyddio switsys a newid dros 6,000 o dudalennau.
Yr hen swits yw'r cyntaf (Hydref 2018); ychwanegais 'y DU' er mwyn ei gwneud hi'n hollol glir pa Senedd y cyfeirir ati (Caerdydd neu Lunden): felly crewydNodyn:Swits Caerffili i enw AS y DU (Gorff 2024). Unwaith y mae'r switsys hyn yn eu lle, mae pethe'n haws mewn theori, ond gan fod canfod pa bentref sydd ym mha etholaeth yn cymryd amser, mae yma rai llefydd heb swits o gwbwl ac eraill yn siwr o fod yn yr etholaeth anghywir! Problem arall sydd am godi yn y flwyddyn nesaf ydy ailwampio etholaethau'r Etholiad Cyffredinol lle y bydd uno hen etholaethau i greu etholaeth newydd. Bydd hyn yn dipyn o dasg, ond yn llawer haws na llaw a llygad. Mae defnyddio'r bot efo pethau fel hyn yn hanfodol, ac yn hawdd iawn! Cofion cynnes a diolch am godi hyn.Llywelyn2000 (sgwrs)12:06, 6 Gorffennaf 2025 (UTC)Ateb
Yn anffodus, o edrych arerthygl yr etholaeth ar en-wici, mae'r ffiniau wedi newid er bod yr enw wedi'i gadw. Os yw'r swits ar 6,000 o erthyglau, dwin cymryd bod hyn wedi ei wneud drwy ddefnyddio cyfeirnodau daearyddol i weld ble sy'n syrthio o dan pa etholaeth. Mae tu hwnt i'm gallu i, ond dwi'n cymryd unwaith bod ffiniau'r etholaethau newydd wedi eu bwydo i mewn, bydd yn gymharol hawdd dosbarthu'r 6,000 rhwng y rai newydd.Rhyswynne (sgwrs)11:08, 8 Gorffennaf 2025 (UTC)Ateb
Fel hyn yr aethpwyd ati: cym olwg arCaerffili_(etholaeth_seneddol)#Ffiniau, ac fe weli restr o wardiau sydd gan amlaf hefyd yn cynnwys pentrefi unigol. Felly'r cam cyntaf oedd creu'r erthygl hon (Caerffili_(etholaeth_seneddol), a'i thebyg) gyda'r wardiau wedi eu rhestru yn yr erthygl. Rhois pob ward (categori'r ward) yn y bot a chreu rhest o erthyglau o bentrefi a threfi yn y wardiau hynny. Yna ychwanegwyd y wybodaeth i'r erthyglau hyn eeAbertridwr,Bedwas,Cefn Fforest. So good so far! Ond, o fewn cymuned Bedwas ceir nifer o bentrefi eraill eeGraig-y-rhaca... ac ni wnaeth y bot eu newid. Ond mi i wnes rhai eeTretomos gyda llaw a llygad. Fel soniais, dw i'n meddwl y gwneith ail-gyfeirio drwsio'r hen stwitch, os yw yno. Os nad oes switch yno, bydd rhaid ei gynnwys, wrth gwrs. Tydy BOT-Twm Crys ddim yn gweithio y dyddiau yma, felly bydd angen i mi wneud cais i'w ailddechrau. Yn y cyfamser, mi wna i ambell brawf fy hun. Diolch eto am dy amynedd.Llywelyn2000 (sgwrs)12:47, 8 Gorffennaf 2025 (UTC)Ateb
' unwaith bod ffiniau'r etholaethau newydd wedi eu bwydo i mewn, bydd yn gymharol hawdd dosbarthu'r 6,000 rhwng y rai newydd' - cywir! Gobeithio na fydd ymyrryd a'r ffiniau am ganrif neu ddwy!Llywelyn2000 (sgwrs)12:48, 8 Gorffennaf 2025 (UTC)Ateb
Newydd gwpla Etholaeth Caerffili.Rhyswynne - wneid di wiro y rhain os g yn dda, cyn i mi symud ymlaen i'r gweddill. Mae Powys yn enfawr (os cofiaf yn iawn, mae bron cymaint a gweddill Cymru, o ran nifer yr anheddiadau). Ac wrth gwrs, mae na ailwampio'r ffiniau eto mewn chydig fisoedd!Llywelyn2000 (sgwrs)17:02, 8 Gorffennaf 2025 (UTC)Ateb
Dwi heb fod drwy pethau'n fanwl, ond o edrych ar y wardiau a restrir ynCaerffili_(etholaeth_seneddol)#Ffiniau, mae Pengam yn cynnwys gwybodaeth am Aelod Seneddol gwahanol a hefyd Aelod y Senedd dros Islwyn (ond dydy'r sedd honno heb newid eto). Falle nad gwall yw hyn, a bod jest angen tynnu Pengam o'r rhestr - mae ar y ffin dwi'n meddwl, ond dwi'n brysur rwan (yn cofnodi pleidlais ar Fil yn y Senedd digwydd bodǃ), jest eisiau nodi nad yw popeth wedi'i wirio cyn i ti fwrw ymlaen ymhellach.Rhyswynne (sgwrs)09:01, 9 Gorffennaf 2025 (UTC)Ateb
Newydd weld dy fod wedi golyguNantglyn @Llywelyn2000. Es am sbec, a wedyn sylwi ei fod dal yn dangosDavid Jones (gwleidydd Cymreig) fel yr Aelod Seneddol. Collodd ei sedd yn 2024, ond mae'r swits yn pwyntio at hen sedd/ffiniau cyn etholid seneddol 2024, sy'n felly'n egluro hynny. Mae eisiau diweddau erthygl DJ hefyd, ond mater arall yw hynny.Rhyswynne (sgwrs)17:39, 12 Tachwedd 2025 (UTC)Ateb
Sylw diweddaraf:6 mis yn ôl6 sylw3 pherson yn trafod
Mae'r calendr misol yn wallus - ers ryw 4 mlynedd. Dw i di trwsio'r flwyddyn (!); oes na rywun a all fwrw golwg ar y 12 Nodyn os g yn dda? Er enghraifft: mae Nodyn:Gorffennaf yn gywir ond: 1. ydy e'n gywir y flwyddyn nesaf? 2. Mae'n dechrau ar ddydd Sul (a'r gweddill ar ddydd Llun). Os nad oes, yna mi alla i (neu rywun arall, plis) fewnforio Template:Calendar o en. Mae amser yn brin, sorri, a chymaint i'w wneud.Llywelyn2000 (sgwrs)06:45, 6 Gorffennaf 2025 (UTC)Ateb
Rwy'n hapus i wneud yr hyn y gallaf gyda hyn. Fodd bynnag, mae fy nghalon yn suddo pan edrychaf ar god Template:Calendar. Tybed a yw'n werth yr ymdrech o fewnforio'r cyfan. Efallai y byddai'n haws gwneud y gwaith â llaw yn flynyddol.Craigysgafn (sgwrs)15:13, 6 Gorffennaf 2025 (UTC)Ateb
Rwy wedi trwsio y calendar misoedd ar gyfer 2025. Rwy hefyd wedi mewnforio bron popeth sydd angen ar gyfer y calendr. Dyma'r peth yn gweithio yn fymhwll tywod . Dau beth i benderfynu - ydyn ni eisiau'r wythnos i ddechrau ar ddydd Llun (fel mae e nawr). Mi fydd y dolenni i'r misoedd blaenorol/nesaf yn diflannu. Mae'n bosib bydd yn cael rhein nôl fewn ond bydd angen addasu y nodyn ychydig (heb edrych rhy ddwfn ar hyn eto).Dafyddt (sgwrs)16:27, 6 Gorffennaf 2025 (UTC)Ateb
Gwych! Diolch Dafydd! Piti nad yw'n bosib otomeiddio hyn, neu bydd angen ailwampio'n flynyddol. Un sal ydw i am gofio'r math yma o beth! ON Mae dechrau ar ddydd Llun yn iawn gen i: llai o grefydd! ;-)Llywelyn2000 (sgwrs)11:24, 7 Gorffennaf 2025 (UTC)Ateb
Rwy wedi diweddaru nodyn Gorffennaf i ddefnyddio y nodyn Calendar. Dwi ddim yn or-hoff o'r ddolen "rhestr holl ddiwrnodau.." felly mae angen ystyried cadw/dileu hwnnw. Byddai diweddaru diwyg y dudalen ei hun yn help hefyd. Gweler y newid ar8 GorffennafDafyddt (sgwrs)18:58, 8 Gorffennaf 2025 (UTC)Ateb
Drwy gyd-ddigwyddiad, roeddwn yn Leeds wythnos diwethaf, ond ar gyferarddangosfa yn Llygell y Ddinas (am le gwych), nid un y brifysgol. Dwi'n meddwl y byddai yna dipyn o ddiddordeb mewn gweithdai o'r fath yng Nghymru, ar gyfer y Gymraeg ac ieithoedd eraill.Rhyswynne (sgwrs)09:28, 4 Awst 2025 (UTC)Ateb
Diolch @Rhyswynne - roedd yr arddangosfa yn edrych yn wych (a hefyd, achos dwi'n dod o Lanelli yn wreiddiol, dwi'n fel arfer anghofio am bêl droed, felly diolch am yr atgoffiad!). Dwi'n cytuno'n llwyr â chi ac roedd yn wych i glywed wrth fy nghyd-weithiwr roedd y sesiwn cyfieithu yn Leeds yn llwyddiant mawr. Pan hi'n dod yn ôl ar ôl ei gwyliau hi, dwi wedi gofyn am gyfarfod gyda hi ac un o'r pethau i drafod yw beth ddysgodd hi er mwyn meddwl am wneud rhywbeth tebyg. Os mae unrhyw un yma gydag awgrymiadau, cysylltiadau neu ddiddordeb am gefnogi rhywbeth fel hyn yng Nghymru neu ar lein, rhowch wybod i fi (neges Wicipedia neu gemma.coleman@wikimedia.org.uk).Gemma Coleman (WMUK) (sgwrs)08:38, 13 Awst 2025 (UTC)Ateb
Sylw diweddaraf:6 mis yn ôl1 sylw1 person yn trafod
Pwnc sydd wedi ei godi ar dudalen ddefnyddiwr, sy werth ei ehangu er wybodaeth. Mae gan Wikipedia llyfrgell sy'n caniatáu mynediad i ddefnyddwyr rheolaidd. Mae'r aelodaeth yn gyfunedig i bobl sydd wedi gwneud nifer penodol o olygiadau. Mae manylion ar gael arhttps://wikipedialibrary.wmflabs.org/ Mae'n werth cael aelodaeth gan ei fod yn rhoi mynediad rhad i nifer fawr o gasgliadau ymchwil sydd fel arfer yn costio ffortiwn i'w gweld. Mae modd i bobl sydd â chod post yng Nghymru defnyddio Adnoddau Allanol Y Llyfrgell Genedlaethol trwy wneud cais am docyn llyfrgellhttps://psr.llgc.org.uk/psr/psr/register/cy/personal Mae gan y rhan fwyaf o lyfrgelloedd sirol hefyd mynediad i adnoddau allanol, cylchgronau, ac e-lyfrau cyfoes, am ddim, trwy docyn aelodaeth. Pob un yn gallu bod o werth i gyfranwyr WicipediaAlwynapHuw (sgwrs)02:01, 10 Awst 2025 (UTC)Ateb
Sylw diweddaraf:5 mis yn ôl8 sylw3 pherson yn trafod
Bore da! Dyma'r math o fap sydd gennym ar wledydd Ewrop heddiw, ac mae yno ers dros 10 mlynedd ee Gwlad Belg:
Mae'r map / diagram yma wedi fy mhoeni ers tro gan nad yw'n dangos ffiniau'r Alban na Chymru (a gwledydd eraill, ond am y tro dwi am ganolbwyntio ar y ddwy wlad agosaf at 95% o Gymry). Mae'r map hefyd yn colli cyfle - o liwio / amlygu Cymru hithau, gallwn weld yn gliriach lleoliad y ddwy wlad i'w gilydd a maint y ddwy wlad yn gliriach.
Dyma'r map dw i'n ei hargymell (gyda ffiniau'r Alban a Chymru'n hollol glir!):
Dim ond hon (Gwlad Belg) sydd ar Comin ar hyn o bryd ond os cytunwch, yna mi uwchlwythai fap tebyg ar gyfer holl wledydd Ewrop a'u gosod yn y gwybodlenni. gyda gwledydd bach pitw fel Andorra a Malta, gallwn roi cylch o'u cwmpas. Gwendid y map presennol yw nad ydyn nhw i'w gweld o gwbwl!Llywelyn2000 (sgwrs)06:56, 21 Awst 2025 (UTC)Ateb
Gwych! Ie cyfaddawd call dw i'n meddwl - gellid dadlau yn erbyn cynnwys ffiniau gwladwriaethau yn y cefndir, ond yn gam neu'n gymwys maen nhw'n rhan gyfarwydd o fap Ewrop i lawer ohonom. Os yw'r un dull yn bosib ar gyfer tudalennauGwlad y Basg,Llydaw,Catalwnia,Països Catalans (ac ati...) fe fyddai'r mapiau'n gwella'r tudalennau hynny hefyd.Llygad Ebrill (sgwrs)13:27, 21 Awst 2025 (UTC)Ateb
Diolch eich dau. Problem fawr Comin (ac en-wici) yw hyn: mae'r ddwy gymuned, yn dilyn 15 mlynedd o ddadlau, bellach yn derbyn bod Cymru a'r Alban yn wledydd. Dydyn nhw ddim yn derbyn fod Cernyw, Gwlad y Basg na Chatalwnia'n wledydd.
Er mwyn cadw'r mapiau ar Comin dw i wedi gwneud ffiniau'r dair wlad yma ychydig yn ysgafnach; dw i ddim yn meddwl y bydd cais i'w dileu. Ar dudalen Astwrias, Galithia ayb mi wnaf fapiau unigol, ond byddai cymhlethu'r status quo drwy ychwanegu cant-a-mil o ffiniau sydd heb eu cydnabod yn lleihau ein dadl ni yng Nghymru. Mae'r map wedi'i diweddaru, ond bydd yn rhaid i chi adfywio celc eich cyfrifiadur er mwyn gweld y newidiadau - ffiniau Catalwnia, Gwlad y Basg a Chernyw.Llywelyn2000 (sgwrs)07:14, 22 Awst 2025 (UTC)Ateb
Gallaf greu dau lun: un manwl fel hwn ar y chwith yn yr erthygl arGwlad Belg, yn cymharu maint a lleoliad Gwlad Belg o'i gymharu a Chymru. Yr ail lun yw'r un yn y wybodldnDw i ddim mor siwr o'r ail ddelwedd - yr un yn y wybodlen lle mae coch Cymru'n rhy drwm, yn tynnu sylw ato'i hun yn ormodol? Efallai, coch ysgafn?Llywelyn2000 (sgwrs)09:08, 22 Awst 2025 (UTC)Ateb
Mae'r map cymharu bach yn wych ac mae'r map yn y gwybodlen yn llawer gwell na'r hen un, ond dydw i ddim yn argyhoeddig bod angen i ni bwysleisio safle Cymru mor amlwg. Byddai coch ysgafn yn well.Craigysgafn (sgwrs)21:18, 22 Awst 2025 (UTC)Ateb
Dw i wedi ychwanegu Llydaw. Efallai nad oes angen lliw gwahanol ar Gymru yn y Wybodlen:
Yng nghorff yr erthygl Maint a lleoliad Gwlad Belg o'i chymharu â Chymru
Yn y wybodlen. Sylwer ar ffiniau Cernyw, Llydaw, Gwlad y Basg a Chatalwnia.
Sylw diweddaraf:5 mis yn ôl3 sylw2 berson yn trafod
Bore da! Ymddiheuriadau rhag blaen os oes ateb eisoes i'm cais, ymhlith byrddau eraill y Caffi! Ond hoffwn wybod beth yw'r polisi [os oes polisi!] ynghylch pan fo dau ddarn o waith llenyddol yn rhannu'r un enw? Er enghraifft, fe ddois ar draws drama ganGwilym R. Jones o'r enwYr Argae sy'n dyddio o'r 1950au, ond sylwais fod drama arall o dan yr un enw, sef cyfieithiadWil Sam o ddramaThe Weir a gyhoeddwyd yn y 2000au. Yn yr achos yma, dwi wedi llwyddo i alw drama Gwilym R ynYr Argae (drama radio) gan mai drama radio oedd hi'n wreiddiol, ond petai'r achos yn codi eto [ac mae'n siwr o wneud!] sut mae gwahaniaethu rhyngddynt? Ai drwy ddyddiad -Yr Argae (2008)Yr Argae(1954) neu oes dull arall a gymeradwyir? DiolchPaulpesda (sgwrs)08:56, 25 Awst 2025 (UTC)Ateb
Dwi ddim yn meddwl bod gennym ni bolisi "swyddogol" ar hyn. Wrth reswm, os byddwch chi'n dod ar draws teitl dyblyg, yna mae angen i chi ddelio ag ef. A chan fod angen i chi addasu teitl y tudalen (gyda rhywbeth mewn cromfachau), yna man a man ichi wneud gwaith da arni. FellyYr Argae (drama 2008) acYr Argae (drama 1954), neuYr Argae (drama Wil Sam) acYr Argae (drama Gwilym R. Jones) yn hytrach naYr Argae (2008) acYr Argae (1954). (Dw i jyst yn dyfeisio'r manylion yma.) Mae hyn yn helpu i leihau'r posibilrwydd o wrthdaro â gweithiau eraill o'r un enw yn y dyfodol (llyfrau, ffilmiau, addasiadau teledu, ac ati; awduron eraill). Ond mater of synnwyr cyffredin yw hi. Allwn ni ddim rhagweld pob gwrthdaro a allai godi yn y dyfodol. Gellir addasu teitlau pan fydd problemau'n codi. Os ydw i'n amau bod gwrthdaro posibl, dw i'n edrych o dan "Beth sy'n cysylltu yma" ym Mlwch offer y tudalen, a'i drwsio os oes angen. Dydw i ddim yn siŵr a yw hynny'n llawer o gymorth...Craigysgafn (sgwrs)10:11, 25 Awst 2025 (UTC)Ateb
Sylw diweddaraf:5 mis yn ôl1 sylw1 person yn trafod
Nodyn bach i dynnu sylw at y digwyddiad ar-lein "Celtic Knot" sy'n digwydd ar 23 Medi. Mae "Celtic Knot" yn gyfle i gysylltu â golygwyr eraill sy'n golygu ar Wikipedias mewn ieithoedd eraill, yn enwedig ieithoedd Celtaidd ac ieithoedd lleiafrifol. Un o'r siaradwyr bydd ein @Jason.nlw sy'n trafod am sut gall y cyhoedd gweithio gydag awdurdodau fel Comisynydd y Gymraeg i greu, wella a chael mynediad at ddata.
Mwy o fanylionyma. (Ymddiheuriadau mawr, mae'r tudalen yn Saesneg yn unig ar hyn o fryd achos dwi ddim wedi cael yr amser i gyfieithu. Ond os oes unrhyw un arall yn awyddus i gyfieithu, mae croeso mawr iddyn nhw a byddwn i'n ddiolchgar iawn am yr help!)Gemma Coleman (WMUK) (sgwrs)08:51, 28 Awst 2025 (UTC)Ateb
Sylw diweddaraf:5 mis yn ôl4 sylw2 berson yn trafod
S'mae bawb.Cwewstiwn o bolisi golygyddol. Pan fo gan waith llenyddol hanes cyhoeddi cymhleth, mae nifer o ddehongliadau posib ynglyn â phryd yn union yw dyddiad cyhoeddi y gwaith. Gall hyn fod yn berthnasol at unrhyw waith llenyddol ond mae'n neilltuol o berthnasol yn achosion hen nofelau, oedd yn tueddu ymddangos fel cyfresi cylchgrawn/papur newydd yn gyntaf, ac fel cyfrol dim ond yn ddiweddarach, weithiau degawdau'n ddiweddarach (os o gwbl).
Ystyriwn llyfr felLona er enghraifft - sydd ar hyn o bryd yn y categori "Llyfrau Cymreig 1923". Yn 1923 ymddangosodd y gwaith fel llyfr am y tro cyntaf. Fodd bynnag, roedd y nofel wedi ymddangos fel cyfres mewn cylchgrawn yn 1908. Cafodd ei hail-gyhoeddi drachefn yn 2024. Felly mae dadl digon dilys dros ei rhoi yn y categoriau "Nofelau 1908", "Llyfrau Cymreig 1923", "Llyfrau Cymreig 2024"; ac o bosib hefyd "Llyfrau Cymreig 1908", "Nofelau 1923" a "Nofelau 2024". Ydych chi'n credu y dylid rhestri gwaith
1) dim ond mewn un categori blwyddyn (ac os felly pa un).
2) ym mhob blwyddyn a chategori perthnasol
3) mewn rhai ond nid eraill (ac os felly pa rai)
Cwestiwn cysylltiedig yw a yw'r categoriau "Nofel" a "Llyfrau" yn cyfeirio at y blwyddyn panysgrifennwyd y gwaith llenyddol neu pangyhoeddwyd y gwaith, gan gofio bod modd i'r rhain fod yn wahanol iawn i'w gilydd? Ac ydy'r diffiniad yr un fath yn y categori cyntaf ag yn yr ail gategori?
