RoeddPublius Vergilius Maro,Fyrsil neuFferyll yn Gymraeg (15 Hydref70 CC –21 Medi19 CC) ynfardd yn yr iaithLadin sydd yn fwyaf adnabyddus am gyfansoddi'rarwrgerddYr Aeneid. Mae'r gerdd yn efelychu arwrgerddi'r barddGroeg cynnarHomeros ac yn adrodd hanes yr arwrAeneas, a ddihangodd oGaerdroea i sefydlu dinas a oedd yn rhagflaenydd iRufain. Comisiynwyd y gerdd gan yr ymerawdwrCesar Awgwstws er mwyn hyrwyddo'rYmerodraeth Rufeinig newydd. Mae gweithiau eraill Fyrsil yn cynnwys yrEclogae a'rGeorgicon.
Mae nifer o gerddi llai yn cael eu priodoli iddo dan yr enwAppendicis Vergilianae:
Yn yrOesoedd Canol ystyrid Fyrsil yn fardd cynddelwrol a osodododd sylfeini'r grefft farddol. Credid yn ogystal ei fod yn fath o ddewin neu broffwyd a ragwelodd ddyfodiadCrist.
Ym 1636 cyfieithwyd testun gan Fyrsil gan yr awdur a'r dramodyddSyr John Denham, o'r enwThe Destruction of Troy, An Essay upon the Second Book of Virgils Æneis, ond ni chafodd ei gyhoeddi tan 1656.