YPrva Makedonska Fudbalska Liga (Macedoneg:Прва македонска фудбалска лига; "Prif Gynghrair Pêl-droed Macedonia"); talfyrrir hefyd yn1. MFL a'rPrva Liga ac ynAlbaneg (iaith oddeutu 20% o'r boblogaeth),[1]Liga e parë e futbollit maqedonas, yw lefel uchaf cynghrairbêl-droed gwladwriaethGogledd Macedonia a adweinir, fel rheol ar lafar fel "Macedonia". Adnabwyd y wladwriaeth felCyn-weriniaeth Iwsoglafia, Macedonia hyd nes 2019 yn dilyn blynyddoedd o drafod gydaGwlad Groeg oedd yn gwrthwynebu y defnydd o'r enw "Macedonia" a oedd, yn eu tŷb nhw, yn tanseilio hanes a threftadaeth Groegeg y dalaith o'r un enw sydd yn rhan o Wlad Groeg. Gweinyddir y gynghrair ganCymdeithas Bêl-droed Gogledd Macedonia.
Ganwyd pencampwriaeth Macedonia fel twrnamaint iIs-gymdeithas Bêl-droed Skopje, corff rhanbarthol Ffederasiwn Iwgoslafia, ym 1928. Roedd y timau gorau yn yBanovina Vardar hefyd yn cystadlu yn y bencampwriaeth genedlaethol, yr oedd y twrnameintiau rhanbarthol yn gweithredu fel cam cymhwyso ar ei chyfer.
Ar ôl yrAil Ryfel Byd, ganwyd Gweriniaeth Sosialaidd Macedonia, un o chwe gweriniaeth ffederal Iwgoslafia. Roedd pencampwriaeth y weriniaeth hon yn gweithredu fel twrnamaint rhanbarthol ac roedd y prif dimau'n chwarae'n rheolaidd yn y bencampwriaeth genedlaethol; er enghraifft ni chwaraeodd y Vardar erioed ym mhencampwriaeth Macedoneg yn y cyfnod hwn, ond dim ond yn yr un Iwgoslafia.
Ar ddiwedd tymor 1991-1992 gadawodd timau Macedoneg y bencampwriaeth Iwgoslafia gan gynnwysUwch Gynghrair Iwgoslafia: yn benodol, roedd clybiau Vardar, a Pelister Bitola wedi cymryd rhan yn y twrnamaint ffederal uchaf y flwyddyn honno. O'r tymor canlynol ganwyd pencampwriaeth Macedonia, a oedd yn y flwyddyn gyntaf yn cynnwys deunaw tîm. Pencampwyr y tymor cyntaf yn 1992-93 (pan oedd 18 tîm yn yr Uwch Gynghrair) oeddVardar Skopje. Cyn i'r wlad ennill ei hannibyniaeth, roedd timau Macedonia yn chwarae fel rhan o strwythur bêl-droed Iwgoslafia
Yn 2009-2010 gwaharddwyd tri o dimau pwysicaf y wlad o'r bencampwriaeth: Pobeda ar ôl gêm rhif 28; Makedonija, a'r Sloga Jugomagnat ar ôl gêm rhif 13 diwrnod, am beidio â chyflwyno i ddwy gêm yn olynol.[2]
Cymerodd 18 clwb ran yn nhymor gyntaf yr Uwch Gynghrair, yn y ddau dymor nesaf roedd gan y Prva Liga 16 clwb, yna 15 (un tymor), yna 14 clwb (5 tymor) hyd at 2001/02 pan newidiodd i 12 clwb. Mae'r bencampwriaeth bellach yn cynnwys tair clwb ac mae pob un yn chwarae tair gêm yr un.
Mae deg tîm yn chwarae yn erbyn ei gilydd mewn pedair rownd ac felly'n pennu'r pencampwr. Mae'r wythfed yn y relegation, mae'r ddau olaf yn disgyn yn uniongyrchol. Sefydlwyd y gynghrair ar ôl diddymuIwgoslafia ym 1992 a gydag hynnyUwch Gynghrair Iwgoslafia. Mae gan y gynghrair 10 tîm, ac mae pob tîm yn chwarae'r ochrau eraill bedair gwaith, am gyfanswm o 36 gêm yr un.[3]
Yn yr holl dymhorau ers ffurfio'r gynghrair, dim ond Vardar sydd wedi cymryd rhan.