Yn fy marn i mae'n gwneud y synnwyr mwyaf rhestri Lona yn y categori "Nofelau 1908" oherwydd mai yn 1908 ysgrifennwyd y stori ac ymddangosodd y tro cyntaf un; gall ei rhestri yn y categoriau eraill awgrymu ei bod yn nofel "fodern" (neu nofel o'r 1920au) pan nad yw hi mewn gwirionedd. Ondni ddylai fod yn "Llyfrau Cymreig 1908". Fodd bynnag roedd hi hefyd yn Lyfr a gyhoeddwyd yn 1923 a 2024 felly dylai fod yn y categoriau hynny hefyd, ondnid "Nofelau 1923" a "Nofelau 2024". Gobeithio bod hynny'n gwneud synnwyr? A defnyddio enghraifft hwyrach mwy adnabyddus: DylaiY Dreflan (sydd ar hyn o bryd yn "Nofelau 1881" a "Llyfrau Cymreig 1881") fod yn "Nofelau 1879" a "Llyfrau Cymreig 1881".Figaro (sgwrs)11:25, 28 Awst 2025 (UTC)Ateb
Dw i'n cytuno'n fras. Dyma egwyddor gyffredinol: dylid dyddio gwaith creadigol i'r achlysur cyntaf y gall aelod o'r cyhoedd ei weld, ei ddarllen, ei glywed. Felly mae nofel neu stori fer yn cael dyddiad ei chyhoeddi gyntaf; mae drama neu opera neu fale yn cael y dyddiad pan gafodd ei pherfformio gyntaf. Ond mae yna achosion bob amser sy'n gwneud bywyd yn anodd. Er enghraifft, gallai nofelau a ymddangosodd ar ffurf cyfres mewn cylchgronau gymryd blynyddoedd i'w cwblhau: ateb – defnyddiwch y flwyddyn gychwynnol. Gall gwaith gael ei gyhoeddi flynyddoedd ar ôl marwolaeth yr awdur: ateb – defnyddiwch yr amcangyfrif gorau o pryd y gorffennodd yr awdur ei waith. Achosion eraill: defnyddiwch synnwyr cyffredin.Craigysgafn (sgwrs)16:35, 28 Awst 2025 (UTC)Ateb
Lle nad yw'n bosib defnyddio ystod o flynyddoedd (e.e. cyhoeddwydY Dreflan yn 1878-79) Baswn i'n dweud y dylid defnyddio blwyddyn cyhoeddi'r bennod olaf, nid y flwyddyn gychwynnol, gan nad oedd y gwaith wedi'i gyhoeddi'n gyflawn tan y diwedd. (felly dylai fod yn y categori "Nofelau 1879").Figaro (sgwrs)12:11, 29 Awst 2025 (UTC)Ateb
@Figaro-ahp: Mae hynny'n gwbl resymol hefyd. "The truth is rarely pure and never simple," chwedl Oscar Wilde. Yn y bôn, pwrpas y dyddiad yw awgrymu cyd-destun hanesyddol. Os yw'r cyd-destun yn caniatáu hynny, mae'n well rhoi'r manylion llawn gyda gair o esboniad. Yn ddelfrydol, gallen ni gael rhywbeth felY Dreflan, ei Phobl a'i Phethau (cyhoeddwyd mewn rhannau misol ynY Drysorfa, 1879–80; cyhoeddwyd fel cyfrol, Treffynnon: P. M. Evans & Son, 1881), ond at y rhan fwyaf o ddibenion, mae hynny'n ormodol. Yr hyn a wnest ti yn adran "Llyfrau" oDaniel Owen yn ardderchog. Ond weithiau mae amgylchiadau'n galw am un dyddiad yn unig. Yn yr achos hwnnw, dw i'n dal i ffafrio'r dyddiad cychwyn, oherwydd dyna pryd y gallai darllenydd fod wedi gweld y darn hwnnw o lenyddiaeth am y tro cyntaf. Dyna pryd y cafodd y llyfr effaith gyntaf ar y byd. Ond dim ond barn yw honno, nid rheol wedi'i naddu mewn carreg. Hwyl, Dafydd.Craigysgafn (sgwrs)14:43, 5 Medi 2025 (UTC)Ateb
Sylw diweddaraf:5 mis yn ôl6 sylw3 pherson yn trafod
Cwestiwn sydyn a dyrys o bosib, ynghylch rhywbeth gododd dros y dyddia diwethaf, mewn cyd-destun arall. A oes cyfrifoldeb arnom fel llunwyr erthyglau i nodi bod rhywbeth yn gallu cael ei alw'n "hiliol" mewn llenyddiaeth Gymraeg? Bum yn darllen drama Gymraeg yn ddiweddar o gyfnod y 1980au, ac roedd un o'r cymeriadau yn defnyddio y gair annerbyniol "ni*****". Wrth drafod y peth cyn llunio erthygl, soniais wrth lenor arall gan awgrymu a ddylwn i gynnwys brawddeg fel a ganlyn - "Erbyn yr21ain ganrif, ystyrir peth o'r iaith / deunydd yn y gwaith yma yn hiliol". Ond yr wrth-ddadl gefais i oedd, bod y gwaith dan sylw yn cael ei ystyried yn hiliol gan y cymunedau dan sylw, yn y 1980au hefyd. Mae'n ddadl sy'n codi ynghylchTo Kill a Mockingbird hefyd, gyda chyhoeddiadau newydd yn bygwth newid y testun. Mi wn am sawl drama arall sy'n defnyddio ieithwedd annerbyniol hefyd, ac enghreifftiau o gymeriadau du oedd yn destun sbort. O geisio cadw'r erthyglau yn ddi-duedd, a oes awgrymiadau sut i ddelio gyda hyn? Neu awgrym o 'eiriad gwell? Mae hyn hefyd yn wir am rai o luniau yng nghasgliad gwychGeoff Charles lle mae na ambell enghraifft o "black face". Diolch.Paulpesda (sgwrs)11:54, 5 Medi 2025 (UTC)Ateb
Lle mae trafodaeth gyhoeddus wedi bod am y gwaith dan sylw, dw i'n credu byddai manylion penodol yn ddefnyddiol. Gorau oll os gellid sôn am yr ymateb ar wahanol gyfnodau (Enghraifft ddychmygol: "Adeg ei chyhoeddi, dywedodd ymgyrchwyr bod y ddrama yn hiliol. Erbyn yr 21ain ganrif, mae beirniaid prif-lif o'r un farn"). Dw i'n siŵr bydd gan eraill awgrymiadau mwy defnyddiol!Llygad Ebrill (sgwrs)21:30, 5 Medi 2025 (UTC)Ateb
Diolch. Y broblem ydi, gyda’r dramâu, ac ambell i bantomeim a rhaglen deledu yn y 1970au dwi ddim yn meddwl bod neb wedi beirniadu’r gwatwar yma, neu’r defnydd o iaith hiliol, am ei fod yn cael ei dderbyn a’i weld ar deledu’r cyfnod, fel peth derbyniol a doniol. Ond yn yr hinsawdd bresennol lle mae yna ail-asesu difrifol a beirniadol, a sensitifrwydd eithafol dros enghreifftiau fel yma, tybed a ddylem gyfeirio at hynny, fel arwydd bod ein herthyglau yn gyfoes ac effro?Paulpesda (sgwrs)14:33, 6 Medi 2025 (UTC)Ateb
Newydd ddarllen yr erthygl Saesneg amAin’t Half Hot Mum a gweld un frawddeg fel yma “the series does not get repeated by the BBC, as it is regarded as differing from modern broadcasting standards concerning its content.” Oes rhywun yn gwybod os oes canllawiau wedi’i cyhoeddi gan S4C neu’r Cyngor Llyfrau am hyn? Hynny ydi, peidio ail-ddangos cyfres fel unGari WilliamsGalw Gari oedd yn cynnwys elfen o “dduo’r wyneb”, neu enghreifftiau tebyg. Mae’n faes mor ddyrys a theimladau cryf o’r ddau gyfeiriad. DiolchPaulpesda (sgwrs)14:46, 6 Medi 2025 (UTC)Ateb
Does gen i ddim ateb llawn ond dwi ddim yn siwr os ydi'n deg rhoi beirniadaeth uniongyrchol am awdur neu berfformwyr heblaw fod tystiolaeth eang o hynny. Mae gymaint o ddiwylliant yn adlewyrchu rhagfarn, ystrydebau neu anwybodaeth y cyfnod h.y. cymdeithas yn gyffredinol. Fel nodyn ychwanegol mae archif cyfryngau Clip Cymru yn cynnwys llawer o gynnwys a allai fod yn rhagfarnllyd neu sarhaus i wylwyr heddiw. Cyn gwylio'r cynnwys, mae yna rybudd blanced a mae'n rhaid cytuno gyda'r telerau yn parhau. Dyma mae e'n ddweud:
Mae’r archif yma’n gofnod hanesyddol ac yn cynnwys deunydd a allai peri gofid neu niwed. Mae hyn yn cynnwys sylw’r wasg o drychinebau, troseddau a digwyddiadau hanesyddol eraill, ynghyd ag esiamplau o agweddau a iaith nad sy’n dderbyniol erbyn heddiw am bobl a grwpiau o gefndiroedd lleiafrifol.Dafyddt (sgwrs)22:22, 6 Medi 2025 (UTC)Ateb
Diolch. Mae hynny’n ddatganiad teg a chall. Dwi wastad wedi dadlau mai perthyn i’w cyfnod oedd yr enghreifftiau yma, ac yn anffodus, yn cael eu derbyn yng nghyd destun y cyfnod. Yr herio gan fy nghyd awdur ddaru fy nychryn y tro yma.Paulpesda (sgwrs)01:47, 7 Medi 2025 (UTC)Ateb
Sylw diweddaraf:3 mis yn ôl5 sylw2 berson yn trafod
Helo pawb. Am y tro cyntaf ers sbel mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn cynnal Golygathon Wici Cyhoeddus. Pwnc y tro yma bydd Ffilm, Teledu, Radio a Theatr Cymraeg, a bydd y digwyddiad yn cael i gynnal yn yr Archif Darlledu Genedlaethol yn Aberystwyth. Mae na gwahoddiad cynnes, (a phaned) i bawb! Mae modd archebu tocyn am ddimyma.
Gwych! Wn i'm os y gallaf fod yn bresennol yn Aberystwyth, ond hapus i helpu o Lundain! Byddai'n wych petai rhywun yn gallu mynd drwy'r cylchgrawn SBEC sy'n cynnwys gwybodaeth am gyfresi drama a holl raglenni S4C o'i chychwyn. Wedi gofyn sawl gwaith i'rLlyfrgell aS4C am gopi o'r rhestrau dramâu, ond mae pawb i'w weld yn gwyro'r cais at ei gilydd! Siawns nad oes gan yr Archif Ddarlledu restr gyflawn o gyfresi, ffilmiau drama Cymraeg a fu ar S4C a chyn hynny ar BBC neu HTV?! Mae'n embaras os ddim! Byddai medru rhannu'r rhestr honno, yn wych! Diolch.Paulpesda (sgwrs)18:48, 11 Hydref 2025 (UTC)Ateb
Gyda llaw, byddai'n wych medru cael cytundeb gydaBBC Cymru,ITV (HTV gynt) acS4C i rannu delweddau o gyfresi drama S4C i gyd-fynd â'r erthyglau. Mae ein gwaith yn fodd gwych o hyrwyddo'r rhaglenni, ac felly y dylai ddisgyn yn daclus o dan yr elfen cyhoeddusrwydd neu farchnata, iddyn nhw. Mae hyn hefyd yn wir am y cynyrchiadau theatr, gan fod archifGeoff Charles o ran y Theatr, yn dod i ben ar ddiwedd y 1970au. Mae angen lluniau o'r 1980au ymlaen o gasgliadau theatr ffotograffwyr fel Gerallt Llywelyn,Keith Morris a Dylan Rowlands, ymysg eraill. Dwi'n ceisio cael Archifdy Gwynedd i rannu lluniau o gynyrchiadau Theatr efo mi ar gyfer Wicipedia, ond mae nhw'n bod yn anodd iawn ar y funud! Mae'n frwydr anodd, ac anheg yn fy marn i, gan bod y lluniau, fel arfer, yn eiddo i'r cyn-gwmnïau, ac nid yr archifdy neu'r ffotograffwyr. H.y, fel arfer, byddai'r ffotograffwyr wedi cael eu talu gan y cwmnïau am y lluniau, yn barod! Grrrrrrr.Paulpesda (sgwrs)18:57, 11 Hydref 2025 (UTC)Ateb
Diolch yn fawr @Paulpesda am y sylwadau, ac am eich holl gwaith yn y maes yma! Hapus i cael sgwrs efo rheolwr yr archif i weld os oes na rhestr o'r holl dddramau efo ni. Ar rhan cael y ddarlledwyr o fod yn mwy agored, mae'r trafodaeth yma yn un sydd wedi bod yn parhau heb llawer o symyd am flynyddoedd, yn rhanol oherwydd resymau gyfreithiol and hefyd oherwydd diffyg dealltwriaeth o'r werth o fod yn agored. Mi wna'i i, ac eraill dwi'n siwr, parhau i roi pwysau ar sefydliadau i rhannu yn agored lle bynnag mae'r gyfraith yn caniatau. CofionJason.nlw (sgwrs)16:02, 10 Tachwedd 2025 (UTC)Ateb
Sylw diweddaraf:2 fis yn ôl15 sylw6 pherson yn trafod
Helo pawb. Mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn parhau i weithio efo Llywodraeth Cymru i gefnogi'r Wicipedia Cymraeg. Fel rhan o'n brosiect eleni hoffwn greu tua mil erthygl newydd am actorion a chantorion enwog o Gymru a Hollywood. Mae'r erthyglau yma wedi cael i greu trwy grynhoi erthyglau Saesneg efo AI ac wedyn gyfieithu i'r Gymraeg gan ddilyn fformat tebyg. Mae'r erthyglau hefyd yn defnyddio data sydd eisoes ar Wikidata er mwyn nodi gwybodaeth fywgraffiadol. Dyma ragor o wybodaeth a llond llaw o enghreifftiau sydd yn drawstoriad o'r holl erthyglau.
pob un wedi'i olygu â llaw
990 erthygl i gyd
yn cynnwys miloedd o dolenu at erthyglau am ffilmau
dros 80% yn menywod
tua 150 o Gymru a gweddyl yn sêr mawr ffilm a theledu
Mae hynny'n ymddangos fel erthyglau defnyddiol! Ewch amdani. Fodd bynnag, mae gen i gwpl o bryderon bach am y sampl honno.
Ers tro bellach rydym ni wedi bod yn osgoi fformwlâu fel "Actores Americanaidd". Yn lle hynny: "Actores o'r Unol Daleithiau".
Dw i'n amau'n fawr a yw categorïau fel "Merched a aned yn y 1950au" yn wirioneddol ddefnyddiol. Mae gennym ni ddigon o waith i'w wneud i gynnal y categorïau. Beth ydyn ni i fod i'w wneud â'r erthyglau sydd eisoes yn bodoli? Mae'n awgrymu llawer o waith ychwanegol i gynnal cysondeb.
Dw'in hapus i ceisio newid y fformat o "Actores Americanaidd" i "Actores o'r Unol Daleithiau" cyn cyhoeddi'r batsh.
efo'r categoriau dwi'n hapus i mynd efo'r consensws. Y prif rheswm am cynnwys a rhai yma yw bod gen i rhyw cof o @Llywelyn2000 yn deud bod nhw'n pwysig ar rhan cyfri y nifer o erthygalu sydd am menywod? Ond hapus i trafod. Bydd hi'n digon hawdd i tynnu nhw o na
Gawn ni newid Ffilmograffeg i Ffilmyddiaeth.? Mae yna anghysondeb fformat ar deitlau ffilmiau a cyfresi teledu - dylai nhw gyd fod yn italig. (er mae'r albymau yn iawn). Ac ie mae angen Genedigaethau BBBB ymhob erthygl a nid 'ganed yn y BBBBau'. Dyw'r cyfieithu AI ddim yn berffaith a byddai angen tipyn o welliannau i rhan fwyaf o'r erthyglau i addasu cyfieithiadau lletchwith a defnyddio Cymraeg mwy llyfn.Dafyddt (sgwrs)22:35, 29 Medi 2025 (UTC)Ateb
Diolch @Dafyddt. Mi wna'i newid Ffilmograffeg i Ffilmyddiaeth. Efo teitlau ffilmau a cyfresi teledu, wyt ti'n son am y brif testun, neu'r rhestrau? Mi wna'i sieco a cywiro'r brif destun ond mae'r rhestrau yn defnyddio italig ar gyfer dolen i Wikidata a testun arferol ar gyfer dolennu Wici, a nid oess fordd o newid hyn dw'i ddim yn credu. Na'i sortio'r categoriau. Cytuno nad yw'r Gymraeg yn perffaith. Roedd hi'n balans rhwng erthyglau sych peirianyddol a ceisio creu rhywbeth mwy naturiol. Dw'i wedi bod trwy'r cyfan i ceisio cywiro unrhyw gwallau mawr ond fel y gwyddom, nid yw erthygl Wicipedia byth yn gorffenedig! Mi wna'i gweithio trwy'r sylwadau a gobeithio y bydd yr ansawdd yn dderbyniol. Diolch eto!Jason.nlw (sgwrs)08:17, 30 Medi 2025 (UTC)Ateb
Hia Jason. Ie, gyda'r rhestr mae'r broblem. Ond mae'n ymddangos fod hyn wedi bodoli erioed gyda ListeriaBot, a ddim o dan ein rheolaeth ni.Dafyddt (sgwrs)19:00, 30 Medi 2025 (UTC)Ateb
Haia Jason. Mae angen ychwanegu defaultsort at y rhain (er enghraifft,{{DEFAULTSORT:Lauper, Cyndi}}) er mwyn iddynt fod yn y drefn iawn mewn categoriau; sylwa ar drefn yr erthyglau ynCategori:Prosiect Wicifflics ar hyn o bryd.
Mae hefyd angen gwneud hyn gyda nifer o erthyglau ynCategori:Erthyglau LLGC 2023 (ond nid y rhai lles nad oes cyfenw yn nheitl yr erthygl, e.e.Y Dywysoges Alexandrine o Baden – ac mae gan nifer ohonynt defaultsort eisioes). Tybed a all fot wneud hyn?
Yn hollol Ham: mae na sawl teclyn erbyn hyn sy'n cyfrifo rhyw y person drwy Wicidata. Wedi dweud hyn os yw'r degawd yn bodoli, mi faswn i'n awgrymu eu defnyddio. Yn anaml iawn dw i'n anghytuno efo Craig, ond mae categoreiddio mor fanwl a phosib (Degawd yn y cyswllt yma) yn beth da, y fy marn i! Neu, o leiaf eu grwpio o dan y ganrif (fel a wneir ar en). Cofia hefyd fodCategori:Merched yn ôl galwedigaeth yn ddefnyddiol.
Dw i'n methu gweld problem ar y Rhestrau Wicidata / Wikidata List (sy'n cael ei ddiweddaru gan fot o'r enw Listeria). Os oes problem, rhowch wybod - gellir newid unrhyw agwedd o'r rhestrau hyn.
Yn gyffredinol: braf gweld bod 80% o'r erthyglau yn ferched! Braf hefyd gweld swp o erthyglau sy'n hunan-ddiweddaru yn cael eu creu, drwy'r rhestrau Wicidata hyn. Mae na lawer o erthyglau a grewyd tua 2010 sydd a'r ffilmyddiaeth (gair a fathwyd gan DafyddT os cofiaf yn iawn) yn dod i ben ar y flwyddyn y cawson nhw eu creu! Ond mae Rhestrau Wicidata yn dod a'r erthygl yn gyfoes, yn fyw.
Fe ddylem gael polisi ar AI. Mae enwici, Comin a ballu yn troi trwyn arno. Os yw'r wybodaeth yn gywir, diawl o ots gen i, ac os yw'n berthnasol i Gymru - gwell fyth! Yn ddiweddar dw i wedi bod yn defnyddio AI i chwilio am gysylltiadau Cymreig i berson ar Wicipedia; rhywbeth i feddwl amdano, Jason. Gyda llaw mae'r Uned technolegau Iaith yn gweithio ar Claude; ond yn anffodus, mae'n rhaid talu am hwnnw! Erchyll beth yw rhech llo bach.
Un o wendidau mawr AI yw ei ddiffyg treiglo o fewn cod wici. Yn yr erthyglCyndi Lauper ceir 'Ganwyd hi ynDdinas Efrog Newydd yn...' Efallai y byddai'n bosib rhoi categori 'Heb ei brawf-ddarllen' ar bob erthygl, gyda'r golygyddion yn ei ddileu ar ol prawf-ddarllen yr erthygl? Tybed ydy'r grŵp gwirfoddolwyr yn dal gen ti i wneud hyn? A ninnau yma, wrth gwrs!
Awgrymir ar ddogfennaeth y tri Nodyn (Pethau, Pobl, Lle) fod unrhyw Saesneg sy'n ymddangos (o Wicidata) yn y gwybodlenni yn cael ei gywiro / ei gyfieithu wrth roi'r nodyn ar yr erthygl ee enwau gwobrau ac enwau prifysgolion. Gall y rhain hefyd gael eu newid wrth brawf-ddarllen.
Diolch @Llywelyn2000 am roi sylw i hyn, ac am yr awgrymiadau. Hapus efo'r syniad o cynnwys categori i nodi bod angen sieco bellach. Yn anffodus does gen i ddim staff neu wirfoddolwyr i helpu efo'r gwaith gwirio ar hyn o bryd ond gobeithio daw cyfle yn fuan. Dwi'n gallau cael golwg ar y gwybodlennu i weld os oes na data amlwg sydd angen i gyfieithu, cyn cyhoeddu.
Ar rhan 'Ganwyd hi yn Ddinas Efrog Newydd yn...' tybed allet ti cadarnhau i mi beth sy'n cywir? mae Cysill yn awgrymu "yn Ddinas" neu "yn Ninas". Diolch!Jason.nlw (sgwrs)10:07, 3 Hydref 2025 (UTC)Ateb
Dyw Cysill ddim yn deallystyr brawddegau! Felly dyw e ddim yn deall cyd-destunau gramadegol. Mae'r parau "yn ddinas" ac "yn ninas" yn bosibl, ond hynny mewn cyd-destunau hollol wahanol. E.e. "Mae Caerdydd yn ddinas"; "Ganwyd Dai yn ninas Caerdydd" – Cywir! "Mae Caerdydd yn ninas"; "Ganwyd Dai yn ddinas Caerdydd" – Anghywir! Felly "Ganwyd hi yn Ninas Efrog Newydd" bob tro.Craigysgafn (sgwrs)10:44, 3 Hydref 2025 (UTC)Ateb
Haia@Jason.nlw:. Ble ryan ni efo'r lanlwytho? Dw i newydd brawfddarllen dwy erthygl, ac fel y gellid disgwyl roedd manion ynddyn nhw i'w cywiro - ond mae hynny'n wir am fy ngwaith i hefyd; a chwaeth yw llawer o gywiriadau, nid cangyms. Mae mwy o blaid cael yr erthyglau hyn ar wici nag yn eu herbyn. Dw i ddim yn meddwl y byddaf yn medru rhoi llawer o amser fy hun ond mae'r system yn ei le (y categori prawf ddarllen), i fynd ati.Llywelyn2000 (sgwrs)17:51, 23 Tachwedd 2025 (UTC)Ateb
Sylw diweddaraf:4 mis yn ôl3 sylw2 berson yn trafod
Helo - dwi'n trio gwneud "Info-box" ar gyfer yr albwm ADFYW gan y band Cordia. Am ryw reswm, tydi o ddim i weld yn gweithio. Ai defnydd sydd ar Wikipedia Saesneg yn unig ydi o? Gwerthfawrogi unrhyw help!PanedoDe13 (sgwrs)19:08, 29 Medi 2025 (UTC)Ateb
Ceisiwch osgoi "Nodyn:Infobox unrhywbeth", os gwelwch yn dda! Mae gennym ni "Nodyn:Gwybodlen Albwm" yn lle hynny. A dweud y gwir, mae diffyg dogfennaeth ar gyfer cystrawen y wybodlen, ond gweler e.e.Yours Sincerely (albwm) i'w gweld ar waith.Craigysgafn (sgwrs)19:35, 29 Medi 2025 (UTC)Ateb
Sylw diweddaraf:4 mis yn ôl4 sylw2 berson yn trafod
Ers rhyw bythefnos mae na erthyglau mewn Japaneg yn cael eu creu: fandaliaeth bur. Heddiw'r bore crewyd 6. Oes rhywun yn cofio sut i atal ystod o gyfeiriadau IP os na wyddom IP'r fandal?oedd wrthi y bore ma. Dw i'n poeni y gall cyn hir greu 6 mil neu 6 miliwn, gydag IP gwahanol ar bob un!Llywelyn2000 (sgwrs)10:09, 6 Hydref 2025 (UTC)Ateb
Dw i newydd ddileu'r erthyglau a grewyd. Mae'n hawdd blocio un defnyddiwr, ond pan mae'n newyd ei gyfeiriad IP rhaid blocio'r ystod.Dafyddt - ydw i'n iawn yn dweud dy fod wedi gwneud hyn beth amser yn ol? Sut mae rhywun yn gwybod pa ystod o gyfeiriadau yw fy mhroblem i.Llywelyn2000 (sgwrs)15:48, 7 Hydref 2025 (UTC)Ateb
Felly byddai'r ystod "240b:240::/26" yn blocio pob cyfeiriad IPv6 sy'n defnyddio darparwr "Japan Internet Xing Co" (o leia dyna un o'i blociau IP). Byddai'n dda gallu blocio cyfeiriadau penodol rhag creu/golygu tudalennau fel gwestai. Ond dyw e ddim yn edrych yn bosib, dim ond gosodiad ar draws y wici cyfan i wahardd gwestai.Dafyddt (sgwrs)19:15, 7 Hydref 2025 (UTC)Ateb
Diolch Dafydd! Mae hyn yn wendid yn y fersiwn diweddaraf, felly. Mi holai ar Meta pan ga i amser, oni bai fod rhywun yn fy nghuro! O leia dw i'n gwybod beth i'w ofyn rwan! Diolch eto.Llywelyn2000 (sgwrs)12:38, 8 Hydref 2025 (UTC)Ateb
Gwobrau Wicimediwr y Flwyddyn 2025 - Galwad am enwebiadau
Sylw diweddaraf:3 mis yn ôl7 sylw4 person yn trafod
Helo bawb. Neges isod gan Rupal, fy nghyd-weithwr yma yn WMUK - Bydd e'n wych gweld enwau o'n gymuned ni yn y mix!
