Mae "CBE", "DBE", "MBE" ac "OBE" i gyd yn ail-gyfeirio yma.
Seren Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig
Urdd marchogionBrydeinig ydyUrdd Dra Ardderchog yr Ymerodraeth Brydeinig (Saesneg:The Most Excellent Order of the British Empire) a sefydlwyd ar4 Mehefin1917 ganSiôr V, brenin y Deyrnas Unedig. Mae'r urdd yn cynnwys pum dosbarth o raniadau dinesig a milwrol; yn nhrefn y pwysicaf gyntaf:
Marchog (neu Fonesig) y Groes Fawr (Saesneg:Knight (or Dame) of the Grand Cross (GBE)
Marchog (neu Fonesig) Cadlywydd (Saesneg:Knight (or Dame) Commander (KBE neu DBE)
Cadlywydd (Saesneg:Commander) (CBE)
Swyddog (Saesneg:Officer) (OBE)
Aelod (Saesneg:Member) (MBE).
Dim ond y ddau ddosbarth uchaf sy'n galluogi i'r derbynnydd ddod yn aelod o'r urdd marchogion, gan roi'r hawl iddynt ddefnyddio'r teitl 'Syr' (gŵr) neu 'Bonesig' (benyw) o flaen eu henwau, cyn belled â'u bod yn enedigol o wlad y maeSiarl III, brenin y Deyrnas Unedig yn bennaeth y wladwriaeth arni. Os nad ydynt, gallent ddefnyddio enw'r urdd yn eu henwau ond nid y teitlau.
Mae hyn yn berthnasol hefyd i Fedal yr Ymerodraeth Brydeinig, nid yw derbynwyr o'r fedal honno yn aelodau o'r urdd, ond mae perthynas gyda'r urdd. Ni wobrwyyd y fedal hon yn yDeyrnas Unedig rhwng1992a 2012 ond parhaoddYnysoedd Cook a rhaiGwledydd y Gymanwlad l i'w gwobrwyo. I gyd-fynd â Jiwbilî Diemwnt Elisabeth II ail sefydlwyd yr anrhydedd trwy'r Gymanwlad ar gyfer Anrhydeddau Pen-blwydd 2012, a ryddhawyd ar 16 Mehefin 2012, pryd dyfarnwyd y BEM i 293 o bobl.[1]
Arwyddair yr urdd ywI Dduw a'r Ymerodraeth. Hon yw'r urdd leiaf pwysig Brydeinig, ac mae ganddi fwy o aelodau nac unrhyw urdd arall.
Mae trefn y Marchogion yn fwy gweriniaethol na threfnau anghynhwysol Bath neu San Michael a San Siôr, ac yn ei dyddiau cynnar, ni ddaliwyd hi mewn cyfrifiaeth uchel. Newidiodd hyn dros y blynyddoedd.
Bathodyn Aelodau Trefn yr Ymerodraeth Brydeinig, blaen a chefnRhuban Dosbarth Dinesig yr urddRhuban Dosbarth Milwrol yr urddGwisgai swyddogion benywaidd yr urdd eu symbolau ar fwa, fel dengys yn y llun hwn
Mae aelodau'r urdd yn gwisgo gwisgoedd llafurfawr ar ddigwyddiadau arbennig (megis gwasanaethauquadrennial a choroni), sy'n newid o ran dosbarth (gwnaethpwyd newidiadau mawr i ddyluniad y gwisgoedd yn1937)Gallwch helpu Wicipedia drwyychwanegu at yr adran hon.
Capel yr urdd yw crypt dwyreiniolPrifeglwys San Paul, ond deilir y gwasanaethau mawr ym mhrif gorff y brifeglwys. (Mae'r brifeglwys hefyd yn gartref i gapelTrefn San Michael a St Siôr.) Deilir gwasanaethau crefyddol yr urdd pob pedair blynedd, yn y gwasanaethau hyn gweinyddir Marchogion a Boneddigesau newydd, neilltuwyd y capel yn1960.
Gall Marchog neu Fonesig ddangos cylch yr urdd ar euarfbais.
Gwobrwyir aelodau'r urdd safle yn ydrefn blaenoriaeth. Mae gwragedd dynion yr urdd hefyd yn ymddangos yn y flaenoriaeth, yn ogystal â meibion, merched a merched-yng-nghyfraith Marchog y Groes Fawr a Marchog Cadlywydd; ni ddengys perthnasau merched yr urdd unrhyw flaenoriaeth arbennig. Gall perthnasau ennill blaenoriaeth, fel rheol gyffredin, gan eu tadau a'u gwŷr, ond nid gan eu mamau a'u gwragedd.
Gallwch helpu Wicipedia drwyychwanegu at yr adran hon.
BeirniadoddJohn Lennon naws milwrol yr urdd yn hallt gan ddweud:
Saesneg:"Lots of people who complained about us receiving the MBE received theirs for heroism in the war - for killing people. We received ours for entertaining other people. I'd say we deserve ours more."