Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Tyrcestan

Oddi ar Wicipedia
Tyrcestan
Mathrhanbarth, ardal hanesyddol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Cyfesurynnau39.365733°N 67.955584°E Edit this on Wikidata
Map
Map o Dyrcestan gyda ffiniau gwladwriaethau modern.

Rhanbarth hanesyddol yngNghanolbarth Asia sy'n gartref ibobloedd Dyrcig yr ardal honno ywTyrcestan.[1] Ffiniau'r rhanbarth ywSiberia i'r gogledd;Tibet,India,Affganistan, acIran i'r de; anialwch yGobi i'r dwyrain; aMôr Caspia i'r gorllewin. Nid oedd Tyrcestan yn cynnwys yr holl bobloedd Dyrcig, gan yr oedd yTyrciaid yn byw yng nghyn-Ymerodraeth yr Otomaniaid a'rTyrco-Tatariaid yn byw gerAfon Volga. Roedd pobloedd eraill yn byw yn Nhyrcestan nad oeddynt yn Dyrcig, megis yTajiciaid. Rhennir Tyrcestan yn ddau gan fynyddoeddPamir aTien Shan. Heddiw mae Gorllewin Tyrcestan yn cynnwysTyrcmenistan,Wsbecistan,Tajicistan,Cirgistan, a deCasachstan, ac mae Dwyrain Tyrcestan yn cynnwysXinjiang yngNgweriniaeth Pobl Tsieina.[2]

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn.Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 1540 [Turkestan].
  2. (Saesneg) Turkistan. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 20 Ionawr 2015.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Tyrcestan&oldid=10910736"
Categorïau:
Categori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp