Undebseiclo proffesiynol ydy'rUnion Cycliste Internationale (UCI) (Cymraeg:Undeb Seiclwyr Rhyngwladol), sy'n gorychwylio rasys seiclo yn y gymdeithas ryngwladol. Hi yw corff llywodraethu'r byd ar gyfer for rheolaeth y chwaraeon seiclo. Mae pencadlys yr UCI ynAigle,Y Swistir.
Mae'r UCI yn dosbarthu trwyddedi rasio i reidwyr ac yn cadarnhau bod rheolau disgyblaethol yn cael eu dilyn, megisdefnydd cyffuriau. Mae'r UCI hefyd yn rheoli dosbarthu rasys a graddfa safle bwyntiau mewn sawl disgyblaeth o seiclo gan gynnwysbeicio mynydd,rasio seiclo ffordd aseiclo trac, ar gyfer dynion a merched, amatur a phroffesiynol. Mae hefyd yn gorychwylioPencampwriaethau'r Byd – lle mae sawl gwlad yn cystadlu yn hytrach na thimau masnach – mewn amryw o ddosbarthiadau a chategoriau. Mae enillwyr y rasys hyn yn meddu'r hawl i wisgocrys enfys y flwyddyn ganlynol, a'r hawl i wisgo stribedi'r enfys ar goleri a chyffion eu crysau am weddill eu gyrfa.
Yn 1965, o dan bwysau gan yrIOC (roedd y Gemau Olympaidd bryd hynny yn ddigwyddiad amatur), creodd yr UCI ddau is-gorff, Fédération Internationale Amateur de Cyclisme (FIAC) (Cymraeg:Ffederasiwn Seiclo Amatur Rhyngwladol) a Fédération Internationale de Cyclisme Professionnel (FICP) (Cymraeg:Ffederasiwn Seiclo Proffesiynol Rhyngwladol). Cymerodd yr UCI y rôl o weinyddu'r ddau gorff.
Yr FIAC oedd y mwyaf o'r ddau gorff, gyda 127 ffederasiwn yn aelod ar draws pum cyfandir. Goruchafwyd hi gan wledydd yBloc dwyreiniol a oedd yn gwbl amatur. Yr FIAC oedd yn trefnu cynyrchiolaeth seiclo yn yGemau Olympaidd, ac yn anaml iawn bu seiclwyr yr FIAC yn cystadlu yn erbyn aelodau'r FICP.
Yn 1992, ail-gyfunwyd yr FIAC a'r FICP gan yr UCI, gan ddychwelyd yn rhan o'r UCI. Symudodd y corff newydd iLausanne, yn agos i'r IOC.
Mae'r UCI wedi ymwneud â sawl dadl yn gysylltiedig a'u penderfyniadau ynglŷn â chymhwyster beiciau. Yn arbennig, gwaharddrecumbents ar1 April1934, a'r amryw o waharddiadau a roddwyd arGraeme Obree yn y1990au a gwahardd unrhyw feic heb diwb sedd o'u rasys yn 2000.
I ehangu poblogrwydd a chyfranogaethrasio seiclo ffordd drwy gydol y byd, mae'r UCI yn datblygu cyfres o rasys a adnabyddwyd yn gyfansoddol fel yCylchdeithiau Cyfandirol UCI ar gyfer pob ardal y byd.
Mae'r UCI wedi cefnogi cystadleuaeth lefel elet ar gyfer merched ers 1959, gan gynnwys coronni Pencampwr y Byd, Merched (Rasio Ffordd) ac, ers 1994, Pencampwr Time Trial y Byd, Merched.
Ers 1998, maeCwpan y Byd, Merched yr UCI wedi bod yn gystadleuaeth sawl cymal a ddeilir ar draws y tymor, yn cynnwys rasus un diwrnod a rasys sawl cam.
Deilir cwpan y Byd BMX Supercross, UCI mewn sawl cymal dros y tymor rasio, aPenampwriathau Trac y Byd, UCI yw'r pencampwriaeth un diwrnod ar gyfer rasioBMX.