Mae WMUK yn hapus i gyhoeddi bod enwebiadau ar agor ar gyfer GwobrauWicimediwr y Flwyddyn y DU 2025. Rydym yn gofyn i chienwebu unigolion a sefydliadau sydd wedi bod yn rhan o ymdrechion Wikimedia UK i hybu gwybodaeth agored yn 2024/25. Y categorïau ar gyfer eleni yw:
Wicimediwr y Flwyddyn y DU (Unigolyn)
Partneriaeth y Flwyddyn (Sefydliad)
Wikimediwr Neywdd ("Up and coming") (Unigolyn)
Rydym yn chwilio am bobl a phartneriaethau o fewn cymuned Wikimedia UK sydd wedi gwneud argraff fawr arnoch gyda'u gwaith gwybodaeth agored, yn 2024/25. Rydym yn arbennig o awyddus i glywed am bobl a sefydliadau a gyflawnodd brosiectau sy'n mynd i'r afael â'n themâu strategol, sef Tegwch Gwybodaeth, Llythrennedd Gwybodaeth, a'r Hinsawdd a'r Amgylchedd. Bydd enwebiadau'n cael eu beirniadu gan aelodau'r Pwyllgor Datblygu Cymunedol a chyhoeddir yr enillwyr yn yDathliad Cymunedol arDydd Sadwrn 15 Tachwedd 2025.
Wel, wel, o edrych ar restr llynedd gwelais bu Wicipedwr preswyl gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ond doeddwn ddim wedi clywed am hyn, er mod i'n aelod ac yn darllen y cylchgrawn o glawr i glawrǃRhyswynne (sgwrs)15:41, 8 Hydref 2025 (UTC)Ateb
O ystyried cyfraniad enfawrRobin i Wici Cymraeg dros y blynyddoedd, wedi ei symud o ychydig gannodd o erthyglau i'r cannoedd o filoedd presennol, rwy'n credu mai da o beth byddai ei anrhydeddu ef ar ei ymddeoliad.AlwynapHuw (sgwrs)05:02, 13 Hydref 2025 (UTC)Ateb
Hi Paul - fel dwedais i i AlwynapHuw, plîs defnyddiwch y ddolen i enwebu (neu gefnogi enwebiadau) i wneud yn hollol siŵr mae'r trefnwr ddim yn colli enwebiadau. Diolch!Gemma Coleman (WMUK) (sgwrs)09:14, 14 Hydref 2025 (UTC)Ateb
Sylw diweddaraf:3 mis yn ôl5 sylw3 pherson yn trafod
Yn dilyn tua 15 mlynedd o ofyn yn daer, o drafod yn bwyllog, ac o'u beirniadu'n agored... mae ein Hamgueddfa wedi rhyddhau dros 2,000 o luniau bendigedig ar drwydded agored Comin Creu.Dyma nhw!
Diolch! Dwi wedi tynnu eu sylw i'r edefyn hwn yn barod ac wedi ychwanegu hwn i fy 121 nesaf i drafod. Ar hyn o bryd mae OpenRefine (a torflwytho) dim rhywbeth dwi'n gwybod sut i wneud o gwbl! Hefyd, mae nifer o brosiectau gwaith arall 'da fi felly mae rhaid i fi gytuno blaenoriaethau gyda Sara.
Ond bydd yn siom fawr i golli'r cyfle i ddefnyddiau'r delweddau felly wna i wneud fy ngorau i sortio rhywbeth. Hefyd, os mae unrhyw un yma gyda diddordeb yn hwn ond hoffi ryw fath o gymorth, hyfforddiant ac ati, rhowch wybod i fi - falle gallai gweithio gyda'i gilydd.Gemma Coleman (WMUK) (sgwrs)09:49, 21 Hydref 2025 (UTC)Ateb
Sylw diweddaraf:3 mis yn ôl8 sylw4 person yn trafod
Mae’rgrŵp defnyddiwr WMLGBT+ yn chwilio am siaradwr Cymraeg gyda gwybodaeth a dealltwriaeth ynghylch HIV ac AIDS i wneud adolygiad o ba cynnwys sy’n ar gael yn barod am y pwnc ar Wicipedia Cymraeg a pa erthyglau sy’n angen gwella, cyfeiriadau neu sydd ddim yn bodoli.
Mae’r bwriad yw creu rhestr o tasgau ar gyfer unrhyw siaradwyr Cymraeg sy’n mynychu’r Golygathon ar ddiwedd mis Tachwedd yng Nghaerdydd i nodi “World AIDS Day”. Efallai bydd rhywfaint o gyllideb i dalu am amser yr ymchwilydd. Oes gennych unrhyw ddiddordeb neu cwestiynau, cysylltwchowen@wmlgbt.org. Gemma Coleman (WMUK) (sgwrs)11:13, 9 Hydref 2025 (UTC)Ateb
Diolch! Mae yn bendant lot o waith cyfieithu i wneud i fod yn siŵr! @OwenBlacker - dwi'n tagio chi i dynnu eich sylw i hwn. Paul - dwi ddim yn siŵr pa mor aml Owen yn ymweld Y Caffi, ydych chi'n hapus i gysylltu fe yn syth neu ydych chi'n hapus i fi rhannu eich cyfeiriad e-bost gyda fe?Gemma Coleman (WMUK) (sgwrs)09:26, 14 Hydref 2025 (UTC)Ateb
Dim ond pam cafodd rhywun yn fy nhagio 😅
@Gemma Coleman (WMUK) rwyt ti'n croeso i rhannu fy nghyfeiriad ebost gyda pobl sy'n hoffi helpu.
@Paulpesda: Rhaid i ni ffeindio rhywun sy'n gallu ymchwilio lle (yn Wicipedia Cymraeg) angen mwy o ystyriaeth ar bwnc HIV/AIDS. Ond mae llawer o erthyglau Seisnig dyn ni'n gallu cyfieithu hefyd. Diolch am atebu; dwi'n siŵr bod ni'n gallu croesawu eich cymorth —OwenBlacker (sgwrs)13:11, 14 Hydref 2025 (UTC)Ateb
@Paulpesda: er gwybodaeth, mae Owen yn foi da, uchel iawn ei barch gan Wikimedia UK ayb a'r byd technoleg gwybodaeth drwy'r byd. Mae hefyd yn gweithio yn Llundain: handi iawn! Ac yn bwysicach na dim... yn gyfaill i ni yma ar cy-wici!Llywelyn2000 (sgwrs)09:00, 15 Hydref 2025 (UTC)Ateb
Sylw diweddaraf:3 mis yn ôl1 sylw1 person yn trafod
Byddwch yn ofalus wrth ddyfynu o ddeunydd gan yColeg Cenedlaethol Cymraeg, gan imi ddod ar draws sawl ffaith anghywir yn eu deunydd, ac ar eu gwefan. Gwell croes-wiro bob amser i fod yn saff. Er enghraifft, mae nhw'n nodi mai ym 1936 y cyhoeddwyd y nofelY Wisg Sidan, ond ym 1939 sy'n gywir, fel ag y mae yn yCydymaith i Lenyddiaeth Cymru ac ar ein tudalenau ni! Felly hefyd gyda blwyddyn darlledu'r addasiad i deledu,Y Wisg Sidan sef 1997 ganddynt hwy [blwyddyn yr ail-ddarlledu] ond ym 1995 cafodd y gyfres ei darlledu gyntaf, gan ennill gwobrauBAFTA Cymru ym 1996. Diolch.Paulpesda (sgwrs)08:04, 16 Hydref 2025 (UTC)Ateb
Aeth yn dda iawn, diolch @Llywelyn2000. Daeth 11 person, rhai heb olygu o gwbl (gan gynnwys aelod o gymdeithas hanes leol) a phobl sy'n ymddiddori mewn sawl pwnc/wici gwahanol. Efallai trefnir digwyddiad tebyg ym mis Ionawr.Rhyswynne (sgwrs)12:46, 17 Tachwedd 2025 (UTC)Ateb
Sylw diweddaraf:3 mis yn ôl1 sylw1 person yn trafod
Mae'rGymdeithas Myfyrwyr Astudiaethau Celtaidd wedi agor eu galwad am bapurau i fyfyrwyr cyfredol a rhai sydd newydd raddio. Oes unrhyw fyfyriwr yma gyda diddordeb (falle sydd a chysylltiad â ieithoedd Celtaidd ar Wiki?)
Mae'r gynhadledd yn ddigwyddiad hybrid yn yr Iwerddon ar yr 11eg o Fehefin hyd y 13eg o Fehefin 2026 ac mae'r dyddiad cau i roi eich crynodeb ar y 12fed o Ragfyr -dolen yma
Sylw diweddaraf:2 fis yn ôl2 sylw2 berson yn trafod
Mae 'na gwenid ar Wicidata bod y categori "ffilmi am berson" (Q645928) heb fflag sy'n mynnu bod enw "y person" yn rhan o'r data. Newydd dreulio amser yn rhoi enw "y person" a phwt o wybodaeth amdano ar erthyglI Accuse!, rhywbeth byddwn yn disgwyl i Wicidata ei ddarparu ar erthyglau bot!AlwynapHuw (sgwrs)04:06, 6 Tachwedd 2025 (UTC)Ateb
Cytuno. Dros dro, ar Wicidata, dw i wedi rhoi Alfred Dreyfus fel 'Prif bwnc' y ffilm, ac mae hwnn'n llifo i'r Wybodlen. Gelli godi'r datrusiad (dy awgrym) ar dudalen Cymuned WD hefyd, cofia.Llywelyn2000 (sgwrs)05:31, 17 Tachwedd 2025 (UTC)Ateb
Sylw diweddaraf:3 mis yn ôl1 sylw1 person yn trafod
Hiya! Cyn mynd ar wyliau blynyddol roedd fi trio cyfieithu'r tudalen digwyddiad ar gyfer y digwyddiad World AIDS day yng Nghaerdydd diwedd Tachwedd (https://meta.wikimedia.org/wiki/World_Aids_Day_2025/Cardiff_Editathon/cy). Dwi wedi gwneud fy ngorau ond dwi'n teimlo fel dwi wedi rhedeg mas o amser i fod yn hollol ofalus a hefyd, mae'n falle yn gam rhy bell am fy Nghymraeg! Os bydd unrhyw un yma sy'n fodlon i brawf darllen a chywiro unrhyw gamgymeriadau yn fy Nghymraeg, byddwn i ddiolchgar iawn! (Hefyd, mae'n amlwg dwi ddim wedi cweit yn deall sut mae'r offer cyfieithu yn gweithio ac mae'r dolenni wedi diflannu!)Gemma Coleman (WMUK) (sgwrs)17:06, 6 Tachwedd 2025 (UTC)Ateb
Sylw diweddaraf:3 mis yn ôl6 sylw3 pherson yn trafod
Nodyn sydyn i holi ynghylch cyfieithu enwau cymeriadau oGroeg yr Henfyd. Wrthi yn cyfieithu erthyglau am ddramâuSoffocles ac eraill, ac yn sylwi weithiau bod yr enwau / cyfieithiadau mae'r beirdd felEuros Bowen neuW. J. Gruffydd yn ei ddefnyddio / gynnig, yn wahanol i'r rhai sydd eisoes ar waith ar Wicipedia Cymraeg. Er enghraifft, y proffwyd dallTiresias. "Teiresias" mae Bowen yn ei ddefnyddio, sy'n agosach at y "Teiresias / Τειρεσίας" wreiddiol, ond defnyddiodd @Adda'r Yw Tiresias. Tydwi ddim yn ddigon o ieithydd i ddadlau pa un sy'n fwyaf cywir, ond byddai'n dda derbyn barn er mwyn cysoni'r holl erthyglau. Yr un modd gyda Thesews, brenin Athen. Thesews sydd gan Bowen, ondTheseus sydd gennym ni, er mai "Thesews" sydd yng nghorff yr erthygl. Ydi hi'n iawn imi addasu'r hyn sydd gennym i gyd-fynd â'r cyfieithiadau cyhoeddedig? Diolch.Paulpesda (sgwrs)12:24, 7 Tachwedd 2025 (UTC)Ateb
Yn wir, mae'r peth fel siop siafins, er nad oes ateb amlwg. Wrth wraidd y broblem mae'r arfer Seisneg o droi enwau Groegaidd yn rhai Lladin. A phan, ar ben hynny, rydyn ni'n Cymreigeiddio'r ffurfiau Saesneg-Lladin, mae'n mynd yn gymhleth iawn. Felly mae dewisiadau anghyfforddus i'w gwneud yn aml. O'm rhan i, byddwn i'n falch o'ch gweld chi'n tacluso rhywfaint o'r pethau hyn, Paul. ("Thesews" yw'r ffurf ynGeiriadur yr Academi, a dydw i ddim yn siŵr pam nad yw hynny'n cael ei ddefnyddio ar gyfer teitl yr erthygl.)Craigysgafn (sgwrs)19:05, 7 Tachwedd 2025 (UTC)Ateb
Tydw ina ddim o bell ffordd yn arbenigwr, a fy naliadau wedi newid dros y blynyddoedd. Dw i'n cofio dadlau y dylem gadw'n slafaidd at yr hyn mae'r ffynonellau solad yn ei ddweud, ond bellach, dwi'n meddwl y dylem ni, weithiau benderfynu rhai pethau fel hyn ein hunain. Mae'r 'ffynonellau solad' yn aml yn simsan, yn gwrth-ddweud ei gilydd neu wedi dyddio'n arw. Dw i'n hoffi dy syniad o restr i geisio barn, sgwrs ac yna cytundeb a chysondeb traws-cy-wici. Efallai hefyd, ryw ddydd y byddai rhestr enwau pobl o'r Hen Roeg (a Rhufeinig!) hefyd yn beth da. Mae pob ebw lle sy'n gorffen gyda 'eus' yn amlwg yn trosi'n naturiol, yn Cymreigio'n naturiol i 'ews', fel yr awgryma Craigysgafn, uchod. Felly hefyd (yn fy marn i) y dylid trosi 'hydro' yn 'heidro'... ond sgwrs arall yw honno! Diolch am dy waith efo hwn Paul; efallai yn nes ymlaen y medri gynnig pennod ar hyn i'w roi yn einPolisi arddull?Llywelyn2000 (sgwrs)08:19, 9 Tachwedd 2025 (UTC)Ateb
Diolch. Dwi'n sylwi bod 'us' yn troi'n 'os' hefyd. Cytuno bod hi'n hen hir ddadl ddi-ateb! Hyd yn oed pan oeddwn yn astudio Lefel A yn yr ysgol 35 mlynedd yn ôl!Paulpesda (sgwrs)08:26, 9 Tachwedd 2025 (UTC)Ateb
Sylw diweddaraf:4 mis yn ôl1 sylw1 person yn trafod
Helo pawb. Mae dal amser i gofrestru am y digwyddiad yma! Diwrnod allan yn Aberystwyth, Paned am ddim, cyfle i gwella'r byd trwy olygu Wicipedia? Oes angen rhagor o rhesymau?! Pwnc y digwyddiad bydd Ffilm, Teledu, Radio a Theatr Cymraeg, a bydd y digwyddiad yn cael i gynnal yn yr Archif Darlledu Genedlaethol yn y Llyfrgell Gen. Mae na gwahoddiad cynnes i bawb! Mae modd archebu tocyn am ddimyma.
Sylw diweddaraf:2 fis yn ôl2 sylw2 berson yn trafod
Dim ond nodyn o ddiolch i'r gymuned am fy enwebiad ar gyfer GwobrauWicimediwr y Flwyddyn 2025. Wedi ei werthfawrogi yn fawr. Llongyfarchiadau hefyd i @Llywelyn2000 am ei enwebiad yntau. Er na fu'r ddau ohonom yn llwyddianus y tro yma, dwi'n siwr ein bod yn gwerthfawrogi'r gydnabyddiaeth yn fawr, ac yn falch o weld bod y Wicipedia Cymraeg yn cael ei phriod le, gyfochor â'r rhai drwy'r byd.Paulpesda (sgwrs)10:36, 16 Tachwedd 2025 (UTC)Ateb
Ia wir, diolch gyfeillion. Dw i wedi enwebu un ohonoch yn flynyddol dros y 10 mlynedd diwethaf, heb lwc. A llongyfs Paul. Efallai ei bod hi'n bryd i cy-wici ddewis Wicipediwr y Flwyddyn ein hunain, ac nid gadael i bobl o'r tu allan, na wyddan nhw fawr o ddim am ein gwaith yma, i ddewis ar ein rhan!Llywelyn2000 (sgwrs)11:53, 16 Tachwedd 2025 (UTC)Ateb
Sylw diweddaraf:2 fis yn ôl3 sylw2 berson yn trafod
Mae nifer o ddigwyddiadau Wiki sy’n eisiau denu siaradwyr Cymraeg dros y pythefnos nesaf. Mae’r manylion yn ycylchlythyr Cymru newydd (tanysgrifioyma) ond isod yw crynodeb bach…
Dydd Gwener 28ain yn Aberystwyth -Golygathon Wici-Fflics gyda Jason yn y Llyfrgell Genedlaethol
Dydd Sadwrn 29ain AR-LEIN -Golygathon Diwrnod AIDS y Bydd ar-lein. Does dim cyfieithu byw i'r Gymraeg ond mae llwyth o erthyglau ‘da nhw sy’n angen fersiynau Gymraeg.
Dydd Sadwrn 6ed Rhagfyr AR-LEIN - “Revitalising UK history 2” - digwyddiad sy’n bwriadu at ychwanegu a chyfieithu labeli a disgrifiadau eitemau Wikidata i nifer o ieithoedd gwahanol yn gynnwys Cymraeg.
Whaw! bwydlen blasus iawn, Gemma! Gwych iawn! Dw i yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn, i weld y rygbi, ond duw a wyr os y caf amser i bicio i fewn i'r Llyfrgell Ganolog. Cawn weld! Pob hwyl!Llywelyn2000 (sgwrs)10:10, 26 Tachwedd 2025 (UTC)Ateb
Oooh - mwynhau! (Yn anffodus, dwi ddim yn disgwyl llawer yn erbyn De Affrica ar hyn o fryd, ond mae gwyrthiau'n digwydd). Byddwn ar y 5ed llawr yn y llyfrgell o 1yh os hoffech chi ddod draw cyn y gêm (a diolch am yr atgoffiad am y rwgbi)!!!Gemma Coleman (WMUK) (sgwrs)12:03, 26 Tachwedd 2025 (UTC)Ateb
Sylw diweddaraf:1 mis yn ôl4 sylw3 pherson yn trafod
Wedi sylwi bod yr erthygl wedi ei nodi fel un i'w dileu ganLlywelyn2000 gydag un o'r rhesymau: "Dim byd yn nodedig.". Mae cas gen i'r miloedd o erthyglau un llinell o fywgraffiadau sydd ar Wicidpedia. Nifer fawr ohonynt wedi eu creu fel rhan o brosiect "Wicibobl" deng mlynedd yn ôl. Mae angen "prosiect" newydd i wella'r fath erthyglau! Ond rwy'n anghytuno a barn Robin bod 'Druisyn' yn un sydd un mor ddi-nod ag i beidio haeddu erthygl. Roedd yn weinidog Wesla o'r un oed agEglwysbach, cafodd y ddau eu geni yr un flwyddyn a'r ddau eu derbyn i'r weinidogaeth yr un pryd. Eglwysbach, yn ddi-os oedd brenin ei enwad yn y cyfnod, ond roedd 'Druisyn' yn dywysog amlwg. Rwyf wedi symud yr erthygl wreiddiol oDavid 'Druisyn' Jones (gweinidog a llenor) iDavid Jones (Druisyn) ac wedi ei wella. Mae llawer iawn fwy gallwn ychwanegu ato, ond rwy'n gobeithio bod y pwt o ychwanegiad yn ddigon i berswadio Robin o haeddiant lle Druisyn yn ein harlwyAlwynapHuw (sgwrs)03:20, 3 Rhagfyr 2025 (UTC)Ateb
Pwrpas Tudalenau Sgwrs ar ein herthyglau yw rhoi lle i drafodaethau fel hyn, Alwyn, neu bydd y Caffi'n boddi gyda manion.
Drwy greu erthygl newydd sbon ac ailgyfieriad, dyw 'Hanes yr Erthygl', bellach, ddim ar y dudalen newydd. Mi wnai gynnwys pwt yn fano i gywiro hyn. Er mwyn cadw'r erthygl wreiddiol, y dull arferol yw symud y dudalen a thrwy wneud hyn mae hanes y dudalen (a phwy a'i chreodd) yn mynd gyda hi.
Amlygrwydd. Doedd yr erthygl ddim yn cynnwys y wybodaeth ti'n ei nodi fod Druisyn yn nodedig am fod yn 'dywysog amlwg ei enwad'. Ond dyw'r erthygl newydd ddim chwaith. Heb gyfeiriadaeth i ffynhonnell solad, gall person ddim fod yn nodedig. Mae ein polisi (Wicipedia:Amlygrwydd) yn nodi'r meini prawf. Efallai fod y dyn yn nodedig, ond doedd yr erthygl fel ag yr oedd ddim yn dweud hynny. Er enghraifft pe bai'r erthygl Wici ar Druisyn wedi nodi fod erthygl arno yn yY Bywgraffiadur Cymreig (a chyfeiriad i'r wefan honno) yna byddai'n nodedig.
'Wicibobl' - doedd gen i ddim i'w wneud gyda'r prosiect yma, Alwyn, ar wahan i awgrymu (gydag eraill) fod angen mwy o gnawd ar yr erthyglau. Prosiect y LlyfrGen ydoedd.
@Llywelyn2000:@AlwynapHuw: Pan welais i'r erthygl wreiddiol, deallais fod nodyn Robin yn golygu bod ganddi nifer o broblemau yr oedd angen eu datrys cyn iddi gyrraedd safon dderbyniol. Un ohonynt oedd nad oedd yn egluro pam roedd Druisyn yn nodedig. Edrychais i o gwmpas i weld a oedd ateb cyflym, ond heb lwyddiant. Ac yn awr mae Alwyn wedi gwneud gwaith gwych i ddangos yr union beth roedd Robin yn chwilio amdano. Felly gweithiodd popeth yn y ffordd y dylai. Pan oeddwn i'n ennill fy mywoliaeth fel golygydd, fy arwyddair oedd: "Ni allaf i obeithio gwneud y llyfr hwn yn berffaith, ond gallaf i geisio ei wneud yn well." A dyna'r cyfan y gallwn ni ei wneud gyda phrosiect mor enfawr â Wicipedia: daliwch ati a brwydro yn erbyn y talcen caled. Diolch i bawb am eu hymdrechion! DafyddCraigysgafn (sgwrs)09:58, 3 Rhagfyr 2025 (UTC)Ateb
Rhoddodd rhywun nodyn uwch ben yr erthygl yn fwgwth ei ddileu. Mi ysgrifennais i erthygl deg am yr wrthrych, ac rwy'n cael fy meirniadu! Naw wfft i'r fath nonsens!AlwynapHuw (sgwrs)03:13, 4 Ionawr 2026 (UTC)Ateb
Chwilio am rywbeth ymlaciol i wneud ar Wiki dros y cyfnod Dolig? Neu rywbeth hawdd i ddenu eraill i gyfrannu i'r bydysawd Wici? Beth am chwarae "The Distributed Game"? (lot gwell na Monopoly!)
Mae'n gêm sy'n wedi cael ei chreu er mwyn cyfateb erthyglau a chategorïau Wici newydd gyda gwrthrychau Wikidata ac mae'n bosib cyfatebu erthyglau ar Wicipedia Cymraeg gyda'r gwrthrych perthnasol ar Wikidata - dolen ymahttps://wikidata-game.toolforge.org/distributed/#game=82&opt={%22type%22%3A%22cy%22}. Darllenwch y crynodeb o'r erthygl Cymraeg a phenderfynu os mae'n ynghylch y gwrthrych Wikidata neu na (neu ddewis "Skip")
Rhywbeth hawdd i wneud o'r soffa am Wicipedwyr brwdfrydig ond yn hefyd yn addas am siaradwyr Cymraeg llai hyderus neu ddysgwyr achos y cyfan sy'n eu hangen yw digon o Gymraeg i wybod os bydd y crynodeb yn berthnasol i'r gwrthrych Wikidata ac mae opsiwn i hepgor os dydyn nhw ddim yn deall.Gemma Coleman (WMUK) (sgwrs)11:39, 23 Rhagfyr 2025 (UTC)Ateb
Welais i'r neges isod mewn un o'r grwpiau Wiki Telegram ddoe gan y crëwr o "The Distributed Game"
"Just to note the amazingness of the Welsh community, there are now 0 potential matches for cywiki in the game! (until more articles are created...)"
Sylw diweddaraf:1 mis yn ôl1 sylw1 person yn trafod
Ar y cyntaf o Ionawr pob blwyddyn bydd llyfrau awduron a fu farw dros 70 o flynyddoedd namyn ddiwrnod yng nghynt yn dod yn rhydd o hawlfraint. Ar Ddydd Iau bydd gweithiau'r awduron Cymraeg isod, a fu farw ym 1955, ymysg y rhai sydd yn dod yn rhydd o hawlfraint:
Edward Morgan Humphreys—Dirgelwch yr anialwch (1911), Rhwng rhyfeloedd (d.d.); Yr etifedd coll (d.d.); Y llaw gudd (1924); Cymru a'r wasg (1924); Dirgelwch Gallt y Ffrwd (1938); Detholiad o lythyrau'r hen ffarmwr (1939); D. Lloyd George (1943); Ceulan y Llyn du (1944); Y wasg yng Nghymru (1945); Gwŷr enwog gynt, 1 (1950); Profiadau golygydd (1950); Gwŷr enwog gynt, 2 (1953);
Sylw diweddaraf:1 mis yn ôl4 sylw3 pherson yn trafod
Rwyf wedi sôn am Lyfrgell Wicipedia o'r blaen, adnodd o ffynonellau academaidd ac eraill sydd yn costio lawer i danysgrifio iddynt, fel arfer, ond sydd ar gael am ddim i olygwyr cyson safleoedd Wici. Adnodd newydd sydd wedi ychwanegu at yr arlwy yw"The British Newspaper Archive" sydd yn cynnwys nifer o bapurau newyddion lleol a Phrydeinig hyd at 1999. Trysor os am ysgrifennu erthyglau am bobl neu ddigwyddiadau hyd at chwarter canrif yn ôl!
Mae modd cael tanysgrifiad i'r llyfrgell os:
Mae gennych gyfrif sydd o leiaf 6 mis oed
Rydych wedi gwneud o leiaf 500 o olygiadau i brosiectau Wikimedia
Rydych wedi gwneud o leiaf 10 golygiad i brosiectau Wikimedia yn ystod y mis diwethaf
Nid ydych wedi'ch rhwystro rhag golygu prosiect Wikimedia ar hyn o bryd
Diolch am hwn Alwyn. Rwy wedi bod yn defnyddio Newsbank drwy gofrestriad y Llyfrgell Gen. Oes angen cofrestru ar wahan i'r "British Newspaper Archive" felly, er fod y ddolen yn dechrau o Lyfrgell Wicipedia? Un peth anffodus rwy wedi sylwi yw diffyg deunydd papurau fel y Western Mail o'r 1980au/1990au. Mae stwff o 2000 ymlaen i gael yn electronig drwy Newsbank, a mae yna sganiau hen iawn ar gael ond dim byd yn y canol.Dafyddt (sgwrs)13:31, 6 Ionawr 2026 (UTC)Ateb
Ar y cyfan mae'r papurau newyddion sydd ar gael trwy docyn darllen LlGC yn deitlau mawr Prydeinig, yTimes, yGuardian, yDaily Mirror ac ati. Mae British Newspaper Archive efo mwy o bapurau rhanbarthol a lleol megisDaily Post,Western Mail a rhai lleol fel yNorth Wales Weekly News,Cambrian News,Cardiff Post. Mae rhai o bapurau Cymraeg yno hefydY Dydd yrHerald Gymraeg ac ati (ond nidY Cymro ysywaeth). Mae Llyfrgell Wicipedia hefyd yn cynnwys mynediad at safleoedd fel NewspaperARCHIVE.com, efo papurau o'r UD a Chanada a Newspapers.com (rhan o deulu Ancestry.Com) sydd â phapurau o bob gwlad ac iaith.AlwynapHuw (sgwrs)01:24, 7 Ionawr 2026 (UTC)Ateb
Sylw diweddaraf:1 mis yn ôl4 sylw3 pherson yn trafod
Gweler dudalen sgwrs y Cateogri "Cerddi Cymraeg" (sorri, ddim yn siwr sut i greu dolen i dudalen sgwrs cateogri. Dwi'n meddwl bod hyn yn gwestiwn all fod yn berthnasol at lawer o bethau eraill heblaw cerddi, sef unrhywbeth y gellir ei osod o fewn uwch-gategori ac hefyd is-gategori.
I grynhoi fy sylwadau yna: mae rhai cerddi ar wicipedia yn yr uwch gateori "Cerddi cymraeg" a rhai wedyn dim ond mewn is-gategoriau e.e. "Cerddi cymraeg am farwolaeth", "Pryddestau", "Cerddi Cymraeg o Gymru" ac ati, a llawer ohonynt yn y ddau. Rydw i wedi rhoi pob cerdd dwi wedi creu tudalen iddi yn yr uwchgategori (a weithiau'r isgategoriau hefyd) gan fy mod i'ngweld budd mewn cael un rhestr gynhwysfawr o bob cerdd cymraeg â thudalen iddi ar wicipedia, nad yw'n bodoli ar hyn o bryd. Ond mae defnyddiwr eraill wedi symud rhai o'r cerddi allan o'r uwch-gategori yna. Oes consensws?--Figaro (sgwrs)08:14, 9 Ionawr 2026 (UTC)Ateb
Sylw diweddaraf:1 mis yn ôl1 sylw1 person yn trafod
Blwyddyn Newydd Dda pawb! Gobeithio gawsoch chi gyd amser i ymlacio a mwynhau dros y Nadolig.
Dwi'n gwybod am ddau beth Wiki sy'n digwydd dros fis Ionawr gyda chysylltiad i Gymru neu'r Gymraeg (ond os mae mwy yn digwydd dwi'n mwy na hapus i gefnogi neu hybu nhw - rhowch wybod i fi)!
Dydd Sadwrn 17eg Ionawr AR-LEIN (ail-drefnwyd o'r 6ed Rhagfyr) - “Revitalising UK history 2” - digwyddiad sy’n bwriadu at ychwanegu a chyfieithu labeli a disgrifiadau eitemau Wikidata i nifer o ieithoedd gwahanol yn gynnwys Cymraeg. (Ond yn anffodus, dyma'r un amser â "Navigating Challenging Spaces", digwyddiad arall ar-lein.)
Rydym hefyd yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu gydaWiki Loves Folklore sy'n dechrau 1af Chwefror.Fwy o wybodaeth yma neu cysylltwch fi ar gemma.coleman@wikimedia.org.uk.
Tybed gai holi ynglŷn â phwy sydd wedi penderfynu cael enwau gwledydd de Amercia wedi'u sillafu mewn Cymraeg ffonetig reit od? EE Feneswela, Tsile, Wrwgwái etc.
Heblaw am fod yn ddryslyd ac anghyfarwydd i ddefnyddwyr Wicipedia, onid hyn i gyd yr un fath o beth a sillafu "Caernarfon" yn "Karnarvon" gyda "K" a "V" - fyddai ddim yn dderbyniol i ninnau??
Oni fyddai'n dangos parch i bobloedd y gweldydd yno i ddefnyddio'r enwau fel sydd yn eu hiaithoedd nhw, EE "Venezuela"?
Hyd y gwyddai i, unig wlad de America gydag enw Cymraeg sy wedi datblygu’n naturiol ydy "Yr Ariannin".
Yn sicr does 'na'r un siaradwr Cymraeg sy'n galw prif ddinas Rwsia yn "Moscfa"??? Neu os am gadw at y defn yno, I fod y gyson, dylai "Buenos Aires" troi'n "Bwenos Eires", "Chicago" yn "Tsicago" a "Leipzig" yn "Leibtsich"?
-- Mae ddrwg iawn gennyf swnio fel swnyn!! Mae Wicipeida yn hollol wych... a llawer o ddiolch i bawb am eu holl waith ffantastig!
Haia Huw, a diolch am dy gwestiwn a'th bryder. Os oes un maes sydd wedi rhannu cymuned WP dros y blynyddoedd, yna dyma fo!!! Ond, mae angen ail-godi'r peth, wrth gwrs, a newid cyfeiriad os oes angen.
Mae enw pob gwlad yn cael ei ystyried ar dudalen Sgwrs y wlad honno. Cymer olwg rai ohonynt yn gyntaf.
Efallai erbyn hyn fod angen hefyd colofn arall yn y tabl uchod: colofn i waith Comisiynydd y Gymraeg ac Uned Ddata a Chyfnewid, Llywodraeth Cymru; roeddDylan Foster Evans yn rhan o'r gwaith hwn ac mae'n golygu yma bob yn hyn a hyn dan yr enwTroellwr. Byddai hyn yn fan cychwyn da: colofn newydd (yr olaf ond un o'r dde), gyda'u hawgrym nhw. Yna trafodaeth cyffredinol yma yn y Caffi. Dyna fy awgrym, ond mae gan lawer iawn ddiddordeb yn yr hyn rwyt ti'n ei godi, dwi'n siwr!
Bydd barod! Rwan ta, gad i mi nol ecsoset neu ddau...
Heia Huw. Mae pwnc enwau gwledydd yn ddadl hen iawn ar Wicipedia (cafwyd y trafodaethau cyntaf dros 20 mlynedd yn ôl!). Bu sawl defnyddiwr o blaid dilyn safonau'r drefn addysg ar y pryd (Yr Atlas Cymraeg Newydd), sy'n defnyddio'r ffurfiau brodorol gan amlaf (ac eithrio enwau cyffredin iawn megis Ffrainc a'r Aifft, wrth gwrs), a defnyddwyr eraill o blaid ffurfiau wedi eu Cymreigio, yn enwedig os oedd enghreifftiau o'r ffurfiau hynny mewn geiriaduron, gwefannau a thestunau Cymraeg. Cafodd yr atlas ei feirniadu am ambell dewis rhyfedd megis "Ukrain" a "Slovenija". Am ddeng mlynedd gyntaf y prosiect, nid oedd cysondeb.Yn 2013, cytunwyd ar bolisi o dderbyn sillafiadGeiriadur yr Academi (sy'n llawn esiamplau megis Feneswela ac Wrwgwái), ac i ddefnyddio ffurf ffonetig os nad yw'r enw yn y geiriadur.
Bellach, fel y noder Llywelyn, mae Llywodraeth Cymru argymellrhestr ei hun ar gyfer enwau gwledydd yn Gymraeg, gan gynnwys nifer o enwau nad ydynt yn Yr Atlas Cymraeg Newydd (e.e. Affganistan, Ciwba, Mecsico, Wcráin), ac mewn ambell achos hyd yn oed yn cadw'r ffurf Saesneg (Cape Verde, Philippines).
Nid oes polisi ynglŷn â dinasoedd, taleithiau, ac ati. Fel rheol defnyddir y ffurf frodorol os nad oes enw Cymraeg traddodiadol, ond gall hyn fod yn ddewis ansicr os tybier y byddai darllenwyr Cymraeg yn fwy cyfarwydd â'r enw Saesneg neu Gymreigiad ohonno (e.e. Copenhagen/København, Prag[ue]/Praha, Belgrad[e]/Beograd). Yn achos Moscfa,dyma'r sgwrs ynglŷn â'r enw (o ddeunaw mlynedd yn ôl). Mae croeso iti ail-agor trafodaeth am yr enw hwnnw. —Adda'r Yw (sgwrs ·cyfraniadau)21:22, 11 Ionawr 2026 (UTC)Ateb
Er fy mod i wedi bod yn golygu yma ers blynyddoedd bellach, wnes i ddim cymryd rhan yn y broses o ddewis y rhestr o enwau'r gwledydd. Dw i'n hoffi rhai o'r dewisiadau; mae yna eraill nad ydw i mor hoff ohonyn nhw. Does dim ots. Nid yw chwaeth bersonol yn fater o bwys mewn menter gydweithredol fel Wicipedia. Felly dw i wedi treulio oriau lawer yn ceisio sicrhau mai'r enwau yn y rhestr o ffurfiau dewisol yw'r rhai sy'n cael eu defnyddio ar ein tudalennau mewn gwirionedd. O ran pwnc fel hwn, does dim atebion perffaith – dim ond dewisiadau ymarferol ac anymarferol. Gadewch i ni beidio â newid dim oni bai bod angen dybryd amdano! --Craigysgafn (sgwrs)23:02, 11 Ionawr 2026 (UTC)Ateb
Er fy mod innau'n hoffi 'Moscfa',Mosgo yw'r unig ffurf sydd yngNgeiriadur yr Academi (os ydym am gael yr un agwedd at enwau lleoedd yn gyffredinol ag sydd gennym at enwau gwledydd). Nid oes ffurfiau yno ar gyferCopenhagen,Prag naBeograd.Ham II (sgwrs)10:50, 24 Ionawr 2026 (UTC)Ateb
Cytuno, Ham: (neu 'Mosgo'). 'Moscow' fyddai dewis naturiol pawb bron' nododd Anatiomaros dro'n ol ar dudalen sgwrs y brifddinas. Oes dadl gref dros gadw 'Moscfa', os yw'r ffynonellau'n nodi nodi 'Mosgow'?Llywelyn2000 (sgwrs)09:14, 27 Ionawr 2026 (UTC)Ateb
Fel rhan o drefnu fy ngwaith ar gyfer 2026, hoffwn glywed pa fath o gefnogaeth, digwyddiadau, prosiectau ac ati mae'r gymuned Wici eisiau eu gweld dros y flwyddyn nesaf. Dwi wedi creuholiadur byr gyda rhai cwestiynau i ysgogi syniadau ond i unrhyw un sy'n casáu holiaduron, mae croeso mawr i chi e-bostio eich syniadau ataf (gemma.coleman@wikimedia.org.uk) neu, os oes gennych syniad / digwyddiad hoffech ei drafod yn fanwl, byddwn yn hapus i drefnu cyfarfod i weld sut gallaf helpu.Gemma Coleman (WMUK) (sgwrs)12:56, 14 Ionawr 2026 (UTC)Ateb
Diolch, Robyn. Dyma weledigaeth o'r dyfodol, a hynny'n un druenus. Mae'r canlyniadau Grokipedia'n edrych yn gredadwy, ond y tu ôl iddyn nhw mae agenda asgell dde Mr Musk. Nid gwybodaeth wrthrychol a gasglwyd gan ddeallusrwydd artiffisial o'r ffynonellau gorau yw hon. Mae erthyglau fel "Welsh Language Society" neu "Welsh Government" yn dechrau'n dda, ond, erbyn y diweddglo, maen nhw'n diferu gwenwyn, gan dynnu sylw at yr holl fethiannau ac agweddau negyddol ar y pwnc. Mae'r frawddeg ganlynol o'r erthygl "Llyn Celyn" yn rhoi blas o'r arddull:
The slogan "Cofiwch Dryweryn" emerged as a enduring emblem, appearing in graffiti, publications, and roadside memorials, yet the event's portrayal as profound national trauma exceeds the empirical social disruption limited to a single valley's inhabitants.
Ac mae hynny'n datgelu'r gêm. Dim ond "portrayal" yw'r peth. Does dim teimlad dynol yma. Mae'n annynol, yn llythrennol. Mae'r diffyg cydymdeimlad hwn yn treiddio'r fenter.
@Llywelyn2000 Doedd gennyf ddim bwriad gwastraffu fy amser, ond mi wnaeth sylw @Craigysgafn fi'n chwilfrydig. Mae'r erthygl ar Gymdeithas Edward Llwyd yn hynod o hir, ac mae'r adran 'Impact an Legacy' efallai'n golrlywio eu llwyddiant, er yn nodi llwyddiannau yn daclus. Beth am tarodd oedd mai llun o Gomin Wikimedia oedd ffynhonnell un ffaith, ond yn wahanol i bob cyfeiriad arall, doedd dim modd clicio ar y ddolen yma - dyna beth ywpettyǃ
Es i wedyn i edrych ar erthygl am y Senedd, gan ddisgwyl mwy o 'gydbwysedd' yno. Beth am tarodd yno wedyn oedd nad oedd wedi cael ei ddiaddaru i adlewyrchu bod Laura Ann Jones a James Evans wedi newid eu lliwiau. Dyma wedyn sylweddoli sut mae erthyglau'n cael eu golygu/diweddaru - all unigolion ddim gwneud, ond gallant gynnig gwelliannau sy'n gweithio felprompts, a gweld as cânt eu derbyn neu eu gwrthod. Fel arall, dychmygaf bod y wici ei hun yn crafu'r we yn achlysurol i weld os bu newidiadau, ond o feddwl bod LAJ wedi gadael y Ceidwadwyr 6 mis yn ôl bellach, dydy o ddim yn digwydd yn aml debyg.
O ran trosi'r wefan i ieithoedd eraill, gan fod cyfieithu peirianyddol yn reit galluog ers tro, er ddim yn hollol berffaith, mae'n dweud tipyn mai mewn un iaith yn unig, yr iaith fain, y mae ar gael.Rhyswynne (sgwrs)13:48, 30 Ionawr 2026 (UTC)Ateb
Newydd ddarllen ymhellach, ac mae ymddengys bod o wedi cael ei ddiweddaru wedi mis Hydref 2025 i gynnwys canlyniad is-etholaid Caerffili, ond mae wedi methu'r ddau newid arall, ac mae wedi drysu'n llwyr ac yn meddwl y cafodd Mark Reckless ei ethol yn Aelod yn 2021.
Current composition as of 2025
As of October 26, 2025, the Senedd comprises 60 members, with Welsh Labour holding 29 seats, Plaid Cymru 14, the Welsh Conservatives 16, the Welsh Liberal Democrats 1, and one independent member.[106][113] This distribution reflects the outcome of the 2021 election, adjusted for the October 23, 2025, Caerphilly by-election, in which Plaid Cymru's Lindsay Whittle captured the seat from Labour following the death of incumbent Hefin David, reducing Labour's total from 30.[113][114] No other changes to party representation have occurred since the 2021 results, which initially yielded Labour 30 seats, Conservatives 16, Plaid Cymru 13, Liberal Democrats 1, and independent Mark Reckless 1.Rhyswynne (sgwrs)14:01, 30 Ionawr 2026 (UTC)Ateb
Rwy wedi ceisio defnyddio teclynnau fel chatgpt i wneud ymchwil ar y we a chreu erthygl Wicipedia yn hawdd. Yn anffodus doedd e ddim yn llwyddiant mawr. Roedd yna rhai ffeithiau cywir a rhai hollol anghywir. Mae yna dueddiad hefyd i gynhyrchu testun blodeuog, ail-adroddus a gormod o eiriau, a lliwio y testun gyda safbwynt olygyddol (er mai peiriant yw e) heb dystiolaeth.
Un o'r ffaeleddau mawr yw fod e'n cymeryd pob testun posib ar y we er mwyn ei gynnwys mewn un talp mawr driphlith draphlith. Mae hyn yn wahanol i ymchwilydd sy'n ceisio chwilio am fwy nag un ffynhonnell i croes-gyfeirio ffeithiau. Mae Grokipedia yr un fath a LLMs eraill. Er enghraifft fe edryches i ar erthyglDafydd Hywel, un wnes i sgrifennu o ymchwil gwreiddiol ar Wicipedia. Yn fersiwn Grokipedia mae yna bethau rhyfedd fel "Dafydd Hywel was deeply rooted in his family from Garnant, Carmarthenshire, where he drew significant support throughout his adult life, maintaining a stable and private personal existence alongside his professional commitments." Does dim llawer o synnwyr i'r frawddeg ond mae hwn yn rhith llwyr yn bennaf am nad oedd e'n gallu dod o hyd i wybodaeth bersonol. Mae e hefyd yn dweud fod Sharon Morgan yn nith iddo. Mae yna dudalen gan S4C yn dweud hynny, ond camgymeriad yw. Mewn cyfweliad sain gyda Radio Cymru mae hi'n dweud mai cefnder i'w mam oedd.
Mae'r cynnwys blodeuog o LLMs yn gallu bod yn gymorth i greu testun llai sych, ond mae angen gwirio pob ffaith o'r dechrau. Y peth gwaethaf am wn i gyda Grokipedia yw nad yw'n dangos Wicipedia fel ffynhonnell er fod e'n eitha amlwg fod y cynnwys o fan hyn wedi ei ddefnyddio yn y gymysgedd.Dafyddt (sgwrs)16:16, 30 Ionawr 2026 (UTC)Ateb
Gyda llaw, dyma ran o'r erthygl "Grokipedia" yn Grokipedia ei hun:
Elon Musk's longstanding criticisms of Wikipedia, particularly its perceived political and ideological biases and reliance on crowdsourced editing, served as key drivers for developing Grokipedia. Musk argued that Wikipedia had been influenced by what he termed the "woke mind virus," leading to skewed representations of facts, which motivated the pursuit of a top-down AI-curated encyclopedia to ensure more objective coverage.
Ffordd arall o ddisgrifio'r "Woke Mind Virus" yw dangos cwrteisi, cydymdeimlad, a meddwl agored. Cyfarchion i'm cyd-ddioddefwyr o'r haint ofnadwy hwn.Craigysgafn (sgwrs)17:28, 30 Ionawr 2026 (UTC)Ateb
Dwi'n meddwl y dylai fod erthygl am "Doctor Cymraeg", sef Stephen Rule, Wrecsam. Yn siaradwr ail iaith ei hun, mae wedi gwneud ymdrech enfawr i hyrwyddo'r iaith ac i helpu dysgwyr, ledled y byd ac o bob lefel, ac mae wedi cael ei anrhydeddu i'r Orsedd am hyn. Mae wedi bod erthyglau amdano yn y wasg Gymraeg. Mae ganddo 75,000 o ddilynwyr, yn ôl erthygl ar wefan yr Eisteddfod Genedlaethol a gyhoeddwyd y llynedd.
Gallaf gadarnhau nad ydw i'n gysylltiedig â fe, heblaw am fy mod wedi siarad â fe'n fyr mewn digwyddiad cyhoeddus, felly dwi'n gobeithio nad yw'r awgrym hwn yn arwain at bryderon am wrthdaro buddiannau.
Mae'n ddrwg gen i nad ydw i'n gwirfoddoli i'w hysgrifennu, ond mae'n awgrym y gallwch ei ystyried os nad ydych yn rhy brysur. Dwi'n siŵr bod yr erthyglau yn y wasg yn cynnwys digon o wybodaeth i seilio erthygl arni heb gopïo testun sy dan hawlfraint.
Diolch am y proc. Mae wedi cael dipyn o sylw ar Radio Cymru, os yw hynny'n unrhyw fesur o ba mor nodedig yw person. Pam nad wyt am greu erthygl ar Stephen?Llywelyn2000 (sgwrs)08:04, 31 Ionawr 2026 (UTC)Ateb