UTC−12:00, UTC−11:00, UTC−09:00, UTC−08:00, UTC−07:00, UTC−06:00, UTC−05:00, UTC−04:00, UTC+10:00, UTC+12:00, Samoa Time Zone, Cylchfa Amser yr Iwerydd, Cylchfa Amser Canolog, Alaska Time Zone, Cylchfa Amser y Mynyddoedd, Chamorro Time Zone
Gweriniaeth ffederal yngNgogledd America ywUnol Daleithiau America (Saesneg:United States of America) neu'rUnol Daleithiau (hefyd, yn enwedig ar lafar, "America"). Mae hanner cant o daleithiau yn yr undeb. Lleolir y 48 talaith gyfagos rhwngCanada i'r gogledd aMecsico i'r de. LleolirAlaska yng ngogledd-orllewin y cyfandir i'r gorllewin o Ganada.Ynysfor yng nghanol yCefnfor Tawel yw'r dalaith arall, sefHawaii. Ceir hefyd 326 neilldiroedd Amerindiaidd (Indian reservations). Gydag arwynebedd o 3.8 miliwn milltir sgwâr hi yw'rdrydedd neu'r bedwaredd wlad fwyaf yn y byd. Mae'n ffinio gydaChanada i'r gogledd aMecsico i'r de yn ogystal â ffiniau morwrol cyfyngedig gyda'rBahamas,Cuba, aRwsia.[1]
Ar ddiwedd y 18g, dechreuodd yr Unol Daleithiau ehangu ar draws Gogledd America, gan feddiannu tiriogaethau newydd yn raddol, weithiau trwy ryfel neu drwy ddisodli Americanwyr Brodorol yn aml, gan eu troi'n daleithiau newydd; erbyn 1848, roedd yr Unol Daleithiau yn rhychwantu'r Gogledd America, ar wahân i'r gwledydd a elwir heddiw'n Ganada ac Alaska.
Roedd caethwasiaeth yn gyfreithlon yn ne'r Unol Daleithiau tan ail hanner y 19g, pan arweinioddRhyfel Cartref America at ei ddiddymu. Daeth yr Unol Daleithiau'n bŵer mawr yn dilynRhyfel Sbaen-America a Rhyfel Byd Cyntaf, statws a gadarnhawyd gan ganlyniad yr Ail Ryfel Byd. Yn ystod yRhyfel Oer, ymladdodd yr Unol DaleithiauRyfel Corea a RhyfelFietnam ond osgowyd gwrthdaro milwrol uniongyrchol â'rUndeb Sofietaidd. Cystadlodd y ddau bŵer yn yRas Ofod, gan arwain Rwsia'n llwyddo i roi dyn yn y gofod, ac yna yr Unol Daleithiau yn llwyddo i roi dyn ar y lleuad. Daethdiddymiad yr Undeb Sofietaidd ym 1991 a'r Rhyfel Oer i ben, gan adael yr Unol Daleithiau fel unigbŵer-enfawr y byd.
Mae'r Unol Daleithiau ynweriniaeth ffederal ac ynddemocratiaeth gynrychioliadol gyda thair cangen ar wahân o lywodraeth, gan gynnwysdeddfwrfa ddwyochrog. Mae'n aelod sefydlog o'rCenhedloedd Unedig,Banc y Byd, yGronfa Ariannol Ryngwladol, Sefydliad Taleithiau America,NATO, a sefydliadau rhyngwladol eraill. Mae hefyd yn aelod parhaol oGyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig. Caiff ei hystyried yndawddlestr o ddiwylliannau ac ethnigrwydd, ac mae ei phoblogaeth wedi cael ei siapio gan ganrifoedd o fewnfudo. Mae'r Unol Daleithiau yn uchel mewn mesurau rhyngwladol o ryddid economaidd,ansawdd bywyd, addysg a hawliau dynol, er bod ganddi record ofnadwy o lofruddiaethau gynnau, niferoedd mewn carchar, problemau cyffuriau ayb. a beirniadir y wlad am yr anghydraddoldeb sy'n gysylltiedig â hil, cyfoeth ac incwm a diffyg gofal iechyd cyffredinol.
Mae'r Unol Daleithiau ynwlad ddatblygedig iawn, mae'n cyfrif am oddeutu chwarter yCMC byd-eang, a hi yw economi fwyaf y byd yn ôl CMC ar gyfraddau cyfnewid y farchnad . Yn ôl gwerth, yr Unol Daleithiau yw mewnforiwr nwyddau mwy'r byd ac allforiwr nwyddau ail-fwyaf. Er mai dim ond 4.2% o gyfanswm y byd yw ei phoblogaeth, mae'n dal 29.4% o gyfanswm cyfoeth y byd, y gyfran fwyaf sydd gan unrhyw wlad. Gan ffurfio mwy na thraean o'r gwariant milwrol byd-eang, hwn yw'r pŵer milwrol mwyaf blaenllaw yn y byd ac mae'n rym gwleidyddol, diwylliannol a gwyddonol, yn rhyngwladol.[2]
YmladdwydRhyfel Cartref America (1861–1865) rhwng unarddeg talaith yn y de oedd yn dymuno gadael yr Unol Daleithiau a'r gweddill o'r wlad. Dechreuodd y rhyfel yn dilyn etholiadAbraham Lincoln yn Arlywydd yr Unol Daleithiau yn1861. Prif asgwrn y gynnen oedd caethwasiaeth; yr oedd pob un o'r taleithiau oedd yn dymuno gadael yr Undeb yn rhai lle roedd caethwasiaeth yn elfen bwysig. Tra nad oedd Lincoln wedi bygwth dileu caethwasiaeth, ystyrid ef yn elyn i'r gyfundrefn. Dewisodd y gwrthryfelwyrJefferson Davis fel Arlywydd.
Dechreuodd yr ymladd ar12 Ebrill,1861, pan ymosododd y gwrthryfelwyr ar Fort Sumter yn nhalaithDe Carolina. Erbyn 1862 yr oedd brwydro ar raddfa eang wedi datblygu, gyda niferoedd mawr yn cael eu lladd. Ym mis Medi 1862, cyhoeddodd Lincoln ryddid y caethion. Erbyn hyn yr oedd y de wedi darganfod cadfridogion o athrylith ynRobert E. Lee a"Stonewall" Jackson, ac enillasant nifer o fuddugoliaethau dros yr Undebwyr. Lladdwyd Jackson mewn camgymeriad gan ei filwyr ei hun ym mrwydr Chancellorsville ym Mai 1863, a gorchfygwyd Lee ymMrwydr Gettysburg yn nhalaithPennsylvania ym mis Gorffennaf 1863. Yn y gorllewin, cipiodd byddin danUlysses S. Grant Vicksburg yn nhalaithMississippi, a thrwy hynny enillodd yr Undebwyr reolaeth arAfon Mississippi. Bu brwydro ffyrnig rhwng Grant a Lee yn nhalaithVirginia yn ystod haf 1864 a chipioddWilliam Tecumseh ShermanAtlanta, Georgia. Ar fore'r 9fed o Ebrill 1865, ildiodd Lee ei fyddin i Grant ynAppomattox a daeth y rhyfel i ben. Rhyddhawyd y caethion i gyd.
Yn1868 gwerthodd Rwsia Alaska i'r Unol Daleithiau am 7,200,000 o ddoleri; roedd llawer o bobol yn y Senedd yn meddwl bod hynny'n ormod i'w dalu am "greigiau ac iâ", ond mae llawer o aur ac olew wedi dod o Alaska ers hynny.
O ddiystyried Hawaii ac Alaska, mae gan y 48 talaitharwynebedd o 3,119,885 milltir sgwâr (8,080,470 km sg). O'r ardal yma, mae 2,959,064 mi sg yn dir cyffiniol (ontiguous land,) sef 83.65% o gyfanswm arwynebedd tir yr UD.[3][4] MaeHawaii, sy'n ynysfor yng nghanol yMôr Tawel, i'r de-orllewin o Ogledd America, yn 10,931 mi sg. Ceir pum tiriogaeth boblog ond anghorfforedig:Puerto Rico,Samoa Americanaidd,Guam,Ynysoedd Gogledd Mariana, acYnysoedd Americanaidd y Wyryf gyda'i gilydd yn gorchuddio 9,185 mi sg.[5] Wedi'i fesur yn ôl arwynebedd tir yn unig, mae'r Unol Daleithiau yn drydydd o ran maint y tu ôl iRwsia aTsieina, ac ychydig o flaen Canada.[6]
Mae'r UD yn un o 17 o wledydd cyfoethog eu hamrywiaeth (megadiverse) sy'n cynnwys llawer iawn o rywogaethau endemig neu frodorol: ceir tuag 17,000 o rywogaethau o blanhigion fasgwlaidd yn yr Unol Daleithiau ac Alaska, ac mae mwy na 1,800 o rywogaethau oblanhigion blodeuol i'w cael yn Hawaii.[9] Mae'r Unol Daleithiau yn gartref i 428 rhywogaeth o famaliaid, 784 rhywogaeth o adar, 311 rhywogaeth oymlusgiaid, a 295 rhywogaeth oamffibiaid,[10] yn ogystal â thua 91,000 o rywogaethau o bryfed.[11]
Gorwedd 62 o barciau cenedlaethol a channoedd o barciau eraill, coedwigoedd ac ardaloedd o anialwch a mannau eraill a reolir yn ffederal. At ei gilydd, mae'r llywodraeth yn berchen ar oddeutu 28% o arwynebedd tir y wlad,[12] a hynny'n bennaf yn nhaleithiau'r gorllewin. Mae'r rhan fwyaf o'r tir hwn wedi'i warchod, er bod rhywfaint yn cael ei brydlesu ar gyfer drilio olew a nwy, mwyngloddio, coedwigo, neu ransio gwartheg, a defnyddir bron i un y cant at ddibenion milwrol.[13][14]
Mae materionamgylcheddol yn cynnwys dadleuon ar olew ac <a href="./Ynni%20niwclear" rel="mw:WikiLink" data-linkid="undefined" data-cx="{"userAdded":true,"adapted":true}">ynni niwclear</a>, delio âllygredd aer adŵr, costau economaidd amddiffyn bywyd gwyllt, coedwigo adatgoedwigo[15][16] a newid hinsawdd.[17][18] Yr asiantaeth amgylcheddol amlycaf yw'r Asiantaeth Diogelu'r Amgylchedd (EPA), a grëwyd trwy orchymyn arlywyddol ym 1970.[19] Bwriad Deddf Rhywogaethau mewn Perygl 1973 yw amddiffyn rhywogaethau sydd dan fygythiad ac mewn perygl a'u cynefinoedd, ac sy'n cael eu monitro gan Wasanaeth Pysgod a Bywyd Gwyllt yr Unol Daleithiau.[20]
Mae'r Unol Daleithiau yn safle 24 ymhlith cenhedloedd yn y Mynegai Perfformiad Amgylcheddol.[21] Ymunodd y wlad âChytundeb Paris ar newid yn yr hinsawdd yn 2016 ac mae ganddi lawer o ymrwymiadau amgylcheddol eraill.[22] Diolch i Donald Trump, gadawodd Gytundeb Paris yn 2020,[23] ond ailymunodd ag ef yn 2021.[24]
Map o statudau Gwladwriaeth Cosb Marwolaeth yn yr Unol Daleithiau. Glas: Dim statud cosb marwolaeth gyfredol Oren: Cosbi drwy farwolaeth yn anghyfansoddiadol Melyn: Ni ddienyddiwyd neb er 1976 Coch: Wedi cyflawni dienyddiad er 1976
Cynnydd o: 800% mewn 40 mlynedd
Ymgyrch 'Y Rhyfel
yn Erbyn Cyffuriau'
Nifer y carcharorion yn UDA rhwng 1925 a 2012.
Mae gan Unol Daleithiau America fwy o garcharorion nag unrhyw wlad arall yn y byd. Yn ogystal â hyn, mae'r niferoedd y pen yn uwch nag unrhyw wlad – ar wahân i Seychelles.[27][28] Yn 2012 roedd y nifer yn 707 oedolyn am bob 100,000 o'r boblogaeth.[29]
Roedd y trobwynt oddeutu 1971, y flwyddyn y laniswyd eu hymgyrch yn erbyn cyffuriau.
Ar 3 Chwefror 2014 cafwyd anerchiad ynNhŷ Cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau gan Shelia Jackson Lee a ddywedodd: "5% yn unig o boblogaeth y byd sydd yn byw yn yr Unol Daleithiau, ond eto, er hyn, rydym wedi carcharu oddeutu chwarter holl garcharorion y byd".[30][31]
Er bod gan UD 4.24% o boblogaeth y byd, mae eithrigolion yn meddu ar 29.4% o gyfanswm cyfoeth y byd, y ganran fwyaf o unrhyw wlad.[32][33] Mae'r UD hefyd yn safle cyntaf yn nifer ybiliwnyddion a'r miliwnyddion yn y byd, gyda 724 biliwnydd a 10.5 miliwn o filiwnyddion yn 2020.[34][35] Cynpandemig byd-eang SARS-CoV-2 2019–2021, roeddCredit Suisse yn rhestru bod gan 18.6 miliwn o ddinasyddion yr UD werth net o fwy na $1 miliwn.[36] Yn 2020, nododd y 'Mynegai Diogelwch Bwyd' fod yr Unol Daleithiau yn 11eg mewn diogelwch bwyd, gan roi sgôr o 77.5 / 100 i'r wlad.[37] Ar gyfartaledd mae gan Americanwyr fwy na dwywaith cymaint o le byw i bob annedd ac i bob person na thrigolion yrUndeb Ewropeaidd.[38] Ar gyfer 2019, graddiodd Rhaglen Ddatblygu'r Cenhedloedd Unedig yr Unol Daleithiau yn 17fed allan o 189 o wledydd yn eiMynegai Datblygiad Dynol (HDI) a'r 28fed allan o 151 o wledydd yn ei HDI (IHDI) wedi'i addasu gan anghydraddoldeb.[39]
Roedd tua 567,715 obobl ddigartref yn yr UD yn Ionawr 2019, gyda bron i ddwy ran o dair yn aros mewn lloches argyfwng neu raglen dai drosiannol.[40] Yn 2011, roedd 16,700,000 o blant yn byw mewn cartrefi lle nad oedd sicrwydd o fwyd, tua 35% yn fwy na lefelau 2007.[41] Roedd40 million bobl, tua 12.7% o boblogaeth yr UD, yn byw mewn tlodi, gan gynnwys 13.3 miliwn o blant. O'r rhai tlawd, mae18.5 million byw mewn tlodi mawr (incwm teulu islaw hanner y trothwy tlodi) ac mae dros bum miliwn yn byw "danamodau 'Trydydd Byd'.[42] Yn 2017, y taleithiau neu;r ardaloedd a oedd â'rcyfraddau tlodi isaf ac uchaf oeddNew Hampshire (7.6%) aSamoa Americanaidd (65%), yn y drefn honno.[43][44][45][46]
Canran yr ymatebwyr yn yr Unol Daleithiau sy'n dweud bod crefydd yn "bwysig iawn" neu'n "eithaf pwysig" yn eu bywydau (2014)[51]
Mae Gwelliant Cyntaf Cyfansoddiad yr UD yn gwarantu ymarfer crefydd yn rhydd ac yn agored.
Gan yr Unol Daleithiau mae'r boblogaeth Gristnogol fwyaf y byd.[52] Mewn arolwg yn 2014, nododd 70.6% o oedolion yn yr Unol Daleithiau eu hunain yn Gristnogion;[53] gydaPhrotestaniaid yn cyfrif am 46.5% aChatholigion am 20.8%.[54] Yn 2014, dewisiodd 5.9% o boblogaeth oedolion yr UD grefydd arall.[55] Mae'r rhain yn cynnwysIddewiaeth (1.9%), Islam (0.9%), Hindŵaeth (0.7%), a Bwdhaeth (0.7%).[55] Nododd yr arolwg hefyd fod 22.8% o Americanwyr wedi disgrifio eu hunain felagnostig,anffyddiwr neuddim crefydd o gwbwl - o 8.2% yn 1990.[54][56][57] Syrthiodd aelodaeth mewn tai addoli o 70% ym 1999 i 47% yn 2020.[58][59]
Canolfan Feddygol Texas yn DowntownHouston yw'r cymhleth meddygol mwyaf yn y byd.
Adroddodd y Canolfannau Rheoli ac Atal Clefydau (CDC) fod gan yr Unol Daleithiauddisgwyliad oes cyfartalog ar enedigaeth o 77.3 blynedd yn 2020 (74.5 mlynedd i ddynion ac 80.2 mlynedd i fenywod), i lawr 1.5 mlynedd o 2019. Yn ôl ffigurau dros dro, hwn oedd y disgwyliad oes cyfartalog isaf yn yr UD a gofnodwyd gan y CDC er 2003, y dirywiad cyffredinol cyntaf ers 2018, a'r "dirywiad blwyddyn mwyaf ers yr Ail Ryfel Byd." Priodolwyd rhyw dri chwarter y gostyngiad i farwolaethau o'r pandemigCOVID-19, gyda'r mwyafrif o'r gweddill oherwydd damweiniau a gorddosau cyffuriau.[60] Mae gan y wlad hefyd un o'r cyfraddau hunanladdiad uchaf ymhlith gwledydd cyfoethog.[61][62] Gan ddechrau ym 1998, roedd disgwyliad oes cyfartalog yr Unol Daleithiau y tu ôl i ddisgwyliad gwledydd diwydiannol cyfoethog eraill, ac mae bwlch "anfantais iechyd" Americanwyr wedi bod yn cynyddu byth ers hynny.[63] Rhwng 1999 a 2019, bu farw mwy na 770,000 o Americanwyr o orddos o gyffuriau.[64] Roedd disgwyliad oes ar ei uchaf ymhlith Asiaid a Sbaenaidd ac ar ei isaf ymhlith y bobl dduon.[65][66]
Cyfrannoddgordewdra cynyddol yn yr Unol Daleithiau at ostwng safle'r wlad o ran disgwyliad oes o'r 11eg yn y byd ym 1987 i 42ain yn 2007. Yn 2017, roedd gan yr Unol Daleithiau y disgwyliad oes isaf ymhlith Japan, Canada, Awstralia, y Deyrnas Unedig, a saith gwlad arall yng ngorllewin Ewrop.[67][68] Mae cyfraddau gordewdra wedi mwy na dyblu yn ystod y 30 mlynedd diwethaf a nhw yw'r uchaf yn y byd diwydiannol.[69][70] Mae tua thraean o'r boblogaeth oedolion yn ordew ac mae traean ychwanegol 'dros bwysau'.[71][72]
Yr Unol Daleithiau yw'r unig genedl ddatblygedig o hyd heb system gofal iechyd cyffredinol.[73] Yn 2017, nid oedd gan 12.2% o'r boblogaeth yswiriant iechyd[74] Mae pwnc Americanwyr heb yswiriant a than yswiriant yn fater gwleidyddol o bwys.[75][76] Fe wnaeth y Ddeddf Gofal Fforddiadwy (ACA), a basiwyd yn gynnar yn 2010 ac a elwir yn anffurfiol fel "ObamaCare", haneru cyfran y boblogaeth heb yswiriant o'r boblogaeth yn fras. Mae'r bil a'i effaith yn y pen draw yn dal i fod yn faterion dadleuol yn yr Unol Daleithiau.[77][78] Mae system gofal iechyd yr UD yn llawer mwy na gwariant unrhyw genedl arall, wedi'i fesur mewn gwariant y pen ac fel canran o'r CMC.[79] Fodd bynnag, mae'r UD yn arweinydd byd-eang ym maes arloesi meddygol.[80]
Mae Prifysgol Columbia, a sefydlwyd ym 1754, yn un o'r colegau trefedigaethol a'r pumed sefydliad hynaf oaddysg uwch yn yr Unol Daleithiau.
Maeaddysg gyhoeddus America yn cael ei gweithredu gan lywodraethau gwladol a lleol a'i reoleiddio gan Adran Addysg yr Unol Daleithiau trwy gyfyngiadau ar grantiau ffederal. Yn y rhan fwyaf o daleithiau, mae'n ofynnol i blant fynychu'r ysgol o bump neu chwech oed nes eu bod yn 18 oed (gan ddod â nhw trwy'r ddeuddegfed radd fel arfer, ddiwedd yrysgol uwchradd). O fewn rhaiae rhai taleithiau caniateir i fyfyrwyr adael yr ysgol yn 16 neu'n 17 oed.[81]
Yn 2012 roedd tua 12% o blant wedi'u cofrestru mewn ysgolion preifat a 3.4% o blant yn cael addysg yn y cartref.[82] Rhwng 2016-2017 gwariodd yr UD $12,794 y flwyddyn ar gyfartaledd ar bob myfyriwr ysgolion elfennol ac uwchradd cyhoeddus.[83] Mae tua 80% o fyfyrwyr coleg yr UD yn mynychuprifysgolion cyhoeddus.[84][85]
O'r Americanwyr 25 a hŷn, graddiodd 84.6% o'r ysgol uwchradd, mynychodd 52.6% rai colegau, enillodd 27.2%radd baglor, ac enillodd 9.6% raddau graddedig.[86] Mae'rgyfradd llythrennedd sylfaenol oddeutu 99%[87][88] y 12fed goar un y byd yn ôl y Cenhedloedd Unedig.[89]
Mae gan lawer o'r sefydliadau addysg gorau yn y UD gysylltiadau Cymreig ac yn eu plith y mae Prifysgol Yale ynNew Haven,Connecticut, a sefydlwyd gan roddion ariannolElihu Yale c fe'i gladdwyd ym mynwentEglwys San Silyn ynWrecsam.
Mae'r Unol Daleithiau yn grochan oddiwylliannau gwahanol ac amrywiaeth eang o grwpiau, traddodiadau a gwerthoedd ethnig.[90][91] Ar wahân i bobl Brodorol America, Brodorion Hawaii ac Alaska , mewnfudodd bron pob Americanwr neu eu hynafiaid neu eu cludo yma felcaethweision yn ystod y pum canrif ddiwethaf.[92] Diwylliant Gorllewinol yw diwylliant prif ffrwd yr UD, sy'n deillio i raddau helaeth o draddodiadau mewnfudwyr Ewropeaidd gyda dylanwadau o lawer o ffynonellau ee traddodiadau a ddygwyd yno gan gaethweision o Affrica.[90][93] Mae mewnfudo mwy diweddar o Asia ac yn enwedig oAmerica Ladin wedi ychwanegu at y gymysgedd.[90]
Mae'rFreuddwyd Americanaidd, neu'r canfyddiad bod Americanwyr yn mwynhau symudedd cymdeithasol uchel, yn chwarae rhan allweddol wrth ddenu mewnfudwyr.[94] Ceir cryn drafodaeth a yw hyn yn gywir ai peidio.[95][96][97] Er bod diwylliant prif ffrwd yn honni bod yr Unol Daleithiau yn gymdeithas ddi-ddosbarth,[98] ceir gwahaniaethau sylweddol rhwng dosbarthiadau cymdeithasol y wlad, gan effeithio ar gymdeithasu, iaith a gwerthoedd.[99] Mae Americanwyr yn tueddu i werthfawrogi cyflawniad economaidd-gymdeithasol yn fawr.[100]
↑Gorte, Ross W.; Vincent, Carol Hardy.; Hanson, Laura A.; Marc R., Rosenblum."Federal Land Ownership: Overview and Data"(PDF).fas.org. Congressional Research Service. CyrchwydJanuary 18, 2015.
"The U.S. penal population of 2.2 million adults is by far the largest in the world. Just under one-quarter of the world's prisoners are held in American prisons."
↑Cyfieithiad o:the United States is comprised of only 5 percent of the world’s population, but we incarcerate almost a quarter of the world’s prisoners.
↑"Population Clock".U.S. and World Population Clock. U.S. Department of Commerce. May 16, 2020. CyrchwydMay 24, 2020.The United States population on Mai 23, 2020 was: 329,686,270
↑"Global Food Security Index". London: The Economist Intelligence Unit. September 20, 2021. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 2021-10-12. CyrchwydSeptember 20, 2021.
↑"Diagram 1: Energy Flow, 2018"(PDF).EIA Annual Energy Review. U.S. Dept. of Energy, Energy Information Administration. 2018. CyrchwydJanuary 21, 2021.
↑Blewett, Lynn A. (December 2006). "How Much Health Insurance Is Enough? Revisiting the Concept of Underinsurance". Medical Care Research and Review63 (6): 663–700. doi:10.1177/1077558706293634. ISSN1077-5587. PMID17099121.
↑"Human Development Indicators"(PDF). United Nations Development Programme, Human Development Reports. 2005. Archifwyd o'rgwreiddiol(PDF) ar June 20, 2007. CyrchwydJanuary 14, 2008.
↑Thompson, William E.; Hickey, Joseph V. (2004).Society in focus : an introduction to sociology (arg. 5th). Boston: Pearson/Allyn and Bacon.ISBN978-0-205-41365-2.
↑Gutfeld, Amon (2002).American Exceptionalism: The Effects of Plenty on the American Experience. Brighton and Portland: Sussex Academic Press. t. 65.ISBN978-1-903900-08-6.
↑Zweig, Michael (2004).What's Class Got To Do With It, American Society in the Twenty-First Century. Ithaca, NY: Cornell University Press.ISBN978-0-8014-8899-3.