Undeb Cymdeithasau Pêl-droed Ewropaidd neuUEFA (Saesneg:Union of European Football Associations,FfrangegUnion des associations Européennes de football) ydi'r corff llywodraethol ar gyferpêl-droed ynEwrop er fod sawl aelod â thiriogaethau sy'n rhanol neu'n llwyr ar gyfandirAffrica acAsia. Mae UEFA yn un o chwe chonffederasiwn corff llywodraethol y byd pêl-droed,FIFA, ac mae 54 o gymdeithasau pêl-droed yn aelodau.
Mae UEFA yn cynrychioli cymdeithasau pêl-droed cenedlaethol Ewrop, yn rhedeg cystadlaethau rhyngwladol a chystadlaethau clwb gan gynnwysPencampwriaeth UEFA Ewrop,Cynghrair y Pencampwyr UEFA,Cynghrair Europa UEFA aSuper Cup UEFA. Mae UEFA yn rheoli'r arian gwobr, y rheolau, a'r hawliau darlledu ar gyfer y cystadlaethau hynny.
Lleolwyd pencadlys cyntaf UEFA ymMharis cyn symud iBern ym 1959 ond ym 1995 symudodd UEFA ei bencadlys i drefNyon yng ngorllewin y Swistir[1].
Ffurfiwyd UEFA ar 15 Mehefin 1954 mewn cyfarfod ynBasel,y Swistir yn dilyn trafodaethau rhwng Cymdeithasau pêl-droedYr Eidal,Ffrainc aGwlad Belg[2] gyda 31 o gymdeithasau yn cytuno i uno o dan orychwyliaeth y corff newydd[3].
Mae 54 aelod yn UEFA gyda sawl gwlad trawsgyfandirol yn dewis bod yn rhan o UEFA yn hytrach na Chonffederasiwn Pêl-droed Asia (AFC). Y gwledydd hyn ywArmenia,Aserbaijan,Casachstan,Cyprus,Georgia aRwsia.
MaeIsrael wedi bod yn aelodau UEFA ers 1994 ar ôl cael eu diarddel o'r AFC ym 1974[4][5]. Mae Casachstan hefyd yn gyn-aelodau o'r AFC[6].
Undeb Pêl-droed Saarland (1954–1956)
Cymdeithas Bêl-droed Gweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen (1954-1990)
Ffederasiwn Pêl-droed yr Undeb Sofietaidd (1954-1991) daeth yn Undeb Pêl-droed Rwsia ym 1992 gyda'r 14 cyn Weeriniaeth Sofietaidd yn creu eu cymdeithasau eu hunain gan ddod yn aelodau unigol oFIFA ac UEFA neu'rAFC.
Cymdeithas Bêl-droed Iwgoslafia (1954–1992) daeth yn Gymdeithas Bêl-droed Serbia a Montenegro ym 1992. DaethBosnia a Hertsegofina,Croatia,Macedonia aSlofenia yn annibynnol a chreu eu cymdeithasau pêl-droed eu hunain.
Cymdeithas Bêl-droed Serbia a Montenegro (1992–2006) daeth yn Gymdeithas Bêl-droed Serbia yn 2006. CreoddMontenegro, oedd wedi sicrhau annibyniaeth, ei cymdeithas bêl-droed ei hun.