Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Undeb Rygbi Cymru

Oddi ar Wicipedia
Undeb Rygbi Cymru
Math
corff llywodraethol rygbi'r undeb
Aelod o'r canlynol
World Rugby
Sefydlwyd12 Mawrth 1881
Aelod o'r canlynolWorld Rugby,Rugby Europe
PencadlysCaerdydd
Lle ffurfioCastell-nedd
Gwefanhttps://www.wru.wales/,https://www.wru.wales/cy/ Edit this on Wikidata

Undeb Rygbi Cymru yw'r corff sy'n rheolirygbi'r undeb yngNghymru. Sefydlwyd yn y "Castle Hotel" yngNghastell Nedd gan 16 tim rygbi ar y 12fed o Fawrth,1881.

Yr Undeb sy'n penodi prif hyfforddwrtîm rygbi cenedlaethol Cymru.

Beirniadaeth

[golygu |golygu cod]

Ffrae enw'r Cwpan

[golygu |golygu cod]

Yn Awst 2006 cyhoeddwyd y byddai'rTywysog William yn Ddirpwy Noddwr Brenhinol Undeb Rygbi Cymru o Chwefror 2007. Yn ogystal, cyhoeddodd yr URC eu bod am weld ci enillwyr y gemau prawf rhwngCymru aDe Affrica yn cael ei galw'n "Cwpan y Tywysog William". Mae hynny wedi ennyn ymateb beirniadol iawn yng Nghymru am fod nifer o bobl yn gweld William fel cefnogwr Lloegr. Eisoes mae nifer o Gymry yn galw ar swyddogion Undeb Rygbi Cymru i ailystyried eu penderfyniad dadleuol i enwi'r tlws newydd yn "Gwpan y Tywysog William" ac yn galw am ei newid i "Cwpan Ray Gravell" er coffadwriaeth deilwng i'r diweddarRay Gravell. Dadleuant fod enwi'r cwpan ar ôl yTywysog William, Sais sy'n adnabyddus am ei gefnogaeth bersonol i dimau pêl-droed a rygbiLloegr, yn cwbl anaddas. Lawnsiwyddeiseb ar-lein yn galw am newid yr enw arfaethedig i "Gwpan Ray Gravell" ar 6 Hydref 2007; deuddydd yn ddiweddarach roedd dros 2,000 o bobl wedi ei harwyddo

Honiadau o ddiwylliant gwenwynig

[golygu |golygu cod]

Ar 29 Ionawr 2023, ymddiswyddodd y prif weithredwr Steve Phillips yn dilyn ymchwiliad gan raglen BBC Wales Investigates ddatgelu cyfres o honiadau o ragfarn rhyw, hiliaeth a chasineb at ferched o fewn y sefydliad.[1]

Yn Awst 2023, penodwydAbi Tierney yn brif weithredwr, y fenyw cyntaf i ddal y swydd honno.[2]

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. "Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru yn ymddiswyddo".BBC Cymru Fyw. 2023-01-29. Cyrchwyd2023-08-17.
  2. "URC yn penodi'r prif weithredwr benywaidd cyntaf".BBC Cymru Fyw. 2023-08-16. Cyrchwyd2023-08-17.
Eginyn erthygl sydd uchod amchwaraeon yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwyychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod amrygbi'r undeb. Gallwch helpu Wicipedia drwyychwanegu ato.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Undeb_Rygbi_Cymru&oldid=11848142"
Categorïau:
Categori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp