Mae Wicipedia Cymraeg yn brosiect cydweithredol ond mae ganddi ei pholisïau ei hun. Ystyrir hefyd polisïau Wiki-en yn ganllawiau defnyddiol pan nad yw'r polisïau manwl ar gael yn y Gymraeg.
- Ein hamcan gyda Wicipedia yw creu gwyddoniadur a roddir am ddim i bawb ei ddefnyddio; hwn y'r gwyddoniadur mwyaf a grëwyd erioed, o ran ei hyd a'i led. Carem iddo hefyd fod yn ffynhonnell ddibynadwy o ffeithiau diduedd.
Mae i Wicipedia, felly, nifer obolisïau a chanllawiau a ystyrir yn bwysig gennym. Mae'r rhain yn ein cynorthwyo i gyrraedd yr amcanion yma. Mae rhai ohonynt yn esblygu o ddydd i ddydd wrth i Wicipedia ddatblygu a chynyddu. Mae eraill, fodd bynnag, wedi hen sefydlu ac ni chaent eu hystyried mewn unrhyw ffordd yn ddadleuol gan y rhan fwyaf o hen lawiau Wicipedia.
Mae'r rhain wedi'u sefydlu arBum Colofn Wicipedia:
1.Osgoi rhagfarn (neu ogwydd). Dylai erthyglau gael eu hysgrifennu osafbwynt niwtral, sy'n golygu y dylai'r erthygl gynrychioli o leiaf dwy farn wahanol, a hynny yn deg ac yn sensitif. GwelerWicipedia:Arddull ddiduedd am esboniad manylach.
2.Peidiwch ag amharu ar hawlfraint. Mae Wicipedia yn wyddoniadur a roddir i bawb yn rhydd, yn rhad ac am ddim, a hynny o fewn termauGNU Free Documentation License. Mae uwchlwytho gwaith heb ganiatâd perchennog yr hawlfraint yn herio (ac weithiau'n torri) ein hamcanion, sef adeiladu gwyddoniadur cyfan gwbwl am ddim y gall unrhyw un ei ddosbarthu i unrhyw bwrpas; gall hefyd arwain at atebolrwydd cyfreithiol. GwelerWicipedia:Hawlfraint aWicipedia:Cynnwys cyfyngedig am ragor o wybodaeth.
3.Gwyddoniadur yw Wicipedia. Dylai'r wefan gael ei defnyddio'n bennaf er mwyn hybu'r gwyddoniadur hwn ac nid i leisio barn. Pwrpas y tudalennau 'Sgwrs' yw gwella a hybu'r erthyglau. GwelerWicipedia:Anaddas ar gyfer Wicipedia aWicipedia:Angen ffynhonnell sy'n ymwneud â dwy garreg glo hanfodol. Ceir polisi gennym hefyd arAmlygrwydd, sef y meincnodau a ddefnyddir wrth i ni ystyried a ydy'r person, y grŵp, y cwmni neu'r gwrthrych yn haeddu erthygl. Ceir hefydBolisi ar enwi erthyglau.
4.Parchwch ddefnyddwyr eraill. Mae'r rheiny sy'n cyfrannu at Wicipedia'n dod o wahanol wledydd a diwylliannau ac mae ganddynt farn wahanol i'w gilydd yn aml. Mae hyn yn wir hefyd am y Wicipedia Cymraeg, gyda llawer o'r cyfrannwyr yn byw ledled y byd. Gallwn gydweithio'n effeithiol mewn moddcwrtais i ddatblygu Wicipedia pan rydym yn parchu pobl ac amrywiaeth barn. Gweler y canllaw Saesneg:Moesau. Mae einPolisi preifatrwydd yn rhan anhepgor o barchu eraill.
5.Dilynwch y confensiynau. Drwy ddilyn rhai confensiynau neu arferion sydd heb eu hysgrifennu, gallwn greu gwyddoniadur mwy cyson a defnyddiol. Edrychir ar rai o'r canlynol fel polisïa drwy ddefnydd a chonfensiwn:
6.Ewch amdani!. Byddwch ddewr: os gwnewch gangymeriad - peidiwch â phoeni! Gweler:Wicipedia:Ewch amdani!.
Sut mae'r polisïau hyn yn cael eu gorfodi?
[golygu cod]Golygydd Wicipedia yw...chi. Nid oes "Prif Olygydd" neu sensor mawr sy'n goruchwylio'r holl waith o ddydd i ddydd. Yn hytrach, mae'r defnyddwyr eu hunain yn monitronewidiadau diweddar a chywiro gwallau'n ymwneud â hawlfraint a chynnwys a fformadu fel maent yn codi.
Mewn achosion eithriadol maeJimmy Wales yn medru atal defnyddiwr sydd wedi bod yn hen niwsans. Mae Jimbo wedi creu rhai polisïau swyddogol ar ran Wicipedia:this Wikien-l post aen:User:Jimbo Wales/Statement of principles.
Ymarfer da a chonsensws barn mewn gwirionedd sydd wrth wraidd ein polisïau. Yn yr un modd, crëwyd y canllawiau hyn er mwyn disgrifio'r gymuned a gwaith y gymuned fel y mae hi heddiw a'r ymarfer da maent wedi ei grynhoi a'i gasglu dros y blynyddoedd. Rydym yn parhau i drafod ac ystyried problemau ar ynY Caffi.
Yn ogystal â'r polisïau cyffredinol rydym wedi'u rhestru uchod, mae'r canlynol yn ganllawiau a ddefnyddiwn, ond sydd wedi'u creu ar Wici-en::
Erthyglau a sgyrsiau eraill ynghylch Wicipedia
[golygu cod]- Mae gwefanMeta-Wikipedia yn cynnwys llawer o erthyglau ynglŷn â Wicipedia a phynciau perthynol mewn dull mwy golygyddol.
- Creu erthyglausut-i ar Wicipedia.