Dinas yngNgorllewin Swydd Efrog,Swydd Efrog a'r Humber,Lloegr, ywWakefield,[1] sy'n ganolfan weinyddol y sir. Fe'i lleolir mewn ardal ddi-blwyf ym mwrdeistref fetropolitanDinas Wakefield. Mae'n gorwedd ar lanAfon Calder. Bu'n ganolfan ddiwydiannol mawr yn y gorffennol, yn enwedig fel canolfan ffatrioedd gwlân a'r diwydiant glo.Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Wakefield boblogaeth o 99,251.[2]Yma ymladdwydBrwydr Wakefield, rhan oRyfeloedd y Rhosynnau, yn y flwyddyn1460. Gorchfygwyd byddinRhisiart, Dug Efrog, gan yLancastriaid a syrthiodd y dug ei hun.