Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Urdd Sant Bened

Oddi ar Wicipedia
Urdd Sant Bened
Enghraifft o:monastic order, sefydliad, urdd Gatholig Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu529 Edit this on Wikidata
Prif bwnclifestance organisation Edit this on Wikidata
Yn cynnwysbenedictine monk, Ordre monastique de Chalais Edit this on Wikidata
Lleoliad yr archifStadsarchief Poperinge Edit this on Wikidata
Pennaeth y sefydliadGeneral of Order of Saint Benedict Edit this on Wikidata
SylfaenyddBened o Nursia Edit this on Wikidata
Isgwmni/auNuns of the order of Saint Benedict Edit this on Wikidata
PencadlysChurch of Sant'Anselmo all'Aventino, Rome Edit this on Wikidata
GwladwriaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.osb.org/ Edit this on Wikidata
Tudalen CominFfeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Am yr urdd Anglicanaidd o'r un enw, gwelerUrdd Sant Bened (Anglicanaidd).

Urdd fynachaidd yn yrEglwys Gatholig ywUrdd Sant Bened (Lladin:Ordo Sancti Benedicti), a elwir yn aml yBenedictiaid. O fewn yr Urdd, mae pob mynachlog,abaty aphriordy yn hunanlywodraethol, gyda'r sefydliadau canolog yn eu cefnogi. Sefydlwyd y corff canolog, yCynghrair Benedictaidd, yn1883 ganPab Leo XIII yn eiSummum semper,

Sefydlwyd mynachlog ynMonte Cassino ynyr Eidal gan SantBened o Nursia tua529, y cyntaf o tua dwsin o fynachlogydd a sefydlodd ef. Er hynny, nid oes tystiolaeth ei fod wedi bwriadu sefydlu urdd; maeRheol San Bened yn pwysleisio fod pob cymuned yn hunanlywodraethol. Daeth tai crefydd yn dilyn Rheol San Bened yn gyffredin iawn yn Ewrop yn yr Oesoedd Canol.

Dilynir Rheol San Bened hefyd gan ySistersiaid a'rTrappistiaid, ond nid ydynt hwy yn rhan o'r Cynghrair Benedictaidd.

Urdd Sant Bened yng Nghymru

[golygu |golygu cod]

Sefydlwyd nifer odai crefydd Benedictaidd yng Nghymru.Priordy Cas-gwent, a sefydlwyd tua1072 ganWilliam fitzOsbern a'i fabRoger de Breteuil, 2il Iarll Henffordd, oedd y cyntaf o'r tai yn perthyn i un o'r urddau Ewropeaidd i'w sefydlu yng Nghymru. Ymhlith y gweddill roeddPriordy Aberhonddu,Priordy Ewenni aPriordy y Fenni. GwelerTai Benedictaidd Cymru am restr gyflawn.

Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Urdd_Sant_Bened&oldid=10998345"
Categorïau:
Categori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp