Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol, Rhithwir
Virtual International Authority File (VIAF) |
|
Math o wefan | Peiriant chwilio, catalog ar-lein cynhoeddus |
|---|
| Ar gael yn | Saesneg |
|---|
| Perchennog | OCLC |
|---|
| Crëwyd gan | Prosiect rhwng 4 corff llyfrgellyddol |
|---|
| Gwefan | VIAF.org |
|---|
| Masnachol | Nac ydy |
|---|
| Cofrestru | Nag oes |
|---|
Math o ffeil i adnabod pobl drwy ddata unigol, unigryw ywFfeil Awdurdodi Rhyngwladol, Rhithwir (Saesneg:Virtual International Authority File (VIAF)). Mae'n ffrwyth prosiect rhwng pedwar awdurdod ym myd llyfrgelloedd ac yn cael ei weithredu gan y Ganolfan Lyfrgelloedd Gyfrifiadurol Ar-lein (Online Computer Library Center (OCLC)).[1][2] Sbardunwyd y gwaith cychwynnol gan yDeutsche Nationalbibliothek (llyfrgell genedlaethol yrAlmaen) aLlyfrgell y Gyngres ynUDA.
Y nod ydy dolennu'r ffeiliau awdurdodedig hyn (megis 'Ffeiliau Enwau Awdurdodedig yr Almaen') i un ffeilrithwir. Mae'r ffeil newydd hon yn uno nifer o gronfeydd data o wahanol lefydd mewn un lle. Mae'r cofnod VIAF yn derbyn rhif data safonol ac mae'n cynnwys cofnodion ar gyfer 'Gweler' a 'Gweler hefyd' - wedi'u tynnu o'r cofnodion unigol, gwreiddiol. Cyhoeddir y data ar-lein am ddim a chant eu defnyddio'n helaeth ar gyfer gwaith ymchwilio, cyfnewid a rhannu data.
Caiff y data eu diweddaru gan sawl parti, drwy brotocol 'Menter yr Archifdy Agored' (the Open Archives Initiative).
Mae rhifau unigryw'r ffeiliau'n cael eu hychwanegu at erthyglauWicipedia megisbywgraffiadau, a hynny mewn llawer o ieithoedd gan gynnwys y Gymraeg.[3]