YPrvaLiga Telekom Slovenije neu, ar lafar ac yn dalfyredig,PrvaLiga yw Uwch Gynghrairpêl-droedSlofenia a phinacl system byramid cynghrair y wlad,Slovenska Nogometna Liga sy'n cynnwys 3 prif haen - dwy adran genedlaethol ac yna adrannau rhanbarthol, Gogledd, Dwyrain, De, Gorllewin. Talfyrrir enw'r Uwch Gynghrair i1. SNL. Gweinyddir yr Uwch Gynghrair a'r cynghreiriau eraill ganGymdeithas Bêl-droed Slofenia.
Tlws y PrvaLiga yn cael ei chodi gan Maribor' wrth ennill ei nawfed teitl ym Mai 2011
Rhwng 1920 a 1991, roedd cynghrair Slofenia yn rhan yr is-strwythur rhanbarthol yn system gynghrair yr hen wladwriaeth,Iwgoslafia. Ers annibyniaeth y wlad oddi ar Iwgoslafia, y Slovenska Nogometna Liga yw prif adran genedlaethol Slofenia. Mae enillwyr yr adran yn ennill yr hawl i gystadleu mewn pencampwyriaethau rhyngwladol EwropeaiddUEFA.
Cyn hynny, roedd timau gorau Slofenia yn cystadlu yn system gynghrair pêl-droed Iwgoslafia am deitl cenedlaethol Iwgoslafia. Dim ond Ilirija, a Primorje ac ar ôl uno gorfodol o'r ddau dîm ym 1936, SK Ljubljana, a gyrhaeddodd adran uchaf y wlad,Uwch Gynghrair Iwgoslafia , cyn yrAil Ryfel Byd. Olimpija, Maribor a Nafta oedd yr unig dimau o Slofenia a gymerodd ran yn yr adran uchaf rhwng 1945 a chwalfa Iwgoslafia ym 1991. Wrth fod yn rhan o system bêl-droed Iwgoslafia, cystadlodd y mwyafrif o glybiau Slofenia am deitl pencampwyr rhanbarthol yng Nghynghrair Bêl-droed Gweriniaeth Slofenia. Fodd bynnag, cynghrair y weriniaeth yn swyddogol oedd y drydedd haen o bêl-droed y rhan fwyaf o'r amser ac roedd y gystadleuaeth fel arfer heb y prif glybiau Slofenia, a chwaraeodd yn Ail Gynghrair Iwgoslafia neu adran uchaf y wlad.
Dare Vršič o glwb Olimpija Ljublijana, ail dîm fwyaf llwyddiannus i Lîg
Mae strwythur y gynghrair wedi newid sawl gwaith ers ei sefydlu:
Tymor cyntaf, 1991/92 - roedd 21 tîm yn yr uwch adran.[1][2][3]
Ail dymor (1992-93) - gostyngwyd nifer y clybiau i 18
Trydydd tymor (1993-94) - gostynigiad eto i dim ond 16 tîm
Yn nymor 1995/96 dim ond deg tîm oedd yn cymryd rhan yng nghystadleuaeth yr Uwch Gynghrair
Yn 1998/99 bu cynnydd i 12 clwb.
Yn 2003-04 a 2004-05 cynhaliwyd rownd ragarweiniol lle roedd pob tîm yn cystadlu yn erbyn pob un mewn gêm gartref ac oddi cartref. Fe'i dilynwyd gan rownd bencampwriaeth, lle bu'r chwech gorau yn cystadlu yn erbyn ei gilydd ddwywaith eto.
Yn 2005/06 gostyngwyd y nifer eto i 10 tîm a chyflwynodd y drefn sydd wedi para hyd yma.
Celje aMaribor yw'r unig ddau glwb nad sydd wedi disgyn o'r Uwch Gynghrair ers ei sefydlu yn 1991.[4]
Ar hyn o bryd mae deg tîm yn cystadlu am y bencampwriaeth. Fel sy'n gyffredin nawr yn y mwyafrif o gynghreiriau yn y byd, mae yna dri phwynt i'w hennill ac un pwynt am gêm gyfartal.
↑Sportal (20 May 2011)."Zgodovina 1. SNL" [History of 1. SNL] (yn Slovenian).Siol. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 2016-03-05. Cyrchwyd3 May 2012.CS1 maint: unrecognized language (link)