Walgarreg hebforter ynddi ydywal sych, sy'n nodweddiadol o ffiniau caeau yng nghefn gwlad Cymru a gwledydd eraill. Mae eu cryfder yn deillio o'r grefft o 'gloi'r' cerrig, drwy roi "dau ar un, ac un ar ddau".[1]
Fe'u defnyddiwyd er mwyn nodi'r ffin rhwng un fferm a fferm arall, i amgylchynu eglwys neu er mwyn rhoi cysgod i anifeiliaid fferm, yn enwedig ar lethrau gwyntog y mynydd. Fel arfer, rhoddir rhes o gerrig 'ar eu cyllyll' ar y top, sy'n cynnal y wal, ac yn ei atal rhag datgymalu. Yn Ne Cymru, ar adegau, mae'r rhes hwn yn fwy llydan na'r cerrig oddi tano. Mae patrwm y cerrig yn ddibynol ar y math o garreg.
↑Seymour, John (1984 Dorling Kindersley Limited, Llundain.).The Forgotten Arts A practical guide to traditional skills. tud 54: Angus & Robertson Publishers. t. 192.ISBN0-207-15007-9.Check date values in:|date= (help)CS1 maint: location (link)