Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Wica

Oddi ar Wicipedia
Mae'r erthygl hon yn sôn am y grefydd ddeuolaidd. Am defnyddiau eraill, gwelerWica (gwahaniaethu).
Mae'rpentagl hwn, felpendant, yn dangospentagram, neu seren pum pwynt, sy'n cael ei ddefnyddio fel symbol o Wicca gan lawer o Wiciaid.
Rhan ogyfres ar
Wica
Pentagram_(endless_knot)

Crefyddbaganaidd fodern ywWica, ac enw arall ar y grefydd ydy "y Grefft."[1] Yn ôlysgolheigion crefydd, mae Wica ynfudiad crefyddol newydd a datblygwyd y grefydd oesoteriaeth y Gorllewin ynLloegr yn ystod hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif.Cyflwynwyd y grefydd i'r cyhoedd ym 1954 ganGerald Gardner, a oedd ynwas sifil wedi ymddeol o Loegr. Mae Wica yn seilio ei chredoau arhermetigiaeth yr 20fed ganrif ac arbaganiaeth hynafol ar gyfer eidefodau a'idiwinyddiaeth. YmunoddDoreen Valiente â Gardner yn y 1950au, a datblygodd hi gredoau, egwyddorion, ac ymarferion Wica ymhellach drwy gyhoeddi llyfrau a dysgeidiaethau llafar ac ysgrifenedig cyfrinachol iddilynwyr y grefydd.

Ers ei sefydlu, bellach mae sawl math o Wica, a elwir yndraddodiadau, gan gynnwysWica Gardneraidd acWica Alecsandraidd, sef y ddau brif draddodiad. Er hynny, nid oes gan Wica awdurdodaeth ganolog, ac o'r herwydd, weithiau ceir anghytuno ar gynifer o faterion pwysig. Mae rhai traddodiadau, felWica Draddodiadol Brydeinig, yn cadw'n dynn at linach Gardner.

Mae addoliDuwies a Duw yn nodwedd bwysig yn Wica, a'u haddolir felDuwies y Lleuad a'rDuw Corniog yn draddodiadol. Creda rhai Wiciaid mewn diwinyddiaethholldduwiaethol, tra bod eraill yn dilynamldduwiaeth,monyddiaeth, neufonyddiaeth y dduwies.

Mae Wiciaid yn dathlugweddau'r lleuad, a elwir ynesbatau, lle anrhydeddir y Dduwies, a gweddau'r haul sydd yn wyliau tymhorol, a elwir ynsabatau, lle anrhydeddir y Duw Corniog. Ceir testun y'i hystyrir yn sanctaidd gan gynifer o draddodiadau Wicaidd o'r enw'rCyngor Wicaidd, ond nid yw pob traddodiad yn ei ystyried yn sanctaidd. Mae Wica yn cynnwys ymarferhudoliaeth a gwrachyddiaeth.

Credoau

[golygu |golygu cod]

Diwinyddiaeth

[golygu |golygu cod]
Prif:Barnau Wica ar ddiwinyddiaeth
Cerfluniau allor o'r Duw Corniog a'r Fam Dduwies a wnaethpwyd gan Bel Bucca, ac yn eiddo i 'Fam Wica',Doreen Valiente.

Er y gall barnau Wica ynghylchdiwinyddiaeth amrywio o un traddodiad i'r llall, mae'r mwyafrif o Wiciaid yn credu mewn duw a duwies. Mae'r grefydd yn cynnwystheistiaid,anffyddwyr, acagnosticiaid, lle creda rhai fod y duwiau yn bodoli'n wir, a chreda rhai eu bod yn debyg i archdeipiau Jwngaidd.[2] Mae'r grefydd hefyd yn cynnwys credoaupantheïstaidd,undduwaidd,deuolaidd, acamldduwaidd.[2]

Yn ôl y gwrachodJanet aStewart Farrar, a oedd yn credu mewn holldduwiaeth, deuoliaeth, acanimistiaeth, mae Wiciaid yn "credu bod yr holl gosmos yn fyw, yn gyfan gwbl ac ymhob man", ond "nad ydyw barn organig y cosmos yn gallu cael ei mynegi'n llawn, ac nid oes modd iddi fyw heb y cysyniad o Dduw a Duwies. Nid oes amlygiad heb bolareiddiad; felly, ar y lefel greadigol uchaf, y lefel ddiwinyddol, rhaid i'r polareiddiad fod yn eglur ac yn rymus ar y cyfan, yn ogystal ag ystyried a lledaenu'i hunan drwy bob un lefel ficrogosmig."[3]

Y Duw a'r Dduwies

[golygu |golygu cod]

I'r mwyafrif o Wiciaid, gwelir y Duw a'r Dduwies yn bolareddau cyflenwol yn y bydysawd sy'n cydbwyso'i gilydd, ac o ganlyniad i hyn, cymharir hwy â'r cysyniad oin iang a geir ynNhaoaeth.[4] O'r herwydd, dehonglir hwy yn "ymgorfforiadau o amlygiad mewn natur."[5] Mae rhai Wiciaid eraill yn credu mai symbolau o'r polareddau hyn ydyn nhw, tra bod eraill yn credu mai bodau diffuant sy'n bodoli'n annibynnol ydyn nhw. Fel arfer, rhoddir priodoleddau symbolaidd i'r ddau dduwdod hyn, gan gynrychioli'r Dduwies gyda'rDdaear (h.y.,Mam y Ddaear), ond hefyd weithiau fel yLleuad, sy'n canmol y Duw, a gynrychiolir fel yrHaul.[6]

"Y mae'r Duwiau a Duwiesau'n bodoli. Nid fel pobl, ond fel mathau o bŵer. Yn gryno, gellid ei egluro bod y personoliad o fath arbenigol o bŵer cosmig ar ffurf Duw neu Dduwies, a gredwyd ynddynt gan gredwyr ac addolwyr yn ystod y canrifoedd blaenorol, yn adeiladu'r Duw-ddull neu Ddelwedd Dewiniaethol i mewn i realiti crynodol ar y Gwastadoedd Mewnol, sy'n wneud iddo yn fodd lle gallwch gysylltu â'r fath bŵer cosmig honno."
Saesneg gwreiddiol 
"The Gods are real, not as persons, but as vehicles of power. Briefly, it may be explained that the personification of a particular type of cosmic power in the form of a God or Goddess, carried out by believers and worshippers over many centuries, builds that God-form or Magical Image into a potent reality on the Inner Planes, and makes it a means by which that type of cosmic power may be contacted."
Gerald Gardner (1959)[7]

Yn draddodiadol, gwelir y Duw fel yDuw Corniog, a gysylltir â natur, anial, rhywioldeb, hela, a'r cylchred bywyd.[8] Yn ôl y traddodiad, rhoddir enwau gwahanol iddo, gan gynnwysCernunnos,Pan, Atho, a Karnayna. Er nad yw'r ffigwr hwn yn cyfateb i'r ffigwr traddodiadolCristnogol oSatan, a welir fel endid sy'n ymroddedig i ddrwg o fewn Cristnogaeth, mae lleiafrif bach o Wiciaid, ynghyd â'r cyhuddiadau odreialon gwrachod hanesyddol, yn cyfeirio at eu Duw Corniog gydag enwau fel Satan, megis "y Diafol"[9] neu fel"Lwsiffer", term Lladin sy'n golygu "cariwr golau".[10] Ar adegau eraill, gwelir y Duw fel yDyn Gwyrdd,[11] ffigwr traddodiadol mewn celf a phensaernïaeth Ewropeaidd, a dehonglir nhw yn gysylltiedig â'r byd naturiol. Gwelir y Duw hefyd felDuw Haul,[12] yn bennaf ar adegGŵyl Ganol yr Haf, neu heuldro'r haf. Cred arall am y Duw yw ei fod yn Frenin Derw a Brenin Celyn, sy'n rheoli dros y gwanwyn a'r haf, gyda'r llall yn rheoli dros yr hydref a'r gaeaf.[11]

Portreadir y Dduwies fel arfer felDuwies Driphlyg, ac felly yn dduwies driphlyg sy'n cynnwys yr Wyryf,y Fam, a'r Hen Wrach. Mae gan bob un ohonyn nhw briodoleddau gwahanol, sef gwyryfdod, ffrwythlondeb, a challineb yn ôl eu trefn.[13] Gwelir hi hefyd felDuwies Leuad,[14] a rhoddir yr enwDiana arni, enw'r dduwies Rufeinig hynafol. Mae rhai Wiciaid yn meddwl bod y Dduwies yn fwy pwysig na'r Duw a'i bod yn arbennig oherwydd ei bod yn cynnwys ac yn rhoi genedigaeth i bopeth. Gwelir y Duw fel y wreichionen o fywyd ac ysbrydoliaeth y tu mewn i'w hun, ei chariad a'i phlentyn ar yr un pryd.[15] Gwelir hyn yn fframwaith traddodiadol ycwfen.[16] YnWica Dianigaidd, yr unig dduwdod yw'r Dduwies, sy'n gysyniad a feirniadir gan aelodau o draddodiadau sy'n fwy egalitaraidd.

Dyfeisiwyd y cysyniad o grefydd sy'n credu mewn Duw Corniog a Duwies gan Eifftydd o'r enwMargaret Murray yn ystod y 1920au. Credai, yn sgil ei theorïau ei hun ynglŷn âthreialon gwrachod yn Ewrop Ddiweddar Gynnar, fod yr addolwyd duw a duwies, ond y Duw Corniog yn bennaf, gangwlt y gwrachod ers i orllewin Ewrop ildio i Gristnogaeth. Erbyn hyn, gwrthodir y ddamcaniaeth hon yn fawr iawn, ond roedd Gardner yn gefnogwr o'r ddamcaniaeth, a chredai mai parhad o gwlt y gwrachod hanesyddol hynny oedd Wica, ac felly roedd y Duw Corniog a'r Dduwies yn dduw a duwies hynafol Ynysoedd Prydain.[17] Gwrthbrofwyd y datganiad hwn gan ysgolheictod diweddar, ond er hynny, addolwyd casgliad o wahanol dduwiau corniog a duwiesau mamol hyd a lled Ynysoedd Prydain yn ystod y cyfnodau canoloesol cynnar a hynafol.[18]

Pantheistiaeth, Amldduwiaeth, ac Animistiaeth

[golygu |golygu cod]
Cerflun y Duw Corniog yn yMuseum of Witchcraft,Boscastle,Cernyw.

Mae llawer o Wiciaid yn meddwl mai dim ond dau agwedd o'r un Duwdod yw'r Duw a'r Dduwies, a welir yn aml fel duwdodpantheistiol, trwy hynny'n amgylchynu popeth yn y bydysawd o fewn ei ddiwinyddiaeth. Yn ei ysgrifeniadau cyhoeddus, cyfeiriodd Gardner at yr endid hwn fel yPrif Symudydd, ond datganodd ei fod yn adnabyddadwy o hyd,[19] er o fewn defodau ei draddodiad,Wica Gardneraidd, cyfeirir ato fel yDryghten,[20] sy'n golygu "arglwydd" mewnHen Saesneg yn wreiddiol. Ers hynny, rhoddwyd llawer o enwau eraill arno gan wahanol Wiciaid; "The One" ganScott Cunningham er enghraifft.[21]

Yn ogystal â phantheistiaeth a deuoliaeth, mae llawer o Wiciaid yn derbyn y cysyniad oamldduwiaeth, trwy hynny'n credu bod llawer o wahanol dduwiau a duwiesau yn bodoli. Mae rhai yn derbyn barn yrocwltiwrDion Fortune, fod "pob un duw yn un duw, ac mae pob un dduwies yn un dduwies" — hynny yw, bod duwiau a duwiesau o bob un diwylliant, yn ôl eu trefn, yn agweddau o'r un uwch Dduw ac uwch Dduwies. Gyda'r farn hon, gall Wiciad edrych ar y Dduwies AlmaenigĒostre, y Dduwies HindŵaiddKali, a'rForwyn Fair fel amlygiadau'r un Dduwies oruchaf, ac yn yr un modd, y Duw CeltaiddCernunnos, y Duw Groegaidd hynafolDionysus, acYahweh (o Judo-Gristnogaeth) fel amlygiadau'r un Duw goruchaf. Mae dynesfaamldduwiol fwy caeth yn meddwl mai endidau arbennig yw'r gwahanol dduwiau a duwiesau, gwahanol mewn eu hawliau eu hunain. MaeJanet Farrar aGavin Bone wedi cynosod bod Wica yn dyfod yn fwy amldduwiol wrth iddi aeddfedu, gan dueddu cynnwys safbwynt Paganaidd mwy traddodiadol.[22] Mae rhai Wiciaid yn synio'r nid personoliaethau llythrennol yw'r duwiau a'r duwiesau, ond ynarchfathau trosiadol, trwy hynny'n caniatáu iddynt fod ynanffyddwyr mewn ffordd.[23] Honnwyd y fath farn gan ArchoffeiriadesVivianne Crowley, a oedd ynseicolegydd ac yn ystyried y Duwiau a Duwiesau Wicaidd i fod ynArchfathau Jungaidd a oedd yn bodoli o fewn y meddwl isymwybodol a wysir yn ystod defod. Oherwydd hyn, dywedodd, "Mae'r Dduwies a'r Duw yn amlygu eu hunain inni ar ffurf breuddwyd a gweledigaeth."[24]

Yn hanfodol, crefyddfewnfodol yw Wica, ac i raddau, mae'r syniad hwn hefyd yn cynnwys elfennau oanimistiaeth. Cred sy'n ganolog i Wica yw'r Dduwies a'r Duw yn gallu amlygu eu hunain mewn ffurf bersonol, fel arfer trwy gyrff yr Archoffeiriades a'r Archoffeiriad sy'n perfformio defodau megisTynnu'r Lleuad i lawr neu Dynnu'r Haul i lawr.

Yr ôl-fywyd

[golygu |golygu cod]

Mae'r gred yn yr ôl-fywyd yn amrywio o Wicaid i Wicaid,[25] er bodailymgnawdoliad yn ddysgeidiaeth draddodiadol sy'n dyddio'n ôl iGwfen y Fforest Newydd yn y 1930au. DywedoddRaymond Buckland, yr Archoffeiriad dylanwadol, fod enaid dynol yn ailymgnawdoli i mewn i'r un rhywogaeth dros sawl bywyd er mwyn dysgu gwersi ac ymestyn yn ysbrydol,[26] ond nid yw'r gred hon yn gyffredinol, gan fod llawer o Wiciaid yn credu y gall enaid ailymgnawdoli i mewn i wahanol rywogaethau. Serch hynny, mae gan Wiciaid ddywediad poblogaidd: "unwaith yn wrach, wastad yn wrach," sy'n dangos y gred mai ailymgnawdoliadau o wrachod blaenorol yw Wiciaid.[27]

Fel arfer, mae Wiciaid sy'n credu mewn ailymgnawdoli yn credu bod yr enaid yn gorwedd rhwng ailymgnawdoliadau yn yrArallfyd neuWlad yr Haf, sydd â'r enw "ecstasi'r Dduwies" yn ôl Gardner.[28] Mae llawer o Wiciaid yn credu yn y gallu i gysylltu ag ysbrydion sy'n preswylio yn yr Arallfyd drwygyfryngwyr ysbryd abyrddau wiji, yn bennaf ar adegNos Galan Gaeaf/Samhain, er bod eraill yn anghytuno â'r arfer hwn, megis yr ArchoffeiriadAlex Sanders, a ddywedodd "bu iddynt farw; boed iddynt fod mewn heddwch".[29] Ymddengys fod y gred hon wedi cael ei dylanwadu arni ganysbrydegaeth, a oedd yn boblogaidd iawn ar yr adeg pan ymddangosodd Wica, ac roedd profiad o ysbrydegaeth gan Gardner ac Wiciaid cynnar eraill megis Buckland a Sanders.[30]

Er gwaethaf tipyn o gred ynddo, felly, nid yw Wica yn rhoi pwyslais ar ôl-fywyd, gan ganolbwyntio'n hytrach ar fywyd cyfredol; fel sylwodd yr hanesyddRonald Hutton, "ymddengys mai safle greddfol llawer [o Wiciaid] yw os ydych yn gwneud y gorau o'r bywyd cyfredol, wedyn bydd y bywyd nesaf, fwy neu lai, yn elwa o'r broses hon, ac o ganlyniad y dylai bwysleisio ar y presennol".[31]

Hud a Dewiniaeth

[golygu |golygu cod]

Mae llawer o Wiciaid yn credu mewndewiniaeth, grym a ellir ei drin gan ymarferhud neuswyngyfaredd. Gelwir hud yn "magick" yn Saesneg, gair a fathwyd gan yr ocwltiwr dylanwadolAleister Crowley, er bod y sillafiad hwn yn fwy cyffredin i grefydd CrowleyThelema nag i Wica. Yn wir, mae llawer o Wiciaid yn cytuno â'r diffiniad o ddewiniaeth a hud a gynigwyd ganddewiniaid seremonïol,[32] megis Aleister Crowley, a ddywedodd "y wyddoniaeth a chrefft o beri newid i ddigwydd wrth gyd-fynd ag ewyllys yw dewiniaeth." Dywedodd dewin seremonïol arall o'r enwMacGregor Mathers, "y wyddoniaeth o reoli'r grymoedd cudd o natur yw dewiniaeth."[32] Mae llawer o Wiciaid yn credu mai peth naturiol yw dewiniaeth, a gamddeallir hyd yn hyn gan wyddoniaeth gyfoes,[32] ac o ganlyniad nid yw Wiciaid yn edrych arno fel pethgoruwchnaturiol, ond fel rhan yr "uwch bwerau sy'n preswylio mewn natur" yn ôlLeo Martello.[33] Mae rhai o Wiciaid yn credu mai gwneud defnydd llawn o'r pum synnwyr er mwyn cyflawni canlyniadau rhyfedd yw dewiniaeth.[33] Mae rhai o Wiciaid eraill yn dweud nid ydynt yn gwybod sut mae dewiniaeth a hud yn gweithio, dim ond yn credu ei bod yn bodoli oherwydd gwelont ddewiniaeth a hud yn gweithio.[34]

"Y pwynt [o hud o fewn Dewiniaeth] yw gwneud i'r byd "ystwyth" ystwytho yn ôl eich ewyllys... Oddieithr eich bod perchen ffydd gref yn eich pwerau a'ch gallu i weithredu'r swyn, ni fyddwch yn cyflawni'r angerdd llosg o'ch ewyllys a dychymyg sy'n angenrheidiol i wneud i'r ddewiniaeth weithio."
Saesneg gwreiddiol 
"The point [of magic in Witchcraft] is to make the "bendable" world bend to your will... Unless you possess a rock-firm faith in your own powers and in the operability of your spell, you will not achieve the burning intensity of will and imagination which is requisite to make the magic work."
Paul Huson[35]

Mae Wiciaid yn castioswynion yn ystod arferiadau defodol (a gynhelir yn aml o fewn cylch sanctaidd) mewn cais i ddod â newid go iawn ar y byd ffisegol. Mae swynion cyffredin yn cynnwys swynion i iacháu pobl, swynion ynglŷn â chariad a ffrwythlondeb, neu i atal dylanwadau negyddol ar bobl.[36] Cyfeiriwyd llawer o Wiciaid cynnar, megisAlex Sanders,Doreen Valiente, aSybil Leek, at eu hud eu hunain fel "dewiniaeth wen", mewn cyferbyniad â "dewiniaeth ddu",drwg aSataniaeth. Defnyddiodd Sanders derminoleg debygol megis "llwybr y llaw chwith" er mwyn disgrifio dewiniaeth faleisus, a "llwybr y llaw dde" er mwyn disgrifio dewiniaeth a wnaethpwyd gyda bwriadau da;[37] terminoleg a fathwyd gydag ocwltiwr o'r enwMadame Blavatsky yny bedwaredd ganrif ar bymtheg. Bellach, mae rhai o Wiciaid diweddar wedi peidio â defnyddio'r dicotomïau o ddewiniaeth wen-ddu a llwybr y llawr chwith-dde, gan ddadlau na ddylai'r lliwdu fod ag unrhyw gysylltiadau drwg.[38]

Ym 1985, dywedodd yr ysgolheigionRodney Stark aWilliam Bainbridge fod Wica "wedi adweithio iseciwlareiddiad gyda phlymiad byrbwyll yn ôl i mewn i ddewiniaeth" a'i fod yn grefydd adweithiol a fydd yn marw'n fuan. Beirniadwyd y farn hon yn hallt ym 1999 gan yr hanesyddRonald Hutton, a ddywedodd fod "llawer [o Wiciaid] â swyddi ar fin ymyl dorri [o ddiwylliant gwyddonol], megis technoleg gyfrifiadurol."[30]

Moesoldeb

[golygu |golygu cod]
Prif:Moesoldeb Wica

"Bide the Wiccan laws ye must, in perfect love and perfect trust...Mind the Threefold Law ye should - three times bad and three times good...Eight words the Wiccan Rede fulfill - an it harm none, do what ye will."

Lady Gwen Thompson

Nodyn: Mae "an" yma yn golygu 'os' yn Gymraeg, sy'n gyfartal ag 'if' mewn Hen Saesneg

[39]

Nid oescod moesol neu ddogma a ddilynir yn slafaidd gan Wiciaid o urhyw draddodiad, serch hynny, mae'r mwyafrif yn dilyn cod moesol o'r enw'rCyngor Wicaidd, sy'n datgan "os nad yw'n brifo neb, gwnewch yr hyn a fynnwch." Dehonglir hyn fel arfer fel datganiad o'r rhyddid i weithredu, gyda'r angen i gymryd cyfrifioldeb am yr hyn sy'n dilyn o ganlyniad i'ch gweithredoedd a lleihau'r niwed i'ch hunan a phobl eraill.[40] Mae'rGyfraith o Ddychweliad Triphlyg yn elfen gyffredin arall o foesoldeb Wica, sy'n dweud, "yr hyn a anfonir allan gennych, naill ai'n garedig neu'n faleisus, fydd yn dychwelyd atoch deirgwaith cryfach," neu gyda grym cyfartal ar lefel y corff, y meddwl, a'r ysbryd - syniad sy'n debyg i syniad y dwyrain ogarma. Cyflwynwyd y Cyngor Wicaidd a'r Gyfraith o Ddychweliad Triphlyg i mewn i Wica gan Gerald Gardner, a dderbynnir gan draddodiadau Gardneraidd a thraddodiadau tebyg.

Mae llawer o Wiciaid hefyd yn ceisio byw wrth set o wyth rhinwedd a soniwyd amdanyn nhw o fewnSiars y Dduwies ganDoreen Valiente,[41] sef digrifiwch, parchedigaeth, anrhydedd, gostyngeiddrwydd, cryfder, prydferthwch, pŵer, a thosturi. Yn y gerdd, trefnwyd y rhinweddau mewn parau o gyferbyniadau cyflenwol, gan adlewyrchudeuoliaeth sy'n gyffredin mewn athroniaeth Wicaidd. Mae rhai Wiciaid â llinach hefyd yn sylwi fod set oGyfreithiau Wicaidd ar gael, a elwirCyfreithiau'r Grefft neuArdanes, gyda 30 ohonyn nhw'n bodoli o fewn traddodiad Gardner, a gyda 161 o fewn traddodiad Sanders. Dadleuodd Valiente, y crëwyd y tri-deg rheol hyn gan Gardner ei hun mewn iaith ffug-hynafaidd fel y sgil gynnyrch o groesdynnu mewnol o fewn ei Gwfen Coed Briced.[42][43] Crëwyd y rheolau eraill fel ychwanegiadau hwyr ganAlex Sanders yn ystod y 1960au.

Er i Gardner ddangos tueddiadau negyddol igyfunrywioldeb ar y cychwyn, gan ddweud ei fod yn dyfod â "rheg y dduwies",[44] fe'i derbynnir yn gyffredinol ymhob un traddodiad Wicaidd erbyn hyn, gyda rhai grwpiau, megis y Minoan Brotherhood (Brawdoliaeth y Minoaid), yn canolbwyntio eu hathroniaeth o'i gwmpas.[45] Yn ogystal â hyn, roedd cymeriadau pwysig, gwahanol o fewn Wica, pobl megis Alex Sanders ac Eddie Buczynsky, yngyfunrywiol neu'nddeurywiol, a hynny ar goedd.

Y Pum Elfen

[golygu |golygu cod]

O fewn rhai traddodiadau, mae cred yn y pumelfen glasurol, er mai annhebyg ŷnt ihen Roeg, fe'i gwelir yn elfennau symbolaidd yn hytrach na llythrennol; hynny yw, maent yn cynrychioliagweddau o fater. Caiff y pum elfen hyn eu harddeisyf yn ystod llawer o ddefodau hudol, megis wrth gysegrucylch hudol:Aer,Tân,Dŵr aDaear, yn ogystal agEther (neu Ysbryd) yw'r pum elfen.[46] Dyfeisiwyd gwahanol gydweddiadau er mwyn egluro cysyniad y pum elfen; er enghraifft, maeAnn-Marie Gallagher yn defnyddio cysyniad o goeden, a wneir o Ddaear (gyda mater y pridd a phlanhigyn), Dŵr (sudd a lleithder), Tân (drwyffotosynthesis) ac Aer (gan greuocsigen ogarbon deuocsid), a gyfunwyd gyda'r Ysbryd.[47]

"Darksome Night and Shining Moon,

East and South and West and North,

Hearken to the Witches' Rune;

Hear me now, I call thee forth."

Doreen Valiente

Yn draddodiadol o fewn Wica Gardneraidd, mae pob un elfen wedi cael ei chysylltu â phwynt cardinal y cwmpawd; Aer â'r dwyrain, Tân â'r de, Dŵr â'r gorllewin, Daear â'r gogledd, ac Ysbryd â'r canol.[47] Sut bynnag, datganodd rhai Wiciaid, megisFrederic Lamond, fod y set o bwyntiau cardinal hyn yn gallu cael eu defnyddio'n unig yn ne Lloegr, lle datblygwyd Wica, a fydd yn rhaid i Wiciaid eraill bennu cyfarwyddiadau eu hunain yn ôl eu traddodiadau eu hunain, er enghraifft, dylai pobl sy'n byw ar arfordir y dwyrain oOgledd America arddeisyf Dŵr yn y dwyrain yn hytrach na'r gorllewin oherwydd bod y corff anferth o ddŵr, yMôr Iwerydd, i'w dwyrain iddyn nhw.[48] Mae traddodiadau Wicaidd eraill wedi cysylltu'r elfennau gyda gwahanol bwyntiau cardinal; cymdeithaswyd Clan Tubal CainRobert Cochrane y Ddaear gyda'r de, Tân gyda'r dwyrain, Dŵr gyda'r gorllewin a'r Aer gyda'r gogledd,[49] a rheolir bob un elfen gan wahanol dduw neu dduwies sy'n blant i'r Duw Corniog a'r Dduwies. Symboleiddir y pum elfen gyda'r pum pwynt ypentagram, y symbol mwyaf ddefnyddir o fewn Wica.[50]

Ymarferiadau

[golygu |golygu cod]

Sylwodd yr Arch Offeiriades ac ymchwiliwr Neo-baganaiddMargot Adler, y diffiniwyd defod fel "dull o atgyfannu unigolion a grwpiau i mewn i'r cosmos, ac i glymu gweithgareddau o fywyd dyddiol i mewn â'u harwyddocâd - a anghofiwyd amdano'n aml". Dywedodd hefyd nad yw dathliadau a defodau newid byd o fewn Wica yn "brofion sych, ailadroddus, wedi'u ffurfioli", ond yn cael eu perfformio gyda'r un pwrpas o beriprofiad crefyddol o fewn eu cyfraniadau.[51] Sylwodd fod llawer o Wiciaid yn ofalus ynghylch bodolaeth y duwiau a'r duwiesau a'r ôl-fywyd ayyb, ond maent yn weithredol o fewn y Grefft heblaw hyn, oherwydd eu profion defodol. Dywedodd Glenna Turner, "Rwy'n dwli ar fytholeg, breuddwydion, a chelf weledigaethol. Y lle mae pob un o'r pethau hyn yn ffitio â'i gilydd yw'r Grefft - harddwch, pasiantri, cerddoriaeth, dawnsio, canu, a breuddwydio."[52]

DatganoddAidan Kelly, Archoffeiriad a hanesydd y Grefft, fod ymarferiadau a phrofion o fewn Wica yn fwyfwy pwysig na'r credoau, gan ddweud "[bod Wica] yn grefydd o ddefod yn hytrach nag yn ddiwinyddiaeth. Mae'r ddefod yn gyntaf; mae'r fytholeg yn ail. Ac wrth gymryd agwedd mai mythau'r Grefft yw'r 'gwir hanes' yn y ffordd maeffwndamentaliaid yn edrych ar chwedleuon oGenesis yn swnio'n wallgof."[53] Dyma'r rheswm yn ôl Adler: "mae'n eironig, oherwydd wrth ystyried y datganiadau i gyd sydd yn erbyn Dewiniaeth fel bygythiad, un o'r unig safbwyntiau crefyddol yw'r Grefft sy'n hollol gydnaws gyda gwyddoniaeth ddiweddar, gan ganiatáu sgeptigaeth ynghylch ei haelodau, mythau, a defodau eu hun hyd yn oed."[54]

Ymarferiadau defodol

[golygu |golygu cod]
Llun o'rathamé, offeryn defodol a ddefnyddir o fewn ymarferiadau defodol Wicaidd.
Prif:Offer hudol yn Wica

Mae llawer oddefodau o fewn Wica a ddefnyddir wrth ddathlu'r Gwyliau, addoli'r duwiau a duwiesau a gweithio hud a dewiniaeth. Cynhelir y defodau hyn arleuad lawn fer arfer, neu ar y lleuad newydd weithiau, a elwir ynEsbat. O fewn defodau nodweddiadol, mae'r cwfen yn ymgynnull o fewncylch hudol a gastiwyd a phurwyd yn ddefodol. Mae castio'r cylch yn cynnwysarddeisyfiad y "Gwarcheidwaid" o'r pwyntiau cardinal, ochr yn ochr gyda'i elfennau clasurol priodol;Aer,Tân,Dŵr, aDaear. Unwaith i'r cylch gael ei gastio, gellir perfformio defod dymhorol, gweddïo, a gweithio hud a dewiniaeth. Mae'r defodau hyn yn cynnwys set arbennig ooffer hudol fel arfer. Mae'r rhai hyn yn gallu cynnwys cyllell a elwir ynathamé,hudlath,pentagl acharegl, ac mae offer eraill yn cynnwysysgubell,crochan,canhwyllau,arogldarth a llafn crwm a adnabyddir felbolein. Mae Allor yn bresennol yn y cylch fel arfer, sy'n dal offer defodol a osodir arno, ac weithiau arddangosir cynrychiolaethau'rDuw a'rDduwies.[55] Cyn mynd i mewn i'r cylch, mae rhai traddodiadau'n ymprydio am ddiwrnod, a/neu ymdrochi yn ddefodol. Wedi i ddefod orffen, diolchir i Duw a'r Dduwies, a'r Gwarcheidwaid, a chaeir y Cylch.

Mae rhai traddodiadau, yn enwedigWica Gardneraidd, yn ymarfer wrth fod yn noeth, hefyd a elwir ynskyclad. Ni wyddys o le mae'r term yn dod, ond mae rhai'n dweud ei fod yn tarddu o linell ynAradia, or the Gospel of the Witches, record o ddewiniaeth Eidalaidd a ysgrifennwyd ganCharles Leland.[56] Mae traddodiadau eraill yn gwisgo gynau gyda chordiau a glymwyd o gwmpas y wast neu ddillad normal y stryd. O fewn rhai traddodiadau, perfformirdewiniaeth ryw defodol ar ffurfy Ddefod Fawr, lle mae'r Archoffeiriaid a'r Archoffeiriades yn arddeisyf i'r Duw a'r Dduwies eu perchenogi cyn perfformiocyfathrach rywiol er mwyn codi egni hudol i'w ddefnyddio i weithio swynion. O fewn rhai achosion, perfformir y Ddefod Fawr "mewn tocyn", trwy hynny'n symbolaidd yn unig, gan ddefnyddio athamé er mwyn cynrychioli'rpidyn a charegl er mwyn cynrychioli'rwain.[57]

Yr Wyth Gŵyl a Rhod y Flwyddyn

[golygu |golygu cod]
Rhod y Flwyddyn paentiedig yn yMuseum of Witchcraft,Boscastle,Cernyw, sy'n arddangos pob un o'r wyth Gŵyl.
Prif:Rhod y Flwyddyn

Mae Wiciaid yn dathlu wyth gŵyl dymhorol o'r enwGwyliau (Saesneg:Sabbats). Cyfeirir atynt i gyd felRhod y Flwyddyn.[58] Mae llawer o Wiciaid, megisWiciaid Gardneraidd a llawer o Wiciaid eclectig yn dathlu'r wyth Gŵyl, ond o fewn grwpiau a thraddodiadau eraill, yn enwedig y rhai sy'n disgrifio eu hunain fel "Dewiniaeth Draddodiadol", megis y Clan o Tubal Cain, fe ddethlir pedair gŵyl yn unig, ac mae'r grŵp Ros an Bucca oGernyw, yn achos prin iawn gan ei fod yn dathlu chwe gŵyl yn unig.[59] Y pedair gŵyl sy'n gyffredin i bob un o'r grwpiau hyn yw'rdyddiau chwarter croes, a gyfeirir atynt weithiau felGwyliau Mawr neuWyliau Tân, a dechreuasant fel gwyliau a ddathlwyd gany CeltiaidIwerddon a gwledydd Celtaidd eraill.[60] Yn ôl llyfrauMargaret Murray,The Witch-Cult in Western Europe (1921) aThe God of the Witches (1933), mae'r pedair gŵyl hyn wedi goroesi Cristyddiaeth (Christianisation) a dathlwyd gyda chrefydd-ddewiniaeth y Paganiaid. Ar ôl hynny, pan ddatblygwyd Wica yn gyntaf yn y 1930au hyd at y 1960au, penderfynodd llawer o'r grwpiau cynnar hyn, megis grŵpRobert Cochrane,Clan o Tubal Cain, a chwfenGerald Gardner,Cwfen Coed Briged, i ddathlu'r pedair Gŵyl hyn a ddisgrifiwyd gan Murray. Defnyddiodd Gardner yr enwau Saesneg ar eu cyfer, gan ddweud, "the four great Sabbats are Candlemass [sic], May Eve, Lammas, and Halloween; the equinoxes and solstices are celebrated also."[61]

Adnabyddir y pedair gŵyl eraill a ddethlir gan Wiciaid fel "Gwyliau Bach", sy'n cynnwys yrheuldroadau a'rcyhydnosau, a dathlwyd hwy yn y lle cyntaf ym 1958 gan aelodau Cwfen Coed Briceg.[62] Ar ôl hynny, dathlwyd hwy gan ddilynwyr eraill o draddodiad Gardner, a chan draddodiadau eraill megisWica Alecsandraidd acWica Dianigaidd o'r diwedd. Daeth enwau'r gwyliau o wyliauamldduwiol y Celtiaid aPhaganiaeth yr Almaen. Serch hynny, nid yw'r gwyliau'n ail-adeiladol mewn natur, ac nad ydynt yn debyg i'w cymheiriaid hanesyddol, ond y maent yn dangos fod rhai pethau'n gyffredin rhwng y grwpiau.

GŵylHemisffer y GogleddHemisffer y DeTarddiadau HanesyddolCysylltiadau
Samhain, hefyd a elwirGŵyl Calan Gaeaf31 Hydref30 Ebrill, neu 1 MaiPaganiaeth Geltaidd (gweler hefydy Celtiaid)Marwolaeth a'r hynafiaid.
Gŵyl Ganol y Gaeaf, hefyd a elwirAlban ArthanAmrywio rhwng 19 - 23 RhagfyrAmrywio rhwng 19 - 23 MehefinPaganiaeth yr AlmaenHeuldro'r Gaeaf ac ailenedigaeth yrhaul.
Imbolc, hefyd a elwirGŵyl Fair y Canhwyllau1 neu 2 Chwefror1 AwstPaganiaeth Geltaidd (gweler hefydy Celtiaid)Arwyddion cyntaf o'rgwanwyn.
Ēostre, hefyd a elwirAlban EilirAmrywio rhwng 19 - 23 MawrthAmrywio rhwng 19 - 23 MediPaganiaeth yr AlmaenCyhydnos y Gwanwyn a dechrau'rgwanwyn.
Calan Mai, hefyd a elwir Noswyl Fai (Noson Walpurgis), neuBeltaine30 Ebrill neu 1 Mai1 TachweddPaganiaeth Geltaidd (gweler hefydy Celtiaid)Blaguro llawn o'r gwanwyn.Tylwythau Teg.[63]
Gŵyl Ganol yr Haf, hefyd a elwirAlban Hefin a Chalan Ieuan FedyddiwrAmrywio rhwng 19 - 23 MehefinAmrywio rhwng 19 - 23 RhagfyrEfallai neolithigHeuldro'r Haf / Hirddydd Haf.
Lugnasad, hefyd a elwirGŵyl Galan Awst1 neu 2 Awst1 ChwefrorPaganiaeth Geltaidd (gweler hefydy Celtiaid)Cynaeafu'r grynon.
Mabon, hefyd a elwirModron[64]Amrywio rhwng 19 - 23 MediAmrywio rhwng 19 - 23 MawrthDim.Cyhydnos yr Hydref neuAlban Elfed. Cynaeafu o ffrwyth.

Defodau newid byd

[golygu |golygu cod]

Mae llawer oddefodau newid byd (rites of passage) o fewn Wica. Efallai'r ddefod fwyaf pwysig yw'r ddefodynydu, sy'n ffordd o ddyfod yn Wicaid wrth ymuno â'r Grefft. O fewn traddodiadau oWica Draddodiadol Prydain, ceir llinach ynydu sy'n mynd yr holl ffordd nôl iGerald Gardner, a ddywedodd y cafodd ei ynydu i mewn i'rGwfen y Fforest Newydd; serch hynny, nid oes tystiolaeth am fodolaeth y cwfen hwn.[65] Dywedodd Gardner fod yn rhaid i berson aros am y cyfnod traddodiadol o "flwyddyn a diwrnod" rhwng ynydiadau, ond fe dorrodd y rheol hon yn aml. O fewn Wica Draddodiadol Prydain, caiff y person ei ynydu i mewn i'r radd gyntaf i ddechrau. I symud ymlaen i'r ail radd, mae'n rhaid iddo gael ynydiad arall. Yn yr ynydiad hwn, mae'n rhaid i'r person enwi a disgrifio'r defnyddiau o'roffer hudol.[66]

Yn y ddefod ynydu, fe roddirenw crefft i'r person hefyd.[66] Wrth gael ynydu i mewn i'r ail radd, gall Wicaid ynydu pobl eraill, neu sefydlu cwfen hanner-ymreolaethol ei hun.[66] Y drydedd radd yw'r radd uchaf o fewn Wica Draddodiadol Prydain, sy'n cynnwys cydgyfranogi yny Ddefod Fawr, naill ai mewn ffordd symbolaidd neu go iawn, yn ogystal âfflangellu defodol.[67] Wrth gael ei ynydu i mewn i'r drydedd radd, gall Wicaid sefydlu cwfen ei hun sy'n hollol annibynnol.[67]

Seremonilaw-glymu ynAvebury,Lloegr, a ddigwyddodd yn ystodCalan Mai yn 2005

Mae'r system hon yn unigryw i Wica Draddodiadol Prydain a thraddodiadau sy'n seiliedig arni. Nid yw'r un system ganGrefft Cochrane, oherwydd nad yw'r traddodiad hwnnw'n dilyn Wica Draddodiadol Prydain, ond traddodiad sy'n seiliedig ar ddysgeidiaethauRobert Cochrane. Mae gan y traddodiad hwn gyfnod o nofis acinitiate. Mae rhai Wiciaid unig hefyd yn ymarfer defodau hunan-gysegru i ddyfod yn Wiciad. Y ddefod hunan-gysegru gyntaf a gyhoeddwyd oedd yn llyfrPaul Huson,Mastering Witchcraft (1970). Yn y llyfr, roedd yn rhaid i'r person ddatganGweddi'r Arglwydd tuag yn ôl fel symbol o herfeiddiad yn erbyn cyfnodhelfa'r gwrachod hanesyddol.[68] Cyhoeddwyd defodau hunan-gysegru mwy Paganaidd erbyn i'r llyfr hwnnw gael ei gyhoeddi, a ddyluniwyd ar gyfer Wiciaid unig gan awduron felDoreen Valiente,Scott Cunningham, aSilver Ravenwolf.

Enghraifft o glwm o'r seremoni law-glymu; mae pawb a fynychir y seremoni yn clymu rhuban o gwmpas dwylo'r cwpl.

Maellaw-glymu yn ddathliad arall a ddethlir gan Wiciaid, sy'n debyg i briodas Gristnogol. Mae rhai Wiciaid yn ymarfer "priodas arbrawf" am flwyddyn a diwrnod, gyda rhai traddodiadau yn cynnal y dathliad arLugnasad; hwn oedd y cyfnod traddodiadol ar gyfer arbrofi'r briodas. Adduned gyffredin Wicaidd yw "tra bo cariad", yn lle'r adduned Gristionogol draddodiadol o "hyd nes i farwolaeth ein rhannu".[69] Digwyddodd y briodas Wicaidd gyntaf ym 1960 rhwngFrederic Lamond a'i wraig gyntaf, Gillian, aelodau oGwfen Bricket Wood.[70]

Weithiau, ymglymir babanod o deulu Wicaidd mewn defod o'r enwBedydd Wicaidd, sy'n debyg i'r ddefod Gristnogol o fedyddio. Pwrpas y ddefod hon yw cyflwyno'r baban i'r Duw a'r Dduwies.

Llyfr y Cysgodion

[golygu |golygu cod]
Prif:Llyfr y Cysgodion

Nid oes unrhyw destun sanctaidd penodol o fewn Wica, megis yBeibl neu'rQur'an, er bod rhai traddodiadau yn meddwl bod rhai ysgrythurau a thestunau'n bwysig ac yn ddylanwadau ar eu credoau a'u hymarferiadau. Defnyddiodd Gardner lyfr a oedd yn cynnwys llawer o wahanol destunau o fewn ei gwfennau, sefLlyfr y Cysgodion, ac addasodd ac ychwanegodd ato'n aml iawn. Yn ei Lyfr y Cysgodion, ceir testunau o wahanol ffynonellau, gan gynnwys y llyfrAradia, or the Gospel of the Witches (1899) ganCharles Godfrey Leland, ac ysgrifeniadauocwltiwr yr 20fed canrif gan Aleister Crowley. Mae'r llyfr hefyd yn cynnwys enghreifftiau o farddoniaeth a gyfansoddwyd gan Gardner a'i Archoffeiriades Doreen Valiente, megisSiars y Dduwies.

"Nid yw Llyfr y Cysgodion yn Feibl neu Qur'an. Mae'n llyfr personol sy'n cynnwys swynion sydd wedi'u gweithio i'w berchennog. Yr wyf yn rhoi fy llyfr ichi i'w gopïo er mwyn ichi gychwyn arni: wrth ichi ennill profiad, hepgorwch swynion sydd ddim yn gweithio ichi a disodlwch swynion gyda'r hyn eich bod yn eu hysgrifennu'ch hunan."
Saesneg gwreiddiol 
"The Book of Shadows is not a Bible or Quran. It is a personal cookbook of spells that have worked for the owner. I am giving you mine to copy to get you started: as you gain experience discard those spells that don’t work for you and substitute those that you have thought of yourselves."
-Gerald Gardner i'w ddilynwyr.[71]

Yn debyg i ddefnydd o'rgrimwar a ddefnyddir ganswynwyr seremonïol,[72] roedd y llyfr yn cynnwys cyfarwyddiadau ar sut i berfformio defodau a swynion, yn ogystal â barddoniaeth grefyddol a siantiau megisEko Eko Azarak i'w defnyddio o fewn defodau. Bwriad gwreiddiol Gardner oedd y bydd pob un copi arall y Llyfr yn wahanol, oherwydd y byddai myfyriwr yn copïo'r Llyfr gan ei Archoffeiriad/es, ond yn newid y rhannau nad oedd yn effeithiol. Mae pob un copi o'r Llyfr yn unfath â'r fersiwn a gopïwyd gan yr ArchoffeiriadesMonique Wilson o Gardner ymysg llawer o Wrachod Gardneraidd heddiw, yn enwedig yny Taleithiau Unedig, heb ddim byd wedi'i newid. Yn wreiddiol, yr oedd yn rhaid iddynt gadw'r Llyfr yn gyfrinach rhag pobl nad oedd yn perchen ar Wica Draddodiadol Prydain, ond cyhoeddwyd darnau o'r Llyfr gan awduron felCharles Cardell, Lady Sheba,Janet Farrar, aStewart Farrar.[73][74]

Heddiw, mae ymlynwyr nad yw'n perchen ar draddodiadau Wica Draddodiadol Prydain hefyd yn derbyn y cysyniad o'r Llyfr, gyda llawer o Wiciaid unig yn cadw fersiynau eu hunain, weithiau gan gynnwys deunydd o Lyfr y Cysgodion Gardneraidd a gyhoeddwyd yn barod. O fewn traddodiadau eraill, sut bynnag, ni ysgrifennir ymarferiadau byth i lawr, gan olygu nad oes angen Llyfr y Cysgodion.

O fewn traddodiadauDewiniaeth Draddodiadol, defnyddir gwahanol ffurfiau o lenyddiaeth. Er enghraifft, o fewnTraddodiad 1734, defnyddir erthyglau a ysgrifennwyd ganRobert Cochrane, yn ogystal â'r llythyrau a ysgrifennwyd ganddo fe atJoseph Wilson,Robert Graves[75] ac eraill[76] iJoseph Wilson, sy'n cynnwys cyfarwyddyd cyfriniol.

Symbolau

[golygu |golygu cod]
Symbol yDduwies Driphlyg y lleuad; cynyddu, llawn, a chilio (neu lanw, llawn a thrai).

Defnyddir symbolau amrywiol gan Wiciaid, sy'n debyg i ddefnydd ycroeslun ganGristnogion neuSeren Dafydd ganIddewon. Ypentagl yw'r symbol mwyaf nodedig a ddefnyddir gan Wiciaid, sydd â phum pwynt, gyda phob un pwynt yn cynrychioli un o'r pumelfen glasurol (daear, aer, tân, dŵr, ac ysbryd/ether). Mae'n cynrychioli hefyd y syniad mai dyn, gyda'i bum ychwanegiad, ywmicrocosm o'r bydysawd. Mae symbolau eraill a ddefnyddir yn cynnwys ytricwetra a symbol y Lleuad driphlyg o'r Dduwies Driphlyg.

Traddodiadau

[golygu |golygu cod]
Gweler hefyd:Rhestr trefniadaethau Wicaidd aCategori:Traddodiadau Wicaidd

Yn y 1950au hyd at y 1970au, pan gynhwyswyd y mudiad Wicaidd o grwpiau â llinach yn bennaf megisWica Gardneraidd, awgrymir "traddodiad" y trosglwyddo gwybodaeth drwy "linach ynydu" (sef rhaeadru gwybodaeth o un i'r llall). Sut bynnag, wrth i fwy a mwy o grwpiau fel hyn ddod yn gyhoeddus, ac fel arfer yn cael eu sefydlu gan bobl heb linach ynydu blaenorol, daeth y term yn gyfystyr amenwad crefyddol o fewn i Wica. Mae llawer o'r math hyn o draddodiadau[77][78] ac mae yna lawer oymarferwyr unig yn ogystal â'r grwpiau hyn sydd am ymochri'u hunain gydag unrhyw linach benodol, gan ddewis i weithio ar eu pennau eu hunain. Mae yna hefyd gwfennau sydd wedi'u ffurfio ond nad ynt am ddilyn traddodiad penodol, gan ddewis eu dylanwadau ac arferion gydag eclectigiaeth.

Mae traddodiadau sydd â llinach yn ôl i Gerald Gardner yn cynnwys WicaWica Gardneraidd,Alecsandraidd acAlgardaidd; oherwydd eu hanes uniad, cyfeirir atyn nhw fel arfer felWica Draddodiadol Prydain, yn enwedig yngNgogledd America. Mae traddodiadau eraill yn olrhain eu llinach yn ôl i wahanol ffigurau, hyd yn oed os dylanwedir ar eu credoau ac ymarferiadau gan Gardner mewn ffordd fawr neu fach. Mae'r traddodiadau hyn yn cynnwysCrefft Cochrane aThraddodiad 1734, gyda'r ddau ohonyn nhw'n dechrau gydaRobert Cochrane; yTraddodiad Feri, sefydlwyd ganVictor Anderson aGwydion Pendderwen; acWica Dianigaidd, sefydlwyd ganZsuzsanna Budapest. Mae'n well gan rai o'r grwpiau hyn alw eu hunain ynWrachod, trwy hynny yn gwahaniaethu eu hunain o draddodiadau Wica Draddodiadol Prydain, sy'n defnyddio'r ansoddairWicaidd yn hytrach.

Mae Wiciaid Traddodiadol Prydain yn mynnu os yw rhywun am fod yn aelod o'r traddodiad hwnnw, yna mae'n rhaid iddo gael seremoni ynydu a berfformir gan berson â llinach yn y traddodiad hwnnw yn barod. Mae rhai grwpiau eraill yn mynnu hyn hefyd. O ganlyniad, gall pob un Wiciaid Traddodiadol Prydain olrhain llinach uniongyrchol yn ôl i Gardner. Dyw traddodiadau eraill ddim yn meddwl bod hyn yn angenrheidiol.

Cwfennau ac Wiciaid Unig

[golygu |golygu cod]

Trefnir Wica draddodiadol i mewn igwfennau gydag Archoffeiriaid ac Archoffeiriadesau wedi'u hynydu. Mae cwfennau'n ymreolaethol, ac fel arfer mae Archoffeiriad ac Archoffeiriades yn eu rheoli mewn partneriaeth gyda'i gilydd. Fel arfer maen nhw wedi mynd trwy'r system raddio o'r radd gyntaf, yr ail radd, y drydedd radd, gydag ynydiadau ar eu diwedd. Ambell waith mae'r ail radd yn unig gan yr Archoffeiriad ac Archoffeiriades. Maen nhw'n cael cymorth a chefnogaeth o'r cwfen rhiant wrth iddyn nhw sefydlu cwfen eu hunain. Fel arfer perfformir ynydiadau a hyfforddiant Offeiriad ac Offeiriades newydd o fewn amgylchedd y cylch hudol, ond dyw hyn ddim yn rheol wedi'i osod mewn carreg.

Yn ôlWica Gardneraidd, mae'n rhaid i gwfen fod ag un ar ddeuddeg aelod, sydd fel arfer y rhif darged, er ond dyw hyn ddim yn rheol wedi'i osod mewn carreg bellach.[26] Mae llawer o gwfennau yn y Deyrnas Unedig a'r Unol Daleithiau yn llawer bach, er galle nhw estyn y cwfen i Wiciaid eraill sy'n mynychu defodau "agored." Pan yw cwfennau'n tyfu'r tu hwnt i'u niferoedd delfrydol, maen nhw'n rhannu i mewn i gwfennau eraill, ond yn cadw mewn cysylltiad â'i gilydd a gweithio fel grŵp mawr weithiau. "Gwigfa" yw'r enw am grwpiau sydd yn gwneud hyn.

Cyn cael mynediad ac ynydiad i mewn i gwfen penodol, mae'n rhaid aros o leiaf blwyddyn a diwrnod. Fel arfer gwneir cwrs o astudiaeth yn ystod y cyfnod hwn. O fewn rhai cwfennau, perfformir defod "gysegru" weithiau yn ystod y cyfnod hwn, rhywbryd cyn yr ynydiad go iawn. Mae hyn yn gadael i'r person fynychu rhai defodau ar sail brawf. Mae rhai Wiciaid unig yn dewis i astudio am flwyddyn a diwrnod cyn hunan-gysegru eu hunain i'r grefydd.

Mewn cyferbyniad, mae Wiciaid Eclectig fel arfer yn ymarferwyr unig. Mae rhai o'r ymarferwyr hyn yn mynychu casgliadau a digwyddiadau cymunedol eraill, ond yn cadw eu hymarferiadau ysbrydol (Gwyliau, Defodau'r Lleuad, swyn-gastio,addoli, gwaith hudol, ayyb.) am adeg pan eu bod ar eu pennau eu hunain. Mae Wiciaid Eclectig yn gor-rifo Wiciaid â llinach, ac fel arfer mae eu hymarferiadau yn amrywio'n fwy na Wiciaid â llinach.[79]

Hanes

[golygu |golygu cod]
Prif:Hanes Wica

Tarddiadau a Datblygiad Cynnar, 1921-1959

[golygu |golygu cod]
Clawr argraffiad cyntafWitchcraft Today, a ddaeth â Wica i sylw'r cyhoedd

Yn y 1920au a 1930au, cyhoeddodd EifftiwrMargaret Murray sawl llyfr sy'n manylu'i theorïau'r nad oeddy bobl a gafwyd eu herlid am fod yn wrachod yng nghyfnod Cynnar Diweddar yn Ewrop yn ddilynwyr oSataniaeth, fel y dywedwyd gan yr erlidwyr, ond yn ymlynwyr o grefyddbaganaidd cyn-Cristionogol goroesi, sefCwlt y Wrach. Er gwaethaf bod y theorïau hyn yn cael eu hamharchu gan ymchwil hanesyddol bellach, roedd ei theorïau'n dderbyniol ar y pryd.

Yn ystod y 1930au, ymddangoswyd y dystiolaeth gyntaf am yr arfer o grefydd Dewiniaeth baganaidd[80] (bellach yn adnabyddadwy felWica) yn Lloegr. Ymddengys y sefydlodd nifer o grwpiau o gwmpas y wlad, megisNorfolk,[81]Cheshire[82] a'rFforest Newydd gyda'r bwriad o barhau traddodiad cwlt y wrach Murray, gyda chrapiau oddewiniaeth seremonïol,dewiniaeth werin,Saer Rhyddiaeth,Theosoffi,Rhamantiaeth,Neo-derwyddiaeth,mytholeg glasurol a chrefyddau Asiaidd.

Daeth y grefydd yn fwy amlwg yn ystod y 1950au pan ddiddymwyd yDdeddf Dewiniaeth 1735. Ar ôl diddymwyd y ddeddf hon, dechreuodd pobl i ledaenu fersiynau eu hunain o'r Grefft, megisCharles Cardell,Cecil Williamson aGerald Gardner. Cyn sefydlu traddodiad ei hun o'r enwWica Gardneraidd, cafodd Gardner ei ynydu i mewn iGwfen y Fforest Newydd ym 1939. Lledaenodd Gardner y traddodiad hwn wrth sefydlu grwpiau megisCwfen Coed Briged. Gyda chymorth ei ArchoffeiriadesDoreen Valiente ac o ganlyniad o gyhoeddi'i lyfrauWitchcraft Today (1954) aThe Meaning of Witchcraft (1959), daeth ei draddodiad yn draddodiad trechaf y wlad yn gyflyn iawn, a lledaenodd y traddodiad i ardaloedd eraill oYnysoedd Prydain.

Addasiad a lledaeniad, 1960 hyd heddiw

[golygu |golygu cod]
Alex Sanders yn arwain cwfen mewn dathliad oŵyl. Yr unig gyfranogwr â gynau, mae Sanders yn ymarfer ymysg pobl anoeth.

Bu farw Gardner ym 1964, ond parhaodd y Grefft i dyfu heb osteg er gwaethaf cyffrogarwch a phortreadau negyddol o fewn tabloidau Prydain. Tyfodd Wica gyda thraddodiadau newydd a sefydlwyd gan bobl megisRobert Cochrane,Sybil Leek, acAlex Sanders, sylfaenyddWica Alecsandraidd, a seilir ar Wica Gardneraidd gyda phwyslais arddewiniaeth seremonïol. Lledaenodd Wica Alecsandraidd yn gyflym a chafodd lawer o sylw oddi wrth y papurau a theledu. Tua'r un pryd, defnyddid y term "Wica" yn fwy ymestynnol i ddisgrifio "dewiniaeth", a lledaenodd y ffydd i wledydd eraill felAwstralia a'rTaleithiau Unedig.

Sefydlwyd traddodiadau yn y Taleithiau Unedig ac Awstralia gan bobl eu hunain, weithiau a seilir ar draddodiadau dewiniaeth werin ranbarthol gyda fframwaith sylfaenol o Wica Gardneraidd. YTraddodiad Fferi ganVictor Anderson,Traddodiad 1734 ganJoseph Wilson,Urdd Uniongred Ddiwygiedig Newydd y Wawr Aur ganAidan Kelly, acWica Dianigaidd ganZsuzsanna Budapest yw enghreifftiau o'r fath draddodiadau, gyda phob un traddodiad yn canolbwyntio ar agweddau gwahanol o'r ffydd.[83] Tua'r un pryd, cyhoeddwyd llyfrau ynglŷn ag addysgu pobl sut i fod yn wrach heb ynydiad neu hyfforddiant ffurfiol, megisMastering Witchcraft (1970) ganPaul Huson acThe Book of Shadows (1971) gan Lady Sheba. Cyhoeddwyd llyfrau tebyg yn ystod y 1980au a 1990au gan awduron felDoreen Valiente,Janet Farrar,Stewart Farrar, aScott Cunningham. Poblogeiddiodd Cunningham y syniad o hunan-ynydu i mewn i'r Grefft.

Yn ystod y 1990au, ymhlith llawer o bobl sydd wedi hunan-ynydu eu hunain i mewn i'r Grefft, dechreuodd y cyfryngau i archwilio "dewiniaeth", a dechreusant i greu ffilmiau felThe Craft a chyfresau teledu felCharmed. O ganlyniad, cyflwynwyd llawer o bobl ifanc i'r syniad o ddewiniaeth grefyddol. Ar ôl hynny, darparwyd gwybodaeth ar yrhyngrwyd gan awduron felSilver Ravenwolf, ond beirniadwyd y symudiad hwn gan grwpiau traddodiadol ac unigolion Wicaidd. Mewn ymateb i'r ffordd y portreadwyd Wica yn drendi, eclectig, a chyda dylanwad ganfudiadau'r Oes Newydd, trodd lawer o wrachod i draddodiadau cyn-Gardneraidd, ac i draddodiadau cydymgeiswyr Gardner fel Cardell a Cochrane, a dechreusant i ddisgrifio eu hunain fel dilynwyr o "ddewiniaeth draddodiadol", megisCultus Sabbati ganAndrew Chumbley a chwfen Cernywaidd o'r enwRos an Bucca.

Geirdarddiad

[golygu |golygu cod]
Prif:Wica (geirdarddiad)

Derbyniwyd y termWica (hefyd "Wicca") gan y cyhoedd pan gyfeiriodd at y grefydd ei hun yn y 1960au a 1970au. Cyn hynny, defnyddiwyd y term "Dewiniaeth" fel arfer. Tra seilir y term cyfredol owicca arHen Saesneg, a gyfeiriodd at swyngyfareddwyr/dewiniaid benywaidd yn unig, nid yw neb yn gwybod pwy a fathodd y term gyda'i briflythyren, ond dyfalir maiCharles Cardell oedd e, oherwydd defnyddiodd Cardell y term "Wiccen" yn ystod y 1950au.

Demograffeg

[golygu |golygu cod]

Ni ŵyr neb y niferoedd gwirioneddol o Wiciaid sydd yn y byd, a nodir ei fod yn anodd sefydlu'r niferoedd o bobl sy'n aelodau o draddodiadau Neo-baganaidd, oherwydd y strwythur anhrefnus sydd ganddynt.[84] Wedi dweud hynny, maeAdherents.com, gwefan annibynnol sy'n arbenigo mewn casglu bras-amcan y niferoedde led led y byd, yn dyfynnu dros drideg ffynhonnell sy'n amcangyfrif y niferodd o bobl sy'n Wiciaid (o Unol Daleithiau America a'r DU yn bennaf). Gyda'r amcangyfrifon hyn, maen nhw wedi canfod canolrif o tua 800,000 aelod.[85] Yn Unol Daleithiau America, cynhaliwyd ceisiadau at ganfod ffigur, ac amcangyfrifodd Arolwg Adnabod Crefyddol America (2001) fod 134,000 yn adnabod eu hunain fel Wiciaid - cymharer hwn gyda 8,000 ym 1990.[86] Mae Wiciaid hefyd yn gyfran arwyddocaol o grwpiau gwahanol o fewn gwlad benodol; er enghraifft, y ffydd ddi-Gristnogol mwyaf a ymarferir ynAwyrlu Unol Daleithiau America yw Wica, oherwydd bod 1,434 o bobl wedi dweud eu bod yn Wiciaid.[87]

"DynCaucasian yn ei bedwardegau, neu ddynes yn ei thridegau yw'r Wicaid gyffredinol. Mae addysg gweddol dda ganddo, ac nid yw'n ennill llawer ond nid yw'n gor-ganolbwyntio ar bethau daearol ychwaith. Yn ôl demograffwyr, mae'n dod o'rdosbarth canol-isaf."
Saesneg gwreiddiol 
"[The average Wiccan is] a man in his forties, or a woman in her thirties, Caucasian, reasonably well educated, not earning much but probably not too concerned about material things, someone that demographers would call lower middle class."
Leo Ruickbie (2004)[88]

Yn y Deyrnas Unedig, nid oes modd i rifau'r cyfrifiad gael eu dadansoddi'n gywir o ran traddodiadau o dan y pennawd o "Paganiaeth", oherwydd anogodd ymgyrch a ddechreuwyd gan yFfederasiwn Paganaidd cyn yCyfrifiad 2001 Wiciaid, Paganiaid, Derwyddon ac eraill i ddefnyddio'r un term o 'Bagan' er mwyn uchafu'r niferoedd. Am y tro cyntaf, roedd pobl yn gallu ysgrifennu tadogaeth ni ymdriniwyd â hi gan y rhestr dicio o grefyddau cyffredin, a datganodd cyfanswm o 42,262 bobl o Gymru, yr Alban, a Lloegr i fod yn Baganiaid wrth ddefnyddio'r dull hwn. Ni ddadansoddwyd y ffigurau hyn yn syth gan ySwyddfa Ystadegau Gwladol, ond cawsant eu rhyddhau ar ôl cais iddynt gan Ffederasiwn Paganaidd, cangen yr Alban.[89]

Derbyniad o Wiciaid

[golygu |golygu cod]
Prif:Gwahaniaethu ar sail crefydd yn erbyn Neo-baganiaid
O ganlyniad i ddefnydd y pentagram gwrthdroëdig ganEglwys Sataniaeth, mae Wiciaid yn cael eu cam-adnabod felSataniaid.

Daeth Wica i sylw'r cyhoedd mewn gwladGristionogol, ac ers ei dechrau mae hi wedi dioddef gwrthwynebydd gan grwpiau Cristionogol a chan papurau tabloid poblogaidd megisNews of the World. Mae rhai grwpiau Cristionogol yn dweud mai ffurf oSataniaeth yw Wica, er gwaethaf gwahaniaethau pwysig rhwng y ddwy grefydd hyn,[90] megis diffyg ffigwrSatanaidd o fewn ei diwinyddiaeth. Oherwydd y cyhuddiadau negyddol hyn, mae llawer o Wiciaid yn ymarfer y traddodiad yn gyfrinachol, gan guddio'u crefydd oherwydd ofn erledigaeth. Mae rhai pobl, hefyd, wedi cyhuddo Wica o fod yn wrth-Gristionogol, sy'n ddatganiad a wrthodir gan Wiciaid fel Doreen Valiente, a ddywedodd tra bod llawer o Wiciaid yn edmyguIesu, "nid oes llawer o barch am athrawiaethau'r eglwysi gan Wiciaid, a ystyrir ganddynt yn ddogma gwneud".[91]

Yn yr Unol Daleithiau, mae nifer o benderfyniadau cyfreithiol wedi gwella a dilysu statws Wica, yn enwedigDettmer v. Landon ym 1985. Fodd bynnag, mae Wiciaid wedi dod ar draws gelyniaeth gan rai gwleidyddion a sefydliadau Cristnogol,[92][93][94] gan gynnwys cyn-arlywydd yr Unol DaleithiauGeorge W. Bush, a ddywedodd nad yw'n creu mai crefydd yw Wica.[95]

Yn ôl hanes Wica a roddwyd gan Gerald Gardner, mae Wica yn goroesi o gwlt y wrach Ewropeaidd a erlidiwyd yn ystod ytreialon gwrachod. Mae ymchwiliadau ysgolheigaidd modern wedi datgelu, fodd bynnag, bod y treialon hyn yn sylweddol llai nag y hawliwyd gan Gardner, ac yn anaml ar gais awdurdodau crefyddol.[96] Amharchir damcaniaethau o gwlt y wrach pan-Ewropeaidd wedi'i drefnu, yn ogystal â threialon tyrfa, yn fawr iawn, ond mae'n dal yn gyffredin i Wiciaid gydymdeimlo gyda dioddefwyr y treialon gwrachod.[97]

Mae rhai wedi dweud mai cangen y symudiad Oes Newydd yw Wica, cais a wrthodir yn ffyrnig gan y rhan fwyaf o Wiciaid a hefyd gan haneswyr felRonald Hutton, sy'n nodi bod Wica yn rhagflaenu symudiad yr Oes Newydd, a hefyd ei bod gwahaniaethu mawr rhyngddynt o ran athroniaeth cyffredinol.[98]

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. Adler 2005, t. 10.
  2. 2.02.1Doyle White, Ethan (2016).Wicca: History, Belief, and Community in Modern Pagan Witchcraft. Brighton: Sussex Academic Press. tt. 86–87.ISBN 978-1-84519-754-4.
  3. Farrar, Janet aFarrar, Stewart. (1987).The Witches' Goddess: The Feminine Principle of Divinity. Llundain: Robert Hale. Tudalen 2-3.
  4. Farrar, Janet; Farrar, Stewart (1987).The Witches' Goddess: The Feminine Principle of Divinity (yn en). Llundain: Robert Hale.ISBN 0709028008
  5. Pearson, Joanne; Roberts, Richard H; Samuel, Geoffrey (Rhagfyr 1998).Nature Religion Today: Paganism in the Modern World (yn en). Caeredin: Gwag Prifysgol Caeredin.ISBN 0-748-61057-XURL.OCLC39533917
  6. Ravenwolf, Silver (1998).Teen Witch: Wicca for a New Generation (yn en). Llewellyn
  7. Gardner, Gerald (1959).The Meaning of Witchcraft (yn en). Aquarian
  8. Farrar, Janet; Farrar, Stewart (1989).The Witches' God: Lord of the Dance. Llundain: Robert Hale.ISBN 0709033192
  9. Howard, Michael (2009). Modern Wicca. Woodbury, Minnesota: Llewellyn. Tud 266-267
  10. Howard, Michael (2009). Modern Wicca. Woodbury, Minnesota: Llewellyn. Tudalen 271.
  11. 11.011.1Farrar, Janet; Farrar, Stewart (1989).The Witches' God: Lord of the Dance. Llundain: Robert Hale.ISBN 0709033192
  12. Farrar, Janet; Farrar, Stewart (1989).The Witches' God: Lord of the Dance. Llundain: Robert Hale.ISBN 0709033192
  13. Farrar, Janet aFarrar, Stewart. (1987).The Witches' Goddess: The Feminine Principle of Divinity. Llundain: Robert Hale. Tudalen 29-37.
  14. Farrar, Janet aFarrar, Stewart. (1987).The Witches' Goddess: The Feminine Principle of Divinity. Llundain: Robert Hale. Tudalen 38-44.
  15. Farrar, Janet; Farrar, Stewart (1989).The Witches' God: Lord of the Dance. Llundain: Robert Hale.ISBN 0709033192
  16. Farrar, Janet; aStewart Farrar (1981).A Witches' Bible: The Complete Witches Handbook. Llundain: Phoenix Publishing.ISBN 0919345921.OCLC62866821
  17. Gardner, Gerald B [1959] (1988).The Meaning of Witchcraft. Lakemont, Georgia, yr Unol Daleithiau: Copple House Books
  18. Hutton, Ronald (1991).The Pagan Religions of the Ancient British Isles. Blackwell.ISBN 0-631-17288-2
  19. Gardner, Gerald B [1959] (1988).The Meaning of Witchcraft. Lakemont, Georgia, yr Unol Daleithiau: Copple House Books
  20. Crowther, Patricia (1974).Witch Blood! The Diary of a Witch High Priestess!. Dinas Efrog Newydd, yr Unol Daleithiau: House of Collectibles.ISBN 0876371616.OCLC1009193
  21. Cunningham, Scott.Wicca: A Guide for the Solitary Practitioner
  22. Farrar, Janet; aGavin Bone (Ionawr 2004).Progressive Witchcraft: Spirituality, Mysteries, and Training in Modern Wicca. Franklin Lakes, New Jersey, yr Unol Daleithiau: New Age Books.ISBN 1564147193.OCLC53223741
  23. Adler, Margot (1979).Drawing Down the Moon: Witches, Druids, Goddess-worshippers and Other Pagans in America Today. Boston, yr Unol Daleithiau: Beacon Press.ISBN 0-8070-3237-9.OCLC6918454
  24. Crowley, Vivianne.Wicca: The Old Religion in the New Millennium
  25. The Wicca Bible gan Anne-Marie Gallagher, Godsfield, Tudalennau 34 hyd at 39
  26. 26.026.1Buckland, Raymond (1986).Buckland's Complete Book of Witchcraft. Saint Paul, Minnesota, yr Unol Daleithiau: Llewellyn, tud. 17, 18, 53.ISBN 0-87542-050-8URL.OCLC14167961
  27. Valiente, Doreen (1973).An ABC of Witchcraft Past and Present. Hale, tud. Cyflwyniad
  28. Hutton, Ronald (1999).Triumph of the Moon: A History of Modern Pagan Withcraft. Oxford University Press, tud. 392
  29. Farrar, Stewart.What Witches Do, tud. 88
  30. 30.030.1Hutton, Ronald (1999).Triumph of the Moon, tud. 392
  31. Hutton, Ronald (1999).Triumph of the Moon: A History of Modern Pagan Withcraft. Oxford University Press, tud. 393
  32. 32.032.132.2Valiente, Doreen (1973).An ABC of Witchcraft Past and Present. Hale, tud. 231
  33. 33.033.1Adler, Margot (2006).Drawing Down the Moon: Witches, Druids, Goddess-worshippers and Other Pagans in America Today. Penguin, tud. 158-159
  34. Hutton, Ronald (1999).The Triumph of the Moon: A History of Modern Pagan Witchcraft. Oxford University Press, tud. 394-395
  35. Huson, Paul (1970).Mastering Witchcraft. Tudalen 27. Putnam.
  36. Gallagher, Ann-Marie (2005).The Wicca Bible. Godsfield, tud. 250-265
  37. Sanders, Alex (1984).The Alex Sanders Lectures. Magickal Childe
  38. Gallagher, Ann-Marie (2005).The Wicca Bible. Godsfield, tud. 321
  39. Mathiesin, Robert; Theitic (2005).The Rede of the Wiccae. Providence, Rhode Island: Olympian Press. Tudalen 60-61
  40. Harrow, Judy (26 Chwefror 2007) (1985).Exegesis on theRede,Harvest, Cyfrol 5, Rhifyn 3. URL
  41. Farrar, Janet; aStewart Farrar [1981] (Mai 1992).Eight Sabbats for Witches. Llundain: Robert Hale Publishing.ISBN 0709047789.OCLC26673966
  42. Valiente, Doreen (1989).The Rebirth of Witchcraft. Llundain: Robert Hale Publishing.ISBN 0709037155.OCLC59694320
  43. Hutton, Ronald [1999] (2005-05-24).The Triumph of the Moon: A History of Modern Pagan Witchcraft. Dinas Efrog Newydd, yr Unol Daleithiau: Oxford University Press.ISBN 0198207441.OCLC41452625
  44. Gardner, Gerald B (1954).Witchcraft Today. Llundain: Rider and Company.OCLC1059746
  45. Adler, Margot [1986] (2006).Drawing Down the Moon: Witches, Druids, Goddess-worshippers and Other Pagans in America Today. Penguin
  46. Zell-Ravenheart, Oberon; Zell-Ravenheart, Morning Glory (2006).Creating Circles & Ceremonies. Franklin Lakes, New Jersey, yr Unol Daleithiau: New Page Books.ISBN 1564148645URL
  47. 47.047.1Gwall cyfeirio: Tag<ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enwGallagher2005
  48. Lamond, Frederic R (2004).Fifty Years of Wicca. Lloegr: Green Magic.ISBN 0954723015
  49. Valiente, Doreen (1989). The Rebirth of Witchcraft. Llundain: Hale. Tudalen 124.
  50. Valiente, Doreen [1973] (1988).An ABC of Witchcraft Past and Present. Custer, Washington, yr Unol Daleithiau: Phoenix Publishing.ISBN 0-919345-77-8
  51. Adler, Margot (2005 [1979]).Drawing Down the Moon: Witches, Druids, Goddess-worshippers and Other Pagans in America. Penguin, tud. 164
  52. Adler, Margot [1979] (2005).Drawing Down the Moon: Witches, Druids, Goddess-worshippers and Other Pagans in America. Penguin
  53. Adler, Margot [1979] (2005).Drawing Down the Moon: Witches, Druids, Goddess-worshippers and Other Pagans in America. Penguin, tud. 173
  54. Adler, Margot [1979] (2005).Drawing Down the Moon: Witches, Druids, Goddess-worshippers and Other Pagans in America. Penguin, tud. 174
  55. Crowley, Vivianne.Wicca: The Old Religion in the New Age (1989) Llundain: The Aquarian Press.ISBN 0-85030-737-6
  56. Leland, Charles (1899).Aradia, or the Gospel of the Witches. David Nutt. Tudalen 7.
  57. Farrar, Janet; Farrar, Stewart (1984).The Witches' Way: Principles, Rituals and Beliefs of Modern Witchcraft. Phoenix Publishing, tud. 156 hyd at 174.ISBN 0919345719
  58. Farrar, Janet aFarrar, Stewart.Eight Sabbats for Witches (1981) (cyhoeddwyd fel Rhan 1 oA Witches' Bible, 1996) Custer, Washington, USA: Phoenix Publishing Inc.ISBN 0-919345-92-1
  59. Gary, Gemma (2008).Traditional Witchcraft: A Cornish Book of Ways. Troy Books. Tudalen 147.
  60. Evans, Emrys (1992).Mythology. Little Brown & Company.ISBN 0-316-84763-1. Tudalen 170.
  61. Gardner, Gerald B [1959] (2004).The Meaning of Witchcraft. Red Wheel, tud. 10
  62. Lamond, Frederic (2004).Fifty Years of Wicca. Sutton Mallet, Lloegr: Green Magic, tud. 16–17.ISBN 0-9547230-1-5
  63. Gallagher, Anne-Marie. (2005).The Wicca Bible: The Definitive Guide to Magic and the Craft. Llundain: Godsfield Press. Tudalen 67.
  64. Gallagher, Anne-Marie. (2005).The Wicca Bible: The Definitive Guide to Magic and the Craft. Llundain: Godsfield Press. Tudalen 72.
  65. Simpson, Jacqueline (2005).Witching Culture: Folklore and Neo-Paganism in America, Cyfrol 116
  66. 66.066.166.2Stewart, Farrar.The Witches' WayPennawd II - Yr Ail Ynydiad
  67. 67.067.1Stewart, Farrar.The Witches' WayPennawd III - Ynydiad y Drydedd Radd
  68. Huson, Paul (1970).Mastering Witchcraft: A Practical Guide for Witches, Warlocks and Covens. Efrog Newydd, yr Unol Daleithiau: Putnum, tud. 22–23.OCLC79263
  69. Gallagher, Anne-Marie. (2005).The Wicca Bible: The Definitive Guide to Magic and the Craft. Llundain: Godsfield Press. Tudalen 370.
  70. Hutton, Ronald (1999).The Triumph of the Moon: A History of Modern Pagan Witchcraft. Oxford, Efrog Newydd, yr Unol Daleithiau: Oxford University Press, tud. 325.ISBN 0198207441
  71. Lamond, Frederic (2004).Fifty Years of Wicca. Tudalen 14. Green Magic.
  72. Crowley, Vivianne (1989).Wicca: The Old Religion in the New Age. Llundain: Aquarian Press, tud. 14 a 15.ISBN 0-85030-737-6
  73. Farrar, Janet; Farrar, Stewart (1996).A Witches' Bible. Custer, Washington, yr Unol Daleithiau: Phoenix Publishing.ISBN 0-919345-92-1
  74. Gardner, Gerald (2004). gol. Naylor, A R (ed.):Witchcraft and the Book of Shadows. Thame, Lloegr: I-H-O Books.ISBN 1872189520
  75.  Robert Cochrane's Letters to Robert Graves. The Cauldron (24 Mai 2010).
  76. Cochrane, Robert; Michael Howard and Evan John Jones (2003).The Robert Cochrane Letters: An Insight into Modern Traditional Witchcraft. Lloegr: Capall Bann Publishing.ISBN 1861632215
  77.  Beaufort House Index of English Traditional Witchcraft. Beaufort House Association (1999-01-15).
  78.  Different types of Witchcraft. Hex Archive.
  79.  Cwestiynau Cyffredin Wica Draddodiadol Prydain. New Wiccan Church International.
  80. Heselton, Philip (Tachwedd 2001).Wiccan Roots: Gerald Gardner and the Modern Witchcraft Revival. Freshfields, Chieveley,Berkshire: Capall Bann Pub..ISBN 1861631103.OCLC46955899 Gweler hefydNevill Drury. "Why Does Aleister Crowley Still Matter?" argraffiad Richard Metzger.Book of Lies: The Disinformation Guide to Magick and the Occult. Disinformation Books, 2003.
  81. Bourne, Lois (1998).Dancing With Witches. Hale. Tudalen 51.
  82. Heselton, Philip (2003).Gerald Gardner and the Cauldron of Inspiration. Capall Bann. Tudalen 254.
  83. Holzer, Hans (1972).The New Pagans. Garden City, Efrog Newydd, yr Unol Daleithiau: Doubleday.OCLC281240
  84. Bonewits, I (2005)How Many "Pagans" Are There?
  85. Adherents.comStatistical summary pages: WArchifwyd 2010-07-07 yn yPeiriant Wayback Cyrchwyd 17 Mehefin 2010
  86.  American Religious Identification Survey. City University of New York.
  87. "copi archif". Archifwyd o'rgwreiddiol ar 2012-07-18. Cyrchwyd2010-09-07.
  88. Ruickbie, Leo (2004).Witchcraft Out of the Shadows. Hale. Tud. 177.
  89. Pagans and the Scottish Census of 2001Archifwyd 2010-01-13 yn yPeiriant Wayback Cyrchwyd 18 Hydref 2007
  90. Davis, Derek; Hankins, Barry (2003).New Religious Movements and Religious Liberty in America, ail, Waco, yr Unol Daleithiau: Baylor University Press, tud. 75.ISBN 0918954924URL.OCLC52895492
  91. Valiente, Doreen (1973).An ABC of Witchcraft Past and Present. Hale
  92. 'Satanic' Army Unworthy of Representing United States , Free Congress Foundation, 9 Mehefin 1999. Cyrchwyd ar 11 Gorffennaf 2007.
  93. Silk, Mark (1999).Something Wiccan This Way Comes, 2, Rhifyn 2. URL
  94. Barr's Witch Project: Lawmaker Wants to Ban Witches from the Military ,LawStreet Journal, 1 Tachwedd 1999. Cyrchwyd ar 11 Gorffennaf 2007.
  95. George W. Bush Justifies Off-The-Cuff Bigotry ,Positive Atheism Magazine, 1 Mehefin 1999. Cyrchwyd ar 30 Tachwedd 2008.
  96. Briggs, Robin (1998).Witches and Neighbors: The Social and Cultural Context of European Witchcraft. Penguin.ISBN 0-14014-438-2
  97. Buckland, Raymond (2002-09-01).Witchcraft From The Inside: Origins of the Fastest Growing Religious Movement in America. St. Paul, Minnesota, yr Unol Daleithiau: Llewellyn Publications.ISBN 1-56718-101-5.OCLC31781774
  98. Hutton, Ronald (1999).The Triumph of the Moon: A History of Modern Pagan Witchcraft. Oxford University Press, tud. 412 a 413

Darllen pellach

[golygu |golygu cod]
Gwaith hanesyddol arwyddocaol
Ymarferion a Chredoau
Hanes Wica
  • Aidan A. Kelly,Crafting the Art of Magic: A History of Modern Witchcraft, 1939-1964 (St Paul: Llewellyn, 1991).ISBN 0-87542-370-1.
  • Ronald Hutton,The Triumph of the Moon: A History of Modern Pagan Witchcraft (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1999).
Wica mewn gwledydd gwahanol
  • Helen A. Berger,A Community of Witches: Contemporary Neo-Paganism and Witchcraft in the United States (Columbia:Gwasg Prifysgol De Carolina, 1999).
  • Chas S. Clifton,Her Hidden Children: The Rise of Wicca and Paganism in America (Lanham, Md.: Gwasg AltaMira, 2006).
  • Sabina Magliocco,Witching Culture: Folklore and Neo-Paganism in America (Gwasg Prifysgol Pennsylvania, 2004)
  • Lynne Hume,Witchcraft and Paganism in Australia (Melbourne: Gwasg Prifysgol Melbourne, 1997).
Cyffredinol
  • Raymond Buckland,The Witch Book: The Encyclopedia of Witchcraft, Wicca, and Neo-paganism (Detroit: Gwasg Visible Ink, 2002).
  • James R. Lewis,Witchcraft Today: An Encyclopedia of Wiccan and Neopagan Traditions (Santa Barbara: ABC-CLIO, 1999).
  • Shelly Rabinovitch a James R. Lewis, eds.,The Encyclopedia of Modern Witchcraft and Neo-Paganism (Efrog Newydd:Cyhoeddi Kensington, 2002).
  • James R. Lewis, ed.,Magical Religion and Modern Witchcraft (Albany:Gwast Prifysgol Talaith Efrog Newydd, 1996).
  • T. M. Luhrmann,Persuasions of the Witch's Craft: Ritual Magic in Contemporary England (Llundain: Picador, 1994).

Dolennau allanol

[golygu |golygu cod]

Gweler hefyd

[golygu |golygu cod]
gw  sg  go
Wica a Dewiniaeth Neo-baganaidd
Prif gysyniadau
Wiciaid nodedig
Enwadau
Defodau a Seremonïau
Petheuach
Arall
Deunydd darllen perthnasol
gw  sg  go
Neo-baganiaeth
Rhestr o ymsymudiadau Neo-baganaidd
Dynesfeydd iBaganiaeth
Demograffigiau a Gwleidyddiaeth
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Wica&oldid=13463228"
Categorïau:
Gategori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp