Yn wahanol i lawr o'r ymerodron yn ystodArgyfwng y Drydedd Ganrif yr oedd Valerian o deulu bonheddig aseneddol. Priododd ddwywaith, yr ail dro gyda Egnatia Mariniana, a chafodd ddau fab ganddi hi,Gallienus aValerian II.
Yn238 yr oedd ynprinceps senatus, a gydag ef y buGordian I yn trafod i gael ei gydnabod yn ymerawdwr gan y Senedd. Yn251, yn nheyrnasiadDecius, penodwyd ef yncensor. Yn ddiweddarach daeth yn rhaglaw taleithiauNoricum aRhaetia. Gofynnodd yr ymerawdwrTrebonianus Gallus am ei gymorth yn wyneb gwrthryfelAemilianus yn253. Cychwynodd Valerian tua'r de, ond daeth y newyddion fod Gallus wedi ei ladd gan ei filwyr ei hun. Cydnabuwyd Aemilius yn ymerawdwr gan y Senedd, ond nid oedd Valerian yn fodlon derbyn hyn ac arweiniodd ei fyddin yn ei erbyn. Cyfarfu'r ddwy fyddin gerllawSpoleto, a phan welodd milwyr Aemilius fod byddin Valerian yn gryfach, llofruddiwyd Aemilianus ganddynt. Derbyniodd y Senedd Valerian yn ymerawdwr ar unwaith.
Enwodd Valerian ei fab Galienus fel cyd-ymerawdwr. Ar ddechrau ei deyrnasiad yr oedd problemau yn Ewrop, yna bu trafferthion mwy yn y Dwyrain. Cipiodd yPersiaid danShapur I ddinasAntiochia a meddiannuArmenia. Tra'r oedd Galienus yn delio ag Ewrop, teithiodd Valerian tua'r dwyrain. Tua257 llwyddodd Valerian i gael Antiochia a thalaithSyria yn ôl, ond y flwyddyn wedyn ymosododd yGothiaid arAsia Leiaf. Tua diwedd259 ye oedd yr ymerawdwr ynEdessa, ond effeithiwyd ar ei fyddin gan glefyd. Rhywsut, efallai trwy frad pennaethGard y Praetoriwm,Macrinus, cymerwyd Valerian yn garcharor gan y Persiaid. Credir iddo gael ei drin yn greulon ac yna ei ddienyddio. Arddangoswyd ei groen ym mhrif deml y Persiaid. Llwyddodd Gallienus i gadw ei afael ar yr orsedd hyd268. Wedi marwolaeth Valerian, meddiannwyd Syria aCappadocia gan y Persiaid.