Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Tynghediaeth

Oddi ar Wicipedia
Tynghediaeth
Enghraifft o:philosophical theory Edit this on Wikidata
Mathbarn y byd Edit this on Wikidata

Athroniaeth neu gredo sydd yn tybio pob digwyddiad yn rhagderfynedig ac anochel ywtynghediaeth.[1] Mewn ystyr lac, gall hefyd gyfeirio at agwedd gyffredin sydd yn ymostyngol tuag at ddigwyddiadau, meddylfryd a welir yn deillio'n naturiol o'r athroniaeth hon.

Gellir olrhain y fydolwg dynghedaidd yn ôl igrefyddau amldduwiolyr Henfyd, gan gynnwys personoliadau'r Tynghedau ymmytholeg y Groegiaid a'rRhufeiniaid. Cafwyd bodau tebyg, ynornir, ym mytholeg y Llychlynwyr.[2]

Tynghediaeth resymegol

[golygu |golygu cod]

Seilir tynghediaeth resymegol ar ddadleuonrhesymeg, a dybir natur anochel rhai digwyddiadau oherwydd deddfau natur neu reswm.

Tynghediaeth ddiwinyddol

[golygu |golygu cod]

Ffurfgrefyddol ar dynghediaeth yw tynghediaethddiwinyddol, sy'n tybioduw neu oruchaf rym tebyg yn gyfrifol am ragdynghedu pob digwyddiad yn y bydysawd, gan gynnwys gweithredoedd dynol, yn ôl ei gynllun dwyfol. Esiampl o athrawiaeth ddiwinyddol dynghedaidd ywrhagarfaeth, er enghraifft yngNghalfiniaeth, sy'n honni i Dduw ragordeinio popeth, gan gynnwysiachawdwriaeth yr etholedigion, ac felly mae tynged yrenaidparadwys neuuffern—wedi ei phenderfynu cyn i'r unigolyn gael ei eni hyd yn oed.

Tynghediaeth benderfyniadol

[golygu |golygu cod]

Mae tynghediaeth benderfyniadol yn gysylltiedig âphenderfyniaeth, sef yr athroniaeth a honnirachosiaeth o ganlyniad i ddigwyddiadau blaenorol a deddfau naturiol.

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1.  tynghediaeth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 19 Awst 2023.
  2. (Saesneg) Fatalism. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 19 Awst 2023.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Tynghediaeth&oldid=11847471"
Categorïau:
Chategori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp