Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Wicipedia:Cwestiynau Cyffredin

Oddi ar Wicipedia
Wicipedia:Cymorth
Wicipedia:Cymorth
Wicipedia:Cymorth
Cwestiynau Cyffredin

Ar y dudalen hon, gallwch gael atebion i gwestiynau a godir aml gan ddefnyddwyr y safle. Ar gyfer mwy o gymorth, ewch i'rdudalen cymorth.

Beth yw wici?

[golygu cod]

Maewici yn gasgliad o dudalennau gwe sydd wedi'u cysylltu. Gall unrhyw berson olygu unrhyw dudalen (gydag eithriadau), gan ychwanegu dolenni i dudalennau eraill ar y safle. Yn wir, dyma hanfod y syniad o wici: bod mwy a mwy o gysylltiadau yn creu rhwydwaith eang o dudalennau.

Beth yw Wicipedia?

[golygu cod]

Wicipedia ydy'r gwyddoniadur Cymraeg mwyaf ar y we sydd: ac mae o am ddim. Cychwynnodd y fersiwn Saesneg gwreiddiol yn 2001, gyda'r fersiwn Cymraeg yn dilyn yn 2003. Am fwy o wybodaeth, darllenwchYnglŷn â Wicipedia.

Pwy sy'n berchen ar Wicipedia?

[golygu cod]

Chi a fi! Rheolir Wicipedia gan gwmni di-elw,y Sylfaen Wicimedia. Mae'r cwmni hefyd yn rheoli chwaer-brosiectau Wicipedia, gan gynnwys yWiciadur. Mae'r cyllid yn dod o ymgyrchoedd codi arian blynyddol.

Rhyddheir pob dogfen o dan Drwydded Dogfennaeth Rydd GNU, sy'n golygu y gall unrhyw un gopïo'r deunydd, gyda chydnabyddiaeth. GwelerWicipedia:Hawlfraint am fwy o fanylion.

Sut alla i ofyn cwestiwn?

[golygu cod]

Mae sawl ffordd i gysylltu â Wicipedia. Os ydych am ofyn cwestiwn cyffredinol, ewch i'rCaffi neu'rDdesg Gyfeirio a gofynwch! Os ydych am gysylltu ag unigolyn yn uniongyrchol, gadewch sylw ar ei dudalen sgwrs, ond cofiwch - bydd y nodyn yn weladwy i bawb. Ar y llaw arall, os ydych am anfon neges breifat, mae'n bosibl fod y defnyddiwr wedi caniatáu ichi anfon e-byst ato; os felly, bydd dolen i'r chwith o'i dudalen defnyddiwr.

Y Sylfaen Wicimedia sy'n rhedeg Wicipedia o ddydd i ddydd. Os ydych am gysylltu â nhw, gallwch ymweld âMeta-Wiki (yn Saesneg), sy'n cydgysylltu'r prosiectau i gyd.

A ddylwn i gofrestru cyn golygu?

[golygu cod]

Nid oes rhaid cofrestru, ond mae yna fanteision o wneud hynny. Os ydych yn bwriadu cyfrannu'n gyson yma, mae'n syniad da agor cyfrif, gan nad yw defnyddwyr anhysbys yn cael ail-enwi tudalennau nac uwchlwytho lluniau neu gyfryngau eraill. I weld rhestr o fanteision eraill, gwelerWicipedia:Cofrestru.

Sut allaf fod yn sicr fod y wybodaeth yn gywir?

[golygu cod]

Gall unrhyw un olygu unrhyw erthygl, felly wrth gwrs mae'n bosibl y gall rhywun ychwanegu gwybodaeth anghywir. Ar y llaw arall, mae eraill yn cadw llygad barcud ar erthyglau, gan ddefnyddio'urhestr wylio, neu'r dudalenNewidiadau diweddar. Felly cywirir yn gyflym gwybodaeth anghywir fel rheol. Mae'r broses hon yn gwella wrth i fwy o bobl ymuno. Fe'ch anogir i roi help llaw trwy gywiro erthyglau a rhoi cyfeiriadau defnyddiol.

Sut ydw i'n chwilio Wicipedia?

[golygu cod]

Y ffordd symlaf yw teipio'r pwnc yn y blwch 'chwilio' i'r chwith o'r dudalen, a chlicio ar 'Chwilio'. Gallwch hefyd ddefnyddio Google ganddilyn y cysylltiad hwn i chwilio drwy Wicipedia yn Gymraeg, ond cofiwch nad yw Google yn cynnwys y diwygiadau diweddaraf.

GwelerWicipedia:Chwilio am ragor o wybodaeth.

Rwyf wedi darganfod gwall mewn erthygl - beth wnaf?

[golygu cod]

Clicio arGolygu ar frig y dudalen, a chywiro'r gwall. Nid oes ots os gwnewch gamgymeriad - fe fydd eraill wastad yn gallu tacluso ar eich ôl.

Os ydych chi am brofi'ch sgiliau golygu cyn gwneud newidiadau i unrhyw dudalen go iawn, rhowch gynnig ar yTiwtorial a chwaraewch yn ypwll tywod, lle gallwch arbrofi gyda golygu tudalen.

Sut mae golygu tudalen?

[golygu cod]

Ar Wicipedia, fe ysgrifennir tudalennau mewn cod arbennig. Peidiwch â phoeni - dyma'r peth hawsaf yn y byd i'w ddysgu (heblaw'r Gymraeg!). Er enghraifft, dynodir cysylltiadau mewnol gyda [[cromfachau sgwâr dwbl|chromfachau sgwâr dwbl]]. Am esboniad manwl o'r cod wici, gwelwchWicipedia:Sut i olygu tudalen.

Sut mae creu tudalen?

[golygu cod]

Os ydych chi'n dod ar draws cysylltiad coch, trwy glicio arni byddwch yn cyrraedd sgrîn golygu ar gyfer yr erthygl honno. Ar ôl ichi ysgrifennu digon am y pwnc, bydd cadw'r dudalen yn ei chreu ar y gronfa ddata.

Os ydych chi am greu erthygl heb orfod darganfod cysylltiad coch iddi, teipiwch y teitl i'r blwch chwilio ar y chwith, a chliciwchEwch. Ar y sgrîn chwilio, bydd cysylltiad coch yn arwain i'r sgrîn golygu ar gyfer y dudalen arfaethedig.

Rwyf wedi anghofio fy nghyfrinair

[golygu cod]

Os ydych chi wedi rhoi'ch cyfeiriad e-bost inni, gallwn ni e-bostio cyfrinair newydd i chi. Cliciwch arMewngofnodi yng nghornel dde uchaf y dudalen, teipiwch eich enw defnyddiwr, a chliciwch ar 'Anfoner cyfrinair newydd ataf trwy e-bost'.

Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Wicipedia:Cwestiynau_Cyffredin&oldid=14551518"
Categorïau:

[8]ページ先頭

©2009-2026 Movatter.jp