Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Wicipedia:Anaddas ar gyfer Wicipedia

Oddi ar Wicipedia

Blue pillar

Gwyddoniadur ar-lein ydy Wicipedia. Mae'r erthygl hon yn ddisgrifiad o beth yw a beth nad yw, ac yn un oBum Colofn Wicipedia. Mae Wicipedia, hefyd, yn gymuned o bobl sydd â diddordeb mewn creu gwyddoniadur safonol, mewn awyrgylch o barch at ei gilydd. Ceir rhai pethau sy'nanaddas ar gyfer Wicipedia.

Arddull a fformat

[golygu cod]

Nid gwyddoniadur papur mo Wicipedia

[golygu cod]

Nid gwyddoniadur papur mo Wicipedia. Nid oes cyfyngiad ymarferol i'r nifer o destunau a allai ymdrin â hwy, na chyfanswm y cynnwys, ar wahân i'r ffaith fod angen gallu gwirio'r wybodaeth a'r pwyntiau eraill a gyflwynir ar y dudalen hon. Fodd bynnag, dylid nodi fod gwahaniaeth mawr rhwng yr hyn aellir gwneud, a'r hyn addylid gwneud, a sonnir am hyn yn yr adrangynnwys isod. O ganlyniad, nid yw'r polisi hwn yn rhoi rhwydd hynt i gynnwys popeth: rhaid i erthyglau ddilyn y polisïau cynnwys perthnasol, yn enwedig i rheiny a sonnir amdanynt yn ypum colofn.

Er mwyn sicrhau fod Wicipedia yn hawdd i'w ddefnyddio, dylid sicrhau nad yw erthyglau'n mynd yn rhy hir. Mae rhannu erthyglau hir gan adael crynodebau digonol yn helpu erthyglau i dyfu'n naturiol. Mae gwyddoniaduron papur yn aml yn trafod rhai testunau mewn ffordd fer, ond gallwn ni ddarparu mwy o wybodaeth, cysylltiadau i ddolenni allanol, a diweddaru'r wybodaeth yn gyflym. Os hoffech fwy o wybodaeth ynglŷn â sut y mae Wicipedia'n wahanol i wyddoniaduron papur, gweler yWicipedia:Arddull. Gallwch leihau erthygl hir drwy gychwyn erthygl newydd a thorri a phastio i fewn iddi. Cofiwch adael mymryn ar ôl a dolen i'r erthygl newydd ar ffurf côd: {{prif|Hanes Cymru}}, sydd yn ei dro'n edrych fel hyn:

Prif:Hanes Cymru

.

Cynnwys

[golygu cod]

Gydag unrhyw wyddoniadur, ni ellir cynnwys gwybodaeth am ei fod yn wir neu'n ddefnyddiol yn unig. Er bod trafodaethau ynglŷn â gwerth gwyddoniadurol nifer o erthyglau, y consensws yw bod y canlynol yn enghreifftiau da o beth sy'n anaddas ar gyfer Wicipedia.

Nid geiriadur mo Wicipedia

[golygu cod]

Nid geiriadur mo Wicipedia. Nid yw erthyglau Wicipedia yn:

  1. Ddiffiniadau. Er y dylai erthyglauddechrau gyda diffiniad da a disgrifiad oun testun, dylent ddarparu mathau eraill o wybodaeth am y pwnc hynny hefyd. Os yw erthygl yn cynnwys diffiniad yn unig, dylid ehangu'r erthygl gyda gwybodaeth wyddoniadurol os yn bosib.
  2. Gofnodion geiriadurol. Mae erthyglau gwyddoniadurol yn sôn am berson, grŵp, lle, peth, digwyddiad a.y.b. Weithiau, gall gair neu ymadrodd fod yn bwnc gwyddoniadurol, megisMacedonia (terminoleg) neuathroniaeth; fodd bynnag, anaml iawn y bydd erthygl yn cynnwys diffiniadau penodol neu esboniad o deitl yr erthygl yn unig. Mae erthyglau am bwysigrwydd diwylliannol neu fathemategolrhifau unigol yn dderbyniol.
    Os hoffech weld wicisydd yn eiriadur, cymrwch olwg ar ein chwaer brosiectWiciadur. Dylid trawswicio diffiniadau geiriadurol i'r fan honno.
  3. Ganllaw defnydd, bratiaith a/neu idiomau. Croesawir erthyglau disgrifiadol am ieithoedd, tafodieithoedd, neu fathau o fratiaith (megisCockney). Serch hynny, ni chroesawir canllawiau ieithyddol ar gyfer pobl sydd eisiau dysgu'r iaith.
    Os hoffech weld Wici sy'n gasgliad o lawlyfrau, cymrwch olwg ar ein chwaer brosiect Saesneg:Wicillyfrau. Dylid trawswicio canllawiau ar gyfer dysgwyr yr iaith i'r fan honno. Does dim o'i le, fodd bynnag, mewn rhoi tamed i aros pryd yn yr erthygl ac, efallai, dolen i werslyfr allanol, am ragor o wybodaeth.

Nid cyhoeddwr syniadau gwreiddiol mo Wicipedia

[golygu cod]

Nid lle i gyhoeddi eich syniadau neu ddehongliadau personol ydy Wicipedia. Nid yw'n addas ar gyfer cyhoeddi gwybodaeth newydd chwaith, oni bai eich bod yn cynnwys gyfeiriad i ffynhonnell ddibynadwy. Yn unol â'n polisi ar ymchwil gwreiddiol:peidiwch defnyddiwch Wicipedia ar gyfer y canlynol os gwelwch yn dda:

  1. Ymchwil cynradd (gwreiddiol) megis cyflwyno theorïau a datrysiadau, syniadau gwreiddiol, diffinio termau a.y.b. Os ydych wedi cwblhau ymchwil cynradd ar destun penodol, cyhoeddwch eich canlyniadau mewn mannau eraill e.e. cyfnodolion adolygiadau, ffurfiau argraffedig eraill, neu wefannau cydnabyddedig eraill. Bydd Wicipedia yn cydnabod eich gwaith ar ôl iddo gael ei gyhoeddi a'i dderbyn fel gwybodaeth a dderbynir; fodd bynnag, mae angennodi'r ffynhonnell offynonellau dibynadwy er mwyn profi fod y wybodaeth ynwiriadwy ac yn gywir, ac nidbarn y defnyddiwr neu'r golygydd yn unig.
  2. Bathiadau Os ydych chi neu'ch ffrind yn bathu'r gaircyfed am gêm yfed gyda chyfeillion, nid yw'nddigon enwog i fod mewn erthygl nes bod nifer o ffynonellau eilradd, dibynadwy ac annibynnol yn ei ddefnyddio. Nid yw Wicipedia ar gyfer pethau a ddyfeisir ar amrantiad. Fodd bynnag, gallwch drafod eich bathiad yn ein herthygl ar "Gymorth iaith" (Cymorth iaith) trafodwch eich cynnig yn agored.
  3. Traethodau personol sy'n datgan eich teimladau penodol chi am bwnc, (yn hytrach na chonsensws arbenigwyr). Er mai nod Wicipedia yw crynhoi holl wybodaeth yr hil ddynol, ni ddylid defnyddio Wicipedia er mwyn ceisio mynegi barn bersonol fel rhan o'r wybodaeth honno. Mewn achosion anghyffredin lle mae safbwyntiau unigolyn yn ddigon pwysig i'w trafod, mae'n well gadael i bobl eraill ysgrifennu amdanynt. Mae croeso i chi gynnwys traethodau personol am bynciau sy'n ymwneud â Wicipedia ar eich tudalen defnyddiwr sef eich "gofod-enw".
  4. Fforymau trafod. Ceisiwch gadw ar y dasg o greu gwyddoniadur ar-lein. Gallwch sgwrsio â phobl am bynciau sy'n ymwneud â Wicipedia ar eu tudalennau sgwrs defnyddiwr, a dylech ddatrys problemau gydag erthyglau ar ytudalennau sgwrs priodol, ond peidiwch â mynd a'r drafodaeth i mewn i'r erthygl os gwelwch yn dda. Yn ogystal â hyn, cofiwch fod y tudalennau sgwrs yn bodoli er mwyn trafod sut i wella erthyglau; nid tudalennau trafod cyffredinol am bwnc yr erthygl ei hun, nac ychwaith yn ddesg gymorth er mwyn cael cyfarwyddiadau neu gymorth technegol. Os hoffech ofyn cwestiwn penodol am destun, mae gan WicipediaDdesg Gyfeirio, a dylid gofyn cwestiynau yn y fan honno yn hytrach nag ar y tudalennau sgwrs.
  5. Newyddiaduraeth. Ni ddylai Wicipedia geisio cynnig y newyddion diweddaraf am ddigwyddiadau sydd newydd ddigwydd. Nidffynhonnell gynradd mo Wicipedia. Fodd bynnag, mae ein chwaer brosiect Saesneg,Wikinews yn gwneud hynny, a'i nod yw bod yn ffynhonnell gynradd. Mae gan Wicipedia nifer oerthyglau gwyddoniadurol ar bynciau o bwysigrwydd hanesyddol sydd ar y newyddion ar hyn o bryd, a gellir diweddaru'r erthyglau hyn gyda gwybodaeth gyfoeswiriadwy. Cedwir cownt ohonynt drwy ein Categori:Materion Cyfoes.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Wicipedia:Anaddas_ar_gyfer_Wicipedia&oldid=10782361"
Categorïau:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp