Uchelgyhuddiad (Saesneg:impeachment) yw erlyniaeth gyfreithiol gan gorff etholedig yn erbyn arweinwrllywodraeth am gyflawni trosedd gyhoeddus ddifrifol.
Yngngwleidyddiaeth y Deyrnas Unedig mae uchelgyhuddiad yn golygu bodTŷ'r Cyffredin yn gweithredu fel erlynydd yn erbyn yprif weinidog neu weinidog uchel arall, ar ôl pasio cynigiad i'r perwyl yn y siambr, a gwrandewir yr achos ynNhŷ'r Arglwyddi gyda'r siambr honno'n gweithredu fel barnwr.
Ar 25 Awst,2004, cyhoeddoddAdam Price ei fod am ddechrau proses o uchelgyhuddiad yn erbynTony Blair, gyda chefnogaeth aelodau seneddolPlaid Cymru a'rSNP. Doedd uchelgyhuddiad ddim wedi cael ei ddefnyddio yn y DU am 150 o flynyddoedd (1806). Pe buasai'n llwyddiannus buasai'n rhaid i Blair sefyll achos yn Nhŷ'r Arglwyddi, ond methiant oedd y mesur.
Ynyr Unol Daleithiau mae uchelgyhuddiad, yn erbyn yrArlywydd fel rheol, yn cael ei gyhoeddi ganTŷ'r Cynrychiolwyr ac yn cael ei wrando a'i farnu gany Senedd. Yr achos enwocaf mae'n debyg oedd y bygythiad i ddwyn uchelgyhuddiad yn erbynRichard Nixon yn ystodsgandal Watergate, a arweiniodd i'w ymddiswyddiad.